Dafydd ap Gwilym Yr Wylan Amcanion Erbyn diwedd
Dafydd ap Gwilym ‘Yr Wylan’
Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu: -Adnabod nodweddion cerdd llatai -Trafod y dylanwadau a fu ar Dafydd ap Gwilym (I gyd yn gywir a heb gymorth)
(Rhan 1) Yr Wylan Yr wylan deg ar lanw, dioer, Unlliw ag eiry neu wenlloer, Dilwch yw dy degwch di, Darn fal haul, dyrnfol heli. Ysgafn ar don eigion wyd, Esgudfalch edn bysgodfwyd. Yngo'r aud wrth yr angor Lawlaw â mi, lili môr. Llythr unwaith lle'th ariannwyd, Lleian ym mrig llanw môr wyd.
(Rhan 2) Cyweirglod bun, cai'r glod bell, Cyrch ystum caer a chastell. Edrych a welych, wylan, Eigr o liw ar y gaer lân. Dywaid fy ngeiriau dyun, Dewised fi, dos hyd fun. Byddai'i hun, beiddia'i hannerch, Bydd fedrus wrth fwythus ferch Er budd; dywaid na byddaf, Fwynwas coeth, fyw onis caf.
(Rhan 2 parhad) Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd, Och wŷr, erioed ni charawdd Na Merddin wenithfin iach, Na Thaliesin ei thlysach. Siprys dyn giprys dan gopr, Rhagorbryd rhy gyweirbropr.
(Rhan 3) Och wylan, o chai weled Grudd y ddyn lanaf o Gred, Oni chaf fwynaf annerch, Fy nihenydd fydd y ferch. Dafydd ap Gwilym www. dafyddapgwilym. net
Cynnwys Yr Wylan
Castell Cricieth
Castell Aberystwyth
Eigr Un o ferched harddaf Prydain yn ôl Brut y Brenhinoedd. Roedd Beirdd y Tywysogion yn aml yn cyfeirio ati. Enw mam y Brenin Arthur.
Myrddin v Cymeriad pwysig yn llenyddiaeth Cymru. v. Cysylltiedig â’r hanesion am Arthur. v. Bardd o’r 6 ed ganrif. v Ymwybyddiaeth o’i gefndir barddol. v. Awyddus i gadw cysylltiad â’r traddodiad hwnnw. Myrddin yn adrodd ei farddoniaeth, o lyfr o Ffrainc o'r 13 eg ganrif.
Taliesin • Bardd llys yn yr Hen Ogledd. • 6 ed ganrif. • Nifer o gyfeiriadau ato gan Feirdd y Tywysogion. • Ymwybyddiaeth o gyfoeth y traddodiad barddol.
Tasg Lluniwch grynodeb o gynnwys y cywydd hwn. Gall fod ar ffurf siart lif. Ydych chi’n cytuno â’ch partner? Amser : 5 munud
Cloi’r gerdd gyda chonfensiwn poblogaidd y canu serch y bydd y ferch yn achosi ei farwolaeth. Cywydd llatai Bardd yn anfon yr wylan gyda neges serch at ei gariad. Mynd ymlaen i ofyn wrth yr wylan ddwyn neges i’w gariad. Merch di-enw. Byw mewn tref lan-y-môr sydd gyda chastell. Agor trwy ganmol yr wylan. Disgrifiad o’r ferch hefyd? D. J. Bowen = Aberystwyth Anthony Conran = Cricieth Ai Morfudd yw’r ferch?
Beth ydy dyfalu?
Tasg Mewn parau trefnwch y cardiau yn ôl y drefn y maent yn ymddangos yn y cywydd.
Trefn: 1. 2. 3. 4. 5. 6.
Tasg Nawr, rhowch y cardiau geirfa gyda’r lluniau cywir.
1. ‘eiry’ = eira 2. ‘gwenlloer’ = lleuad wen 3. ‘dyrnfol heli’ = maneg ddur 4. ‘lili môr’ = lili’r môr 5. ‘llythr’ = tudalen 6. ‘lleian’ = lleian mewn gwisg wen
Croen golau = harddwch yn yr Oesoedd Canol Llun: www. flickr. co. uk Lliw haul = harddwch heddiw
Cefndir Yr Wylan
Cywydd llatai v Llatai = negesydd serch v Anifail neu aderyn e. e. gwylan, ehedydd, carw v. Anfonir gan y bardd gyda neges serch at ei gariadferch.
Pam dewis yr wylan fel llatai? Cyflymder Hedfan yn syth i’r man a ddynodwyd. Symbol o brydferthwch y ferch. Pam?
Dylanwadau - Beirdd y Tywysogion • Gwreiddiau’r confensiwn i’w darganfod yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion yn y 12 fed a’r 13 eg ganrif. • Cynddelw Brydydd Mawr = gyrru march fel negesydd serch ar ei ran. • NID OES enghraifft arall o adar neu anifeiliaid fel negesyddion serch yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr.
Dylanwadau – Y Trwbadwriaid • Confensiwn tebyg yng ngwaith Trwbadwriaid Profens a Ffrainc hefyd. • Ond, Eosiaid a anfonir ganddynt hwy fel rheol. • Dim manylu hir a gorchestol fel a geir gan Dafydd chwaith.
