Datblygu Darllenwyr Nia Williams a Haf Llewelyn Cofiwch
Datblygu Darllenwyr Nia Williams a Haf Llewelyn
Cofiwch! Mae geiriau’n llond pob lle Presennol ymhob man!! Tewch a sôn! Wel y jiw, jiw!
Pam darllen?
q Rydym yn darllen i ddarganfod pethau. q Mae angen dangos i blentyn pa mor aml mae dehongli testun yn cyffwrdd ein bywydau bob dydd. q Rhaid gwneud darllen yn berthnasol i BOB plentyn. Amserlenni Erthygl chwaraeon Cyfarwyddiadau Cysylltu Defnyddio’r we Bwydlenni
Cyn dechrau Siarad a gwrando, dehongli geiriau llafar. Llafaredd : Y sail i holl sgiliau ieithyddol plentyn. ?
Beth mae plentyn ei angen i fod yn ddarllenydd da? Yn gyntaf ôll rhaid i blant gael y cyfle i wrando a siarad a chael cyfle i gyfleu syniadau. e. e. Beth fydd y trydydd mochyn bach ei angen i adeiladu ei dŷ wyt ti’n meddwl? Wyt ti wedi gweld tŷ yn ael ei adeiladu? Rhaid iddo gael y cyfle i wneud synnwyr o’r hyn gaiff ei ddweud wrtho. Heb ddealltwriaeth o ystyr yr hyn sy’n cael ei ddweud wrtho, sut mae disgwyl iddo wneud synnwyr o eiriau wrth ddarllen?
Cam 1 Dynwared • ‘Chwarae’ darllen, dynwared rhiant, neu’r athrawes. • Ail-ddweud y stori yn uchel. • Mae’n gallu enwi ambell lythyren, neu’n adnabod gair arbennig. • Datblygu hoffter o stori arbennig ac efallai yn gofyn am yr un stori yn gyson.
Trafod darllen efo rhiant
Dangoswch i blant fod darllen yn ran o fywyd bob dydd! Anogwch eich plentyn drwy roi digon o gefnogaeth a chanmoliaeth! Darllenwch rywbryd ac yn rhywle! Mae lluniau yn rhan allweddol mewn stori! Eisteddwch gyda’ch gilydd lle mae pawb yn gyfforddus! Gellir darllen amrywiaeth o ddeunydd
Arwyddion ffyrdd Canllawiau Papurau newydd a Chatalogau Enwau siopau
Cam 2 Arbrofi • • • Parhau i arbrofi efo’r syniad o ddarllen. Yn aml bydd yn cofio stori ar ei gôf, bydd yn deall bod geiriau’r stori yn aros yr un fath. Bydd yn dod yn fwy ymwybodol o sain llythrennau ac enwau llythrennau unigol. Bydd yn cynyddu yn ei allu i adnabod geiriau unigol o fewn y stori Mae’n chwilio am gliwiau i’w helpu gall ddibynnu llawer ar y lluniau.
Cam 3 Dal ati • Dechrau darllen yn annibynnol, bydd yn darllen yn araf ac yn canolbwyntio ar yr union eiriau sydd ar y dudalen. • Dibynna lawer ar seiniau cychwynnol geiriau, ac yn seinio llythrennau er mwyn ceisio gwneud synnwyr o air. • Dechrau cywiro ei hun, ond gall golli hyder os yw’n cael ei or gywiro o hyd. • Bydd yn darllen llyfrau cyfarwydd yn rhugl, ond yn cael peth trafferth gyda llyfrau newydd a geirfa anghyfarwydd.
• Cam 4 Pontio • • ‘Pontio’ o fod yn ddarllenwr sy’n seinio geiriau, i fod yn ddarllenwr sy’n canolbwyntio mwy ar y ddealltwriaeth. Dechrau rhoi geiriau eraill yn lle’r gair nad yw’n eu deall er mwyn parhau i wneud synnwyr o’r testun. Darllen ymlaen i chwilio am gliw, neu ddefnyddio cliwiau o brofiadau blaenorol. Darllen yn araf ac ail-ddarllen i wneud synnwyr o’r frawddeg. Dechrau addasu eu darllen ar gyfer gwahanol bwrpas neu destun, gan lithr-ddarllen (sganio), neu gipddarllen i ddod o hyd i wybodaeth.
