Datblygu Sgiliau Iaith Y Cynllun Sabothol Cenedlaethol Cynhadledd
Datblygu Sgiliau Iaith Y Cynllun Sabothol Cenedlaethol Cynhadledd Lansio Datblygu Rôl y Cydlynydd Llythrennedd Abertawe 24 / 04 / 2013 Deganwy 25 / 04 / 2013 Eleri Hughes, Arweinydd Uned Gloywi Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Y Cynllun Sabothol Cenedlaethol – CWRS UWCH Cwrs iaith ar gyfer athrawon ydy Cwrs Uwch y Cynllun Sabothol Cenedlaethol. Prif amcanion y cwrs: o Datblygu sgiliau a hyder athrawon sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg (Cymry Cymraeg a dysgwyr) fel eu bod yn gallu dysgu, asesu a gweinyddu’n effeithiol yn yr iaith. o Datblygu hyder a gallu’r athrawon i ymdrin â geirfa gyffredinol byd addysg a therminoleg eu pwnc yn effeithiol. o Helpu’r athrawon i ddeall rheolau neu ganllawiau iaith fel eu bod yn gallu adnabod ansicrwydd a chywiro eu gwaith eu hunain; cymryd cyfrifoldeb personol dros wella eu Cymraeg. o Datblygu eu sgiliau iaith a’u hyder o fewn cyd-destun eu gwaith bob dydd.
Datblygu sgiliau iaith yr athrawon oceanic crust? crater? pyroclasic flow? bydden ni’n mynd neu byddwn ni’n mynd? roeddwn i’n mwynhau neu roedden i’n mwynhau? Mae ganddo dealltwriaeth / ddealltwriaeth da / dda o chysyniadau / cysyniadau / gysyniadau pwysig. . ? tô neu to ennillodd neu enillodd hâf neu haf i fynu neu i fyny. . . ?
Datblygu sgiliau iaith y disgyblion – gofynion y Fframwaith Llythrennedd Defnyddio geirfa Defnyddio nifer o ferfau yn gywir yn yr amser presennol cwmpasog, negyddol, gorffennol a chryno (Blwyddyn 4) Treiglo’n gywir gan ddatblygu eu gwybodaeth o’r treiglad meddal, trwynol a llaes (Blwyddyn 8) amrywiol. . . geirfa ac ymadroddion pwnc benodol (Blwyddyn 7) Sillafu geiriau amledd uchel yn gywir (Blwyddyn 1)
Y Beibl!
Y dull marcio Er mwyn annog yr athrawon i ddatblygu eu sgiliau a’u cywirdeb eu hunain rydyn ni’n defnyddio’r symbolau hyn wrth farcio eu gwaith: o sill – sillafu e. e. dyblu n / r; cymysgu i / y / u; defnyddio’r acen grom > to bach o g – geirfa / termau o gc - gwallau cyffredin e. e. mae / mai; yw / i’w; y / yr / ’r; arall / eraill; ei / eu; o tr - treigladau o berf – berfau (ffurfiau ac amser y ferf) o Saes. - Saesneg yn Gymraeg / dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg e. e. defnyddio idiomau e. e. edrych y gair i fyny yn y geiriadur > chwilio am y gair; arddodiaid e. e. mynd i’r doctor > mynd at y doctor
Tasg Darllenwch y darn (tud. 100 yn y llyfryn Datblygu Rôl y Cydlynydd Llythrennedd). Gan ddefnyddio’r symbolau rydyn ni’n eu defnyddio ar y cwrs, tynnwch sylw at y prif wallau iaith sydd ynddo.
