HADA Iaith Datblygu ysgrifennu dysgwyr yn y pynciau
HADA Iaith Datblygu ysgrifennu dysgwyr yn y pynciau iaith ac ar draws y cwricwlwm CA 2 Diwrnod 1: Dydd Mawrth, Tachwedd 29 ain, 2011 Diwrnod 2: Dydd Mawrth, Ionawr 17 eg, 2012 Diwrnod 3: Dydd Mercher, Ionawr 18 fed, 2012 Diwrnod 4: Dydd Gwener, Mawrth 23 ain, 2012 Diwrnod 5: Dydd Llun, Mawrth 26 ain, 2012 DARPARWYR : Gloria Davies, Elan Davies, Haf Llewelyn a Luned Francis
Trosolwg o’r cwrs 5 diwrnod DIWRNOD 1 ( 29/11/11 ) Gloria Davies • Arfarnu’r ddarpariaeth a safonau ysgrifennu ar draws y cwricwlwm yng nghyddestun blaenoriaeth genedlaethol llythrennedd. DIWRNOD 2 a 3 (17 + 18 /1/12) Haf Llewelyn a Luned Francis • Gosod cyd-destun – pwysigrwydd mwynhad a phrofiadau darllen a llafar i ysgogi ysgrifennu yn y ddwy iaith. • Gweithdy Ysgrifennu Creadigol 1 – ysgogi a datblygu ysgrifennu creadigol yn y dosbarth. • Datblygu sgiliau mecanyddol a golygu dysgwyr fel rhan o godi safonau ysgrifennu: geirfa, brawddegu a chystrawen yn y ddwy iaith. DIWRNOD 4 ( 23/ 03/ 12) • Tanio’r dychymyg – gweithdai efo awduron profiadol. Ysgogi ysgrifennu creadigol tu hwnt i’r dosbarth yn y ddwy iaith. DIWRNOD 5 ( 26/ 03/ 12) Elan Davies a Gloria Davies • Ysgrifennu mewn gwahanol ffurfiau i wahanol bwrpas a chynulleidfa – ffocws ar ffurfiau anllenyddol o fewn gwersi iaith ac ar draws y cwricwlwm.
HADA Iaith Diwrnod 1 -Tachwedd 29 ain, 2011: • Arfarnu’r ddarpariaeth a safonau ysgrifennu ar draws y cwricwlwm yng nghyd-destun blaenoriaeth genedlaethol llythrennedd. • Cynllunio gofalus i asesu anghenion er mwyn codi safonau ysgrifennu yn y ddwy iaith. Gloria Davies, Cynnal
Cynllunio gofalus i asesu anghenion er mwyn codi safonau ysgrifennu yn y ddwy iaith. Nod ac Amcanion • Cynorthwyo athrawon/ysgolion i gynllunio yn ofalus i asesu anghenion er mwyn codi safonau ysgrifennu yn y ddwy iaith. • Arweiniad ar fapio ysgrifennu a hunan arfarnu i godi safonau iaith. Deilliannau • Cynllunio tymor hir a chanol yn sicrhau parhad a dilyniant yn ystod ysgrifennu CA 2 yn y ddwy iaith. • Hunan arfarniad o’r sampl o waith disgyblion yn arwain at gynllunio a gweithredu yn ôl yn yr ysgol.
HADA IAITH 1: RHAGLEN Y DYDD 9. 15 – 9. 30 Cyrraedd a chofrestru 9. 30 – 10. 45 Sesiwn 1 – Gosod cyd-destun: Ysgrifennu estynedig o fewn blaenoriaeth llythrennedd cenedlaethol a lleol Mapio Ystod Ysgrifennu yn CA 2 er mwyn sicrhau parhad a dilyniant (cynllunio) 10. 45– 11. 00 Coffi 11. 00 – 12. 30 Sesiwn 2 – Arfarnu safonau ysgrifennu o fewn cyd-destun pynciol. Mapio Ystod Ysgrifennu yn CA 2 er mwyn sicrhau parhad a dilyniant (asesu) 12. 30 – 1. 30 Cinio 1. 30 – 3. 00 Sesiwn 3 – Arfarnu’r sefyllfa gyfredol er mwyn gweithredu yn ôl yn yr ysgol. 3. 00 - 3. 15 Cloi ac arfarnu
Sesiwn 1 – Mapio Ystod Ysgrifennu yn CA 2 er mwyn sicrhau parhad a dilyniant (cynllunio)
Gosod y cyd-destun. . . ‘Strategaeth ac arweiniad ar gyfer arolygu llythrennedd ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 18 oed’ - ESTYN - Medi 2011 • Yn y Fframwaith Arolygu, rhoddir y pwys mwyaf i fedrau llythrennedd, gan fod y medrau hyn yn ategu pob elfen ar ddysgu disgyblion. • Dylech ( arolygwyr) ganolbwyntio’n benodol ar fedrau darllen ac ysgrifennu ( wrth arolygu).
