HADA Datblygu ysgrifennu dysgwyr yn CA 2 Hydref
HADA Datblygu ysgrifennu dysgwyr yn CA 2 Hydref 2010 Luned Francis a Haf llewelyn
Nodau ac Amcanion • Gosod cyd-destun ar gyfer y mathau o brofiadau gellir eu defnyddio i ysgogi ysgrifennu creadigol disgyblion; • Rhoi sylw i’r pwysigrwydd o brofiadau, pwrpas a mwynhad wrth ysgogi disgyblion i ysgrifennu yn greadigol. • Cynnig strategaethau ac adnoddau i gefnogi ysgrifennu creadigol disgyblion. Deilliannau • Bydd athrawon yn cynllunio profiadau eang sy’n cynnwys sbardun darllen a llafar i ysgogi ysgrifennu creadigol disgyblion. • Bydd disgyblion yn ymateb i’r amrywiol profiadau a gynigir gan ysgrifennu er mwynhad ac i bwrpas a chynulleidfaoedd penodol.
Ysgrifennu Sgwennu! Ysgrifennwch unrhywbeth yr hoffech hyd nes y byddwn yn eich stopio!
Oedd eich beiro chi’n drom bore ‘ma? Anodd neu hawdd? Genre? Cynulleidfa
Beth fyddai wedi gwneud y dasg yn fwy pleserus neu’n haws? Model i’w efelychu? Sbardun? Ffrâm? Rhoi fformiwla i’w dilyn – ateb nifer o gwestiynau? • Unrhyw beth rydych chi wedi ei weld yn gweithio? • •
Why?
I wonder… Question frame who … first made up the rules for how we behave? where …the rules were decided? why … the rules are different in other countries? when … people forget about the rules? if … everybody breaks the rules sometimes? what … would happen if we broke every rule one day? how. . we would feel if we decided to break the rules?
O bell mae pob un yn edrych ‘run fath. Dail ydy dail ar goeden. Maen nhw’n grwn neu’n hirfain. Yn dal neu’n denau. Maen nhw hefyd yn iach, yn nerthol a’u gwythiennau’n llifo. Araf ledodd gwawr o goch dros ddail y maes. Un ddeilen grin a ddanfonwyd ataf, ac aeth hi’n aeaf arnaf. Jane Jones Owen. Cystadleuaeth Llên Meicro Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion.
Cwestiynu (Draw yn Affghanistan) Beth. . . ? Darlun o beth sydd yma? Pwy. . . ? Pwy sy’n siarad yn y darn? Ble. . . ? Ble mae hyn yn digwydd? Pam. . . ? Pam fod gwawr goch yn lledu? Pryd. . . ? Pryd ysgrifennodd yr awdur y darn? Os. . . ? Os na fyddai’r ddeilen wedi ei danfon sut fyddai ‘n treulio’r diwrnod? • Sut. . . ? Ond sut mae’n treulio’r wythnosau nesaf nawr? • • •
Esgidiau
Fedrwch chi feddwl am gwestiwn? • Pwy sydd yn ei gwisgo? • Oes rhywun yn byw ynddi? • Oes ganddi bwerau hud? • Beth fedrwch chi ei wneud pan fyddwch chi’n ei gwisgo? • Beth yw ei hanfanteision?
Rhannu cwestiynau. • Grid GED (Gwybod/Eisiau wybod/Darganfod) Gwy’n Gwybod hyn: Rwyf Eisiau gwybod hyn: Darganfyddais hyn am fy nghymeriad: • Defnyddio hetiau de Bono. Crynhowch eich syniadau. Pwy sydd wedi colli’r esgid?
Bwrdd gwrthrychau. • Ewch i grŵp o dri. • Dewiswch dri gwrthrych oddi ar y bwrdd gwrthrychau a meddyliwch am beth yw’r cysylltiad. • Grwpiau eraill i ddyfalu beth yw’r cysylltiad.
Ffrâm Gwestiynu Oes cwestiynau eraill y gallwn eu gofyn? Pa bethau nad ydi’r llun yn ei ddweud wrthyf? Beth alla i ddyfalu ? I pa gasgliad y gallaf i ddod? Beth mae’r llun yn ei ddweud wrthyf?