Blaenoriaethu Ystyriaethau pwysig wrth farcio gwaith yr athrawon ar y cwrs: ü Dydyn ni ddim yn tynnu sylw at bob gwall - canolbwyntio ar y prif wallau neu wallau sy’n codi’n gyson yn eu gwaith ü Proses gynyddol dros gyfnod y cwrs ü Gofyn iddyn nhw chwilio am wallau penodol yn eu gwaith ü Gofyn iddyn nhw ganolbwyntio ar agwedd ieithyddol benodol e. e. treiglo ar ôl arddodiaid wrth wneud y darn nesaf o waith
Sillafu i) Defnyddio’r acen grom (to bach) e. e. stem > stêm pwer > pŵer ii) Defnyddio’r didolnod (diaeresis) (ï) ffatrioedd > ffatrïoedd iii) Ffurfiau lluosog – terfyniadau lluosog mwyaf cyffredin (-au / -iau; oedd; od; -on / -ion; -i) swyddu > swyddi siopiau > siopau pwllau glo > pyllau glo
Sillafu a geirfa - ar y cyfrifiadur Sesiynau ar strategaethau i ddatblygu eu sgiliau sillafu a sut i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau electronig PECYN CYSGLIAD o Geiriadur (Cysgeir) ac offer cywiro iaith cyfrifiadurol (Cysill) Rhaglen To Bach o o Rhaglen gyfrifiadurol RHAD AC AM DDIM Alt Gr + a = â; Alt Gr + e = ê. Hawdd! Gallwch lawrlwytho'r rhaglen i'w defnyddio ar eich cyfrifiaduron personol trwy ymweld â gwefan Draig Technology: www. draig. co. uk
Geirfa a thermau Ffynonellau termau ar-lein Sesiynau gan arbenigwyr termau Canolfan Bedwyr yn rhan o’r cwrs o Geiriaduron Geiriadur yr Academi http: //techiaith. bangor. ac. uk/Geiriadur. Academi/ o Geiriaduron Termau Y Termiadur Addysg http: //geiriadur. bangor. ac. uk/termiadur/ Y Porth Termau http: //termau. org Term. Cymru http: //termcymru. wales. gov. uk
GWALLAU CYFFREDIN Adran 2 Y Llawlyfr Gloywi Iaith
Y fannod (the) Tasg gc - gwallau cyffredin yr Eglwys a y Felin yr pyllau glo yr tramiau yr siopau Beth ydy’r rheol? (Geirfa ddefnyddiol – llafariad / llafariaid; cytsain/ cytseiniaid) Ffurf ar y fannod (the) RHEOL y Rydyn ni’n defnyddio y = the ………… yr Defnyddiwn yr = the …………. . ’r Defnyddir ’r = the ……………
Y fannod (the) Ateb gc - gwallau cyffredin yr Eglwys a y Felin yr pyllau glo Y rheol? yr tramiau yr siopau Ffurf ar y fannod (the) RHEOL y Rydyn ni’n defnyddio y = the o flaen cytsain e. e. y pyllau glo; y ffatrïoedd; y tramiau yr Defnyddiwn yr = the o flaen llafariad e. e. yr adeg honno, yr Oeseodd Canol; yr eglwys, yr hydref ’r Defnyddir ’r = the ar ôl llafariad e. e. mae’r felin yn gweithio; gyda’r pyllau glo; ceffylau’r ffermwyr
TREIGLADAU Adran 3 Y Llawlyfr Gloywi Iaith
Treiglo ar ôl yr arddodiaid (prepositions) Ar ôl arddodiaid > i gweithio; fwy o gwaith; pŵer yn dod o melin ddŵr am ar at dan dros drwy heb i o wrth gan hyd Pa dreiglad? Treiglad meddal
Treiglo gyda chenedl enwau (gwrywaidd / benywaidd) o Mae enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod (the) e. e. fewn yr dinas > y ddinas; o’r poblogaeth > o’r boblogaeth Ond, sut rydyn ni’n gwybod ydy enw’n fenywaidd neu’n wrywaidd? o Edrych mewn geiriadur / Cysgeir / Termiadur eb / egb o Mae rhai cliwiau (terfyniadau geiriau) i’n helpu ni.
