Elfennau atebolrwydd cyffredinol Atebolrwydd caeth Nodau ac amcanion
Elfennau atebolrwydd cyffredinol Atebolrwydd caeth
Nodau ac amcanion • Erbyn diwedd y sesiwn bydd y myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol: - • • DEALL y cysyniad o droseddau atebolrwydd caeth. • DIFFINIO pa brofion a gymhwysir gan y Llysoedd wrth benderfynu a yw achos yn un o atebolrwydd caeth ai peidio. • TRAFOD problemau a buddiannau o ran troseddau atebolrwydd caeth. ESBONIO'R gwahaniaeth rhwng atebolrwydd caeth ac absoliwt.
MEDDYLIWCH! A ddylech gael eich dyfarnu'n euog o drosedd nad oeddech yn bwriadu ei chyflawni?
Atebolrwydd caeth • Cofiwch ein bod wedi darganfod, hyd yma, fod yn rhaid dangos bod y diffynnydd wedi cyflawni ACTUS REUS gyda'r MENS REA priodol er mwyn bod yn euog o drosedd. • Atebolrwydd caeth yw'r eithriad i'r rheol hon! • Ar gyfer troseddau atebolrwydd caeth, nid oes angen profi MENS REA. Bydd y diffynnydd yn cael ei ddyfarnu'n euog os yw wedi cyflawni'r ACTUS REUS. Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • • Cymdeithas Fferyllol Prydain Fawr –v- Storkwain Ltd (1986) Cafodd fferyllydd ei euogfarnu am gyflenwi cyffuriau heb bresgripsiwn dilys o dan a 58(2) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 sy'n nodi na fydd neb yn cyflenwi cyffuriau heb bresgripsiwn gan feddyg. Roedd y llofnod ar y presgripsiwn wedi cael ei ffugio er nad oedd y fferyllydd yn gwybod hynny. Er gwaethaf hyn, hyd yn oed ar apêl i Dŷ’r Arglwyddi, cafwyd y fferyllydd yn euog unwaith eto. Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Mae'n rhaid profi bod y diffynnydd wedi cyflawni'r ACTUS REUS ac yn y rhan fwyaf o achosion mae'n rhaid i hyn gael ei wneud yn wirfoddol. • Fodd bynnag: • • Larsonneur (1933) Tramorwraig (estrones) a ddarganfuwyd yn Lloegr oedd y diffynnydd. Cafodd ei hallgludo i Iwerddon. Gwnaeth heddlu Iwerddon ei hallgludo'n ôl i Loegr – nid oedd ganddi unrhyw ddewis yn y penderfyniad hwnnw ac nid oedd ei gweithred yn wirfoddol. Cafodd ei harestio ar unwaith ar ôl glanio yn Lloegr. Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd absoliwt • • Winzar –v- Prif Gwnstabl Caint (1983) • Mae'r achosion hyn yn creu ATEBOLRWYDD ABSOLIWT. Nid oes angen mens rea ar gyfer troseddau o'r fath ac nid oes angen i'r ACTUS REUS fod yn wirfoddol. Aethpwyd â Winzar i'r ysbyty. Canfu'r meddyg ei fod yn feddw! Gofynnwyd iddo adael ond yn ddiweddarach daethpwyd o hyd iddo'n cysgu mewn un o'r coridorau. Ffoniwyd am yr heddlu a chafodd ei gludo o'r ysbyty a'i roi ar y palmant y tu allan lle y cafodd ei arestio ar unwaith am gael ei ddarganfod yn feddw ar y briffordd o dan Ddeddf Trwyddedu 1872. Cafodd ei euogfarnu! Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Man cychwyn y troseddau hyn yw bod rhagdybiaeth bod angen mens rea bob amser. • Y llysoedd sy'n penderfynu ar hyn. • • Prince (1875) Hibbert (1869) Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Yn achos Callow –v- Tillstone (1900), penderfynodd y Llysoedd hefyd y gellir euogfarnu diffynnydd o drosedd lle mae'n cyflawni'r actus reus yn wirfoddol sy'n arwain at ganlyniad gwaharddedig. • Cigydd oedd Callow, a gofynnodd i filfeddyg archwilio carcas i weld a oedd yn addas i'w fwyta gan bobl. Dywedodd y milfeddyg ei fod yn addas felly cynigiodd y carcas i'w werthu – ond nid oedd yn addas! Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Fodd bynnag, mae rhai statudau mae amddiffyniad 'diwydrwydd dyladwy' ar gael ar gyfer rhai troseddau – gall y diffynnydd ddadlau iddo gymryd pob cam rhesymol i atal y canlyniad. • Dylai'r amddiffyniad hwn fod wedi bod ar gael yn achos Callow –v- Tillstone ond nid felly y bu. Cafodd Callow ei euogfarnu o hyd. • Cyngor Bwrdeistref Harrow, Llundain -v- Shah a Shah (1999)
Atebolrwydd caeth • Nid yw amddiffyniad camgymeriad ar gael ar gyfer troseddau atebolrwydd caeth. • Cundy -v- Le Cocq (1884) • Ond noder y penderfyniad gwahanol yn Sherras -v- De Rutzen (1895). • Roedd y ddau yn ymwneud â chamgymeriadau gonest a gweini alcohol. Yn achos Cundy, cadarnhawyd ei bod yn ffaith weladwy bod y cwsmer yn feddw. Yn achos Sherras, roedd yn amhosibl gwybod a oedd y cwnstabl ar ddyletswydd ai peidio. Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Y brif broblem gyda'r maes cyfreithiol hwn yw penderfynu pa droseddau y dylid eu labelu'n rhai atebolrwydd caeth. • Cofiwch mai'r rhagdybiaeth yw bod angen mens rea bob amser ac mai dyna'r man cychwyn. • Ceir y rhan fwyaf o droseddau atebolrwydd caeth mewn statudau ond ceir pedair mewn cyfraith gyffredin. Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Dim ond 4 trosedd cyfraith gyffredin y mae'r Llysoedd wedi penderfynu mai rhai atebolrwydd caeth ydynt: - • • Niwsans cyhoeddus • Lemon a Whitehouse -v- Gay News (1979) Enllib troseddol Enllib cableddus Dirmyg llys troseddol
Atebolrwydd caeth • Mae nifer fawr o droseddau a grëwyd gan statudau wedi'u dynodi’n droseddau atebolrwydd caeth gan y llysoedd. • Mae llawer o'r rhain wedi'u dosbarthu'n DROSEDDAU RHEOLIADOL am eu bod yn 'rheoli' amrywiol fathau o ymddygiad, e. e. mae troseddau goryrru a thraffig yn rheoli llif traffig ar y ffyrdd; mae rheoliadau bwyd a hylendid yn rheoli'r ffordd y caiff bwyd ei werthu. Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Cofiwch fod y llysoedd yn dechrau gyda'r rhagdybiaeth bod angen mens rea. • • B (Plentyn) -v- DPP (2000) • Yna, mae'r Llysoedd yn ystyried y geiriad a ddefnyddiwyd gan Senedd y DU mewn statud penodol i benderfynu a ddylai gael ei ddehongli'n drosedd atebolrwydd caeth. Sweet -v- Parsley (1969) Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Y broblem gyda'r maes cyfreithiol hwn yw ei fod yn seiliedig ar y ffordd y mae'r barnwr yn dehongli'r geiriad yn bennaf. Anaml iawn y mae Senedd y DU yn rhoi unrhyw amcan pendant y dylai trosedd fod yn un atebolrwydd caeth ac fel arfer nid yw'r statudau yn sôn am y mater. • Cofiwch yn ôl i UG y Gyfraith a'r problemau gyda dehongli statudol. A allwch gofio'r rheolau gwahanol a pha broblemau y maent yn eu creu? Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • Gammon (Hong Kong) Ltd -v- Twrnai Cyffredinol Hong Kong (1984) • Roedd y diffynyddion wedi codi adeilad yn Hong Kong, y cwympodd rhan ohono. Canfuwyd bod yr adeilad wedi cwympo o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniad yr adeiladwyr i wyro oddi wrth y cynlluniau gwreiddiol a oedd yn waharddedig o dan gyfraith Hong Kong. Cawsant eu heuogfarnu. Y gosb oedd dirwy o hyd at $250, 000 neu 3 blynedd yn y carchar. Ar apêl, cadarnhawyd eu heuogfarn. Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • O ganlyniad i achos Gammon, ailddatganodd y Cyfrin Gyngor y ffaith y dylai'r llysoedd bob amser ddechrau gyda'r rhagdybiaeth bod mens rea bob amser yn ofynnol ac yn symud ymlaen i'r pedwar prawf: - 1. Gweld a yw geiriad y statud yn nodi atebolrwydd caeth 2. Penderfynu a yw'r drosedd yn un reoliadol ei natur neu'n 'wir drosedd'. 3. Gweld a yw'r mater dan sylw yn achos pryder cymdeithasol/i'r cyhoedd 4. Gweld a fydd gorfodi atebolrwydd caeth yn annog mwy o wyliadwriaeth.
Atebolrwydd caeth • 1. Geiriad y Statud • Os yw'r statud yn defnyddio'r geiriau 'gan wybod' neu 'yn fwriadol' yna mae'r drosedd yn gofyn am mens rea. • • Alphacell -v- Woodward (1972) Roedd hyn yn ymwneud â'r gair 'achos'. Gwnaeth y ffatri 'achosi' i'r llygredd fynd i mewn i'r afon – nid oedd mens rea yn ofynnol.
Atebolrwydd caeth • 2. Troseddau Rheoliadol v- Gwir Droseddau • • Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau? • Sweet -v- Parsley (1969) Yn gyffredinol, gwir droseddau yw'r rhai lle gall stigma fod yn gysylltiedig, e. e. llofruddiaeth. Nid oes gan droseddau rheoliadol, megis goryrru, fawr ddim stigma cymdeithasol yn gysylltiedig â nhw, os o gwbl.
Atebolrwydd caeth • 3. Achos pryder cymdeithasol/i'r cyhoedd • Mae hyn yn golygu y bydd y llysoedd yn edrych ar y statud dan sylw i benderfynu a yw'n cynnwys achos pryder cymdeithasol. • Gall hyn arwain at orfodi atebolrwydd caeth mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd lle gall fod peryglon i iechyd, diogelwch neu foesau'r cyhoedd. • Blake (1997) • A allwch feddwl am feysydd a allai gael eu cynnwys o dan y pennawd hwn?
Atebolrwydd caeth • 4. Annog mwy o wyliadwriaeth • Mae angen i'r llysoedd ofyn a fydd gorfodi atebolrwydd caeth yn gwneud y gyfraith yn fwy effeithiol o ran hyrwyddo ei hamcanion. • • Lim Chin Aik -v- Y Frenhines (1963) Smedleys -v- Breed (1974) Atebolrwydd Caeth
Atebolrwydd caeth • A allwch feddwl am unrhyw broblemau a allai godi drwy orfodi atebolrwydd caeth? • A allwch feddwl am unrhyw fanteision a allai godi drwy orfodi atebolrwydd caeth?
Atebolrwydd caeth • Cyfeiriwch at y daflen sy'n sôn am fanteision ac anfanteision. • Ceisiwch ddarganfod manteision ac anfanteision y gallwch eu defnyddio i wrthddweud ei gilydd er mwyn creu dadl o blaid ac yn erbyn atebolrwydd caeth. • Cyflwynwch eich dadleuon i'r grŵp cyfan.
- Slides: 24