Nanowyddoniaeth Trio Sci Cymru Nodau Beth yw nanowyddoniaethtecnoleg
Nanowyddoniaeth Trio Sci Cymru
Nodau: • Beth yw nanowyddoniaeth/tecnoleg? • Pa mor fach yw nanogronynnau? • Pa gymwysiadau o nanowyddoniaeth sydd yno?
Nanowyddoniaeth/tecnoleg: Yr astudiaeth o bethau sy'n llai na 100 nanometr (nm) o ran maint. Mae un nanometr 1 miliwn gwaith yn llai na graen o dywod! Milimedr (mm) ÷ 1000 Micromedr (µm) ÷ 1000 Nanomedr (nm)
Her: Taflen waith A A allwch osod y gwrthrychau sydd ar y dudalen nesaf ar y raddfa?
Hyd cae rygbi Hyd cell sperm dynol Diamedr firws y ffliw Uchder yr Wylfa Hyd bacteriwm E. coli Trwch o wallt dynol nodweddiadol Uchder Stadiwm Y Mileniwm Caerdydd Diamedr helics dwbl DNA Uchder y person cofnodedig talaf Hyd ffa coffi Diamedr cell wy dynol
Sut mae nanoronynnau yn ymddwyn? Mae rhai deunyddiau'n ymddwyn yn wahanol ar raddfa nano nag y maent ar raddfa fawr. e. e. mae swmp aur yn felyn mewn lliw ond gall nano-aur fod yn goch, yn wyrdd neu'n oren. 25 nm Mae aur mewn swmp i'w weld yn felyn. 50 nm 100 nm Ond mae daliant o aur ar faint nano yn gallu ymddangos yn goch, yn wyrdd neu'n oren, yn dibynnu ar faint y gronynnau.
Mae gwydr lliw yn cynnwys nanogronynnau. Bydd y dechnoleg hon yn cael ei defnyddio mewn camera gofod ar blaned Mawrth.
Enghraifft: Arian Mae nanoarian yn gwrthfacteriol. Mae hyn yn helpu i atal heintiau ac arogleuon.
Enghraifft: Alwminiwm Mae nanogronynnau alwminiwm yn ffrwydrol!
Nanotecnoleg Mae nanowyddonwyr a nanobeirianwyr yn astudio ac yn gwneud pethau sy'n eithriadol o fach, llai na 100 nanometr eu hyd. Yn aml fe ddaw ysbrydoliaeth o fyd natur.
Adenydd pili-pala, yn las llachar Ar adain y pili-pala hwn, mae rhesi maint-nano sy'n achosi i oleuni gael ei ddiffreithio ar wahanol donfeddi, gan greu'r lliw glas hardd hwn. Mae gwyddonwyr yn gobeithio defnyddio'r dechnoleg hon i gynhyrchu defnydd lliwgar heb orfod defnyddio cemegau i'w liwio.
Traed gludiog y geco Mae ffurfiadau maintnano ar draed gecos yn golygu bod yr anifail yn gallu dringo waliau. Mae gwyddonwyr wedi ail-greu'r ffurfiadau hyn i wneud tâp sy'n eithriadol o ludiog.
Her: Gêm gof Argraffwch y tudalennau (dwy ochr) a thorrwch bob cerdyn allan. Cymysgwch y cardiau a'u gosod wyneb i lawr. Trowch y cardiau drosodd dwy ar y tro nes i chi baru pob llun â'r disgrifiad cywir.
Lili'r dŵr a blodau capan cornicyll Mae gan rai planhigion haen donnog faint-nano ar eu dail. Mae hynny'n helpu dŵr glaw i lithro oddi ar eu dail. Mae hynny wedi ysbrydoli gwaith i ddatblygu: - Ffenestri hunan-lanhau. - Dillad gwrth-staen.
Pryderon Sut y mae nanodechnoleg yn cael ei rheoleiddio? Beth yw'r effeithiau hirdymor? A fydd y gronynnau yn dianc i'r amgylchedd? A yw'r gronynnau yn cronni yn y corff?
- Slides: 15