Pechod Mary Prout Cawn weld y Barnwr yma
Pechod Mary Prout
Cawn weld y Barnwr yma yn edrych i lawr ar Mary Prout mewn mwy nag un ffordd. Trafodwch hyn o fewn eich grŵp. Ysgrifennwch 3 ffordd y mae’r Barnwr yn edrych i lawr arni. 1. 2. 3.
Wrth edrych ar y clip hwn sut ydych chi’n meddwl mae Mary Prout yn teimlo? Cliciwch unwaith ar y geiriau os nad dyna oedd teimladau Mary Prout a dwywaith os mai fel yna yr oedd hi’n teimlo. hapus gwan hyderus ofnus unig trist
Pa siotiau camera sy’n cael eu dangos yn y clip hwn? Cliciwch unwaith ar y geiriau os nad ydych chi’n meddwl bod y siotiau yn cael eu dangos yn y clip. Cliciwch ddwywaith ar y geiriau os ydych chi’n meddwl bod y siotiau yn cael eu dangos yn y clip. siot agos siot bell siot ganolig panio Beth mae’r gwahanol siotiau yna’n ei ddangos am deimladau Mary Prout? Beth yw effaith y siotiau yma yn y clip?
Yn y darn hwn, rydyn ni’n gweld tywyllch a goleuni. Mae hyn yn cynrychioli gobaith ac anobaith, neu dristwch a hapurwydd. 1. Ymhle arall yn y ffilm ydyn ni’n gweld hyn? 2. Mae Mary Prout ar ddiwedd y clip yn dweud ‘S’im bywyd yn deg. ’ Meddyliwch am 3 rheswm pam mae hi’n dweud hyn: 1. 2. 3.
Ar ddiwedd y clip hwn, rydyn ni’n gweld siot lydan o adeilad y Wyrcws. Pa deimlad mae’r olygfa yma ei roi i chi? Cliciwch unwaith ar y geiriau os nad ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n dangos teimlad y lle a dwywaith os ydyn nhw’n dangos teimlad y lle. croesawgar creulon oer caredig diflas cynnes cartrefol
Yn y clip hwn, gallwn ni fod yn trafod sawl peth. Dyma dri pheth sy’n dod yn amlwg yn yma: 1. Mae’r Matron yn siarad Saseneg. 2. Wrth i’r camera banio, rydyn ni’n gweld fod pob un yn edrych yr un peth. 3. Mae pob merch â’i phen i lawr. Trafodwch y pwyntiau uchod o fewn eich grŵp. Rhowch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd, trwy glicio nifer o weithiau ar y blychau pinc isod. 1. Mae pob merch â’i phen i lawr. Wrth i’r camera banio, rydyn ni’n gweld fod pob un yn edrych yr un peth. Mae’r Matron yn siarad Saesneg. 2. Wrth i’r camera banio, rydyn ni’n gweld fod pob un yn edrych yr un peth. Mae pob merch â’i phen i lawr. Mae’r Matron yn siarad Saesneg. 3. Wrth i’r camera banio, rydyn ni’n gweld fod pob un yn edrych yr un peth. Mae pob merch â’i phen i lawr. Mae’r Matron yn siarad Saesneg. Ceisiwch ddangos pam ydych chi wedi eu rhoi yn y drefn yma.
Mae llawer o enghreifftiau o gariad a hapusrwydd wedi cael eu dangos yn y clip hwn. Ceisiwch ddod o hyd i 4 enghraifft. 1. 2. 3. 4. Ceiswch eu rhoi yn nhrefn eu pwysigrwydd. Dewch i gytundeb o fewn eich grŵp. Pam ydych chi’n meddwl mae hyn yn ychwanegu at y tristwch ar y diwedd?
- Slides: 8