Cymru lle arbennig Edrychwch ar y map hwn
Cymru lle arbennig
Edrychwch ar y map hwn o Gymru. A ellwch chi weld y lle rydych chi’n byw? Mae cadwyn o fynyddoedd yng nghanol Cymru. Beth yw enw’r gadwyn o fynyddoedd? Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd o wefan Lonely Planet, www. lonelyplanet. com© 2005 Lonely Planet Publications.
Dyma fap arall. Mae’n dangos y prif ffyrdd, sef y traffyrdd, sy’n rhedeg o un rhan o Brydain i’r llall. A ellwch chi weld unrhyw drefi rydych chi wedi clywed amdanynt? A ellwch chi weld unrhyw draffyrdd yng Nghymru? Dim ond un sydd yna, a ellwch chi gynnig rheswm dros hynny?
Mae’r map hwn yn dangos y traffyrdd a’r priffyrdd agosaf at Ogledd Cymru. A fuoch chi’n teithio ar unrhyw un o’r ffyrdd hyn? Mae rhif a llythyren ar bob ffordd. Mae M yn golygu motorway/traffordd. Oes yna rai i’w gweld yma?
Ar y map hwn fe welwch rai o’r priffyrdd sy’n rhedeg trwy Gymru. Dim ond un ohonynt sy’n draffordd. Ble mae’r draffordd? Hawlfraint y Map: Bernard Wellings www. walesdirectory. co. uk Rhowch enw’r lle agosaf ati?
Gadewch i ni edrych ar rai lleoedd yng Nghymru. Cliciwch ar y cysylltau hyn i chwilio. Cliciwch ar y saethau i symud yn ôl. Map copyright Bernard Wellings www. walesdirectory. co. uk Wedi i chi orffen, cliciwch yma am gysylltau i wefannau i chi allu dysgu mwy.
Aberystwyth Mae Aberystwyth ar yr arfordir. Mae prifysgol yno, ac mae’n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bannau Brycheiniog Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ardal o afonydd a mynyddoedd, gyda phob math o weithgareddau awyr agored.
Dinbych-y-pysgod Mae Dinbych-y-pysgod yn gyrchfan lan môr boblogaidd, sydd hefyd yn dref gaerog o’r oesoedd canol. Mae yno draethau tywod rhagorol a llawer o leoedd deniadol i fynd am dro.
Abertawe Yn Abertawe mae bae hardd a marina fawr. Abertawe yw ail ddinas Cymru. Cerflun Dylan Thomas, awdur enwog o Gymro a fu’n byw yn Abertawe.
Caerdydd yw prifddinas Cymru. Mae castell yno ac mae Stadiwm y Mileniwm wedi cynnal rhai o’r gemau pêl-droed a rygbi pwysicaf. Yma hefyd mae cartref Cynulliad Cymru.
Llandudno Cyrchfan lan môr o oes Victoria yw Llandudno, wedi’i lleoli ar lan bae rhwng dau fryn. Mae caban rhaffbont yn mynd i Ben y Gogarth, sef un o’r bryniau.
Conwy Tref gaerog yw Conwy wedi’i lleoli ar aber yr Afon Conwy. Mae castell ynddi a’r tŷ lleiaf yng Nghymru.
Parc Cenedlaethol Eryri Mae’r Wyddfa, sef y mynydd uchaf yng Nghymru, yng nghanol y parc cenedlaethol ail fwyaf, ar ôl Ardal y Llynnoedd, yng Nghymru a Lloegr.
Bae Ceredigion Mae Bae Ceredigion yn gartref i fywyd gwyllt o bob math o’r ehedydd i ddolffiniaid. Mae’r arfordir yn 40 milltir o hyd ac mae llwybrau hynafol yn rhedeg ar hyd ymylon y clogwyni serth.
Aberdaugleddau Porthladd yw Aberdaugleddau. Mae doc enfawr yno i danceri allu casglu olew o’r purfeydd olew. Dyma’r porthladd olew mwyaf ym Mhrydain ar ail fwyaf yn Ewrop.
Môn Ynys yw Môn gydag Afon Menai yn ei gwahanu o’r tir mawr. Mae dwy bont ar gael i groesi’r afon. Mae porthladd fferi ar yr ynys sy’n cynnal gwasanaeth i Ddulyn.
Penrhyn Llŷn Darn cul o dir, dim ond 8 milltir ar ei draws, yw Penrhyn Llŷn. Mae llawer o draethau hardd o’i gwmpas sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd piau’r rhan fwyaf ohonynt.
Mynyddoedd yr Elenydd Ardal helaeth o ucheldir yng nghanolbarth Cymru, lle gwyllt heb lawer o bobl yn byw yno, yw Mynyddoedd yr Elenydd. Yno mae nifer o brif afonydd Cymru yn tarddu.
Dyffryn Clwyd yw dyffryn yr Afon Clwyd. Mae Bryniau Clwyd ar un ochr i’r dyffryn. Mae’n dir amaethyddol cyfoethog, 40 metr yn unig uwchlaw y môr.
Wrecsam yw prif dref Gogledd. Ddwyrain Cymru. Mae’n agos at y ffin â Lloegr ac mae’n ganolfan i lawer o ddiwydiannau a ffatrïoedd. Mae yno farchnad amaethyddol brysur hefyd.
Abergwaun Mae cyswllt fferi pwysig yn Abergwaun rhwng Sir Benfro a Rosslare yn Iwerddon. Mae catamaran cyflym yn croesi’r môr. Ac mae llawer o fywyd gwyllt i’w gael yn y môr o gwmpas.
Porthcawl Porthladd i gludo glo o’r glofeydd yn y cymoedd Porthcawl i ddechrau. Yna daeth yn gyrchfan wyliau boblogaidd. Mae yno bromenâd hir a nifer o draethau gyda phedwar penrhyn creigiog ar hyd y lan.
Casnewydd yw trydedd ddinas Cymru o ran maint (ar ôl Caerdydd ac Abertawe). Mae’n sefyll ar lannau’r Afon Wysg, mewn safle sy’n borth i Gymru o Loegr.
Merthyr Tudful Mae Merthyr Tudful wedi’i lleoli yng nghanol mynyddoedd ac mae’n dref enwog am gynhyrchu haearn a glo. Caeodd y ffowndri haearn olaf yn 1987. Yr enw a roddir ar Glwb Rygbi Merthyr Tudful yw’r Ironmen.
Rhowch gynnig ar y wefan hon i gael mwy o http: //www. searchwales. com/ wybodaeth am Dde Cymru. Dyma wefan ar gyfer dysgu mwy am Ogledd a Chanolbarth Cymru http: //www. croeso. com/ Gwefan ar gyfer y newyddion diweddaraf am Gymru http: //www. bbc. co. uk/wales/ Os am gael map o’ch ardal leol, ewch i http: //www. streetmap. co. uk/ Y Brif Ddewislen Awdur: B. J. Hughes
- Slides: 26