Deddf Boyle CBAC Ffiseg Uned 1 1 8
Deddf Boyle CBAC Ffiseg Uned 1 - 1. 8
Nwyon yn cael eu gwasgu Gallwch wasgu nwy i gyfaint llai. Os wnewch chi hyn heb adael i unrhyw nwy ddianc o’r cynhwysydd na’i adael i gynhesu, yna bydd gwasgedd y nwy yn cynyddu. 7 0 Thermomedr digidol 1 6 2 5 NWY 20°C Mesurydd gwasgedd 4 3 Cliciwch i gywasgu’r nwy
Nwyon yn cael eu gwasgu Edrychwch eto. Ydych chi’n gallu gweld y perthynas rhwng cyfaint nwy a’r gwasgedd? Pam ydy’r mesurydd gwasgedd yn dangos 1 atmosffer? 7 0 Thermomedr digidol 1 6 2 5 NWY 20°C Mesurydd gwasgedd 4 3 Cliciwch i gywasgu’r nwy
Nwyon yn cael eu gwasgu Gwasgedd (atmosfferau) Gadewch i ni ystyried nwy o gyfaint 8 m 3 sy’n cael ei gywasgu i hanner ei gyfaint – beth fydd yn digwydd i’r gwasgedd? 8 7 6 Gallwch amcangyfrif ble fydd y 3 phwynt nesaf ar y graff, a siâp llinell y graff cyn gwasgu’r botwm isod? 5 4 3 2 Dangos y pwyntiau 1 Dangos y llinell graff 1 2 3 4 5 6 7 8 Cyfaint (m 3) Mae’r cynnydd mewn gwasgedd yn gyfrannol i faint o wasgu ar y nwy sy’n digwydd. Os ydych chi’n gwasgu’r nwy i hanner y gwagle yna bydd y gwasgedd yn dyblu. Mae hyn yn gweithio fel arall hefyd. Os wnewch chi gynyddu gwasgedd ar nwy, heb adael i’r tymheredd newid, bydd yn gwasgu i gyfaint llai.
Sut mae hyn yn gweithio? Mae’r ddamcaniaeth ginetig yn egluro’r cyswllt rhwng gwasgedd a chyfaint. Mae’r gwasgedd sy’n cael ei roi ar gynhwysydd gan nwy yn dibynnu ar ddau beth: pa mor gyflym mae’r gronynnau’n teithio a pha mor aml maen nhw’n taro yn erbyn waliau’r cynhwysydd. Thermomedr 7 0 digidol 1 6 2 5 NWY 20°C Mesurydd gwasgedd 4 3 1 2 Dangos molecylau’r nwy Cywasgu’r nwy
Sut mae hyn yn gweithio? Os ydych chi’n gwasgu’r nwy i wagle llai bydd y gronynnau yn taro’n erbyn waliau’r cynhwysydd yn fwy aml ac mae’r gwasgedd yn cynyddu. Ni fydd buanedd y gronynnau yn cynyddu oni bai fod y tymheredd yn newid. 7 0 Thermomedr digidol 1 6 2 5 NWY 20°C Mesurydd gwasgedd 4 3 1 Dangos molecylau’r nwy
Deddf Boyle Mae Deddf Boyle yn crynhoi’r cyswllt rhwng cyfaint a gwasgedd nwy trwy ddatgan: “Pan mae gwasgedd yn cael ei roi ar fàs pendant o nwy sy’n cael ei gadw ar dymheredd cyson, yna bydd ei gyfaint yn lleihau. Mae’r newidiadau mewn gwasgedd a chyfaint mewn cyfranned gwrthdro. ”
Deddf Boyle Cwblhewch y crynodeb isod o Ddeddf Boyle. Cliciwch y saeth priodol er mwyn symud y datganiad i’r adran gywir Lleihau Cynyddu Wrth gynyddu cyfaint nwy mae’n rhaid i’r gwasgedd Wrth gynyddu gwasgedd nwy mae’n rhaid i’r cyfaint Wrth leihau gwasgedd mae’n rhaid i’r cyfaint Wrth leihau cyfaint mae’n rhaid i’r gwasgedd
Deddf Boyle ar waith TASG: • Cliciwch ar y chwistrelli yn yr animeiddiad canlynol i newid cyfaint y nwy yn y chwistrell. • Cymerwch o leiaf 5 gwerth gwasgedd a chyfaint gan ddefnyddio’r data yn yr animeiddiad. Cliciwch y delwedd er mwyn cyrchu at y gweithgaredd. (Nodwch fod y gweithgaredd yma’n seiliedig ar Flash, ac nid yw pob porwr we yn gallu ei lwytho erbyn hyn) • Plotiwch graff addas i gynrychioli eich data.
Yr hafaliad Mae hafaliad yn cynrychioli Deddf Boyle: p 1 V 1 = p 2 V 2 p 1 a V 1 yw gwasgedd a chyfaint y nwy ar y dechrau a p 2, V 2 yw y gwasgedd a’r cyfaint terfynol. Dyma enghraifft: Mae nwy sy’n dechrau ar gyfaint o 320 cm 3 a gwasgedd o 2. 5 atmosffer yn cael ei gywasgu i gyfaint o 180 cm 3. Beth yw’r gwasgedd terfynol? V 1 = 320 cm 3 p 1 = 2. 5 atm p 1 V 1 = p 2 V 2 2. 5 x 320 = p 2 x 180 p 2 = (2. 5 x 320) 180 p 2 = 4. 4 atm V 2 = 180 cm 3
Atebwch y cwestiynau trwy ddefnyddio’r fformiwla p 1 V 1 = p 2 V 2 1. Mae nwy sy’n dechrau ar gyfaint o 2 000 cm 3 a gwasgedd o 5. 5 atmosffer yn cywasgu i gyfaint o 500 cm 3. Beth yw’r gwasgedd terfynol? 2. Mae nwy mewn cyfaint o 550 cm 3 yn cael ei gywasgu i gyfaint newydd o 175 cm 3 ac mae ganddo wasgedd newydd o 4. 7 atm. Beth yw’r gwasgedd cychwynnol? 3. Ar ôl cywasgu nwy o 700 cm 3 roedd y gwasgedd wedi codi o 3 atm i 6 atm. Beth oedd y cyfaint terfynol? 4. Mae nwy yn dechrau ar wasgedd o 2. 5 atmosffer ac yn cael ei gywasgu i chwarter ei gyfaint cychwynnol. Beth yw gwasgedd terfynol y nwy? 5. Ym mha gyfaint oedd nwy ar 3. 1 atm i ddechrau os oedd ei wasgedd terfynol yn 4. 5 a’i gyfaint terfynol yn 600 cm 3?
Atebion 1. 22 atm 2. 1. 5 atm 3. 350 cm 3 4. 10 atm 5. 871 cm 3
- Slides: 12