Darganfod a datblygu gwrthfiotigau Penisilin y gwrthfiotig cyntaf
Darganfod a datblygu gwrthfiotigau
Penisilin – y gwrthfiotig cyntaf • Penisilin oedd y gwrthfiotig cyntaf i’w ddarganfod. • Fe’i darganfuwyd ym 1928 gan Alexander Fleming, gwyddonydd o’r Alban a oedd yn gweithio yn Ysbyty’r Santes Fair, Llundain. • Darganfu Fleming fod gan lwydni o ffwng Penisillium briodweddau gwrthfacterol. Y ffwng roddodd ei enw i penisilin. 2
Penisilin – y gwrthfiotig cyntaf • Ni allai Fleming echdynnu digon o benisilin o’r llwydni i’w ddefnyddio i drin cleifion • Ym 1938, aeth Howard Florey (microbiolegydd o Awstralia), Ernst Chain (cemegydd o’r Almaen) ac eraill ym Mhrifysgol Rhydychen ati i ddatblygu penisilin i drin pobl. Ond bu’n rhaid iddynt ddibynnu ar gwmnïau fferyllol yn yr Unol Daleithiau i gynhyrchu penisilin ar raddfa fawr. • Cafodd penisilin ei ddefnyddio’n eang am y tro cyntaf tua dechrau’r 1940 au, ac achubodd lawer o fywydau yn yr Ail Ryfel Byd. 3 Howard Florey Ernst Chain
Cynhyrchu gwrthfiotigau 4 • Mae penisilin a seffalosborin yn wrthfiotigau sy’n deillio o ffyngau • Gall gwrthfiotigau ddeillio o fathau eraill o facteria hefyd, gan gynnwys mathau o aminoglycoside a carbapenem • Mae gwrthfiotigau newydd yn cael eu gwneud mewn ffordd synthetig, fel arfer drwy newid strwythur cemegol gwrthfiotigau sydd i’w cael yn naturiol • Mae gwrthfiotigau wedi’u syntheseiddio’n gemegol yn cynnwys mathau o quinolone a sulfonamide
Llinell amser ar gyfer darganfod a datblygu gwrthfiotigau Cyfeirir at y cyfnod rhwng 1950 a 1960 fel oes aur darganfod gwrthfiotigau yn aml. Ers hynny, mae nifer y gwrthfiotigau sydd wedi’u darganfod, eu datblygu a’u rhyddhau i’w defnyddio’n eang wedi lleihau. 5 Cydnabyddiaeth am y ddelwedd: Clatworthy et al. 2007 Nat Chem Biol 3, 541 -8
Darganfod gwrthfiotigau newydd Nid oes unrhyw ddosbarthiadau newydd o wrthfiotigau wedi’u datblygu ers 1987. Ers hynny, mae ychydig o wrthfiotigau newydd wedi’u cyflwyno, ond newidiadau ac addasiadau i wrthfiotigau sydd eisoes yn bodoli yw’r rhain. Daw’r llinell amser o’r World Economic Forum, Global Risk Report 2013 6
7 • Daeth ymwrthedd gwrthfiotig i’r amlwg am y tro cyntaf yn y 1940 au. • Gall ymwrthedd ddatblygu mewn amser byr. • Cafodd y bacteriwm Staphylococcus Aureus cyntaf ag ymwrthedd i metisilin ei ddarganfod o fewn dwy flynedd i gyflwyno metisilin. • Yn achos penisilin, gwelwyd ymwrthedd cyn i’r gwrthfiotig gael ei ryddhau i’w ddefnyddio’n eang hyd yn oed, ond ni ddatblygodd yn broblem nes i wrthfiotigau ddechrau cael eu defnyddio’n helaeth. Daw’r llinell amser o’r adroddiad CDC: ‘Antimicrobial Resistance Threats in the United States’, 2013
Cyfraddau ymwrthedd yn Ewrop Mae cyfraddau ymwrthedd gwrthficrobaidd yn amrywio ledled Ewrop. Mae’r ffigur hwn yn dangos canran ymwrthedd Staphylococcus aureus ymledol i fetisilin (MRSA), yn ôl gwlad yn 2012 8 Daw’r Ffigur o Adroddiad Gwyliadwriaeth ECDC: ‘Antimicrobial Resistance Surveillance in Europe’, 2012.
- Slides: 8