Strategaeth ac arweiniad ar gyfer arolygu llythrennedd ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 18 oed - Medi 2011 – ESTYN Yn benodol ar gyfer ysgrifennu - dylid ystyried: • a yw disgyblion yn cael cyfleoedd i ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac mewn ystod o ffurfiau gan ddefnyddio papur a TGCh ar gyfer cyfansoddi; • a oes cynllunio i ddisgyblion ysgrifennu mewn ffyrdd sy’n profi eu medrau adalw gwybodaeth a’u medrau arfarnol a’u gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd resymedig a rhesymegol; • a yw’r tasgau ysgrifennu yn ddiddorol, yn amrywiol ac yn apelio at bob un o’r disgyblion, yn cynnwys bechgyn; • a yw disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa ehangach na’r athro; • a yw disgyblion yn cael cyfleoedd i gynllunio, drafftio ac adolygu eu hysgrifennu ar eu pen eu hunain, a gydag eraill; • a yw’r tasgau a’r gweithgareddau ysgrifennu yn gofyn am ddigon o ymdrech ysgrifennu ac yn galluogi disgyblion i ysgrifennu’n estynedig; • a yw disgyblion yn cael cyfleoedd i ennill ystod o strategaethau i’w helpu i sillafu ac atalnodi’n gywir; ac a yw’r cynllunio yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu sut i ddefnyddio geiriadur yn effeithiol.
Strategaeth ac arweiniad ar gyfer arolygu llythrennedd ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 18 oed - Medi 2011 – ESTYN Addysgu ysgrifennu Er mwyn gwneud cynnydd i ennill medrau ysgrifennu a’u defnyddio, mae angen addysgu da ar ddisgyblion, sy’n cynnwys: • addysgu medrau ysgrifennu yn eglur; • modelu gwahanol ffurfiau a dibenion ysgrifennu; • cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau mewn gwaith ar draws y cwricwlwm yn ogystal â mewn Saesneg/Cymraeg; ac • arfer asesu effeithiol sy’n arwain at gael disgyblion i ddeall y ffordd orau o wella eu gwaith.
Strategaeth ac arweiniad ar gyfer arolygu llythrennedd ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 18 oed - Medi 2011 – ESTYN • Fel darllen, mae’n hanfodol bod addysgu ysgrifennu yn digwydd mewn ffordd gyson ar draws yr ysgol gyfan. Mae hyn yn golygu y dylai staff fod wedi cytuno ar sut i addysgu ysgrifennu a gweithredu polisi marcio’r ysgol yn gyson. • Wrth i ddisgyblion wneud cynnydd mewn ennill medrau ysgrifennu annibynnol, dylai ysgolion eu hannog i weld ysgrifennu fel proses sy’n cynnwys cynllunio’r cynnwys, drafftio, arfarnu, adolygu a golygu fel camau sy’n arwain at y cynnyrch terfynol. • Gall ysgolion ddefnyddio dulliau fel ysgrifennu ar y cyd ac ysgrifennu dan arweiniad yn yr un ffordd ag y maent ar gyfer addysgu darllen.
Adroddiad Arfer Orau Estyn: Cwestiynau allweddol Cynllunio ar gyfer ysgrifennu • A yw gwaith yng nghyfnod allweddol 2 yn adeiladu ar y medrau ysgrifennu annibynnol y mae disgyblion wedi’u datblygu yng nghyfnod allweddol 1 ac yn eu hymestyn? • A yw’r cynllun gwaith yn nodi’r ffurfiau ysgrifennu y bydd disgyblion yn eu datblygu yn raddol ar draws cyfnodau allweddol 2 a 3? • A yw gwaith cynllunio’n cynnwys ysgrifennu at wahanol ddibenion a gwahanol gynulleidfaoedd? • A yw gwaith yn canolbwyntio ar nodweddion arddulliadol gwahanol fathau o ysgrifennu, gan gynnwys moddau ysgrifennu anffurfiol a ffurfiol?
