Daearyddiaeth TGAU A CBAC Uned 1 Y Craidd
Daearyddiaeth TGAU A CBAC Uned 1 – Y Craidd A- Y Byd Ffisegol Thema 1 Dŵr
Thema 1 Dŵr 1 Beth yw prosesau afon a pha dirffurfiau maent yn greu? Ø 1. 1 Pa brosesau sy’n gysylltiedig ag afonydd? Ø 1. 2 Pa dirffurfiau sy’n deillio o’r prosesau hyn? Ø 1. 3 Sut mae’r tirffurfiau a’r prosesau yn effeithio bywydau pobl sy’n byw ar hyd afonydd? 2 Sut y dylai afonydd gael eu rheoli? Ø 2. 1 Pa mor llwyddiannus yw gwahanol ffyrdd o reoli y broblem o lifogydd? Ø 2. 2 A ddylem newid y ffordd rydym yn rheoli afonydd a gorlifdiroedd yn y dyfodol?
Thema 1 Dŵr 1 Beth yw prosesau afon a pha dirffurfiau maent yn greu?
1. 1 Pa brosesau sy’n gysylltiedig ag afonydd? Cyn edrych ar y prosesau sy’n gysylltiedig ag afonydd, rhaid i ni ddeall fod afonydd yn gweithredu o fewn system basn traeniad. n Basn traeniad (neu fasn afon) yw ardal o dir sy’n cael ei ddraenio gan brif afon a’i llednentydd. n Llednentydd yw nentydd neu afonydd sy’n llifo i fewn i nant neu afon arall (sydd fel arfer yn fwy).
Basnau traeniad Gelwir ffin neu ymyl y basn traeniad yn wahanfa ddŵr. Caiff ei ddangos fel arfer gan gefnen o dir uwch. n Tarddiad yw lle mae nant yn cychwyn llifo. n Aber yw ble mae afon yn cyrraedd y môr (neu lyn). Gelwir aberoedd afon llydan yn forydau. n
Basnau traeniad n Cydlifiad (cymer) yw pan fo un nant neu afon yn ymuno ag un arall (neu’n cyfarfod afon arall).
System basn traeniad n n n Mae basn traeniad yn rhan o’r gylchred hydrolegol. System agored ydyw hefo mewnbynnau ac allbynnau. O fewn y system, fe geir storfeydd a trosglwyddiadau (neu lifau).
1. 1 Pa brosesau sy’n gysylltiedig ag afonydd? Mae ar afon angen egni ac mae’r rhan fwyaf o egni afon (95% o dan amodau arferol) yn mynd i orchfygu ffrithiant. Mae sianel nant fynyddig yn llawn o glogfeini (boulders) sy’n creu llawer o ffrithiant ac ac mae’r dŵr yn llifo yn araf. Ar dir îs, mae’r sianel yn lletach ac yn ddyfnach. Mae llai o ffrithiant ac mae’r dŵr yn llifo yn gyflymach.
Cludiant Pan fo’r cyfaint o ddŵr sydd mewn afon yn cynyddu, mae ffrithiant yn cael ei leihau a gall yr egni sydd dros ben gael ei ddefnyddio i godi a chludo deunydd. Gelwir y deunydd sy’n cael ei gario bgan afon yn lwyth. n Gall afon gludo ei lwyth mewn un o bedair ffordd: n
Cludiant n n RHOLIANT = pan fod cerrig yn rholio ar hyd gwely’r afon (hyn sydd angen y mwyaf o egni). NEIDIANT = pan fo gronynnau o faint tywod yn sboncio ar hyd gwely’r afon mewn symudiad ‘leapfrog’. DALIANT = silt a gronynnau o faint clai yn cael eu cludo yn llif y dŵr. HYDODDIANT = pan fod rhai mwynau yn hydoddi yn y dŵr (hyn sydd angen y lleiaf o egni).
Erydiad Bydd afon yn defnyddio y deunydd mae’n gludo i erydu ei glannau a’i gwely. Wrth i fuanedd afon gynyddu, felly hefyd y llwyth mae’n gallu ei gario a faint o erydu mae’n gallu ei wneud. Mae yna bedair proses o erydiad:
Erydiad n n ATHREULIAD = pan fo deunydd sy’n cael ei gario gan yr afon yn taro yn erbyn ei gilydd a thorri i fyny yn ddarnau llai (mae’n fwy cyffredin mewn ardaloedd o ucheldir. GWEITHRED HYDROLIG = grym y dŵr yn rhyddhau dwunydd o lannau a gwely’r afon. CYRATHIAD (SGRAFELLIAD) = pan fod deunydd bach yn rhwbio yn erbyn glannau’r afon (mae’n fwy cyffredin mewn ardaloedd o dir isel). CYRYDIAD = pan fod asidau yn y dŵr yn toddi creigiau fel calchfaen.
Dyddodiad Bydd dyddodiad yn digwydd pan nad oes gan afon ddigon o egni i gario ei llwyth. Y deunydd trymaf sy’n cael ei ddyddodi gyntaf. Gall dyddodi ddigwydd pan fo lefel yr afon yn disgyn (ar ôl cyfnod sych, er enghraifft neu pan fydd y cerrynt yn arafu (fel ar y tu fewn i ystum, er enghraifft).