Cam 5 Annibynniaeth • • Mae’r plentyn wedi datblygu yn ddarllenydd hyderus. Gall ddewis dulliau o oresgyn anhawsterau wrth ddehongli testun. Mae’n peidio a bod yn ddarllenydd ‘llythrennol’ – mae’n gallu deall y tu hwnt i’r union eiriau ar y papur, ac yn gwerthfawrogi gwahanol syniadau a dehongliadau. Gall ddehongli ystyr geiriau anghyfarwydd oddiwrth ei ddefnydd yn y frawddeg.
Gweithgareddau Pa fath o weithgareddau sydd yn cefnogi’r gwahanol sgiliau?
Datblygu dealltwriaeth cyn darllen Beth wnawn ni gyda llyfr cyn dechrau ei ddarllen gyda phlentyn? Ydan ni’n cwestiynnu’n effeithiol? • Trafod lluniau? • Trafod y stori? E. e. Be fyddet ti yn ei wneud rwan? • Cyflwyno geiriau newydd a thrafod ystyr e. e. Paratoi geiriau ar gardiau. • Modelu darllen e. e. Darllen oddi ar y BGRH. • Modelu darllen gan amrywio llais e. e. Mi wnaf i fod yn ‘Mam’ wnei di ddarllen rhan Mari?
Rhai gweithgareddau i helpu plant i adnabod geiriau cyfan – gwaith llafar • Gweithio gyda phartner • Dewis berf • Meimio’r ferf • Creu brawddeg yn defnyddio’r ferf.
Cysgais Deffrais Dyddiadur Diwrnod Dolig. Rhedais Gwelais
sleifiodd dringodd crafangodd gwelodd chwiliodd gwingodd sgrechiodd sibrydodd neidiodd rhedodd bloeddiodd
Adnabod Llythrennau a seiniau’r wyddor. Dysgu ynganu’n gywir.
Seinio synau’r wyddor • • Bi, ba, bw, be Ci, ca, cw, ce Lli, lla, llw, lle Chi, cha, chw, Thi, tha, thw, the Ffi, ffa, ffw, ffe Si, sa, sw, se
Mi ma mw me ptd lm c g M –a-t M – o -c m m-o-p M – e -g
Modelu Darllen Ydan ni’n cael sesiynnau modelu darllen yn ddyddiol? • • Llyfrau Mawr. Defnyddio Craffwr. Teipio testun ar y bwrdd gwyn. Datblygu medrau meddwl a sgiliau cydweithio a chanolbwyntio.
Wedi swper, roedd Mari’n teimlo’n bryderus. Daeth y nos ac roedd y stryd y tu allan yn ddistaw iawn. Aeth i chwilio am y wisg. Ym mhen draw’r ardd roedd cysgod o goed. Yno roedd Lloerig y wrach yn aros amdani. Estynnodd Lloerig ei dwylo’n frwd a cheisio cipio’r wisg. Ond gwasgodd Mari’r wisg yn dynn.
Y Wisg Enfys – Catherine Fisher Wedi swper, roedd Mari’n teimlo’n bryderus. Daeth y nos yn gynnar ac roedd y stryd y tu allan yn ddistaw iawn. Aeth i chwilio am y wisg, cydio ynddi a rhedeg i ben draw’r ardd. ‘Ble rwyt ti? ’ sibrydodd Mari. ‘Dyma fi. Lawr fan yma. ’ sgrechiodd Lloerig. Ym mhen draw’r ardd roedd cysgod o goed, yno roedd Lloerig yn aros amdani. Ymestynnodd Lloerig ei dwylo’n frwd a cheisio cipio’r wisg. ‘Na!’ Gwasgodd Mari’r wisg yn dynn. ‘Rwy wedi penderfynu ei chadw. ’
Datblygu Dealltwriaeth • Sut rydym yn symud y plentyn sydd yn canolbwyntio ar seinio gair i ddeall yr hyn mae’n ei ddarllen? • Beth am bosau darllen? • Ychydig iawn o destun sydd yna, ond mae dealltwriaeth yn hanfodol.
Uwch sgiliau darllen Dadansoddi testun: Darllen rhwng y llinellau.
Cam 5 Fydden ni’n gallu rhoi’r isod i’n plant i’w drafod? O bell mae pob un yn edrych ‘run fath. Dail ydy dail ar goeden. Maen nhw’n grwn neu’n hirfain. Yn dal neu’n denau. Maen nhw hefyd yn iach, yn nerthol a’u gwythiennau’n llifo. Araf ledodd gwawr o goch dros ddail y maes. Un ddeilen grin a ddanfonwyd ataf, ac aeth hi’n aeaf arnaf. Jane Jones Owen. Cystadleuaeth Llên Meicro Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion.