• A gaiff y medrau y mae eu hangen ar ddisgyblion i fynegi a threfnu syniadau eu datblygu’n raddol, gan ddefnyddio gwahanol strwythurau brawddeg, paragraff a threfn testunau? • A oes ffocws ar eiriau a’u hystyron fel bod disgyblion yn dysgu ymestyn eu geirfa a mynegi eu hunain â thrachywiredd cynyddol? • A roddir sylw i strategaethau i helpu disgyblion i sillafu ac atalnodi’n gywir? • A oes cyfleoedd i ddisgyblion siarad am eu hysgrifennu eu hunain ac eraill a deall sut y defnyddir iaith i greu effaith? • A roddir sylw i gynllunio, drafftio, diwygio, prawfddarllen a gloywi darnau o waith ysgrifenedig, gan ddefnyddio TGCh pan fo’n briodol?
Arweiniad APADGOS yn dilyn adroddiad ESTYN:
Meddwl am ffurfiau Pa fathau o ffurfiau fyddech chi’n disgwyl i ddysgwyr eu hysgrifennu, yn y ddwy iaith, yn ystod y cyfnod allweddol gan gynnwys ysgrifennu estynedig ar draws y cwricwlwm? Which kinds of forms would you expect learners to write in both languages over the key stage, including writing across the curriculum?
Meddwl am ffurfiau Sut fyddech chi’n categoreiddio y ffurfiau o ran y llenyddol a’r anllenyddol? How would you categorise these forms in terms of being Literary /Non-literary?
Meddwl am ffurfiau • Oes rhai o’r ffurfiau yn fwy anodd na’i gilydd? • Ydy’n bosib trefnu’r ffurfiau mewn grwpiau sy’n defnyddio sgiliau tebyg? • Are some of the forms more difficult than others? • Is it possible to organise the forms in groups developing similar skills?
Ffurfiau a nodir yn Rhaglen Astudio Y Gymraeg – llenyddol ac anllenyddol • • Stori Cerdd Sgript Taflen Poster Hysbyseb Adroddiad Dyddiadur • • Nodiadau Testun electronig Portread Cyfarwyddiadau Holiadur Adolygiad Erthygl Araith
EXTENDED WRITING at KS 2 in English Pupils should be given opportunities to develop their writing skills through. . . 1. writing for a range of purposes, e. g. to entertain, report, inform, instruct, explain, persuade, recount, describe, imagine and to generate ideas 2. writing for a range of real and imagined audiences 3. writing in a range of forms, formal and informal 4. writing in response to a wide range of stimuli: visual, audio and written YSGRIFENNU ESTYNEDIG yn CA 2 – CYMRAEG Dylid rhoi cyfleoedd i’r disgyblion 1. Ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o bwrpasau gan gynnwys: • Difyrru, cyflwyno gwybodaeth, mynegi barn, cyfleu teimladau a syniadau 2. Ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfa real a dychmygus, e. e. yr hunan, cyd-ddisbylion, disgyblion iau, athrawon, teulu a ffrindiau 3. Ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau, e. e. Stori, cerdd, sgript, taflen, poster, hysbyseb, adroddiad, dyddiadur, nodiadau, testun electronig, portread, cyfarwyddiadau, holidur, adolygiad, erthygl, araith 4. Ysgrifennu mewn ymateb i amrywiaeth o symbyliadau clywedol, gweledol a chlywedol, e. e. Stori, cerdd, eu diddordebau, eu gweithgareddau a’u profiadau yn y dosbarth a thu hwnt, rhaglen deledu, cerflun.