1. 2 Pa dirffurfiau sy’n deillio o’r prosesau hyn? Tirffurf yw nodwedd ffisegol ar wyneb y ddaear. n Maent yn cael eu creu drwy erydiad, cludiant a dyddodiad deunydd. n Ffactorau eraill sy’n effeithio ar ffurfiant tirffurfiau afon yw y math o graig ac adeiledd y graig. n Mae’r tirffurfiau yn wahanol mewn tir uchel a tir isel. n
Tirffurfiau afon mewn ardal o dir uchel • Rhaeadrau a cheunentydd.
Tirffurfiau afon mewn ardal o dir isel Ystumiau ac ystumllynnoedd. n Gorlifdiroedd a llifgloddiau (levees). n
1. 3 Sut mae’r tirffurfiau a’r prosesau yn effeithio bywydau pobl sy’n byw ar hyd afonydd? Mae llawer o bobol ar draws y byd yn byw gerllaw afonydd. Mae gan hynny lawer o fanteision ond hefyd mae iddo anfanteision. Tasg Sortiwch y canlynol i fewn i’r golofn gywir yn y tabl: n
Manteision o fyw gerllaw afon twristiaeth llifogydd Lefelau uchel o ddŵr Cyflenwad dŵr sianel yr afon yn symud Anfanteision o fyw gerllaw afon gweithgaredd au hamdden tir isel better weather hawdd teithio natur siltio tir ffermio da deunydd adeiladu Cael gwared o ddŵr budr a charthffosiaeth
Llifogydd n Mae gorlifo yn digwydd pan fod tir sydd ddim fel arfer wedi ei orchuddio mewn dŵr yn cael ei orchuddio gan ddŵr. Mae yna ormod o ddŵr i sianel yr afon ei ddal.
Arllwysiad afon Arllwysiad yw faint o ddŵr sydd yn pasio lleoliad arbennig mewn afon o fewn amser penodol. n Mae arllwysiad yn cael ei fesur mewn metrau ciwbig yr eiliad (m 3/s) – a elwir hefyd yn cumecs. n Gellir ei gyfrifo gan ddefnyddio’r fformiwla: ARLLWYSIAD = BUANEDD X ARWYNEBEDD TRAWSTORIAD Y SIANEL Buanedd = cyflymder yr afon mewn metrau yr eiliad (m/s) Arwynebedd y trawdtoriad = lled x dyfnder sianel yr afon [mewn metrau sgwâr (m 2)]. n
Hydrograff llifogydd Dŵr ffo arwynebol fydd yn cyrraedd yr afon gyntaf. n Yn nes ymlaen yn y storm bydd mwy o lif trwodd (throughflow). n Gelwir yr amser rhwng y glawiad brig (uchaf) a’r arllwysiad brig yn amser oediad. n
Hydrograff llifogydd n n Graff sy’n dangos arllwysiad afon mewn lle penodol dros gyfnod o amser yw hydrograff. Mae hydrograff llifogydd (neu storm) yn dangos sut mae afon yn ymateb i un storm.
Ffactorau sy’n effeithio ar siâp yr hydrograff llifogydd n n n n Uchder y tir; Math o graig; Pridd; Llystyfiant; Defnydd tir; Faint o ddefnydd a wneir o’r afon; Dwysedd traeniad. Tasg Eglurwch sut mae pob un o’r ffactorau a restrir uchod yn effeithio ar siâp hydrograff. Gallai creu diagram (neu ddiagramau) eich helpu.
Beth sy’n achosi llifogydd? Mae llifogydd yn digwydd pan fo dŵr yn symud yn gyflym i fewn i afon. Gallai hyn fod oherwydd: n Cyfnod hir o law trwm (a tir dirlawn); n Storm; n Eira yn toddi; n Ochrau dyffryn serth; n Creigwely anathraidd (ddim yn gadael dŵr drwyddo); n Priddoedd tenau; n Dim llawer o lystyfiant; n Trefoli; n Sianel yr afon yn llenwi hefo silt.
Llifogydd Cofiwch fod llifogydd yn broses naturiol. n Mae gweithredoedd pobl yngwneud llifogydd yn waeth. n
Enghraifft: Llifogydd Boscastle n n Digwyddodd llifogydd yn ardal Boscastle, Dyfnaint yn Awst 2004. Gwnewch ymchwil i fewn i’r digwyddiad llifogydd hwn ac ysgrifennwch adroddiad arno. Cewch gynnwys mapiau, diagramau a ffotograffau os dymunwch wneud hynny. Dylech gynnwys: Ble mae Boscastle a beth ddigwyddodd yno (yn fyr); Pa ffactorau oedd yn gyfrifol am y gorlifo? Beth oedd effeithiau y llifogydd? Dylech gynnwys Ø Effeithiau ffisegol (e. e. ar y tir) Ø Effeithiau demograffig (e. e. marwolaethau) Ø Effeithiau economaidd (e. e. faint o arian wnaeth o gostio) Ø Effeithiau cymdeithasol (yr effeithiau ar fywyd bob dydd). Beth sydd wedi ei wneud i atal y math yma o lifogydd rhag digwydd eto?
Llifogydd Boscastle – Gwefannau defnyddiol www. bbc. co. uk (yn dda ar gyfer erthyglau a ffotograffau) n www. wikipedia. org n www. google. co. uk (yn dda ar gyfer delweddau ac i gael hyd i wefannau defnyddiol eraill). n www. metoffice. gov. uk/education/teens/casestu dy_boscastle. html n www. ordnancesurvey. co. uk/getamap n
- Slides: 33