Deddf Trais yn erbyn Menywod Camdrin Domestig a
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 “Gofyn a Gweithredu” Hyfforddiant Grŵp 2
Trefniadau ymarferol. . . Ffonau symudol Toiledau Toriadau Gofalu ar ôl eich hun a’ch gilydd
Rheolau. . . - Cyfrinachedd - Oes angen cymorth arnoch chi? - Parch - Cytundeb Unrhyw beth arall?
Cyflwyniadau. . . - Enw - Swydd - Un peth yr hoffech ei ddysgu heddiw
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Beth mae’r Ddeddf yn ei wneud? Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn canolbwyntio ar ATAL y materion hyn, DIOGELU dioddefwyr a CHEFNOGI’r rheini y mae’r materion hyn yn effeithio arnyn nhw. Mae hwn yn ddarn unigryw ac arloesol o ddeddfwriaeth
Y Fframwaith hyfforddi genedlaethol 6 Ymgysylltu strategol gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus 5 Cryfhau arweinyddiaeth yn y sector arbenigol Cymwysterau a hyfforddiant achrededig arbenigol I weithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am gymorth arbenigol 3 Cyfoethogi hyfforddiant i ymarferwyr arbenigol gyda swydd hanfodol wrth gefnogi cleientiaid 2 Gofyn a gweithredu 1 Codi ymwybyddiaeth ac arweiniad ymarferol Maes llafur pwnc arbenigol 4
Am beth mae’r sesiynau hyn? (anfonwyd mewn ebost cyn yr hyfforddiant) 1. Sut i adnabod arwyddion a symptomau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; 1. Deall diben ymholi wedi’i dargedu a dangos y gallu i’w wneud 2. Dangos gwybodaeth am ddiogelu data a dyletswydd cyfrinachedd; 3. Deall diben dynodi risg mewn perthynas â rhai mathau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; 4. Gallu gweithredu’r llwybr gofal ymholi wedi’i dargedu.
Yr iaith a ddefnyddiwn: - Cam-drin domestig - Dioddefwr/goroeswr - Trais rhywiol - Cyflawnwr / troseddwr / camdriniwr - Trais ar Sail Rhywedd a Thrais yn Erbyn Menywod - Cleient / defnyddiwr gwasanaeth - VAWDASV - “Gofyn” a “Gweithredu” - FGM, Priodas dan Orfod, a Thrais ar - Pobl ag anabledd Sail Anrhydedd
Diffiniadau Llywodraeth Cymru Cam-drin: Cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol. Cam-drin domestig: Cam-drin lle mae’r un sy’n ei ddioddef yn gysylltiedig neu wedi bod yn gysylltiedig â’r camdriniwr. Trais ar sail Rhywedd: (a) trais, bygythiadau o drais neu aflonyddu sy’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol; (b) anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM); (c) gorfodi person (boed drwy rym corfforol neu orfodaeth drwy fygythiadau neu ffyrdd seicolegol eraill) i gymryd rhan mewn seremoni briodasol grefyddol neu sifil (pa un a yw’n gyfreithiol rwymol neu beidio); Trais yn erbyn Menywod: Profi trais ar sail rhywedd gan fenywod. Trais Rhywiol: Camfanteisio rhywiol, aflonyddu rhywiol, neu fygythiadau o drais o natur rywiol.
Manteision “Gofyn a Gweithredu” • Gwell adnabyddiaeth o’r rheini sy’n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy ymholi wedi’i dargedu. • Gwell atgyfeirio i wasanaethau arbenigol i’r rheini a nodir; • Gwell diwylliant ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru lle mae adnabod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn faes busnes a dderbynnir a lle caiff datgelu ei gefnogi, ei dderbyn a’i hwyluso. Mae adnabod yn gynt yn sicrhau bod gwasanaethau arbenigol ar gael ar y cyfle cyntaf, yn hytrach na mewn argyfwng yn unig!
Ymholi wedi’i Dargedu: Yn eich grŵp trafodwch: -Beth ydych chi’n meddwl yw “ymholiad wedi’i dargedu”? Pam fod Gofyn a Gweithredu yn dewis “ymholiad wedi’i dargedu” yn hytrach nag “ymholiad arferol”?
Ymholi wedi’i dargedu - pam? Arwyddo bod y gwasanaeth yn rhywle ble mae help ar gael Gall ymyrraeth gynnar leihau effaith – gan gynnwys marwolaeth Mae dioddefwyr yn awyddus i gael eu holi Nid yw tawelwch yn niwtral Helpu i leihau stigma ac ynysu Diogelu plant.
