Nodweddion Addurnol Bag Llaw Manylion steil addurnol bag
Nodweddion Addurnol Bag Llaw
Manylion steil addurnol – bag llaw Pan rydych yn dylunio bag llaw gallwch ychwanegu technegau addurnol amrywiol i’r bagiau. Gellir cynnwys pwythau addurnol, rhubanau, torriadau creadigol (defnyddio torrwr laser) neu unrhyw dechneg arall y gallwch feddwl amdanynt. Mae angen i chi ystyried yn ofalus leoliad y nodweddion addurnol er mwyn creu bag deniadol sydd wedi cael ei gynllunio’n dda.
Datblygiad y dyluniad – Llwybrau lliw Mae lliw yn rhan bwysig o unrhyw gynnyrch yn enwedig dilledyn gweol. Bob blwyddyn mae gogwydd tuag at liw arbennig. Mae gallu dewis y lliw cywir yn golygu y bydd y gwerthwr yn gallu gwneud elw o werthu’r bagiau yn hytrach na gorfod gwerthu’r bagiau am bris gostyngol mewn sêl ar ddiwedd y tymor. Mae gwneuthurwyr bagiau’n defnyddio asiantaethau rhagweld gogwydd ffasiwn a lliw er mwyn cael syniad clir o’r amrediad lliw sydd ei angen ar gyfer pob tymor. Mae bagiau’n gynnyrch sy’n aml iawn yn cynnwys mwy nag un lliw, Felly mae hi’n ddefnyddiol gwybod rhai cyfuniadau lliw yn haws i’w defnyddio na chyfuniadau eraill lle mae angen mwy o waith meddwl. Lliwiau Cyferbyniol (gyferbyn â’i gilydd ar yr olwyn lliw). Mae angen gofal mawr wrth ddewis y rhain. Dylid defnyddio cyfran mwy o un lliw. Lliwiau cyflenwol( maent yn gorwedd nesaf at ei gilydd ar yr olwyn lliw) ac fel arfer maent yn haws i’w cyfuno.
Llwybrau Lliw Peth rhyfedd iawn ydy lliw a rhywbeth y mae gofyn i chi, fel dylunydd ffasiwn ifanc, i’w ystyried. Dydy gormod ohono ddim yn edrych yn dda onibai eich bod am greu edrychiad eithafol. Beth ydych chi’n feddwl o’r dyluniadau hyn? Ydych chi’n hoffi’r cyfuniad lliwiau? Rwyf i’n hoffi’r glas a’r pinc. Arbrofwch ddarlunio’r bagiau gan ddefnyddio hynny allwch o liwiau. Does dim gwir reolau i gyfuniadau lliw gan fod gogwyddiadau a chyfuniadau lliw yn newid wrth apelio at wahanol farchnadoedd neu bwrpasau. Fodd bynnag beth sy’n rhaid i chi ei ystyried yw apêl eich bag i’r manyleb a ddewisoch. Neu’n bwysicach byth – ydy o’n edrych yn dda!
Ychwanegu Rhubanau Pan rydych yn defnyddio rhubanau i osod eich nodweddion addurnol y cyngor gorau y gallaf i ei gynnig yw peidio defnyddio gormod. Yn gyntaf, po fwyaf sydd gennych y mwyaf sy’n rhaid i chi eu gwnïo!! Mae defnyddio gormod yn cymhlethu’r dyluniad i gyd a dydy o ddim yn ddeniadol iawn gan nad yw eich llygaid yn gwybod ble i ganolbwyntio arno gyntaf. Defnyddiwch ychydig yn unig ac yna dangoswch eich sgiliau ar y peiriant gwnïo i wneud pwythau addurnol - bydd hyn yn creu argraff ar bawb ac yn enwedig ar eich ffrindiau a’ch athro! Pa ddyluniad sydd orau gennych chi a pham? Bydd defnyddio rhai rhubanau a ddewiswyd yn ofalus gennych yn dangos llygad at ddefnyddio lliw. Ystyriwch eu lleoliad hefyd gan y bydd hyn yn gyfle i chi roi’ch sgiliau gwnio ardderchog ar waith! Yn syml mae gormod o rubanau’n drysu’r dyluniad. Ar ben hynny mae’n rhaid i chi feddwl am y gwaith o wnio’r holl rubanau ‘na ar y bag!
Lleoli Pethau i feddwl amdanynt pan rydych yn lleoli’r rhubanau ar eich bag llaw. Gallwch roi’r rhubanau rydych wedi’u dewis ar eich bag mewn amrywiol ffyrdd. Mae rhai esiamplau gyferbyn. Ar dop y bag, ar waelod y bag ac ar onglau gwahanol. Rhubanau a osodwyd yn llorweddol ar y bag. Rhubanau a osodwyd yn groeslinol ar y bag.
Ychwanegu pwythau addurnol Defnyddiwch gyfuniad lliw gwahanol i ychwanegu diddordeb. Mae’r pwyth igam ogam yn bwyth da i wnio rhubanau’n sownd. Defnyddiwch bwythau eraill rhwng y rhubanau. Gall gosod pwythau addurnol fod yn ffordd dda o ychwanegu gwahanol liwiau ac effeithiau i’ch bag a’i wneud yn ddiddorol. Mae’n cymryd llawer o sgil i wnïo’n gywir a syth. Ceisiwch ymarfer ar y peiriant cyn gwneud y gwaith go iawn. Mae gan beiriannau gwnïo gwahanol bwythau gwahanol felly arbrofwch i weld beth sy’n edrych yn dda yn eich barn chi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwnïo mewn llinell syth! Cyfunwch dechnegau gwahanol i ychwanegu diddordeb pellach.
Torri allan siapiau mewn ffabrigau cyferbyniol a’u hychwanegu i’r bag Torri gyda laser Mae’r torrwr laser yn declyn effeithiol sy’n gallu adio cryn ddiddordeb i fag. Torri allan o’r bag ac yna ychwanegu ffabrig cefn cyferbyniol y tu cefn i’r denim. Os ydych chi’n ddigon lwcus i fod â thorrwr laser gallwch un ai dorri i ffwrdd o’r ffabrig neu gallwch dorri allan siapiau a’u hychwanegu at eich bag. Yn union fel y rhain yn y lluniau
Torri gyda laser Gallwch hefyd rastio ar y ffabrig, sef llosgi eich dyluniadau ar y ffabrig heb dorri. Dyma rai syniadau ar gyfer y torrwr laser sy’n gwneud dyluniadau effeithiol ar eich bag. Mae denim neu dril cotwm yn ddefnyddiau da i’w torri â’r laser gan fod y peiriant yn selio’r ffabrig wrth ei dorri ac felly nid yw’n rhaflo.
- Slides: 9