Gwrywaidd? Benywaidd? Tasg Ydy’r geiriau canlynol yn wrywaidd neu’n fenywaidd yn eich barn chi? diwydiant; amgueddfa; holiadur; elfen; offeryn; poblogaeth; delfryd; ymdrech; cyhuddiad; cofeb; effaith Gwrywaidd (hwn / dau) Benywaidd (hon / dwy) Gwrywaidd / Benywaidd (hwn neu hon; dau neu dwy)
Cenedl enwau: cliwiau Benywaidd Gwrywaidd o - fa e. e. graddfa o -ad / -iad e. e. penderfyniad o -en e. e. taflen Eithriad amlwg: bachgen o - iaeth / -aeth e. e. partneriaeth Eithriadau: gwasanaeth; gwahaniaeth o -eb e. e. cyllideb; anfoneb Eithriad: cyfrifoldeb o -adur e. e. geiriadur o -yn e. e. dyffryn Eithriad: blwyddyn q -iant e. e. diwylliant
Gwrywaidd? Benywaidd? Ateb diwydiant; amgueddfa; holiadur; elfen; offeryn; poblogaeth; delfryd; ymdrech; cyhuddiad; cofeb; effaith Gwrywaidd (hwn / dau) Benywaidd (hon / dwy) Gwrywaidd / Benywaidd (hwn neu hon; dau neu dwy) diwydiant cofeb delfryd holiadur amgueddfa ymdrech offeryn elfen effaith cyhuddiad poblogaeth
Cyflwyno Geirfa / Termau Cymraeg Saesneg dinas (eb) y ddinas hon city poblogaeth (eb) y boblogaeth hon population diwydiant (eg) y diwydiant hwn industry diwydiannol (ans) industrial oes (eb) yr oes hon age Y Chwyldro Diwydiannol (eg) Y Chwyldro Diwydiannol hwn The Industrial Revolution cyfalafiaeth (eb) y gyfalafiaeth hon capitalism
Treigladau – blwydd a blynedd Tasg Beth ydy’r rheolau treiglo gyda rhifau a blwydd / blynedd? Rhif 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 ‘blynedd’ a threiglad Cliw
Treigladau – blwydd a blynedd Ateb mor ifanc â 6 mlwydd oed > chwe blwydd oed Rhif ‘blynedd’ a threiglad Cliw 1 un flwyddyn fish 2 dwy flynedd fingers 3 tair blynedd baked 4 pedair blynedd beans 5 pum mlynedd more 6 chwe blynedd beans 7 saith mlynedd m… 8 wyth mlynedd m… 9 naw mlynedd m… 10 deng mlynedd m…
BERFAU Adran 4 Y Llawlyfr Gloywi Iaith
Berfau Yn y darn, mae gwallau gyda: q Amser y ferf h. y. Y gorffennol yn lle’r presennol Yn 1888 mae trydan yn cael ei dyfeisio > Yn 1888 cafodd trydan ei ddyfeisio q Ffurfiau cywir y berfau Roedd nhw’n defnyddio dŵr CWMPASOG (HIR) > Roeddent yn defnyddio dŵr / Roedden nhw’n defnyddio dŵr CRYNO (BYR) > Defnyddient ddŵr AMHERSONOL > Defnyddid dŵr / Defnyddiwyd dŵr
Ffurfiau’r berfau – cywair Tasg Cwmpasog (Hir) Cryno (Byr) Amhersonol Roeddent yn / Roedden nhw’n defnyddio dŵr Defnyddient ddŵr Defnyddid (Defnyddiwyd) dŵr Rwyf yn / Rwyf fi’n ysgrifennu llythyr Fe wnaeth o / e ddarllen llyfr Ysgrifennir llythyr Darllenodd lyfr Disgwyliwn gadarnhad Roeddech yn / Roeddech chi’n dysgu caneuon Byddant yn / Byddan nhw’n Cânt ganmoliaeth cael canmoliaeth Disgwylir cadarnhad Dysgid caneuon / Dysgwyd caneuon
Ffurfiau’r berfau – cywair Ateb Cwmpasog (Hir) Cryno (Byr) Amhersonol Roeddent yn / Roedden nhw’n defnyddio dŵr Defnyddient ddŵr Defnyddid / Defnyddiwyd dŵr Rwyf yn / Rwyf fi’n yn ysgrifennu llythyr Ysgrifennaf lythyr Ysgrifennir llythyr Darllenodd lyfr Darllenwyd llyfr Byddwn yn / Byddwn ni’n disgwyl cadarnhad Disgwyliwn gadarnhad Disgwylir cadarnhad Roeddech yn / Roeddech chi’n dysgu caneuon Dysgech ganeuon Dysgid / Dysgwyd caneuon Fe wnaeth o / e ddarllen llyfr Byddant yn / Byddan nhw’n Cânt ganmoliaeth cael canmoliaeth Canmolir hwy
SAESNEG YN GYMRAEG Adran 5 Y Llawlyfr Gloywi Iaith
Saesneg yn Gymraeg Defnyddio arddodiaid yn anghywir o Pa arddodiad sy’n dilyn pa ferf? e. e. gofyn wrth > gofyn i o Cymysgu arddodiaid e. e. cymysgu rhwng yn a mewn
