Negyddu Berfau Cryno Sut mae dangos ffurf negyddol
Negyddu Berfau Cryno
Sut mae dangos ffurf negyddol y ferf gryno? Yn aml, gallwn ni droi berf gryno’n negyddol drwy… 1)……. ychwanegu ddimwedi’r ferf. Chlywais Clywais i berf negyddol berf gadarnhaol 2)……. a threiglo llythyren gyntaf y ferf
Pa dreiglad i’w ddefnyddio? Os yw’r ferf yn dechrau â p, t neu c…. …yna rydyn ni’n treiglo’n llaes. p ph t th c e. e. Chollais i ddim… Threuliais i ddim…. Phrynais i ddim…. ch
Ond: O bryd i’w gilydd mae angen i ni ddefnyddio’r gair mo yn hytrach na’r gair ddim i ddangos ystyr negyddol. e. e. Chlywais i mo’r sŵn o’r neuadd. Ddarllenais i mo’r nofel honno.
Pryd mae angen defnyddio mo? 1. Os ydy’r fannod (y, yr neu r) yn dilyn berf gryno negyddol, yna mae’n rhaid defnyddio mo’r. e. e Chlywais i + dim + y sŵn Chlywais i mo’r sŵn. X (Felly - rydyn ni’n defnyddio mo gyda gwrthrych pendant) 2. Os oes enw priod (e. e. Siôn, Caerdydd ayb. ) yn dilyn berf gryno negyddol yna mae’r rhaid defnyddio mo. e. e Welais i + dim + Siôn Welais i mo Siôn. X
Rhedeg mo Fel yr arddodiaid, os oes rhagenw (e. e. fi, ti, ef, hi, ni, chi, nhw) mae’n rhaid rhedeg mo os yw’n dilyn berf gryno negyddol. e. e. welais i + ddim + ti X welais i mohonot ti chlywon nhw + ddim + ni chlywon nhw mohonon ni X
Sut i redeg mo? mohono i mohonot ti mohono fe mohoni hi mo Siôn mo’r plant mohonyn nhw mohonoch chi mohonyn nhw
Ymarfer 1: Ddim neu mo/mo’r sy’n gywir? 1. Welais i _______ byd gwahanol wrth i mi basio’r tŷ y noson 2. honno. 2. Chlywais i _______ siaradwr hwnnw, roeddwn i’n rhy hwyr. 3. Fwytais i _______ cinio oedd Mam wedi ei baratoi i mi, roeddwn wedi bwyta’n barod. 4. Chwrddais i ______ â’r ferch yn y disgo. 5. Chredais i _____ Mr Jones pan ddywedodd wrthaf am y lladrad. 6. Ddarllenais i _______ nofelau dros yr haf. 7. Phrynais i _______ llyfr a oeddet ti wedi ei argymell, doedd gen i ddim arian. 8. Werthais i _______ yn y sêl gist car, doedd yno ddim cwsmeriaid. 9. Werthais i _______ tŷ am fisoedd ar ôl ei roi ar y farchnad. 10. Welais i _______ Catrin yn y dref, mae’n rhaid ei bod wedi mynd adref.
Ymarfer 1: Rhowch ffurf gywir mo yn y bylchau. 1. Welwch chi _______ i, byddaf yn cuddio yn y gornel. 2. Ysgrifennais i _______ gwaith i gyd 3. Chlywodd hi _______ ti yn gweiddi bore `ma yn ceisio ei deffro. 4. Churodd Abertawe _______ Wrecsam yn y gynghrair o gwbl. 5. Thynnodd hi _______ got goch trwy’r dydd. 6. Welodd yr heddlu _______ fe yn dianc. 7. Enillodd hi _______ wobr yn y gystadleuaeth. 8. Chwrddais i _______ hi gwaetha’r modd. 9. Orffennodd y disgybl _______ papur arholiad mewn awr. 10. Fwytodd hi _______ fe ar ôl cwyno cymaint ei bod yn llwgu.
- Slides: 9