La Parisienne La Parisienne gan Renoir paentiwyd ym
- Slides: 12
“La Parisienne”
La Parisienne, gan Renoir; paentiwyd ym 1874 Roedd Renoir yn aelod o grŵp o artistiaid. Yr Argraffiadwyr oedd yr enw arnynt. I gael gwybod mwy am yr Argraffiadwyr, cliciwch yma.
Ydy hi’n gwisgo dillad sy’n addas ar gyfer bod dan do neu y tu allan?
I ble mae hi’n mynd, dybiwch chi? Ydy hi’n gwisgo dillad sy’n addas ar gyfer bod dan do neu y tu allan?
Sut mae hi’n teimlo? Ydy hi’n gwisgo dillad sy’n addas ar gyfer bod dan do neu y tu allan? I ble mae hi’n mynd, dybiwch chi?
Sut mae hi’n teimlo? Ydy hi’n gwisgo dillad sy’n addas ar gyfer bod dan do neu y tu allan? I ble mae hi’n mynd, dybiwch chi? Ar bwy mae hi’n edrych?
Gweadedd yw sut deimlad sydd i rywbeth. A yw Renoir wedi llwyddo i greu’r argraff o weadedd yn y darlun hwn? Sawl gwead welwch chi?
Sut mae’r arlunydd wedi gosod paent ar y cynfas er mwyn creu’r gweadeddau ffriliog, llac? Edrychwch yn ofalus ar ei strociau brwsh Mae Renoir wedi defnyddio golau i greu’r gweadeddau sgleiniog, sidanaidd. Edrychwch ar y nifer fawr o donau glas a ddefnyddiwyd ganddo. A oes cyferbyniadau pendant rhwng tywyll a golau yn y llun hwn?
Mae’r ddau arlunydd wedi defnyddio olew ond ydych chi’n gallu gweld y gwahaniaeth o ran techneg? Defnyddiodd Renoir strociau brwsh llac, anorffenedig bron. Defnyddiodd Van Cronenburgh frwsh main a chyffyrddiadau bach, manwl o baent.
Yr Argraffiadwyr • Grŵp o arlunwyr oedd yn gweithio yn Ffrainc yng nghanol y 19 eg ganrif oedd yr Argraffiadwyr. Yn eu plith roedd Monet, Degas, Morisot, Sisley, Pissarro a Renoir. • Cawsant eu hysbrydoli gan ddarganfyddiadau gwyddonol oedd yn dangos sut mae’r llygad yn gweld lliw. • Roedden nhw’n awyddus i ddal ennyd fer mewn amser yn eu darluniau. • Byddai’r rhain yn paentio mewn cyffyrddiadau bach o liw pur oedd yn cyfuno i greu’r arlliw cywir yn unig pan fyddai’r gwyliwr yn sefyll ychydig bellter oddi wrth y cynfas. • Er mwyn gweld enghreifftiau o luniau eraill gan yr Argraffiadwyr ewch i Wefan Musee d’Orsay
Gwnewch gasgliad o ddefnyddiau mewn gwahanol arlliwiau (tonau) ac ewch ati i greu gludwaith. Edrychwch ar y gwahanol arlliw o las a ddefnyddiodd Renoir; pa liwiau eraill fedrwch chi eu gweld? Cliciwch yma i gael dysgu am tonau
Nawr dewch i ddysgu am “Fam Cymru” neu cewch wybod mwy am y llun ohonof drwy edrych ar “Wyneb yn Wyneb”