Deall beth syn gwneud holiadur da Gwybod Beth
Deall beth sy’n gwneud holiadur da? Gwybod… Beth yw tuedd. Deall. . . Beth sy’n gwneud cwestiwn gwael. Gallu. . . Ysgrifennu cwestiwn da neu ddiwygio cwestiwn i'w wneud yn well. UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Pam defnyddio holiadur? Mae holiaduron yn cael eu defnyddio'n aml i gael gwybodaeth gan grŵp o bobl. Rydym ni'n eu defnyddio nhw oherwydd gallwch chi dargedu cwestiynau i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Mae yna lawer o ffyrdd o'u gwneud nhw hefyd: § Drwy’r post neu e-bost § Dros y ffôn § Wyneb yn wyneb UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Beth sy’n gwneud holiadur da? Trefn Dechreuwch â manylion sylfaenol a symudwch ymlaen at gwestiynau anoddach. Cwestiynau clir Iaith syml sy'n briodol i oed y bobl sy'n ateb y cwestiynau. Perthnasol i beth bynnag rydych chi'n ymchwilio iddo. Ddim yn Bersonol Ceisiwch osgoi cwestiynau sy'n gofyn am atebion personol iawn neu atebion allai achosi embaras. UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Beth sy’n gwneud holiadur da? Hawdd ei ateb Cwestiynau penagored – gadael i bobl ysgrifennu unrhyw beth. Cwestiynau caeedig – cyfyngu ar atebion drwy roi dewisiadau. Cadwch flychau atebion yn glir ac yn syml gan osgoi bylchau a gorgyffwrdd. Dan 20 20 − 29 30 − 39 40 − 49 Dros 50 Dylech chi osgoi atebion sydd ddim yn benodol fel "dim llawer" neu "llawer". UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Beth sy’n gwneud holiadur da? Osgoi tuedd Peidiwch â gofyn cwestiynau sy'n gwthio pobl tuag at ateb. Mae dechrau cwestiwn gyda: on'd yw hi'n wir bod. . . ? neu fyddech chi'n cytuno bod. . . ? yn ffordd o geisio gwneud i bobl ddweud beth ydych chi ei eisiau. Meddyliwch ble mae’r arolwg yn cael ei gynnal. Er enghraifft, os ydych chi'n gofyn i bobl pwy yw eu hoff dîm pêl-droed y tu allan i stadiwm pêl-droed ar ddiwrnod gêm, chewch chi ddim set ddata deg. UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Cwestiwn 1 Faint o gwsg gawsoch chi neithiwr? □ Llai na’r cyfartaledd □ Tua'r cyfartaledd □ Mwy na’r cyfartaledd Ydy'r cwestiwn hwn wedi'i gynllunio'n dda? UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Rheswm pam mae'r cwestiwn yn wael Dydy'r cwestiwn ddim yn glir – mae'n debygol y bydd gan wahanol bobl wahanol syniadau o beth yw ystyr cyfartaledd! UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Cwestiwn gwell Faint o gwsg gawsoch chi neithiwr? □ Llai nag 8 awr □ Tua 8 awr □ Mwy nag 8 awr UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Cwestiwn 2 Ydych chi'n cytuno bod angen o leiaf 8 awr o gwsg arnom ni bob nos? Ydy'r cwestiwn hwn wedi'i gynllunio'n dda? UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Rheswm pam mae'r cwestiwn yn wael Mae hwn yn gwestiwn arweiniol – mae'r cwestiwn yn arwain pobl i ateb ydw. UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Cwestiwn gwell Ydych chi'n meddwl bod angen o leiaf 8 awr o gwsg arnom ni bob nos? □Ydw □Nac ydw □Ddim yn siŵr UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Cwestiwn 3 Ar beth ydych chi'n cysgu? UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Rheswm pam mae'r cwestiwn yn wael Mae'r cwestiwn hwn yn amwys: gallai olygu mwy nag un peth. Bwriad y cwestiwn yw gofyn am safle cysgu, ond gallai rhywun roi'r ateb "gwely"! UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
Cwestiwn gwell Ar beth ydych chi'n cysgu fel arfer? □Cefn □Blaen □Ochr Chwith □Ochr Dde UWCH/CYMUNEDOL/5. 3
- Slides: 14