Cynhyrchu Trydan CBAC Ffiseg Uned 1 1 2
Cynhyrchu Trydan CBAC Ffiseg Uned 1 - 1. 2 CBAC Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 3 - 3. 2
Egni – y broblem o ddefnyddio gormod O ble’r ydym yn cael y rhan fwyaf o’n hegni? Olew Glo Nwy Problemau amgylcheddol! (Llygru’r atmosffer a newid hinsawdd)
Beth sy’n digwydd i’r Ddaear? atmosffer y Ddaear Golau’r Haul yn symud fel tonnau electromagnetig trwy’r gofod, a’r atmosffer, tuag at y Ddaear. Mae peth o egni’r pelydrau’n cael ei amsugno, a pheth yn cael ei adlewyrchu. Cynhesu byd-eang Pan mae’r ddaear yn pelydru’r gwres hwn yn ôl i’r gofod, mae ar ffurf isgoch sydd â thonfedd hirach. Mae rhai moleciwlau, megis carbon deuocsid a methan, yn amsugno’r ymbelydredd hirach yma, gan ddal egni o fewn yr atmosffer. – effaith tŷ gwydr yw’r term am hyn. Mae tymheredd y Ddaear yn codi o ganlyniad.
Effaith Cynhesu Byd Eang Beth fydd effaith codiad tymheredd o 2°C? Fe fydd ein gaeafau’n gynhesach Mwy o ddiffeithdiroedd – llai o dir i dyfu cnydau. Bydd lefel dŵr y môr yn codi wrth i begynau iâ y Ddaear ymdoddi. Newid yn y tywydd – mwy o dywydd eithafol, llifogydd a sychder yn gyffredin. Ein cynnyrch o garbon deuocsid sy’n gyfrifol am hyn, ac mae ymgyrch cyson erbyn hyn i leihau yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu wrth losgi glo, olew a nwy. Gall Llif y Gwlff newid cyfeiriad, ac o ganlyniad bydd tymheredd Prydain yn gostwng.
Yr Argyfwng Egni Mae glo, olew a nwy yn enghreifftiau o adnoddau anadnewyddadwy (nonrenewable resources). Olew Glo Ar ôl eu defnyddio unwaith, nid oes modd eu defnyddio eto – rhaid aros am filiynau o flynyddoedd iddynt ailffurfio. Erbyn y flwyddyn 2020, bydd angen i ni leihau’r defnydd a wnawn o lo, olew a nwy ym Mhrydain, ynghyd â chynhyrchu trydan gan ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy (renewable). Nwy
Gorsafoedd Trydan Thermol 2. Dŵr oer yn troi’n ager yn y boeler 4. Tyrbin yn troi’r generadur ac yn cynhyrchu trydan. 3. Ager yn troi tyrbin generadur ager poeth ager Ager oer ager dŵr poeth dŵr tŵr oeri dŵr oer cyddwysydd Glo, olew neu nwy 1. Llosgi tanwydd ffosil Mae’n bosib defnyddio’r ager gwastraff i gynhesu ffatrïoedd/tai sy’n agos at yr orsaf 5. Mae peth o’r egni gwres yn cael ei golli i’r amgylchedd yn yr achos yma. TANWYDD FFOSIL
Oes modd gwella’r cynllun? Mae’r gorsafoedd trydan diweddaraf yn defnyddio’r dŵr poeth er mwyn gwresogi tai cyfagos. Ager poeth generadur Grid Cenedlaethol gwres cyddwysydd Mae’n bosibl defnyddio pren fel tanwydd. Mae’n bosib ailblannu a thyfu coed yn gymharol gyflym. Y CO 2 y byddwn yn ei gynhyrchu wrth losgi pren, yw’r CO 2 oedd yn yr aer i gychwyn. tyrbin Dŵr oer Dŵr poeth
