DWY WLAD DWY YSGOL Ble yn y byd
DWY WLAD DWY YSGOL
Ble yn y byd mae Lesotho? Un o wledydd cyfandir Affrica yw Lesotho.
Mae Lesotho i’r de o’r Cyhydedd, ac felly mae’r haf yn ystod misoedd Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr a’r gaeaf yn ystod Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Mae’r tymhorau yn Lesotho felly yn gwbl groes i’r tymhorau yma yng Nghymru. Gwlad fechan yw Lesotho, wedi ei hamgylchynu ar bob ochr gan Weriniaeth De Affrica. Mae Lesotho yn wlad annibynnol gyda’i brenin a’i llywodraeth ei hun. Rhwng 1868 a 1966 Prydain oedd yn llywodraethu’r wlad. Basutoland oedd enw’r wlad bryd hynny.
v Basotho - dyma yw enw pobl Lesotho. v Masotho - dyma’r enw ar un o bobl Lesotho. v Sesotho - dyma iaith y Basotho. Maseru yw’r brifddinas a’r unig dref fawr yn y wlad.
Yn y gaeaf mae’r tywydd yn gallu bod yn oer iawn, gydag eira a chenllysg yn syrthio ar y mynyddoedd.
Mae’r Basotho yn gwisgo plancedi gwlan i gadw’n gynnes. Mae’r plancedi yn lliwgar iawn gyda phatrymau diddorol arnynt. Mae’r dynion yn gwisgo het wellt. Y mynydd o’r enw Qiloane a’r lwmpyn ar ei gopa sydd yn gyfrifol am siap rhyfedd yr het.
O Langefni i Lesotho Y daith I gyrraedd Lesotho roedd rhaid i Mr Pritchard deithio mewn tair awyren am gyfanswm o 12 awr: Manceinion Llundain ( 1 awr ) Llundain Johannesburg ( 1 awr ) Johannesburg ( 10 awr) Maseru
Yn ystod y daith hon roedd Mr Pritchard yn hedfan: • o gyfandir Ewrop, dros Môr y Canoldir ac i lawr cyfandir Affrica • dros 9000 km • dros diffeithdir Y Sahara, safana canolbarth Affrica, coedwig law y Congo a rhai o afonydd mwyaf Affrica • uwchben nifer o wledydd Affrica • o wlad cymharol gyfoethog i wlad dlawd yng nghyfandir tlotaf y byd • o dymor yr hydref yn hemisffer y gogledd i dymor y gwanwyn yn hemisffer y de • i ran o’r byd ble mae’r clociau ddwy awr o flaen ein clociau ni
- Slides: 8