Dosbarth Derbyn MAPIOR SGILIAU AR DRAWS Y CWRICWLWM

Dosbarth Derbyn MAPIO’R SGILIAU AR DRAWS Y CWRICWLWM

Dinasyddiaeth Dosbarth Derbyn DCF 1. 1 ELFEN Hunaniaeth, delwedd ac enw da GWEITHGAREDDAU Ar ddechrau’r flwyddyn cael amser cylch i benderfynu rheolau ystafell ddosbarth, cynnwys rheolau digidol a rhai annigidol. Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Cael ystod o reolau (all-lein ac ar-lein). Oedolion i weithio gyda phlant i drefnu rheolau’n rhai all-lein ac ar-lein. cydnabod canlyniadau i’r hyn a wnawn a nodi rheolau syml i’w cadw’n ddiogel (all-lein ac ar-lein), e. e. rheolau’r dosbarth/siarteri sy’n cynnwys rheolau digidol ac annigidol Cysylltiad â chwarae rôl. Cael y plant i actio cyfres o senarios gwahanol yn gysylltiedig â’r rheolau a drafodwyd yn amser cylch. Gallent gael eu recordio a’u troi’n godau QR i fod yn dystiolaeth ac yn arddangosiadau. cydnabod y gall data gael ei rannu arlein e. e. gyda chymorth oedolyn, dod o hyd i luniau o’u hunain ac eraill e. e. ar wefan/cyfryngau cymdeithasol yr ysgol ac ati. Plant i dynnu hun-luniau a’u defnyddio i greu hunanbortreadau ar bapur. Hunanbortreadau a hunluniau i’w dangos yn yr ystafell ddosbarth. Oedolyn i uwchlwytho lluniau o’r arddangosiad ar wefan/Twitter yr ysgol. Herio’r plant i ddod o hyd i’w llun. Gellid cysylltu hyn â MD pan gaiff y plant dabl gyda lluniau eu ffrindiau arno ac maen nhw’n ticio llun eu ffrindiau pan fyddan nhw’n dod o hyd iddynt.

Dinasyddiaeth Dosbarth Derbyn DCF 1. 2 ELFEN Iechyd a lles GWEITHGAREDDAU Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Yn ystod amser cylch trafodwch sut mae’r plant wedi gweld athrawon yn defnyddio dyfeisiau mewn ysgolion ar dripiau i’r archfarchnad neu’r llyfrgell. siarad am ddefnyddio dyfeisiau a chyfryngau digidol bob dydd e. e. nodi ystod o gyfryngau a dyfeisiau digidol o brofiadau tebyg. Gwneud arsylwadau syml am eu defnyddiau.

Dinasyddiaeth Dosbarth Derbyn ELFEN Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: ychwanegu eu henw i waith digidol e. e. teipio eu henw cyntaf ar fysellfwrdd dod o hyd i enw’r awdur ar waith digidol. DCF 1. 3 GWEITHGAREDDAU Gellir defnyddio’r sgil hon (ychwanegu enw i waith digidol) i unrhyw weithgaredd mae’r plant yn ei gwblhau'n ddigidol. Dangos i blant blog plant Cyfnod Allweddol 2 drwy J 2 E ar Hwb. Herio’r plant i ddod o hyd i awdur y blog. Gallai hyn fod yn defnyddio synau cychwynnol neu chwilio’r enw llawn.