Cadair Wag Bore Mawrth, Tachwedd 9 ed Annwyl Syr/Madam, Dim ond nodyn byr i ddweud wrthych chi na fydd E. . . yn mynychu’r gwersi bore ‘ma. Bydd yn ei ôl yn yr ysgol erbyn dydd Iau nesaf gobeithio. Caraf eich rhybuddio efallai y bydd yn ymddwyn beth yn wahanol i’r arfer. Gobeithio y byddwch yn amyneddgar, Yn gywir iawn, C. A. C. .
Sut mae awdur yn creu darlun yn ein meddyliau? • Brecwast Huwcyn Bach • Tanlinellwch y geiriau a’r cymalau sy’n llywio eich barn. Cripiodd heibio’r gornel, heb smic, fel llafn o wynt oer yn llithro i mewn o dan y drws. Welodd neb mohono, na gweld ei fysedd esgyrnog yn estyn am y clapyn caws. Yna’n ei gipio fel byddai anifail gwyllt yn cipio ei ysglyfaeth, cyn ei guddio ym mhlygiadau budur ei gôt
Aeth Huwcyn trwy’r drws i’r gegin fach, agorodd y cwpwrdd yn y wal, ond gwyddai cyn gwneud nad oedd pwrpas chwilio. Fyddai yna ddim yno wrth gwrs, dim hyd yn oed cornel crystyn sych. Aeth allan trwy’r cefn, rhag tarfu. Roedd y stryd yn dechrau deffro. Crwydrodd heibio i ambell siop, cyn aros wrth y siop groser gyda’r silffoedd uchel, llawn. Rhythodd trwy’r ffenestr, gwyliodd y siopwr yn gosod ei nwyddau’n ofalus ar y cownter uchel, y nwyddau oedd angen eu pwyso a’u lapio. Cripiodd heibio’r gornel, heb smic, fel llafn o wynt oer yn llithro i mewn o dan y drws. Welodd neb mohono, na gweld ei fysedd esgyrnog yn estyn am y clapyn caws. Yna’n ei gipio fel byddai anifail gwyllt yn cipio ei ysglyfaeth, cyn ei guddio ym mhlygiadau budur ei gôt. Gwyddai na allai fynd adre heb rywbeth i’w gyfrannu. Welodd neb mo’i lygaid yn edrych ychwaith, edrych ar y jariau lliwgar a estynnai tua’r nenfwd. Jariau yn llawn siwgr a llawenydd. Na, welodd neb mo’r freuddwyd yn ei lygaid.
How does an author influence the way you think about a character?
By the author’s description? • Hard and sharp as flint, from which no steel had ever struck out generous fire; secret, and self-contained, and solitary as an oyster. . . No wind that blew was bitterer than he, no falling snow was more intent upon its purpose, no pelting rain less open to entreaty. Foul weather didn't know where to have him.
By the character’s actions? • He seized the ruler with such energy of action, that the singer fled in terror, leaving the keyhole to the fog and even more congenial frost. He took his melancholy dinner in his usual melancholy tavern; and having read all the newspapers, and beguiled the rest of the evening with his banker's-book, went home to bed.
By the character’s speech? • "Don't be cross, uncle!" said the nephew. "What else can I be, " returned the uncle, "when I live in such a world of fools as this? ”
By other character’s reactions to him? • "I have no patience with him, " observed his niece. "Oh, I have, " said his nephew. "I am sorry for him. I was only going to say, that the consequence of his taking a dislike to us, and not making merry with us, is, as I think, that he loses some pleasant moments, which could do him no harm. I am sure he loses pleasanter companions than he can find in his own thoughts, either in his mouldy old office, or his dusty chambers. I mean to give him the same chance every year, whether he likes it or not, for I pity him. ”
How do characters talk? Sut maen nhw’n siarad? • Dewiswch un cerdyn o bob lliw. • Mae gennych gymeriad a sefyllfa. • Dywedwch beth fyddai’r cymeriad yn ei ddweud yn y sefyllfa. • Rhowch y cardiau yn ol a rhowch gynnig arall arni. • Pa rai oedd yn hawdd a pha rai oedd yn anodd a pham?