Amledd trais yn erbyn menywod, camdrin domestig a thrais rhywiol
Y Broses Gaethiwo Cyflyru/ Normaleiddio Dibyniaeth Caethiwo
Beth sydd wrth wraidd VAWDASV? https: //www. youtube. com/watch? v=NLl. XXt 6 WNs. M
Rheolaeth Gymhellol • -Dyma sylfaen cam-drin domestig. • Mae’r mwyafrif o ddioddefwyr cam-drin yn profi rheolaeth gymhellol yn hytrach nag ymosodiadau corfforol unigol yn unig. • Yn aml dywed dioddefwyr fod y rheolaeth gymhellol yn llawer mwy dinistriol nag ymosodiadau corfforol. • Achosi ofn, dibyniaeth, cydymffurfiaeth a chywilydd.
Chwe Cham Gadael – Liz Kelly Rheoli’r sefyllfa Aflunio persbectif / realaeth Diffinio’r camdrin Ailwerthus o’r berthynas Diweddu’r cam-drin
Gwir neu gau? -Mae dynion sy’n taro eu partneriaid benywaidd fel arfer wedi’u cam-drin eu hunain yn blant -Mae’r rhan fwyaf o achosion o ymosod yn rhywiol a threisio’n cael eu cyflawni gan ddieithriaid -Er bod trais yn erbyn menywod yn croesi pob dosbarth cymdeithasol, mae’n fwy cyffredin mewn teuluoedd dosbarth gwaith -Ni fydd dioddefwr treisio bob amser yn gwrthsefyll yr ymosodwr. -Mae trais yn erbyn menywod yn ganlyniad i anghydraddoldeb. -Nid oes gwasanaethau i ddioddefwyr gwrywaidd -Mae’r mwyafrif o gam-drin domestig yn gysylltiedig ag alcohol - Gall teuluoedd estynedig gyflawni trais yn erbyn menywod Dylai unigolion sy’n feddw neu sy’n defnyddio cyffuriau gael eu hystyried yn rhannol gyfrifol os ydyn nhw’n dioddef ymosodiad rhywiol neu dreisio
Gweithgaredd grŵp Yn eich grwpiau ymatebwch i’r ddau gwestiwn canlynol: Beth allai fod yn rhwystrau a fyddai’n atal gweithwyr proffesiynol rhag gwneud ymholiad wedi’i dargedu am un o’r canlynol: Trais rhywiol Anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) Priodas dan orfod Cam-drin domestig Beth allai fod yn rhwystrau a fyddai’n atal defnyddwyr gwasanaeth / cleientiaid / cleifion rhag gwneud datgeliad am VAWDASV?
Dywed goroeswyr eu bod yn dymuno… Cael eu trin ag urddas a pharch Cael cymorth i sicrhau eu bod nhw a’u plant yn ddiogel Cael eu credu I weithwyr proffesiynol wybod cam-drin ym mhobman; ei fod yn fwy nag ymosodiadau corfforol; ei fod yn ymwneud â grym a rheoli ac yn effeithio ar y teulu cyfan, a pha mor anodd yw datgelu
Sut gallech chi annog datgelu? Meddyliwch am… • • Y dangosyddion Yr amgylchedd/creu amgylchedd cefnogol Beth y gallai’r cleient fod yn ei feddwl Pa rwystrau y gall y gweithiwr eu creu
Adeiladu perthynas Defnyddiwch enw’r person lle bo modd Byddwch yn gwrtais ac yn gydymdeimladol Defnyddiwch wrando gweithredol Cytunwch â nhw i annog siarad Peidiwch â dweud wrthyn nhw beth i’w wneud Gadewch iddyn nhw wybod eu bod yn gwneud y peth iawn yn dweud wrthych chi • Gadewch iddyn nhw wybod eich bod yn eu cymryd o ddifrif • Peidiwch â dangos sioc nac ymddangos nad ydych yn eu credu • • •
Dangosyddion allweddol? Yn eich adran/maes gwaith chi beth fyddech chi’n eu nodi fel dangosyddion allweddol?
