Maer byd yn canu cn y Tad Maen
Mae’r byd yn canu cân y Tad; Mae’n galw’r haul i ddeffro’r wawr A mesur hyd y dydd, Nes machlud ddaw A’i liwiau rhudd. Ei fysedd wnaeth yr eira mân Ein byd sy’n troi o dan ei law; A rhyddid eryr fry, Fel chwerthin plant, o Dduw y dônt. 4
Haleliwia! Cyfodwn oll a chanu’n awr: Haleliwia! Canwn foliant i’n Creawdwr Sôn wrth bawb am wyrthiau Brenin nef. 4
I fyd o amser ddaeth y Mab, A’r creu a welodd wyneb Crist Datgelodd gynllun byw I agor ffordd i ni at Dduw. Ei fywyd pur ar lwybrau’r byd, A dorrodd afael felltith ddu, A’i farw wnaeth ni’n rhydd I fyw am byth a byw drwy ffydd. 4
Haleliwia! Cyfodwn oll a chanu’n awr: Haleliwia! Canwn foliant i’n Creawdwr Sôn wrth bawb am wyrthiau Brenin nef. 4
Y cread sydd yn awchu gweld Dyfodiad Crist i’r byd yn ôl Pob rhyfel blin a thrais Ddiflannant oll yn sŵn ei lais. Fe welwn ddaear newydd lân A’r nef a’r byd yn moli’n un Gogoniant fydd y cri Tra’n moli’n Duw a’n Harglwydd ni ! 4
Haleliwia! Cyfodwn oll a chanu’n awr: Haleliwia! Canwn foliant i’n Creawdwr Sôn wrth bawb am wyrthiau Brenin nef. Teitl Saesneg gwreiddiol: Creation Sings , Keith a Kristyn Getty & Stuart Townend Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Gwenda Jenkins Hawlfraint© ac yn y cyfieithiad hwn 2008 Thankyou Music/Adm. gan worshiptogether. com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway. co. uk Defnyddir trwy ganiatâd
- Slides: 6