DCF 1. 4 Dinasyddiaeth Dosbarth Derbyn ELFEN Ymddygiad ar-lein a seibrfwlio Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: egluro sut y gall pobl gysylltu ag eraill ar-lein e. e. nodi ffurfiau ar gyfathrebu (gan gynnwys digidol) GWEITHGAREDDAU Cael trafodaeth amser cylch â’r plant am sut maen nhw’n cysylltu ar-lein, cael sbardunau llun/eitemau go iawn e. e. i. Pads, gliniaduron, ffonau clyfar. Plant i ddewis llun/eitem a siarad am sut maen nhw’n ei ddefnyddio i gysylltu ag eraill ar-lein e. e. Facetime, Skype, Messenger. Plant i greu pictogram am sut mae eu ffrindiau’n cysylltu ar-lein e. e. opsiynau Facetime, e-bost, Messenger a Skype a’u ffrindiau’n nodi pa rai maen nhw'n eu defnyddio. Gallant yna gydlynu’r wybodaeth a gasglwyd ar bictogram J 2 E drwy Hwb. Gallai plant wneud Pic Collage am sut maen nhw’n cysylltu â phobl ar-lein, y gellir ei arddangos yn yr ysgol. Dylai plant gael eu hannog i ddefnyddio eu synau i labelu’r lluniau maen nhw wedi’u defnyddio

Dinasyddiaeth Dosbarth Derbyn ELFEN Ymddygiad ar-lein a seibrfwlio Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: defnyddio geiriau a theimladau priodol e. e. trafod geiriau a theimladau a allai frifo pobl – cysylltu ag addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) all-lein a gwaith lles. DCF 1. 4 GWEITHGAREDDAU Cynnal amser cylch â’r plant am y geiriau gwahanol a ddefnyddiwn. Meddyliwch am ba eiriau a ddefnyddiwn i wneud ein ffrindiau’n hapus/trist. Yna gallai’r geiriau hyn gael eu hysgrifennu gan y plant a'u harddangos. Defnyddiwch y geiriau meddyliodd y plant amdanynt yn ystod trafodaeth amser cylch fel sbardun i sesiwn gerddoriaeth. Cael ystod o offerynnau a'r geiriau mewn bag. Plant i ddewis gair a nôl offeryn a’i chwarae i adlewyrchu’r gair hwnnw. Tynnu lluniau at dystiolaeth i’w cadw mewn ffolderi. Paratoi ystod o fflachgardiau emoji gydag emosiynau gwahanol. Plant i ddewis fflachgerdyn a dweud pa emosiwn yw hwn yn Gymraeg. Cysylltu’r geiriau hynny a all frifo pobl ar-lein.

Ein Byd Digidol Canlyniadau Disgwyliedig Dosbarth Derbyn – beth mae hynny’n ei wneud? 1. Deall bod technoleg wahanol yn cael Maen nhw’n defnyddio TGCh i ei defnyddio at ddibenion gwahanol symud eitemau o amgylch sgrin at ddiben penodol (L 1) ac yn gwybod 2. Cyfnerthu, defnyddio ac arbrofi am TGCh yn eu byd (L 1) sgiliau llywio sylfaenol 3. Dysgu sut gall technoleg gael ei defnyddio i gyfathrebu dros bellteroedd Nodiadau Athro: Cwricwlwm TGCh Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llinyn: Rhyngweithio a Chydweithredu Elfen: Cyfathrebu (Dosbarth Derbyn) Siarad am ffurfiau gwahanol cyfathrebu ar-lein e. e. e-bost, negesu, galwad fideo a'u defnyddiau. .

Rhyngweithio a Chydweithredu Dosbarth Derbyn ELFEN Cyfathrebu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: siarad am ffurfiau gwahanol ar gyfathrebu ar-lein e. e. e-bost, negesu, galwad fideo a'u defnyddiau. DCF 2. 1 GWEITHGAREDDAU Cael trafodaeth amser cylch – paratoi ystod o amcanion/lluniau i’r plant eu trafod o ran y ffurfiau gwahanol ar gyfathrebu ar-lein. Dysgwch sut mae’r plant yn cyfathrebu ar-lein a siaradwch am hyn. Plant i ddefnyddio Facetime/Skype i gyfathrebu â dosbarthiadau gwahanol yn yr ysgol/ysgolion eraill. Gall y gweithgaredd hwn fod yn rhan o sawl maes o’r cwricwlwm.