Y pedwar math o ddangosydd Yr arwyddion allanol a chorfforol posibl bod rhywun yn profi VAWDASV Gwybodaeth arall sydd ar gael sy'n awgrymu profiad o gamdrin Arwyddion Ciwiau Dangosyddion lle credir bod holi'r holl gleientiaid yn arfer da. . Lleoliadau Symptomau o gamdrin neu o effeithiau cysylltiedig (fel gorbryder neu iselder) Wedi’i dynnu o “Gofyn a Gweithredu”: Canllaw ymarferwyr, Llywodraeth Cymru 2017
Arwyddion diwylliannol gymdeithasol - • Newid agwedd neu ymddygiad • Cwmni partner ymhobman • Partner yn defnyddio lefel anarferol o reolaeth neu ofynion ynghylch ymwneud â’r gwasanaeth • Dibynnu ar bartner ar gyfer gwneud penderfyniadau • Obsesiwn gyda chadw amser • Cyfrinachol am fywyd y cartref • Pryderus am adael plant gartref gyda phartner neu deulu • Partner neu gynbartner yn defnyddio lefel anarferol o reolaeth neu ofynion ynghylch amserlen y cleient • Ynysu cymdeithasol
Arwyddion corfforol • Anafiadau heb esboniad • Newid ym mhatrwm neu faint o golur a ddefnyddir • Newid y ffordd mae’n gwisgo: er enghraifft dillad nad ydynt yn addas i’r hinsawdd a allai guddio anafiadau • Defnydd/camddefnydd o sylweddau • Blinder/anhwylderau cwsg Wedi’i dynnu o “Gofyn a Gweithredu”: Canllaw ymarferwyr, Llywodraeth Cymru 2017
Dangosyddion allweddol y Gwasanaethau Cymdeithasol • Iselder, gorbryder, problemau cwsg; • Tueddiadau hunanladdol neu hunananafu; • Camddefnyddio alcohol neu sylweddau eraill; • Poen cronig (heb esboniad); • Canslo neu beidio mynychu apwyntiadau’n aml • Ddim yn awyddus i gyfarfod yn y cartref • Ddim yn gallu cyfarfod mewn lle cyhoeddus • Anfodlon siarad am bethau personol • Byth yn cael bod ar ben ei hun, partner neu • Bob amser yn ymddangos yn ofnus neu’n aelod o’r teulu’n bresennol nerfus • Y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwybod am y plant • Anaf trawmatig, yn enwedig os caiff ei ailadrodd gydag esboniad amwys neu annhebygol • Anafiadau corfforol
Dangosyddion Allweddol Addysg Disgyblion • Cleisio neu Anaf Gweladwy • Newid ymddygiad • Diffyg diddordeb yn yr ysgol • Blinder • Tangyflawni • Gorgyflawni/Perffeithiaeth • Absenoldeb/gwyliau hir • Ddim eisiau gadael yr ysgol • Gwybodaeth gan wasasnaethau eraill • Gwaedu faginaidd neu heintiau a drosglwyddir yn rhywiol Oedolion – Rhieni/Staff • Cleisio neu Anaf Gweladwy • Newid ymddygiad • Diffyg diddordeb yn yr ysgol/gwaith • Blinder • Absenoldeb/gwyliau hir • Gweithio’n hwyr / methu aros yn hwyr • Gwybodaeth gan gydweithwyr / rhieni eraill
Dangosyddion Allweddol Tai Dyledion Rhent Anawsterau ariannol Difrod i’r eiddo Galwadau oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol • Ceisiadau am newidiadau i gytundebau tenantiaeth • Ceisiadau i symud/cyfnewid eiddo • Ynysu • •
Salwch meddwl fel anhwylder personoliaeth ffiniol PTSD/ôlfflachiadau Syndrom Trawma Treisio Anhwylder bwyta Dangosyddion : Trais rhywiol Cam-drin / dibyniaeth ar sylweddau Hunananafu Iselder Anhwylder panig / gorbryder
Trais Rhywiol ac Iechyd Meddwl Wrth gysylltu â gwasanaeth, adroddodd cyfran fawr o oroeswyr fod ganddynt broblemau iechyd meddwl. Roedd goroeswyr cam-drin rhywiol hefyd yn wynebu nifer o drafferthion eraill yn cynnwys profiad o gam-drin domestig (15%) a bod mewn perygl o gamfanteisio rhywiol yn ystod plentyndod (5%) a hefyd yn gyffredin eu bod wedi cael eu cam-drin nifer o weithiau yn ystod eu bywyd (erledigaeth ailadroddus). Self-Harm 11. 1% Anxiety 22. 5% Attempted Suicide 9. 5% Panic Attacks 6. 5% Flashbacks 11. 8% Depression 21. 2% Difficulty Sleeping 17. 3%
Ciwiau Darn o wybodaeth neu batrwm o ymddygiad sy’n teilyngu ymholiad. Nid cwestiynu ffurfiol yw “Gofyn a Gweithredu” ond os caiff ciw ei weld neu ei dderbyn, dylai gweithiwr proffesiynol wneud ymholiad priodol. Ymarfer grŵp: Ar bob bwrdd ceir ciwiau penodol ar gyfer: Dioddefwyr Gwrywaidd Trais ar sail “Anrhydedd” Anffurfio Organau Cenhedlu Benywaidd (FGM) Syndrom Trawma Treisio / Ymosodiad Rhywiol Dewiswch un math penodol o giw a’i drafod gyda’r person nesaf atoch chi (10 munud)
Lleoliadau Iechyd meddwl Lleoliadau mamolaeth ac ôl-enedigol Lleoliadau’n ymdrin â phryderon am gam-drin neu esgeuluso plant Gwasanaethau iechyd rhywiol Y gweithle
Clip fideo…. Sut i holi ac ymateb….
