Ionawr Chwefror Tywydd gaeafol Natur anifeiliaid Natur planhigion

  • Slides: 8
Download presentation
Ionawr + Chwefror Tywydd gaeafol Natur - anifeiliaid Natur - planhigion Bwyd a ffermio

Ionawr + Chwefror Tywydd gaeafol Natur - anifeiliaid Natur - planhigion Bwyd a ffermio Gweithredoedd ‘eco’ Ailgylchu’r goeden Nadolig. Ailgylchu cardiau Nadolig.

Planhigion Ionawr + Chwefror Celyn ac Aeron Iorwg Lili Wen Fach Coed collddail rhew

Planhigion Ionawr + Chwefror Celyn ac Aeron Iorwg Lili Wen Fach Coed collddail rhew ar afalau sur bach Coed bytholwyrdd Nifer bach o blanhigion sy’n blodeuo ym mis Ionawr. Mae’r coed collddail fel y Dderwen, yr Onnen a’r Gollen yn hollol noeth. Fodd bynnag, mae’r Coed pinwydd, Sbriws a’r Celyn yn wyrdd drwy gydol y flwyddyn.

Lili Wen Fach, Eirlys, Blodyn yr Eira. Mae’r Lili Wen Fach yn blodeuo ym

Lili Wen Fach, Eirlys, Blodyn yr Eira. Mae’r Lili Wen Fach yn blodeuo ym mis Ionawr a Chwefror. Maent yn tyfu mewn perthi ac mewn man coediog. Mae tua 100 o wahanol fathau i’w cael ohonynt. Mae’r enw botanegol Galanthus yn golygu blodyn llaeth.

Lili Wen Fach, Eirlys, Blodyn Yr Eira Mae yna bennill enwog yn gysylltiedig â’r

Lili Wen Fach, Eirlys, Blodyn Yr Eira Mae yna bennill enwog yn gysylltiedig â’r lili wen fach: O Lili Wen Fach, o ble daethost ti? A’r gwynt mor arw ac mor oer ei gri. Sut y daethost ti allan trwy’r eira i gyd? Nid oes blodyn bach arall i’w weld yn y byd.

Ionawr +Chwefror Pan yr ydym yn mynd am dro i edrych am blanhigion ac

Ionawr +Chwefror Pan yr ydym yn mynd am dro i edrych am blanhigion ac yn gweld blodau gwyllt, a ddylsem eu casglu? Dylech feddwl am y canlynol cyn casglu blodau gwyllt: 1. Mae casglu blodau yn eu rhwystro nhw rhag hadu y flwyddyn nesaf a thyfu eto. 2. Mae‘r ‘Gymdeithas Blodau Gwyllt’ yn dweud wrthych y dylech casglu blodau gyda’r gofal mwyaf ac atal eich hun rhag diwreiddio planhigion yn gyfan. Am wybodaeth pellach ewch i: www. wildflowersociety. com

Cymorth ar sut i dynnu llun Lili Wen Fach 1. Pan yn mynd am

Cymorth ar sut i dynnu llun Lili Wen Fach 1. Pan yn mynd am dro ac yn archwilio eich llecyn gwyrdd, cymerwch lun o flodyn. Dangosir llun o Lili Wen Fach gyferbyn. 2. Dilynwch drywydd allanol y dail. 3. Dilynwch drywydd allanol y coesau. 4. Dilynwch drywydd allanol prif rannau’r blodyn. 5. Lliwiwch y dail a’r petalau i mewn gyda gofal. Ceisiwch ddefnyddio dau fath o wyrdd a gwyn i greu effaith 3 D.

Lluniau a lliwiau Gaeafol Edrychwch ar y lluniau uchod. Pa liwiau yr ydych yn

Lluniau a lliwiau Gaeafol Edrychwch ar y lluniau uchod. Pa liwiau yr ydych yn sylwi arnynt fwyaf?

Edrychwch ar yr adar, anifeiliaid a’r planhigion islaw a dewiswch pa rai sydd yn

Edrychwch ar yr adar, anifeiliaid a’r planhigion islaw a dewiswch pa rai sydd yn debygol i gael eu gweld ym misoedd y gaeaf. robin goch celyn blodyn menyn iâr fach yr haf lili wen fach titw tomos las pluen eira buwch gota aderyn du olion yn yr eira