Cam 5 Cwestiynu Beth. . . ? Darlun o beth sydd yma? Pwy. . . ? Pwy sy’n siarad ? Ble. . . ? Ble mae hyn yn digwydd? Pam. . . ? Pam fod gwawr goch yn lledu? Pryd. . . ? Pryd ysgrifennodd yr awdur y darn? Os. . . ? Os na fyddai’r ddeilen wedi ei danfon sut fyddai ‘n treulio’r diwrnod? • Sut. . . ? Ond sut mae’n treulio’r wythnosau nesaf nawr? • • •
Cam 4 a 5 Gwaith Cyfannu • Dysgu’r darllenydd i ddarllen ymlaen. • Holi pa ansoddair fyddai’n gweithio yn fan hyn? • Pam? • Beth sydd yn digwydd pan fyddwn ni’n newid gair am air arall?
Cyfannu • Heddiw fe aethom i gyd i lan y môr. Roeddwn i’n teimlo’n _____ oherwydd roedd hi’n ddiwrnod _____. Wedi cyrraedd roedd Mam yn _______ oherwydd roedd y traeth yn ______. Roedd y môr yn ____, a’r tywod yn _______. Adeiladais gastell ______, a rhoddais res o gregyn _______ o’i amgylch. • Yna mentrais i’r dŵr _______, ond fedrwn i ddim syrffio oherwydd roedd y tonnau yn rhy _____. Wedi hynny, cawsom frechdanau i ginio, roedden nhw’n _____. Ac i orffen diwrnod ____ cawsom hufen ia ______.
Cerdd yn Cuddio • Edrychwch ar eich testun. • Chwiliwch am gymalau a geiriau sy’n disgrifio, neu’n creu awyrgylch. • Ysgrifennwch y geiriau ar eich papurau bach. • Arbrofwch trwy drefnu eich geiriau i greu cerdd. • Adroddwch eich cerdd yn ddramatig!
Chwiliwch am y cymalau hyn yn y disgrifiad. Gwrach y Rhibyn dannedd duon gwrach hyll cyrliog a blêr gwallt cynffon ceffyl llygaid tanllyd trwyn crwca gên bigog sgrech annaearol breichiau hir, esgyrnog bydd angladd codi
• Wedi i chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd, cewch eu gosod mewn unrhyw drefn i greu cerdd ddychrynllyd. • Cewch ddefnyddio unrhyw air fwy nac unwaith er mwyn creu awyrgylch. • Cewch ddefnyddio cysyllteiriau os bydd angen. • Efallai yr hoffech ddefnyddio gair onomotopeia e. e. he, he. • Defnyddiwch eich dychymyg, ond peidiwch a dychryn gormod….
Gwrach y Rhibyn Gwrach hyll, a’i dannedd duon, ei gwallt cynffon ceffyl yn gyrliog a blêr – Gwrach, gwrach…. Gwrach y Rhibyn. Llygaid tanllyd, trwyn crwca, gên bigog. Gwrach, gwrach……. . Gwrach y Rhibyn. Sgrech annaearol, breichiau esgyrnog, yn codi – Bydd angladd! WAAA! Gwrach y Rhibyn.
Asesu darllen • Edrych ar farddoniaeth • Edrych ar ffuglen • Edrych ar destun ffeithiol
Cyfnodau Darllen
Profiadau Darllen § Oes yna gyfnod darllen? Pryd? Ydi’r cyfnod darllen â threfn bendant a chyson iddo? § Beth sydd yn digwydd yn y cyfnod darllen? §Oes yna fodelu darllen yn digwydd yn gyson? §Fydd yr athro/athrawes/cymorthydd yn darllen i blant e. e. cyn mynd adre? Hyd yn oed ym mlwyddyn 6? §Pa fath o brofiadau ychwanegol mae’r plant yn eu cael?
Darllen grŵp, neu ddarllen dan arweiniad. Beth ydi hyn? Beth yw ein rôl wrth ddarllen dan arweiniad neu ddarllen grŵp? Pa fath o gwestiynau sydd angen i ni eu trafod?
• Trefnu ymlaen llaw! • Canllawiau clir a phendant • Trafod y rheolau efo’r plant • Hyd y cyfnod
Gweithgareddau • Plant yn darllen efo’r athro/awes, cymhorthydd neu wirfoddolwr. • Plant yn darllen yn annibynnol • Llyfrau llafar • Llyfrau ffeithiol • Casgliad o lyfrau tebyg neu gylchgronau • Gemau a gweithgareddau i atgyfnerthu • Cyfrifiadur
- Slides: 47