Cwestiynau sy’n gweithio Sut. . . Oes unrhyw un wedi…… Ydych chi Ydy eich byth yn… partner wedi…’ Rwy’n gallu Rydyn ni’n gwybod gweld bod… Mewn parau – meddyliwch am gwestiynau y gallech chi eu holi … nawr meddyliwch am gwestiwn dilynol.
Ymateb i ddatgeliadau • • • Diolch am ddweud wrthyf i…’ ‘Rwy’n eich credu chi…’ ‘Dyw’r hyn rydych chi’n ei ddisgrifio ddim yn anarferol…’ ‘Dim chi sydd ar fai am y trais / cam-drin / beth ddigwyddodd i chi…’ ‘Eich diogelwch a’ch lles chi yw fy mlaenoriaeth i…’ ‘Mae gennych chi hawl i fod yn ddiogel a chael cymorth…’ ‘Mae gennych chi hawl i deimlo fel hyn a siarad amdano…’ ‘Chi yw’r arbenigwr o ran beth sydd ei angen arnoch chi…’ ‘Mae help ar gael…’ I lawer o oroeswyr, cael rhywun i wrando yw’r cyfan sydd ei angen.
Peidiwch ag ymddwyn fel y cam-driniwr Mae hyn yn golygu peidiwch â: • Barnu • Gwadu • Beio • Gwrthod credu • Dweud wrthyn nhw beth i’w wneud • Gweithredu heb i’r cleient wybod (a gorau oll, peidiwch â gweithredu heb gydsyniad)
Dynodi risg Bydd achosion (prin) pan fydd y cleient sy’n datgelu i chi mewn perygl uniongyrchol. Mewn achosion o’r fath bydd angen i chi weithredu’n gyflym i gynnig gwarchodaeth. Ar rai adegau bydd yn amlwg fod y cleient mewn perygl uniongyrchol. Ar adegau eraill bydd angen i chi holi cwestiynau i weld beth mae’r cleient/claf yn ei brofi.
Dynodi risg Er mwyn gallu dynodi risg uniongyrchol dylech ofyn cwestiynau fel : Ble mae’r cyflawnwr/cyflawnwyr nawr? Ydy hi’n ddiogel i chi fynd adref at eich teulu? Ydy hi’n ddiogel i chi siarad? Ydych chi’n poeni am fynd adref? Ydych chi’n poeni beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n gadael fan hyn heddiw? • Ydych chi wedi’ch anafu? • Ble mae eich plant, ydyn nhw wedi’u hanafu? • • • Os yw’r cleient mewn perygl uniongyrchol dylech ffonio 999.
Ffactorau risg ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 1. Beth mae risg yn ei olygu? 2. Pam ei bod hi’n bwysig dynodi risg? 3. Beth yw rhai o’r ffactorau risg mwyaf sylweddol yn gysylltiedig ag achosion o niwed difrifol neu farwolaeth mewn perthynas â cham-drin domestig?