Rhyngweithio a Chydweithredu Dosbarth Derbyn ELFEN Cydweithio Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: cydweithio â phartner ar ddarn o waith digidol. DCF 2. 2 GWEITHGAREDDAU Plant i weithio mewn parau i greu collage o ddelweddau o’r dosbarth gydag ap Pic Collage neu debyg - dylent oll dynnu lluniau a rhoi eu henwau ar y darn gorffenedig o waith.

Rhyngweithio a Chydweithredu Dosbarth Derbyn ELFEN Storio a rhannu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: cadw gwaith drwy glicio ar eicon a deall bod modd adfer y gwaith. DCF 2. 3 GWEITHGAREDDAU Gall cadw gwaith fod yn rhan o bob agwedd ar y cwricwlwm. Mae angen dangos yr eicon ‘Cadw’ i blant ar J 2 E drwy hwb neu ar ap 2 CAS ac ati. Pan fydd plant wedi cadw eu gwaith (sicrhewch eich bod yn siarad â’r plant am ddefnyddio eu henw wrth gadw ac ati) dangoswch iddynt sut i’w adfer.

Amlgyfrwng Dosbarth Derbyn 1 – Gwnewch Awdur Ohonof! Nodiadau Athro: Canlyniadau Disgwyliedig 1. Dangos sut i recordio sŵn 2. Creu llun gan ddefnyddio pecyn meddalwedd penodol 3. Cyfuno sŵn a delweddau i greu ‘e-lyfr’ Cwricwlwm TGCh Fframwaith Cymhwysedd Digidol Disgyblion yn ystyried, creu a chyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurfiau gwahanol drwy destun, delweddau, lluniau a sŵn. (L 2) Llinyn: Cynhyrchu Elfen: Creu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Dewis meddalwedd briodol o ystod benodol i greu cydrannau amlgyfrwng; creu ac ystyried defnyddio testun, delweddau, sŵn, animeiddio a fideo. D. S. Mae llinyn amlgyfrwng Datgloi Cyfrifiadura yn ei hanfod yn set drawsgwricwlaidd o fodiwlau i addysgu’r sgiliau perthnasol yn eu cyd-destun. Gellir cyflwyno’r holl fodiwlau fel gwers yn eich thema/pwnc cyfredol gan fod y cyfan yn gofyn am ddefnyddio cynnwys i hwyluso addysgu’r sgiliau.

Canlyniadau Disgwyliedig Cwricwlwm TGCh Fframwaith Cymhwysedd Digidol Dosbarth Derbyn 2 – Helfa ysglyfaethwr! 1. Datblygu sgiliau camera gwell i dynnu ffotograffau/fideo yn effeithiol Disgyblion yn ystyried, creu a chyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurfiau gwahanol drwy destun, delweddau, lluniau a sŵn. (L 2) Llinyn: Cynhyrchu Elfen: Cynllunio, chwilio am ffynonellau 2. Creu dyfais ddigidol i greu posteri digidol ag effaith collage. Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Nodi meini prawf llwyddo mewn ymateb i gwestiynau e. e. meini prawf llwyddo i gynnwys sicrhau bod y pwnc ynghanol y ddelwedd wrth dynnu ffotograff Dod o hyd i wybodaeth ag amrywiaeth o ffynonellau e. e. awgrymu technoleg fel ffynhonnell gwybodaeth ac ystyried gwefannau neu apps delweddau/symbolau cyfarwydd. Llinyn: Cynhyrchu Elfen: Creu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Dewis meddalwedd briodol o ystod benodol i greu cydrannau amlgyfrwng; creu ac ystyried defnyddio testun, delweddau, sŵn, animeiddio a fideo. Nodiadau Athro:

