HYDREF Mae llawer o bobl yng Nghymru yn
HYDREF
Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gwisgo dillad gwahanol a rhyfedd ar 31 ain o Hydref, ond a’i ar gyfer. . . Parti yn Nghroesoswallt (1954), Geoff Charles
‘Halloween’ neu…
Noson Calan Gaeaf?
Calan Gaeaf • Calan Gaeaf (1 af o Dachwedd) yw’r hen ŵyl geltaidd i ddathlu diwedd yr haf ac i nodi dechrau’r gaeaf. • Y noson gynt, ar Noson Calan Gaeaf (31 ain o Hydref) ofnai llawer o bobl y byddai ysbrydion yn ymddangos.
Traddodiadau Noson Calan Gaeaf 1. Cerfio llysiau fel maip (nid pwmpen) a gwisgo masgiau i ddychryn unrhyw ysbrydion i ffwrdd. © annṗáirtí anaiṫnid, Wikipedia
Traddodiadau Noson Calan Gaeaf 2. Dawnsio o amgylch coelcerth, a rhostio ffrwythau a llysiau ar y tân. Byddai pawb yn ysgrifennu eu henw ar garreg ac yna’i daflu i’r tân, os na ddewch o hyd i'ch carreg y bore wedyn cewch lwc ddrwg!
Traddodiadau Noson Calan Gaeaf 3. Ceir straeon am yr Hwch Ddu Gwta, mochyn anferth, a oedd yn ymddangos wedi i dân y goelcerth ddistewi. Byddai’r Hwch Ddu yn rhedeg ar ôl plant, a cheisio dal unrhyw un oedd heb fynd adref.
Traddodiadau Noson Calan Gaeaf 4. Chwarae gêm twca afalau - ceisio brathu afal mewn twb o ddŵr, roedd gêm arall yn cynnwys ceisio brathu afalau ar linyn. Twca afalau ym mharti Calan Gaeaf Ditherington (1950), Geoff Charles
Chweldau Cymreig a hud a lledrith
Branwen
Blodeuwedd
Dewiniaeth yng Nghymru
Gwrachod o Gymru Cafodd gwrachod eu beio am wneud pobl yn sâl Roedd pobl yn credu y gallai gwrach eich melltithio (curse) Credai pobl y gallai gwrachod newid i fod yn anifail Gellid beio unrhyw beth heb esboniad neu anhysbys ar wrach • Manteisiodd rhai menywod ar eu statws fel ‘gwrachod’. Aethant i ffermdai yn gofyn am fwyd a chawsant eu dymuniad gan fod y ffermwr yn ofni cael ei felltithio • •
Gorffennwch y stori… Y Wrach a herciodd Dyma stori am wrach o Forgannwg. Roedd pawb yn casáu Molly. Roeddent yn siŵr ei bod hi'n wrach. Ni allai unrhyw un ei dal oherwydd cyn gynted ag y rhedodd rhywun ar ei hôl, newidiodd ei hun yn ysgyfarnog a methodd hyd yn oed y cŵn hela gorau ei dal. Roedd ganddi sgil arbennig i osgoi pawb. O'r diwedd, gan wybod nad oedd hud gwrachod yn gallu atal arian, fe gasglwyd darnau arian ac yna eu toddi i lawr i greu bwledi arian. Gwelwyd Molly ac aethant ar ei hôl…. Addasiad o Welsh witchcraft = Ofergoeliaeth Cymru (1975), L. Simmonds.
Gorffennwch y stori… Y Wrach a herciodd Dyma stori am wrach o Forgannwg. Roedd pawb yn casáu Molly. Roeddent yn siŵr ei bod hi'n wrach. Ni allai unrhyw un ei dal oherwydd cyn gynted ag y rhedodd rhywun ar ei hôl, newidiodd ei hun yn ysgyfarnog a methodd hyd yn oed y cŵn hela gorau ei dal. Roedd ganddi sgil arbennig i osgoi pawb. O'r diwedd, gan wybod nad oedd hud gwrachod yn gallu atal arian, fe gasglwyd darnau arian ac yna eu thoddi i lawr i greu bwledi arian. Gwelwyd Molly ac aethant ar ei hôl. Newidiodd ei hun i ysgyfarnog, a chafodd ei saethu gan un o’r bwledi arian. Cafodd yr ysgyfarnog ei chlwyfo ond llwyddodd i ddianc. Wedi chwilio am yr ysgyfarnog am beth amser daethant ar draws Molly yn gwrcwd y tu ôl i graig. Roedd hi'n anadlu’n drwm ac roedd ei chlogyn o’i chwmpas yn ddi-siâp. O'r diwrnod hwnnw herciodd Molly i bob man. Addasiad o Welsh witchcraft = Ofergoeliaeth Cymru (1975), L. Simmonds.
Tynnwch lun o Hag yr Hen Wrach gan ddefnyddio'r disgrifiad isod Hag yr Hen Yn Aberystwyth roedd hen wrach o'r enw Hag yr Hen Wrach a oedd yn bwyta madarch coch. Roedd ganddi ben anferth, gwallt cyrliog du yn disgyn i'r llawr, dannedd du, roedd hi'n hisian fel neidr, a chanddi gath ddu fel y nos. Byddai’n diflannu pe bai'n cael ei darganfod yn sydyn. Roedd y bobl leol yn credu ei bod hi’n gwneud pobl yn sâl gan chwythu i'w hwynebau. I wella o’r salwch ac atal y swyn roedd rhaid newid y mawn ar y tân am lo. Addasiad o Welsh witchcraft = Ofergoeliaeth Cymru (1975), L. Simmonds.
Gwrachod neu camddealltwriaeth? Er fod llawer o bobl yn credu fod y straeon yma'n wir, ydech chi'n meddwl mai gwrachod go iawn oedd y menywod hyn
- Slides: 18