Adnoddau ychwanegol sydd ar gael: Oni bai bod eich sefydliad yn gofyn am hynny - NID OES DISGWYL I CHI gwblhau ffurflen dynodi RISG – GOFYNNWCH AM GYMORTH A CHYNGOR. • Cyfeiriwch at eiriolwr trais domestig annibynnol (nodwch fanylion lleol); • Cyfeiriwch at Cymorth i Ferched Cymru / arbenigwyr lleol (taflen gyda gwybodaeth leol); • Cyfeiriwch at eich hyrwyddwr grŵp 3 • Cyfeiriwch at eich Arweinydd Diogelu; • Gwnewch yn siŵr fod ganddynt y llinell gymorth genedlaethol (rhowch gardiau / taflenni). • Materion allweddol i oroeswyr a diogelwch, tai, arian a phlant – gallai fod angen cysylltu ag asiantaethau eraill (gweler y daflen). Dim disgwyl i chi fod yn arbenigwyr…. Grŵp 3.
Casglu a rhannu gwybodaeth am ddeddfwriaeth • Deddf Diogelu Data (2018) – Atal a datgelu trosedd a/neu ddal neu erlyn troseddwyr a’r Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data (GDPR) • Deddf Hawliau Dynol(1998) – e. e. Hawl i fywyd, hawl i fod yn rhydd rhag artaith neu driniaeth annynol neu ddiraddiol – Erthyglau 2 a 3 • Deddf Plant (1989) – datgelu i CYPS neu’r Heddlu ar gyfer ymarfer swyddogaethau dan y Ddeddf Plant – Atodlenni 2 a 3, Deddf Diogelu Data • Deddf Trosedd ac Anrhefn (1998) – atal a datgelu trosedd • Cyfraith Gyffredin Dyletswydd i weithredu
Llinell gymorth genedlaethol gall gweithwyr proffesiynol ffonio’r llinell am gyngor hefyd AR GAEL BEDAIR AWR AR HUGAIN Y DYDD, SAITH DIWRNOD YR WYTHNOS – AM DDIM.
Llwybr Atgyfeirio Lleol (taflen)
Ymarfer Sgiliau Bydd eich hyfforddwyr yn creu senario lle mae un yn ddefnyddiwr gwasanaeth a’r llall yn ddarparwr gwasanaeth. Eich rôl chi yw helpu’r darparwr gwasanaeth i Ofyn a Gweithredu’n effeithiol. Dilynwch arweiniad yr hyffyorddwyr, a gan ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd heddiw, helpwch nhw i greu amgylchedd diogel a ffafriol i’r defnyddiwr gwasanaeth allu datgelu.
Ymarfer Sgiliau • Byddwch yn gweithio mewn grŵp o 3. • Byddwch yn derbyn gwybodaeth am unigolyn. • Cewch 5 munud i ystyried 3 chwestiwn allweddol i’w holi. • Yna cewch chi gyfle i holi eich cwestiynau i’r hwylusydd • Gan ddibynnu ar eich cwestiynau efallai y byddwch yn gallu cwblhau’r llwybr • Ystyriwch yn ofalus beth sydd angen i chi ei wybod • Ystyriwch sut i gysylltu gyda’r person fel yr amlygwyd yn gynt yn sesiwn heddiw. • Cwblhewch y ffurflen / gwiriwch y llwybr…
Beth i’w gofio o’r ymarfer sgiliau: • Byddwch yn ymwybodol o anghenion niferus, ond hefyd anfanteision niferus; • Ystyriwch briodoldeb yr offeryn asesu risg rydych chi’n ei ddefnyddio; • Os oes angen rhagor o wybodaeth, er enghraifft am briodas dan orfod neu weithio gyda’r gymuned LHDT, holwch eich hyrwyddwr Grŵp 3 neu cysylltwch â’r gwasanaethau arbenigol am ragor o gyngor; • Defnyddiwch eich llwybr atgyfeirio, gwnewch yn siŵr fod eich penderfyniadau wedi’u cofnodi a’r wybodaeth wedi’i storio yn unol â’ch polisi.
Negeseuon allweddol: • HOLWCH yn gyson a GWEITHREDWCH yn hyderus; • Sicrhewch cymaint o wybodaeth ag y gallwch am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael; • Ceisiwch gymorth a chefnogaeth gan gydweithwyr, eich hyrwyddwr grŵp 3, Arweinwyr Diogelu, Arweinwyr VAWDASV, hyrwyddwyr y gweithle, y sector arbenigol – mae llawer o gymorth ar gael • Gall gadael fod yn beryglus iawn i’r dioddefwr a chynyddu’r risg – CEISIWCH HELP ARBENIGOL i sicrhau bod cleient yn cael cefnogaeth drwy’r broses.
Diwedd fersiwn diwrnod llawn Gofyn a Gweithredu (gweithwyr proffesiynol grŵp 2) Diolch yn fawr - Thank you
- Slides: 51