Dylanwadau – Pedair Cainc Y Mabinogi Chwedl Branwen ferch Llŷr • Atgoffa o’r ddrudwy a yrrodd Branwen gyda llythyr i’w brawd yng Nghymru.
Tasg Yn unigol, lluniwch siart bry cop gan gynnwys y penawdau y byddwch chi’n ei drafod am gefndir Yr Wylan a Dafydd ap Gwilym. Er enghraifft: Uchelwr
Cefndir Dafydd ap Gwilym Bardd natur a serch fl. 1340 -1370 Uchelwr Cymeriad lliwgar Ewythr – Llywelyn ap Gwilym – Cwnstabl Castell Newydd Emlyn – Athro Barddol Geni: Brogynin, Llanbadarn Fawr Teulu dylanwadol yn y Deheubarth.
28 copi mewn llawysgrifau e. e. Peniarth 49 Cywydd llatai, serch a natur Lleoliad – D. J. Bowen yn awgrymu Castell Aberystwyth. Anthony Conran – Castell Cricieth Cywydd yn y person cyntaf – Dafydd yw’r carwr dioddefus
Merch di-enw Morfudd? Morfudd = • Un o brif gariadon Dafydd • Gwraig briod • Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’. • Byw ger Aberystwyth • Dod o deulu da • Gwallt golau ac aeliau tywyll ganddi • 80 o gerddi iddi
Y System Nawdd Beirdd y Tywysogion 2 ganrif lewyrchus Tywysogion yn noddi’r beirdd 1282 – Cwymp y Tywysogion Diwedd nawdd Dosbarth newydd o dirfeddianwyr Beirdd yr Uchelwyr yn noddi’r beirdd ac yn dechrau barddoni eu hunain Clera
Datblygiad y Cywydd Traethodl Cywydd Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod cynghanedd ym mhob llinell.
Yr Wylan - Cerdd Serch • 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur. • Beirdd y Tywysogion: - Awdlau serch Hywel ab Owain - Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y carwr dioddefus. - Dafydd yn gyfarwydd â cherddi Hywel ab Owain.
Yr Wylan – Serch Cwrtais Perthynas rhwng y cerddi llatai â chysyniad Serch Cwrtais Cyfandirol: • Anfon llatai – delwedd o’r ferch fel un anghyraeddadwy • Dafydd – y carwr dioddefus • Claf o gariad
Yr Wylan – cerdd natur • Cerddi Ffrangeg alegoriol lle mae’r adar yn trafod pynciau serch ynddynt. • Gramadeg Einion Offeiriad: Hen englynion sy’n cyfuno doethineb â disgrifiadau cryno o fyd natur. Hefyd, mae adar yn cael eu personoli i fod â nodweddion dynol ynddo yn union fel mae Dafydd yn ei wneud yn y cywydd hwn.
Yr Wylan – cerdd natur • Natur yn mynd law yn llaw â serch. • Cerdd llatai – creadur o fyd natur yn cynorthwyo Dafydd ar lwybr serch. • Disgrifiad llachar o wynder yr Wylan – hefyd yn awgrymu rhinweddau’r ferch. • Yr wylan yn ddelwedd adnabyddus am harddwch merch.
Yr Wylan – cerdd natur Unigryw: Yr hyn sy’n gwneud y cywydd hwn yn wahanol yw manylder synhwyrus Dafydd – Disgrifiadau y mae a wnelont fwy â phrofiad a sylwgarwch y bardd nag ag unrhyw gonfensiwn llenyddol.
Camp Dafydd ap Gwilym Soniodd Huw Meirion Edwards am allu Dafydd ap Gwilym i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl ddylanwadau hyn gan greu, o ganlyniad, waith cwbl newydd a ffres: “Pwysicach na phob dylanwad yw dychymyg ac egni creadigol cynhenid Dafydd, a’i galluogodd i drawsnewid yr hyn a glywodd ac a ddarllenodd ym mhair ei weledigaeth ef ei hun. ”
Tasg Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr Wylan. Defnyddiwch eich siart bry cop i’ch helpu. Byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i weddill y dosbarth. Amser: 10 munud.
Tasg Yn unigol, ysgrifennwch frawddeg agoriadol eich traethawd ar gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd ‘Yr Wylan’.
Gwaith Cartref: Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr Wylan gan ddefnyddio’r hyn a wnaethoch yn y dosbarth heddiw fel sylfaen i’r gwaith. Erbyn wythnos i heddiw.
14. Unigryw 13. Natur – Gramadeg Einion Offeiriad 12. Natur – cerddi Ffrengig 11. Branwen ferch Llŷr 1. Cywydd llatai + serch a natur 2. Lleoliad Aberystwyth? / Cricieth? 3. Morfudd? Cefndir 4. 28 copi mewn llawysgrif 10. Serch Cwrtais 5. Bardd = -Pwy? - Beth? - Pryd? - Lle? 9. Serch – Y Trwbadawriaid 8. Serch – Beirdd y Tywysogion 6. System nawdd 7. Datblygiad y cywydd
- Slides: 43