Delwedd gywir Ai dymar ddelwedd gywir ar gyfer
- Slides: 30
Delwedd gywir? Ai dyma’r ddelwedd gywir ar gyfer denu diwydiant i Gymru? Trafodwch: Beth fyddech chi’n bwysleisio fel cryfderau Cymru a fyddai’n denu busnesau i’r wlad? Pam symud busnes o Lundain i Gymru? Tasg: Lluniwch gyflwyniad tebyg a fyddai’n gywir ond hefyd yn denu busnesau i Gymru.
Cryfderau Cymru? Pam symud busnes i Gymru o Lundain?
Gwaith pwy yw denu busnesau i Gymru? Cynulliad Cenedlaethol Cymru http: //new. wales. gov. uk/? lang=cy International Business Wales www. ibwales. com
Ymchwil 1. Crynhowch y cymorth mae ibwales yn ddarparu i fusnesau, a sut maen nhw’n eu denu i Gymru. 2. Ym mha ffordd mae gwefan y Cynulliad yn gymorth i ddenu busnesau i Gymru? 3. Beth yw eich barn chi am y ddelwedd o Gymru sydd yn y gwefannau?
Busnesau sy’n hyrwyddo Cymru Meddyliwch am fusnesau sy’n hyrwyddo Cymru
Busnesau sy’n hyrwyddo Cymru Y busnesau sy’n hyrwyddo Cymru? Ym mha ffordd maen nhw’n gwneud hyn? Beth yw’r ddelwedd o Gymru sy’n cael ei chreu?
Cwpan Ryder 2010 / Celtic Manor Beth wyddoch chi am Gwpan Ryder? Beth wyddoch chi am Celtic Manor?
www. celtic-manor. com Ewch ar y wefan Ydy menter fel un Syr Terry Matthews yn gwneud lles i Gymru? Meddyliwch am y ffyrdd y gall Cymru elwa o gynnal Cwpan Ryder
Datblygu Busnesau lleol sydd yn ddibynnol ar gwsmeriaid o’r tu allan i Gymru Toffoc – www. toffoc. com Ty Nant – www. tynant. com Neuadd Lwyd – www. neuaddlwyd. co. uk Sut maen nhw’n cyrraedd eu marchnad?
Toffoc Cefndir y cwmni Pwy ydy eu marchnad? Ble mae eu cynnyrch ar gael? Cryfder y wefan Gwendid y wefan Y ddelwedd mae’n ei chyfleu o Gymru Ty Nant Neuadd Lwyd
Cynllunio gwefan Ar ôl trafod sut mae dechrau busnes, ewch ati i greu gwefan ar gyfer eich e-fusnes. Paratowch gyflwyniad i weddill y criw yn disgrifio sut aethoch ati i greu y wefan a sut fydd y busnes yn elwa o hyn. (Sgiliau Allweddol TGC Lefel 2)
Cymru yn yr UDA Mae gwaith yn cael ei wneud i hyrwyddo Cymru yn yr UDA. Ewch ar y wefan ganlynol i ymchwilio http: //www. wnabc. com/
Syniad ar gyfer Ymchwiliad Unigol Cymharwch y ffyrdd mae gwahanol wledydd yn ceisio denu busnesau O ystyried hyn, a yw Cymru’n gwneud hyn yn llwyddiannus? Awgrymwch welliannau