Like or Dislike • What we say in a situation may depend on whether or not we like the person involved. e. g. Somebody’s dropped a plate and broken it. If I like him, I might say; If I dislike him, I might say; Never mind, accidents happen. Clumsy fool! That was my best china.
Think what you’d say when someone has. . . • • • • failed their driving test won the lottery dressed too casually/untidily been on a winning side in a game lost their keys passed an exam arrived late got a new job been talking and laughing a lot bought new clothes not replied to an invitation come third in a competition had an accident paid the person next to you a compliment
Dwy ochr i’r stori! • Y ddamwain beic.
O Twtsi druan, mae hi wedi dychryn am ei bywyd, druan fach. Yr hen fachgen bach annifyr yna sydd yn byw yn y tai teras acw oedd y bai i gyd. Mae o bob amser yn creu helynt o amgylch y gymdogaeth yma. Mae o’n sobor o greulon tuag at Twtsi fach, ddiniwed. Beth fedr cath fechan fel Twtsi ei wneud pan mae yna hen fachgen mawr , anystywall fel yna o amgylch y lle? Unwaith roeddwn i’n eistedd wrth ffenestr y lolfa yn gwylio’r adar bach, pan welais i’r hen fachgen yna’n taflu cerrig tuag at Robin goch yn yr ardd. Roeddwn i wedi dychryn am fy mywyd, a Twtsi hefyd, welais i ddim sôn o Twtsi am ddyddiau wedyn, ond roedd plu’r robin druan o gwmpas yr ardd ymhobman. Ac yna’r prynhawn yma, beth welais i ond y bachgen yna’n cicio Twtsi druan yn syth ar draws y ffordd, cafodd ei hyrddio i lwybr y beic. Mae’r peth yn warthus wir.
Tynnwch lun o’r bachgen a’i labelu • • Beth mae’n wisgo? Beth yw ei hoff bwnc yn yr ysgol? Beth mae’n ei wneud ar Ddydd Sadwrn? Beth arall wyddoch chi amdano?
Ro’n i ar fy ffordd adre o’r ysgol a dyma’r hen gath, oren ddrewllyd yna’n neidio o ben y wal. Fi oedd yn cael dod a’r bochdew adre, achos mae hi’n ddydd Gwener yn dydi? Roedd Mrs Jones wedi dweud – “Cofia di edrych ar ei ôl o’n iawn rwan. ” Ac mi roeddwn i wedi ateb, “Grêt Mrs Jones, dwi’n siwr o edrych ar ei ôl o i chi, mi fydd o’n saff – trystiwch fi!” A’r peth nesa dyna’r hen gath oren, hyll yna’n neidio am y caitsh. Felly dyma fi’n anelu cic ati, ond wnes i ddim ei chyffwrdd hi, wir yr! Roedd hi wedi mynd cyn i mi gael cyfle. Hen fwli o gath ydi honna, mae hi’n lladd adar bach, ac mae John yn dweud mai honna ddôth i mewn i’w dŷ fo a dychryn ei lygoden wen o – nath honno farw’n syth – o sioc. Beth bynnag ar ôl i’r gath drio bwyta’r bochdew, mi redodd yn syth ar draws y ffordd, a dyna pryd yr aeth hi ar draws y dyn ar ei feic. Mae’r gath yna’n nyts, dwi’n deud wrthach chi.
Chi yw’r Gohebydd Lleol Cynllunio eich adroddiad: Cefndir y stori; Pryd? Beth? Pam? Disgrifiad o’r digwyddiad: Dyfyniad gan lygad –dyst. Diweddglo – beth fydd yn digwydd nesaf?
Cloi Ysgogi trwy roi sbardun Cwestiynu a dadansoddi Ymarfer mewn camau – un ar y tro Digon o amser i drafod a gweithgareddau llafar • Gosod y sail i ysgrifennu llwyddiannus • •
- Slides: 34