Cynhyrchu Dosbarth Derbyn ELFEN Cynllunio, chwilio am ffynonellau Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Nodi meini prawf llwyddo mewn ymateb i gwestiynau e. e. meini prawf llwyddo i gynnwys sicrhau bod y pwnc ynghanol y ddelwedd wrth dynnu ffotograff Dod o hyd i wybodaeth ag amrywiaeth o ffynonellau e. e. awgrymu technoleg fel ffynhonnell gwybodaeth ac ystyried gwefannau neu apps delweddau/symbolau cyfarwydd. DCF 3. 1 GWEITHGAREDDAU Gall hyn fod yn rhan o bob agwedd ar y cwricwlwm. e. e. mewn sesiwn KUW am bryfed, gwers Ddaearyddiaeth am yr ardal leol, gwers CD wrth dynnu ffotograff cynnyrch gorffenedig. Cyn tynnu ffotograff dylid cael trafodaeth dosbarth e. e. ‘Sut byddwn ni’n dda iawn yn tynnu ffotograff o. . ? ’ Gellid rhestru Meini Prawf Llwyddo ar y bwrdd y gallai’r plant gyfeirio atynt. Gallai gael ei defnyddio i ystod o feysydd yn y cwricwlwm. e. e. ar ddechrau pwnc mae’r plant yn awgrymu am beth hoffen nhw ddysgu yn ystod y pwnc a defnyddio gwefannau/apps i ddechrau dod o hyd i’r wybodaeth.

Cynhyrchu Dosbarth Derbyn DCF 3. 2 GWEITHGAREDDAU ELFEN Creu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Dewis meddalwedd briodol o ystod benodol i greu cydrannau amlgyfrwng; creu ac ystyried defnyddio testun, delweddau, sŵn, animeiddio a fideo. Gallai plant ddefnyddio’r ap Pic Collage e. e. i greu poster am yr hyn maen nhw’n ei wybod am bwnc penodol a’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn ystod pwnc. Gall plant greu animeiddiad byr drwy ddewis o ystod benodol o apps animeiddio y gellir ei chysylltu â’u pwnc Cymraeg. Gallai fod yn sgwrs/senario chwarae rôl. Plant i ddefnyddio meddalwedd briodol i ffilmio yn Add. Gorff. Gallai plant ddefnyddio ystod o apps fel Pic Collage, Book Creator ac ati i greu gwaith ar eu pwnc KUW neu bynciau cyfredol eraill.

Cynhyrchu Dosbarth Derbyn ELFEN Gwerthuso a gwella Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Rhoi sylwadau ar waith o ran un maen prawf llwyddo e. e. ychwanegu sylwadau gan ddefnyddio nodwedd recordio’n y feddalwedd. DCF 3. 3 GWEITHGAREDDAU Plant i ddefnyddio'r app Explain Everything i roi sylwadau ar ddarn o waith maen nhw wedi’i greu gyda throslais. Plant i ddefnyddio Book Creator i roi sylwadau ar ddarn o waith maen nhw wedi’i greu e. e. Ysgrifennu brawddeg ac ati. Gallent roi sylwadau ar y meini prawf llwyddo a grëwyd e. e. ‘Defnyddiais i fan bys’.

Rhaglennu Dosbarth Derbyn - Brilliant Bee bots Canlyniadau Disgwyliedig Cwricwlwm TGCh 1. Defnyddio Beebots i wneud tasg raglennu sylfaenol Llinyn: Data a Dull Cyfrifiannu Elfen: Datrys Problemau a Maen nhw’n Modelu (Dosbarth Derbyn) ystyried effeithiau gwneud newidiadau mewn modelau neu Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: ysgogiadau (L 2) rheoli dyfeisiau drwy roi cyfarwyddiadau iddynt 2. Datblygu ymhellach eu dealltwriaeth o’r berthynas rhwng mewnbynnau ac allbynnau Fframwaith Cymhwysedd Digidol gwrando ar a dilyn cyfres o gyfarwyddiadau gan eraill creu cyfarwyddiadau llafar ceisio dulliau amgen o gyflawni nod. Nodiadau Athro:

Data a dull cyfrifiannu Dosbarth Derbyn DCF 4. 1 GWEITHGAREDDAU ELFEN Cynnwys Bee-bots yn y gwersi LLC e. e. Cael mat Bee-bot gyda geiriau Datrys problemau a modelu CVC arno a’r plant i gyfeirio’r Bee-bot i le penodol ar y mat a seinio’r Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: Rheoli dyfeisiau drwy roi cyfarwyddiadau iddynt gair CVC i’w ddarllen. Cynnwys Bee-bots yn y gwersi LLC e. e. Cael mat Bee-bot gyda llythrennau arno a’r plant i gyfeirio’r Beebot i le penodol ar y mater a ffurfio’r llythyren honno mewn glitr, ewyn, ar bapur ac ati. Cynnwys Bee-bots yn y gwersi MD e. e. Cael mat Bee-bot gyda siapiau 2 d arno a’r plant i gyfeirio’r Bee-bot i le penodol ar y mat ac enwi'r siâp. gwrando ar a dilyn cyfres o Cynnwys Bee-bots yn y gwersi MD e. e. Cael mat Bee-bot gyda rhifau gyfarwyddiadau gan eraill arno a’r plant i gyfeirio’r Bee-bot i le penodol ar y mat ac creu cyfarwyddiadau llafar ceisio dulliau amgen o gyflawni nod. adnabod/darllen/ffurfio’r rhif. Plant i greu set o gyfarwyddiadau llafar i blant eu cyflawni i gwblhau cwrs rhwystrau. Yn gysylltiedig â Llafaredd/ABCh - Plant i roi cyfarwyddiadau syml i ffrindiau am sut i newid i Add. Gorff/brwsio eu dannedd.

Trin Data Derbynfa - Pictogram Perfect Nodiadau Athro: Canlyniadau Disgwyliedig Cwricwlwm TGCh Fframwaith Cymhwysedd Digidol 1. Ychwanegu gwybodaeth i bictogram a thrafod canfyddiadau. Disgyblion yn ystyried, gyda chymorth, fathau gwahanol o wybodaeth a gedwir ar systemau TG. (L 1) Maen nhw’n defnyddio TGCh i symud amcanion i’r sgrin at ddiben diffiniedig at ddefnyddio a geiriau a lluniau i gyfathrebu syniadau. (L 1) Disgyblion yn nodi gwybodaeth i gofnod â rhywfaint o gymorth. (L 2) Llinyn: Data a Dull Cyfrifiannu Elfen: Data a Llythrennedd Gwybodaeth (Dosbarth Derbyn) Gall dysgwyr wneud y canlynol yn fwyfwy annibynnol: dechrau dehongli gwybodaeth/data drwy wneud cymariaethau uniongyrchol e. e. egluro pam fod un grŵp/set yn wahanol i set arall diffinio eitemau gan ddefnyddio un maen prawf creu pictogram syml gan ddefnyddio meddalwedd addas.

Data a dull cyfrifiannu Dosbarth Derbyn ELFEN Data a llythrennedd gwybodaeth DCF 4. 2 GWEITHGAREDDAU Plant i ddehongli a thrafod data a lunnir ar Gall dysgwyr wneud y canlynol yn feddalwedd pictogram J 2 E. Gellir cysylltu hyn ag unrhyw bwnc/thema. e. e. Faint o blant sy’n hoffi fwyfwy annibynnol: cawl? Cacenni Cri? Bara Brith? dechrau dehongli gwybodaeth/data drwy wneud cymariaethau uniongyrchol e. e. egluro pam fod un grŵp/set yn wahanol i set arall diffinio eitemau gan ddefnyddio un maen prawf creu pictogram syml gan ddefnyddio meddalwedd addas. Dysgu awyr agored – Plant i gasglu dail/brigau ac ati a’u didoli’n rhai bach a mawr. Yna gallai plant gymryd llun o’r hyn maen nhw wedi’i ddidoli. Mae’n hawdd cysylltu hyn ag ystod o bynciau/themâu e. e. KUW – didoli pryfed ac ati. Mae’n hawdd cysylltu hyn ag ystod o bynciau/themâu e. e. Creu pictogram ar hoff ddeinosor eich ffrindiau ac ati.
- Slides: 19