Ymateb i’r ystod – pwrpas, cynulleidfa, ffurfiau a symbyliadau [ CWRICWLWM 2008 ] Ystyriwch un enghraifft o ffurf a nodwch y pwrpas, pwy yw’r gynulleidfa a pha fath o symbyliad fyddech yn ei ddefnyddio. PWRPAS CYNULLEIDFA FFURF SYMBYLIAD
FFURFIAU DYCHMYGUS / CREADIGOL / LLENYDDOL FFURFIAU Stori Dyddiadur Ymson Deialog / Sgript Portread Disgrifiad Cerdd Nodweddion Iaith Enghraifft o dasg
NODWEDDION FFURF AC IAITH TESTUNAU ac YSGRIFENNU FFEITHIOL / ANLLENYDDOL Mathau o ffurfiau Mathau o destunau Cyfarwyddiadol Esboniadol Perswadiol Adroddiadol / Dwyn i gof Cywain/ cyflwyno Gwybodaeth Trafod Nodweddion iaith 22
CYMRAEG – cynnydd mewn ysgrifennu ar draws y lefelau / Asesu ysgrifennu Agwedd Ysgrifennu i gyfathrebu mewn gwahanol ffurfiau ac i amrywiaeth o bwrpasau a chynulleidfa. ( ffeithiol, dychmygus a barn). Geirfa a chystrawen Brawddegu atalnodi a pharagraffu Lefel 1 Cyfathrebu drwy ysgrifennu geiriau, ymadroddion ac ambell frawddeg. Lefel 2 Cyfleu ystyr yn eu gwaith ysgrifenedig. Defnyddio geirfa addas a diddorol sy’n dangos rhywfaint o ymwybyddiaeth o’r darllenydd a’r ffurf. Lefel 3 Ysgrifennu’n glir ac yn drefnus, fel arfer, mewn ffurf greadigol a ffeithiol ar amrywiaeth o destunau. Dangos peth gafael ar ffurf a dilyniant. Datblygu syniadau’n synhwyrol. Addasu eu gwaith ar adegau i bwrpas y darllenydd Lefel 4 Ysgrifennu’n feddylgar a dychmygus, gan ddangos gafael eithaf sicr ar ffurf. Mynegi barn yn syml ac yn aml yn cynnal ac yn datblygu syniadau’n ddiddorol. Ysgrifennu geiriau, ymadroddion ac ambell frawddeg. Defnyddio geirfa addas. Datblygu syniadau mewn cyfres o frawddegau cysylltiedig yn fynych. Dechrau creu effeithiau drwy ddethol geiriau addas i’r pwrpas. Dangos gwreiddioldeb yn aml Denu a chynnal diddordeb y aml wrth ddethol geiriau ac darllenydd drwy’r dewis ymadroddion i greu ymadroddion. bwriadol o eirfa. effeithiau. Defnyddio cystrawennau mwy amrywiol a chymhleth yn weddol gywir. Ysgrifennu ambell frawddeg gan ddechrau dangos ymwybyddiaeth o sut i ddefnyddio atalnod llawn. Dechrau deall gwahanol ddibenion a swyddogaethau iaith ysgrifenedig. Defnyddio priflythrennau ac atalnodau llawn gyda pheth cysondeb. Datblygu syniadau mewn cyfres o frawddegau cysylltiedig yn fynych. Amrywio peth ar eu brawddegau. Cynhyrchu cystrawennau a brawddegau sylfaenol yn weddol gywir, a defnyddio atalnodi – priflythyren, gofynnod, collnod ac atalnod llawn – yn gywir ar y cyfan. Defnyddio priflythyren, gofynnod ac atalnod llawn yn gywir ac yn dechrau atalnodi o fewn brawddeg gan ddefnyddio collnod a dyfynodau pan fo’u hangen. Defnyddio paragraffau i gyflwyno’u gwaith yn drefnus ac mewn dilyniant i bwrpas y darllenydd Sillafu’r mwyafrif o’r geiriau strwythur a geiriau sylfaenol y pynciau a drafodir yn gywir. Sillafu’r mwyafrif o’r Defnyddio’u gwybodaeth o Treiglo a sillafu-gan gynnwys geiriau sydd o fewn eu reolau sillafu er mwyn sillafu’n geiriau afreolaidd – yn gywir profiad yn gywir gan gywir. fel rheol. ysgrifennu geiriau yn eu ffurf ysgrifenedig safonol lle bo’n briodol a threiglo’n gywir ar adegau. Sillafu Llawysgrifen / Cyflwyniad Fel rheol caiff llythrennau eu ffurfio’n glir a’u cyfeirio’n gywir. Ffurfio llythrennau’n gywir Ysgrifennu’n ddealladwy a a cyson o ran maint chyflwyno’r gwaith yn briodol. llawysgrifen a’u defnyddio yn unol â chonfensiwn. Lefel 5 Ysgrifennu’n glir, yn amrywiol ac yn ddiddorol i amrywiaeth o bwrpasau, gan