Arddodiaid Tasg o Defnyddio ceffylau am (for) pŵer o Roedd nhw dal yn defnyddio ceffylau Berf Arddodiad anghywir defnyddio (rhywbeth) am (wneud rhywbeth) dal / parhau yn cael gwared o cyfeirio i diolch wrth chwarae i dweud i Arddodiad cywir
Arddodiaid Ateb o Defnyddio ceffylau am (for) pŵer o Roedd nhw dal yn defnyddio ceffylau Berf Arddodiad anghywir Arddodiad cywir defnyddio (rhywbeth) am (wneud rhywbeth) i (wneud rhywbeth) dal / parhau yn i cael gwared o ar / â cyfeirio i at diolch wrth i chwarae i dros dweud i wrth
Arddodiaid – defnyddio yn a mewn YN – PRYD? AIFFT ENGHR yn y pyllau glo (in the coal mines) yn y ffatri (in the factory) gydag adeg benodol yn 1888; yn 1760 > blwyddyn / cyfnod penodol yn yr Oesoedd Canol; yng nghyfnod Mrs Thatcher Tasg MEWN – PRYD? ENGHRAIFFT gydag enw amhendant > dim bannod (a; an) mewn pyllau glo (in coal mines) mewn ffatri (in a factory) mewn dwy flynedd mewn cyfnod cynharach
Arddodiaid – defnyddio yn a mewn YN – PRYD? AIFFT ENGHR gydag enw pendant yn y pyllau glo (in + y fannod (the) the coal mines) yn y ffatri (in the factory) gydag adeg benodol yn 1888; yn 1760 > blwyddyn / cyfnod penodol yn yr Oesoedd Canol; yng nghyfnod Mrs Thatcher Ateb MEWN – PRYD? ENGHRAIFFT gydag enw amhendant > dim bannod (a; an) mewn pyllau glo (in coal mines) wrth sôn am adeg amhendant mewn dwy flynedd mewn ffatri (in a factory) mewn cyfnod cynharach
Cwrs Uwch y Cynllun Sabothol Tri math o gwrs Cwrs bloc 12 wythnos - (60 diwrnod) – 60 credyd ü 9. 00 -4. 00 bob dydd ü deuddydd yn arsylwi mewn ysgolion neu golegau Cwrs dysgu o bell 12 wythnos (30 diwrnod) – 40 credyd ü 12 diwrnod ym Mangor ü deuddydd yr wythnos o waith (14 awr) ü deunyddiau ar gael trwy’r Rhith Amgylchedd Dysgu Blackboard Cwrs byr - (20 diwrnod dros dri mis) – 30 credyd ü wythnos 1 (5 diwrnod) ü diwrnod yr wythnos (yn cynnwys amser i wneud gwaith personol) – 10 diwrnod i gyd ü wythnos 11 (5 diwrnod)
Ymateb ymarferwr Ers bod ar y cwrs Dysgu o Bell ym Mangor dw i wedi defnyddio'r sgiliau ges i ar y cwrs mewn sawl ffordd i wella fy ngwaith yn yr ysgol. Yn gyntaf, dw i wedi gallu cywiro adnoddau dysgu roeddwn i wedi creu yn barod. Cyn i mi fynd ar y cwrs roeddwn i’n dysgu rhai dosbarthiadau CA 3 trwy gyfrwng y Gymraeg ond erbyn hyn dim ond yn Gymraeg rydw i’n dysgu yn CA 3. Hefyd, rŵan dw i’n dysgu llawer o ddosbarthiadau CA 4 yn Gymraeg ac eleni rydw i’n dysgu dosbarthiadau CA 5 trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf. Wrth gwrs dw i dal ddim yn berffaith ond dw i'n llawer gwell o ran cywirdeb, fy hyder o flaen y dosbarth a hefyd o ran cywiro rhai pethau yng ngwaith y plant. Dw i heb gael unrhyw adroddiad yn ôl i’w gywiro ers y cwrs! Athro Ffiseg, Sir Conwy Iaith gyntaf Cwrs Dysgu o Bell, Prifysgol Bangor 2010
Natur y Cwrs § Mae’r gwaith yn cael ei addasu i lefel yr ymarferwr unigol. § Mae’r ymarferwyr yn datblygu eu sgiliau iaith a’u hyder eu hunain o fewn cyd-destun eu gwaith bob dydd.
Gwybodaeth bellach Manylion cysylltu: www. cynllunsabothol. org. uk Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor cynllunsabothol@bangor. ac. uk 01248 383293 Prifysgol Caerdydd cynllunsabothol@caerdydd. ac. uk 02920 870637 Y Drindod Dewi Sant canolfanpeniarth. org/cynllun-sabothol 01267 676767 CWRS UWCH
- Slides: 46