gadael Sut maer gwelliannau o ran menywod yn
- Slides: 5
gadael Sut mae’r gwelliannau o ran menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael eu dehongli? Sut a pham mae dehongliadau hanesyddol yn gwahaniaethu? Cyn cyflawni’r dasg hon mae’n bwysig eich bod yn deall beth yw dehongliad hanesyddol. Cwblhewch y tasgau a ganlyn i helpu gwella eich dealltwriaeth.
gadael Dehongliadau hanes Mae tasg ddehongli yn gofyn i chi wneud y canlynol: 1. adnabod y ffyrdd mae’r gorffennol yn cael ei gynrychioli a’i ddehongli 2. gwahaniaethu rhwng ‘ffaith’ a ‘barn’, gan roi tystiolaeth/ rhesymau’n seiliedig ar wybodaeth am hyn. Clicio i ddangos
gadael Dehongliadau hanes Ydych chi’n gallu gwahaniaethu rhwng ‘ffaith’ a barn? Penderfynwch pa rai o’r datganiadau isod sy’n ‘ffaith’ a pha rai sy’n ‘farn. ’ Ffaith Roedd amodau gwaith a thâl yn well i bob menyw yn ystod y rhyfel. Barn Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn rhaid i fenywod wneud gwaith trwm megis dadlwytho glo, cynnal ffwrneisi ac adeiladu llongau. Unwaith daeth y rhyfel i ben disgwylid i’r rhan fwyaf o fenywod roi’r gorau i’w swyddi a chael eu disodli gan ddynion. Arweiniodd y Rhyfel Byd Cyntaf at welliant ym mywydau menywod. Newidiodd agweddau dynion at fenywod oherwydd y rhyfel. Roedd menywod a weithiai mewn ffatrïoedd arfau yn cael eu galw’n ‘munitionettes’ Cynyddodd nifer y menywod a gyflogwyd o 3, 224, 600 yng Ngorffennaf, 1914 i 4, 814, 600 yn Ionawr 1918. Yn 1917 cafodd Byddin Tir y Menywod ei ffurfio i sicrhau bod digon o weithwyr ar y tir. Clicio i wirio atebion
gadael Dehongliadau hanes Sut mae haneswyr yn casglu eu tystiolaeth er mwyn cyflwyno dehongliad? Mae dwy ffordd yn bennaf i ysgrifennu Un ydi Y ffordd arallhanes. yw dechrau trwysyniad gasglumewn ffeithiau yn gyda golwg, dilyn ac ymchwilio acdarllen yna chwilio am i bwnc, cynsy’n cyrraedd dystiolaeth profi casgliadau sy’n seiliedig ar safbwynt. y dystiolaeth. . Pa un yw’r dull gorau yn eich barn chi?
gadael Dehongliadau hanes Wrth ddelio â dehongliadau mae’n bwysig ystyried dau beth: 1. Beth sy’n ‘ffaith’ a beth sy’n ‘farn’ a sut mae hyn yn esbonio’r dehongliad a roddir? 2. Y dull a ddefnyddiwyd gan yr hanesydd neu’r unigolyn/unigolion a gyflwynodd y dehongliad. Sut gwnaeth eu cefndir ddylanwadu ar eu hysgrifennu?