ddangos sylwgarwch, dychymyg a gafael sicr ar ffurf. Ystyried pwnc, pwrpas, argraff a natur y gynulleidfa. Mynegi barn ac yn ei chefnogi ag ambelll reswm. Atalnodi ac yn treiglo’n gywir, fel rheol. Cynnwys ystod o gystrawennau ac ymadroddion sy’n weddol gywir a Chymraeg eu naws. cynnwys paragraffau yn eu gwaith Ysgrifennu’n rhwydd, Cyflwyno’u gwaith yn mewn llawysgrifen glir, gan effeithiol a darllenadwy. addasu’r cyflwyniad yn ôl y dasg lle bo hynny’n briodol. Lefel 6 Denu a chynnal diddordeb y darllenydd drwy’r dewis bwriadol o eirfa, ymadroddion a ffurfiau brawddegol wrth ddatblygu disgrifiadau, syniadau a dadleuon. Cyflwyno gwybodaeth at wahanol ddibenion mynegi barn gan ddatblygu rhai pwyntiau i gefnogi safbwynt. Defnyddio arddull, iaith a chywair addas i’r ffurf yn briodol. Dangos gafael eithaf sicr ar gystrawen gywir ac idiom naturiol Gymraeg. Defnyddio ystod o atalnodi er mwyn egluro’r ystyr a threfnu syniadau mewn paragraffau Cyflwyno gwaith yn effeithiol a darllenadwy.
Mesur cynnydd mewn ysgrifennu Lefel 2 > Cyfleu ystyr yn eu gwaith ysgrifenedig. Defnyddio geirfa addas a diddorol sy’n dangos rhywfaint o ymwybyddiaeth o’r darllenydd a’r ffurf. Datblygu syniadau mewn cyfres o frawddegau cysylltiedig yn fynych defnyddio priflythrennau ac atalnodau llawn gyda pheth cysondeb. Ffurfio llythrennau’n gywir ac yn gyson o ran maint yn eu llawysgrifen a’u defnyddio yn unol â chonfensiwn. Lefel 3 > Ysgrifennu’n glir ac yn drefnus, fel arfer, mewn ffurf greadigol a ffeithiol ar amrywiaeth o destunau. Dangos peth gafael ar ffurf a dilyniant. Datblygu syniadau’n synhwyrol amrywio peth ar eu brawddegau addasu eu gwaith ar adegau i bwrpas y darllenydd. Dechrau creu effeithiau drwy ddethol geiriau addas i’r pwrpas cynhyrchu cystrawennau a brawddegau sylfaenol yn weddol gywir, a defnyddio atalnodi – priflythyren, gofynnod, collnod ac atalnod llawn – yn gywir ar y cyfan. Sillafu’r mwyafrif o’r geiriau strwythur a geiriau sylfaenol y pynciau a drafodir yn gywir. Ysgrifennu’n ddealladwy a chyflwyno’r gwaith yn briodol. Lefel 4 > Ysgrifennu’n feddylgar a dychmygus, gan ddangos gafael eithaf sicr ar ffurf mynegi barn yn syml ac yn aml yn cynnal ac yn datblygu syniadau’n ddiddorol dangos gwreiddioldeb yn aml wrth ddethol geiriau ac ymadroddion i greu effeithiau defnyddio cystrawennau mwy amrywiol a chymhleth yn weddol gywir defnyddio paragraffau i gyflwyno’u gwaith yn drefnus ac mewn dilyniant i bwrpas y darllenydd sillafu’r mwyafrif o’r geiriau sydd o fewn eu profiad yn gywir gan ysgrifennu geiriau y eu ffurf ysgrifenedig safonol lle bo’n briodol a threiglo’n gywir ar adegau defnyddio priflythyren, gofynnod ac atalnod llawn yn gywir ac yn dechrau atalnodi o fewn brawddeg gan ddefnyddio collnod a dyfynodau pan fo’u hangen ysgrifennu’n rhwydd, mewn llawysgrifen glir, gan addasu’r cyflwyniad yn ôl y dasg lle’n briodol
EXAMPLE MAPPING ENGLISH – PLANNING WRITING at KS 2 TERM 1 Suggested writing forms*: Literary forms: Stories Poems Scripts / Dialogue Descriptive writing Suggested writing forms*: Non-literary forms: e. g. diaries autobiographies instructions reports (non-chronological) newspaper reports personal letters formal/business letters (ICT) ICT texts: power point, emails … Adverts, leaflets, pamphlets (multimodal texts) Writing for different audiences and purposes: Writing to persuade Writing to convey opinions/discuss Writing to instruct Writing to recount (retell) Writing to inform / explain Writing to report TERM 2 Year 3/4 TERM 3 TERM 1 TERM 2 Year 5/6 TERM 3
