Daearyddiaeth TGAU A CBAC Uned 1 Y Craidd
Daearyddiaeth TGAU A CBAC Uned 1 – Y Craidd A- Y Byd Ffisegol Thema 1 Dŵr
Thema 1 Dŵr n n n n Beth yw prosesau afon a pha dirffurfiau maent yn greu? 1. 1 Pa brosesau sy’n gysylltiedig ag afonydd? 1. 2 Pa dirffurfiau sy’n deillio o’r prosesau hyn? 1. 3 Sut mae’r tirffurfiau a’r prosesau yn effeithio bywydau pobl sy’n byw ar hyd afonydd? Sut y dylai afonydd gael eu rheoli? 2. 1 Pa mor llwyddiannus yw gwahanol ffyrdd o reoli y broblem o lifogydd? 2. 2 A ddylem newid y ffordd rydym yn rheoli afonydd a gorlifdiroedd yn y dyfodol?
Thema 1 Dŵr 2. Sut dylai afonydd gael eu rheoli?
2. 1 Pa mor llwyddiannus yw gwahanol ffyrdd o reoli y broblem o lifogydd? n n Fe edrychir ar lifogydd fel rhywbeth a ellir ei reoili ac sydd angen ei reoli gan bobl. Mae nifer o ffyrdd gwahanol o fynd ati i reoli afonydd. Dwy ffordd bwysig o reoli afonydd yw drwy ddefnyddio PEIRIANNEG GALED a MEDDAL. Gellir rheoli sianel yr afon yn ogystal a’r holl fasn afon. Gall system sy’n rhybuddio am lifogydd fod yn ei le hefyd.
Peirianneg galed a meddal n n Peirianneg galed yw defnyddio adeiladwaith sydd wedi ei wneud gan ddyn (fel argae) i reoli afonydd. Peirianneg feddal yw defnyddio arferion naturiol i leihau erydiad a chael sefydlogrwydd (e. e. drwy ddefnyddio llystyfiant). Mae hyn yn golygu gweithio gyda prosesau afon a gwarchod cynefinoedd. Weithiau cyfuniad o beirianneg galed a meddal sydd orau. Gwneir mwy a mwy o ddefnydd o ddulliau peirianneg galed am fod gwarchod yr amgylchedd yn mynd yn bwysicach.
Enghreifftiau o beirianneg galed Argaeau a cronfeydd dŵr; n Sianeleiddio [sythu a carthu (dredging)]; n Waliau llifogydd; n Llifgloddiau (levees); n Sianelau artiffisial. n
Enghreifftiau o beirianneg feddal Gosod llifgloddiau ymhellach yn ôl; n Adeiladu sianelau i liniaru llifogydd ond cadw y sianel wreiddiol yn ei ffurf naturiol; n Cyfyngu’r datblygu sy’n digwydd ar orlifdir (e. e. parciau, caeau chwarae a gwarchodfeydd natur yn hytrach na tai a diwydiant). n
Defnydd o orlifdir ar gyfer carnifal Defnydd amaethyddol o orlifdir
Rheoli sianel afon n n Ø Ø Ø Ychydig iawn o sianelau afon sy’n gyfangwbl naturiol. Gall pobl ymyrryd â sianel afon yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol drwy: Adeiladu argaeon; Sythu sianelau afon; Carthu (dredging) sianelau (carthu = glanhau gwely afon); Torri llystyfiant i lawr ar lannau’r afon; Tynnu dŵr o’r afon.
Adfer afon n n Mae safonydd a’r tir o’u cwmpas yn dirywio oherwydd: Ø Fod sianelau afonydd yn cael eu sythu a’u dyfnhau; Ø Adeiladu ar orlifdiroedd a’u ffermio yn arddwys. Mae adfer afon yn golygu dad-wneud y broses yma. Y bwriad yw adfer afon a’r tir o’i chwmpas i sefyllfa naturiol sef gadael i’r afon ystumio a gorlifo. Mae’n enghraifft o reolaeth cynaliadwy. Bydd prosiectau o’r fath fel arfer yn rai lleol sy’n cynnwys y gymuned leol.
Adfer afon Mae gan y River Restoration Centre astudiaeth achos o afon leol ble mae peirianneg feddal wedi ei ddefnyddio i adfer yr afon i ddilyn cwrs mwy naturiol. n Yr afon o dan sylw yw’r Afon Ogwen yn Nant Ffrancon. Tasg Ewch i: http: //www. therrc. co. uk/projects/rrc_ogwen. php i ddarganfod mwy am y cynllun hwn. Bydd angen i chi adrodd yn ôl I’r dosbarth am yr hyn rydych yn ei ddarganfod. n
Rheolaeth basn afon n Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am reoli basnau afonydd Cymru a Lloegr. Agweddau pwysig o’r gwaith maent yn ei wneud yw rheoli adnoddau dŵr, gwarchod rhag llifogydd a rheoli llygredd. Un broblem gyda basnau afonydd yw fod afonydd yn llifo drwy gwahanol ranbarthau cynllunio a gwahanol wledydd. Weithiau fe ddefnyddir y dull gwahanfa ddŵr ble bydd y rhanbarthau a/neu gwledydd hyn yn cydweithio I reoli y basn afon cyfan.
System rhybuddio am lifogydd y DU Mae pedwar lefel o rybudd llifogydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd: • Flood watch • Flood warning • Severe flood warning • All clear
Rhai dulliau presennol o rybuddio am lifogydd Cnocio ar ddrysau; n Wardeniaid llifogydd; n Corn siarad symudol; n Corn rhybuddio; n Arwyddion yn fflachio; n Darllediad teledu a radio + teletestun; n Teleffon (Floodline) n
Rhai dulliau newydd o rybuddio am lifogydd Ffôn symudol yn derbyn negeseuon testun a negeseuon “voice mail”; n E-bost; n Darllediadau teledu a radio digidol; n Rhyngrwyd (data, ffotograffau a rhybuddion) n Systemau rhybuddio mewn cartrefi. n
- Slides: 17