Gorsafoedd Pŵer Thermol 2. Dŵr oer yn troi’n ager yn y generadur ager 4. Tyrbin yn troi’r generadur ac yn cynhyrchu trydan. 3. Ager yn troi tyrbin generadur ager poeth oerydd ager Generadur ager Stêm ager oer dŵr poeth dŵr tŵr oeri dŵr oer craidd tanwydd dŵr oer cyddwysydd 5. Mae peth o’r egni gwres yn cael ei golli i’r amgylchedd yn yr achos yma. 1. Adwaith niwclear y tanwydd yn y craidd Mae un orsaf niwclear gyfwerth â 2400 melin wynt! Niwclear
Amser i ddechrau Mae gan y gwahanol fathau o orsafoedd pŵer, amseroedd ‘paratoi i ddechrau’ gwahanol: Nwy Oil Cyflym Olew Glo Araf Niwclear
Ffynonellau Egni Anadnewyddadwy Anfanteision Manteision ydd w n a t t os C isel Costio llawer i adeiladu (comisiynu) comisiynu a chau (datgomisiynu) datgomisiynu gorsaf drydan niwclear Yn dd gofyn a i ateb ion s ylfae nol Dibyn adwy Glo, olew, nwy a niwclear u byr Amser dechra i nwy ac olew g iawn i d y h c chosi Y a i e l e sy’n ca r d d e r g clea o ly gan niw Tan wyd d yn dod i be n Llygredd – CO 2 yn arwain at gynhesu byd-eang a SO 2 at law asid
Egni Adnewyddadwy - Pŵer y Gwynt Rydym yn gyfarwydd â gweld grwpiau o felinau gwynt yn y wlad hon. Gelwir y safleoedd yn ‘ffermydd gwynt’. Mae gwyntoedd cryfion ynysoedd Prydain yn ddefnyddiol ar gyfer cynhyrchu egni trydanol. Ond, mae yna rai sy’n gwrthwynebu’r datblygiadau hyn. Maent yn dweud bod y melinau’n distrywio byd natur, yn swnllyd ac yn aneffeithlon.
Egni Adnewyddadwy - Pŵer y Llanw Uchel Wrth i’r llanw droi, mae symudiad y dŵr yn gwneud i’r tyrbin i droi, ac i’r generadur gynhyrchu trydan. Llanw Isel
Egni Adnewyddadwy - Pŵer Tonnau’r Môr Mae symudiad y tonnau yn gwneud i’r arnofyn symud lan a lawr. Mae symudiad yr arnofyn yn troi’r generadur ac yn cynhyrchu trydan.
Egni Adnewyddadwy - Pŵer Trydan Dŵr Cronfa Uchel Pan fo angen egni trydan ar frys, defnyddir y system trydan-hydro. Mae dŵr o gronfa uchel yn cael ei ollwng, sy’n troi tyrbin a generadur er mwyn cynhyrchu trydan. Mae’n dibynnu ar effaith disgyrchiant. Mae’n bosibl defnyddio pwmp trydan er mwyn pwmpio’r dŵr yn ôl i’r gronfa ar adeg ratach yn y dydd fel bo modd ei ddefnyddio eto.
Oes anfanteision i ffynonellau egni adnewyddadwy? Ffynhonnell Gwynt Tonnau Llanw Trydan-hydro Anfanteision Dibynnu ar y tywydd; llygredd gweledol yn ôl rhai; anodd ei storio. Gallu bod yn niweidiol i fyd natur; dibynnu ar faint y tonnau; dibynnu ar dywydd. Dibynnu ar uchder y llanw; gallu bod yn niweidiol i fyd natur; llygredd gweledol ym marn rhai. Cynefinoedd anifeiliaid yn dioddef os caiff dyffryn ei foddi. Hefyd, mae gan yr uchod gostau cychwyn uchel
Ffynonellau Egni Adnewyddadwy Anfanteision Manteision Gwynt, llanw, trydanhydro a solar
- Slides: 16