Estyn a llythrennedd: Adroddiadau arolwg 2010 YSGOL A – Safonau Da ‘Yng nghyfnod allweddol 2, gall bron pob un o’r disgyblion gyd-drafod yn hyderus mewn parau neu grwpiau, a gyda’u hathrawon. Maent yn mynegi a chyfiawnhau barn yn effeithiol iawn ar lafar, ac yn darllen amrywiaeth dda o ddeunyddiau’n ddeallus. Mae eu medrau llafar yn datblygu’n effeithiol iawn, ac mae llawer o ddisgyblion blwyddyn pump a chwech yn cyfathrebu’n huawdl iawn mewn iaith goeth a graenus. Er bod rhai enghreifftiau da o weithgarwch ysgrifennu ar draws ystod o bynciau, nid yw’r mwyafrif o ddisgyblion yn ysgrifennu digon o ddarnau estynedig yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm. ’ Argymhellion A 4 cynllunio mwy o gyfleoedd i’r disgyblion ysgrifennu’n estynedig ar draws meysydd y cwricwlwm;
Estyn a llythrennedd: Adroddiadau arolwg 2010 YSGOL B: “Many pupils read well. This enables them to access information at appropriate levels of understanding and use this to improve their learning. Many pupils use numeracy well in a range of situations. Pupils’ use of information and communications technology (ICT) is very accomplished in a wide range of situations. Younger pupils, for example, use it to research maps, make short video recording of work in lessons or practise phonics. Older pupils show high levels of skill in accessing information from the internet and in producing science presentations using Power. Point. Cooperation and teamwork are strong features of many lessons. Many pupils do not produce enough extended pieces of writing. ” Adrodd ar sgiliau mewn adroddiad sy’n nodi safonau ‘Rhagorol’ (Addysgu yn dda).
Estyn a llythrennedd: Adroddiadau arolwg 2010 YSGOL C: Safonau: Digonol Mae medrau cyfathrebu y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dda ar lafar. Maent yn gwrando’n astud, yn siarad yn glir ac yn darllen yn hyderus. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ysgrifennu’n ddigonol. Nid ydynt yn ysgrifennu’n ymestynnol a chyson mewn pynciau eraill ar draws y cwricwlwm. Mae sgiliau drafftio gwaith y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ddigonol. Mae medrau rhifedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ddigonol ac nid ydynt yn defnyddio’u medrau mathemateg yn bwrpasol ar draws y cwricwlwm. Mae medrau cyfrifiadurol a thechnoleg bron pob un o’r disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yn dda ac yn ddigonol yn CA 2. Argymhellion: A 1 codi safonau’r medrau allweddol yn enwedig rhifedd ac ysgrifennu ymestynnol ar draws y cwricwlwm i greu dysgwyr annibynnol;
Beth fedrwn ni ddysgu o hyn? • Pwysig sicrhau cyfleoedd i ddysgwyr ysgrifennu yn estynedig yn y pynciau iaith ac ar draws y cwricwlwm; • Mae’r broses ddrafftio a’r angen i ysgrifennu yn estynedig yn cael sylw penodol gan Estyn; • A yw’r dystiolaeth yn llyfrau/gwaith eich dysgwyr yn enghreifftio cyfleoedd da ar gyfer ysgrifennu yn estynedig?
Sesiwn 2 – arfarnu safonau ysgrifennu o fewn cyd-destunau pynciol. Mapio Ystod Ysgrifennu yn CA 2 er mwyn sicrhau parhad a dilyniant (asesu)
Mapio Ysgrifennu: Y ddarpariaeth • Arfarnwch eich cynlluniau tymor hir a tymor byr ar gyfer y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn sicrhau bod ystod addas o ffurfiau dros amser yn y ddwy iaith.
