DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL AC ANFFURFIOL DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL
DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL AC ANFFURFIOL
DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL AC ANFFURFIOL Mae yna ddarpariaeth gofal economi cymysg ym Mhrydain. Daw llawer o’r gwasanaethau gofal oddi wrth a) Y Sector Annibynnol - sefydliadau anstatudol sefydliadau preifat b) Gofalwyr anffurfiol
DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL AC ANFFURFIOL Mae’r sector hwn o ofal wedi cynnyddu mewn pwysigrwydd dros yr 20 mlynedd diwethaf oherwydd: n Mae’r llywodraethau Ceidwadol a Llafur wedi annog darpariaeth y sector annibynnol yn bwrpasol.
DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL AC ANFFURFIOL n n n Mae ffactorau demograffig, gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio, wedi creu angen cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae nifer cynyddol o fenywod sy’n gweithio tu allan i’r cartref wedi creu galw am fwy o ofal plant. Mae yna brinder o wasanaethau cyhoeddus mewn rhai ardaloedd.
DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL AC ANFFURFIOL Awgrymwyd hefyd fod y newid yn agwedd pobl tuag at iechyd ac ymwybyddiaeth corfforol wedi gwneud y cyhoedd yn fwy parod i wario arian ar bethau tebyg i ddeintyddiaeth a llawdriniaeth cosmetig.
Y SECTOR BREIFAT Mae hwn yn ‘farchnad’ sy’n gwerthu gofal i bobl. Mae’r gofal hwn yn cynnwys pethau mor amrywiol a sgrinio a deintyddiaeth, addasiadau i’r cartref, triniaeth ffrwythloniad a gofal trydyddol wrth i rywun farw. Mae’r pobl sy’n darparu gofal preifat yn gwneud hyn er mwyn creu elw.
Y SECTOR BREIFAT Tan yn ddiweddar, roedd rhaid i’r unigolyn brynu’r gofal gyda arian parod neu yswiriant eu hunain. Yn ddiweddar, mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl i dderbyn gofal preifat sydd wedi’i ariannu gan gyrff cyhoeddus. Bydd partneriaeth yn cael ei gytuno rhwng sefydliad statudol a sefydliad preifat e. e. gofal cartref i bobl hŷn, llawdriniaethau cateract a sgrinio. Mae hyn yn dangos sut mae’r ffin rhwng y sectorau yn mynd yn llai eglur.
FFEITHIAU Ffeithiau: 14 miliwn ym Mhrydain yn defnyddio gofal preifat mewn un ffordd neu arall llawer yn gwneud i osgoi rhestrau aros y GIG sawl triniaeth ddim ar gael yn y GIG e. e. llawdriniaeth cosmetig di-angen 850 000 llawdriniaeth preifat blynyddol 1: 3 clun newydd yn breifat 1: 2 erthyliad yn breifat
Y SECTOR BREIFAT Er fod y sector hwn yn tyfu, dim ond y gwasanaethau mae’r cyhoedd yn fodlon talu amdanynt sydd ar gael yn y sector breifat. Maent yn dueddol o fod yn wasanaethau arbennigol sy’n gysylltiedig gyda ffordd o fyw. Mae’r sefydliadau stadudol (y GIG a’r Awdurdodau lleol) yn tueddi cynnig gwasanaethau i ystod mwy eang o’r cyhoedd sy’n aml angen gofal mwy cymleth a drud.
Y SECTOR BREIFAT Mae llawer o ddadlau economaidd, gwleidyddol ac ethegol ynghylch defnyddio gwasanaethau preifat mwy fwy yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y wlad.
Rhowch eich feddwl ar waith…. Gwaith Pâr Trafodwch fanteision ac anfanteision o ddefnyddio gwasanaethau preifat yng nghyswllt y tri maes hwn. Rhestrwch eich atebion.
Y SECTOR BREIFAT Enghreifftiau o ddarpariaeth preifat Iechyd a Gofal cymdeithasol: ysbytai, cartrefi nyrsio, cartrefi preswyl, meithrinfeydd, clinigau cyffuriau, offer meddygol, rhwymau ayyb, yn cael eu gwerthu i’r GIG a’r awdurdodau lleol triniaethau, cyffuriau heb brescriptiwn, offer a therapi a brynir oddi wrth ddarparwyr preifat yn uniongyrchol e. e. fferyllydd, optegydd, deintydd, ymarferwyr meddygaeth cyflenwol ac amgen ( complementary and alternative medicine).
Y SECTOR WIRFODDOL Mae’r Sector Gwirfoddol yn deillio nôl i’r ddeunawfed ganrif. Dechreuodd sefydliadau gwirfoddol crefyddol, fel y Crynwyr a phobl dyngarol, cyfoethog tebyg i’r teulu Cadbury gynnal gwasanaethau gwirfoddol i helpu’r llai ffodus. Ond bach iawn oeddynt oherwydd eu bod yn ddrud i redeg ac yn dibynnu’n llwyr ar roddion ariannol.