EXAMPLE MAPPING ENGLISH – PLANNING WRITING at KS 2 TERM 1 Suggested writing forms*: Literary forms: Stories Poems Scripts / Dialogue Descriptive writing Suggested writing forms*: Non-literary forms: e. g. diaries autobiographies instructions reports (non-chronological) newspaper reports personal letters formal/business letters (ICT) ICT texts: power point, emails … Adverts, leaflets, pamphlets (multimodal texts) Writing for different audiences and purposes: Writing to persuade Writing to convey opinions/discuss Writing to instruct Writing to recount (retell) Writing to inform / explain Writing to report TERM 2 Year 3/4 TERM 3 TERM 1 TERM 2 Year 5/6 TERM 3
Arfarnu Safonau: Gan ystyried gwaith eich disgyblion: • Ystyriwch i ba raddau mae’r cynllunio yn weithredol. • Arfarnwch safonau gwaith y disgyblion.
Cymedroli ysgrifennu ar ddiwedd CA 2 • Ystyriwch y gwahaniaeth rhwng portffolio o waith disgyblion a phroffil disgybl.
Sesiwn 3 – Arfarnu’r sefyllfa gyfredol er mwyn gweithredu yn ôl yn yr ysgol.
Beth am fapio ffurfiau/cyfleoedd i ysgrifennu yn estynedig ar draws y cwricwlwm?
Myfyrio. . . • Mynychwyr 1 diwrnod: Ø O ystyried y cwrs heddiw, beth ydych chi’n ragweld fydd angen sylw yn eich ysgol o ran yr ysgrifennu? • Mynychwyr y cwrs cyfan: Ø O ystyried y rhaglen am y 5 diwrnod sut ydych chi’n rhagweld y bydd y cwrs yn diwallu eich anghenion yn yr ysgol?
Sesiwn 3 – Cloi
Enghreifftio Aseiniad effeithiol: Hunan arfarniad a thystiolaeth o weithredu gan gynrychiolwyr llynedd 2010 -11 • Edrychwch ar yr aseiniad. • Ystyriwch sut mae gofynion a meini prawf yr aseiniad wedi cael eu diwallu.
Pam ddylwn i wneud yr aseiniad? • Cyfle i gael cefnogaeth ymgynghorol ychwanegol ar gyfer datblygu maes o fewn yr hyfforddiant; • Cyfle da i Hunan Arfarnu ysgrifennu yn fy nosbarth/ysgol; • Gallu hunan arfarnu medr a 2 bwnc drwy edrych ar ysgrifennu; • Cyfle i dreialu/arbrofi efo rhai o’r syniadau; • Cyfle i ddatblygu agwedd benodol – adnabod, datblygu ac arfarnu. • Tystysgrif!
Beth yw’r aseiniad? Yn dilyn y cwrs 5 diwrnod HADA: • Cynnal Hunan Arfarniad Dosbarth / Ysgol Gyfan ar ysgrifennu / agwedd o ysgrifennu er mwyn adnabod cryfderau ac agweddau i’w datblygu gan gynnwys arfarnu dysgu ac addysgu ysgrifennu yn y Gymraeg a/neu Saesneg. * [Adnabod beth sydd yn digwydd yn barod a beth i’w ddatblygu]. • Defnyddio’r canfyddiadau i lunio cynllun gweithredu. * • Tystiolaeth o weithredu yn ôl y cynllun gweithredu (e. e. sesiwn ‘hyfforddiant’ i gydweithwyr; cynlluniau gwaith a thystiolaeth o waith dysgwyr wedi eu asesu; tystiolaeth o weithredu ar agwedd benodol e. e. cyrhaeddiad bechgyn mewn ysgrifennu; defnydd o asesu ar gyfer dysgu i godi safonau ysgrifennu dysgwyr; datblygu agwedd benodol fel sillafu, ffurfiau anllenyddol, ysgogi ysgrifennu dychmygol dysgwyr; datblygu sgiliau ysgrifennu dysgwyr targed fel rhan o weithredu'r Nod Ansawdd . . . ). • Dylai’r dystiolaeth enghreifftio cyswllt rhwng arlwy'r hyfforddiant HADA a’r Hunan Arfarniad.
Meini Prawf Llwyddiant: • Hunan Arfarniad o’r maes dan sylw – pam ei ddewis? Beth yw’r sefyllfa bresennol e. e. sillafu ysgol gyfan; ysgrifennu anllenyddol/ creadigol; barddoniaeth yn CA 2. . . (cryfderau a gwendidau); • Cynllun gweithredu. • Crynodeb a thystiolaeth o’r gweithredu e. e. o gynllunio/adnoddau, gwaith/ymateb dysgwyr, asesiad a/neu arfarniad o’r gwaith.
- Slides: 46