Y SECTOR WIRFODDOL Mae’r Sector Wirfoddol: wedi cael eu sefydlu oherwydd angen penodol. Does dim angen deddf i’w sefydlu fel arfer yn elusennau cofrestredig – nid ydynt yn gwneud elw yn cyflogi rhai staff ac mae rhai eraill yn wirfoddolwyr.
Y SECTOR WIRFODDOL • Maent yn draddodiadol yn ffocysu mwy ar ofal cymdeithasol nag ydynt ar iechyd. • Maent yn aml yn ‘llenwi’r bwlch’ a adewir gan y sectorau eraill e. e. gofal i’r tlawd iawn neu’r digartref. Nid ydynt i’w cael ym mhob ardal. • Caiff y gofal a roir gan y Sector Annibynnol ei fonitro a’i safoni gan: a) Comisiwn gofal iechyd b) Comisiwn ar gyfer arolwg gofal cymdeithasol
Y SECTOR GOFAL ANFFURFIOL Yn ol arolwg cenedlaethol yn 1995, mae 1: 8 oedolyn ym Mhrydain yn darparu gofal anffurfiol ac mae 1: 6 cartref yn cynnwys gofalwr. ‘Gofalwr’ yw rhywun sy’n gofalu ar ôl unigolyn sâl, anabl neu hen yn eu cartrefi eu hunain. Amcangyfrir bod 7 miliwn person, menywod gan fwyaf, yn ofalwyr anffurfiol ym Mhrydain.
Y SECTOR GOFAL ANFFURFIOL Ffeithiau: 2: 3 gofalwr anffurfiol yn gweithio mewn swyddi cyflogedig, hefyd rhieni’n aml yn ddibynnol ar eu plant 10, 000 o ofalwyr yn bobl dan 18 mlwydd oed, menywod yw’r mwyafrif o ofalwyr Enghreifftiau o’r tasgiau a wnaiff gofalwr anffurfiol: helpu gyda gofal personol – gwisgo, golchi, ayyb, siopa a chasglu presgripsiwn, glanhau’r tŷ, cerdded y ci dros rywun sy’n gaeth i’r tŷ, bod yn gwmni.
ASESU GWYBODAETH Cwestiynau: n Pam fod y sector annibynnol wedi cynyddu mewn pwysigrwydd dros yr 20 mlynedd diwethaf? n n n Disgrifiwch brif nodweddion y sector gofal iechyd breifat. Disgrifiwch brif nodweddion y sector gofal gwirfoddol. Eglurwch bwysigrwydd rôl y gofalwyr anffurfiol.
ASESU GWYBODAETH Yn yr UD, ceir y rhan fwyaf o ddarpariaeth gofal iechyd drwy’r sefydliadau statudol. Beth yw ystyr statudol ? Rhowch enghraifft ohono Sector breifat yw? Rhowch enghraifft ohono Sector gwirfoddol yw? Rhowch enghraifft ohono Gelwir y sectorau gwirfoddol a phreifat yn rhai Annibynnol. Pam?
GOFAL Gall ymarferwyr y sectorau preifat a gwirfoddol hefyd gynnig gwasanaethau gofal statudol, os ydynt yn derbyn cytundeb ac arian o’r llywodraeth i wneud hyn. Nid yw hyn yn digwydd yn aml. Yn lle, mae’r gwasanaethau hyn yn cynnig gwasanathau anstatudol fel arfer, e. e. gofal cartref nyrsio, ffisiotherapi, i bobl sy’n fodlon talu amdanynt.
GOFAL Gofal cymdeithasol yw unrhyw ofal anfeddygol sy’n cynnig cynhaliaeth neu help i grwpiau bregus. Prif ddefnyddwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol yw: Plant a theuluoedd Pobl hŷn Pobl efo anabledd (corfforol, synhwyraidd neu dysgu) Pobl sy’n dioddef o straen meddyliol
GOFAL Caiff gofal cymdeithasol hefyd ei ddarparu drwy sefydliadau statudol, preifat a gwirfoddol. Trafodwch ac yna gwnewch restr o wahanol enghreifftiau o wasanaethau gofal cymdeithasol.
GWAITH DOSBARTH Gwaith Dosbarth (ar ddarn o bapur A 3) : Meddyliwch am yr holl wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau i blant y gwyddoch amdanynt. Grwpiwch y gwasanaethau i’r 3 categori uchod (mewn tabl. ) Diffiniwch sector pob un ( h. y. statudol, anffurfiol, annibynnol) Nodwch os mai gofal cynradd, eilaidd neu drydyddol yw’r gwasanaethau iechyd Ysgrifennwch, yn fyr, beth yw prif bwrpas pob gwasanaeth (Mae’r atebion i’w cael ar dud. 531, 532, 554 -559 o lyfr ‘Babanod a Phlant Ifanc’, UWIC)
GWAITH PELLACH Nodwch y 4 sector gofal gwahanol sy’n bodoli o fewn system gofal y DU. Eglurwch y termau ‘gofal economi cymysg’ a ‘marchnad fewnol’ y gwasanaethau gofal. Beth yw effaith y farchnad fewnol ar y system gofal?
- Slides: 24