Cymru Ewrop ar Byd Adran 1 Pam ddylai
Cymru, Ewrop a’r Byd
Adran 1: Pam ddylai pobl ymddiddori mewn gwleidyddiaeth a materion gwleidyddol? Cyfleusterau chwaraeon Oed cychwyn gyrru Cwricwlwm Ysgol Mynd i ryfel ag Iraq Ffioedd Colegau Cyfreithloni canabis Gwahardd ysmygu Hela llwynogod
Amcangyfrifwyd mai 16% o’r boblogaeth rhwng 18 a 24 oed a bleidleisiodd yn etholiadau’r Cynulliad yn 2004 (NOP)
Ein nod: • Tasg 1. Trafod agweddau tuag at wleidyddiaeth. • Tasg 2. Trafod materion gwleidyddol • Tasg 3. Deall y system wleidyddol
Tasg 1: Astudio agweddau gwahanol tuag at wleidyddiaeth. • • Gwyliwch y Clipiau Fideo Trafod fel grŵp neu ddosbarth. Llenwi’r daflen (Sleid 5). Cyfweld pobl am eu hagweddau tuag at wleidyddiaeth. (Gellir defnyddio sleid 6). • Dadansoddi ymateb pobl ifanc heddiw. (Gellir defnyddio sleid 7).
Ydi gwleidyddiaeth yn ddiflas? Gwyliwch ‘Fideo Cwestiwn 1’
Beth mae cynghorwyr lleol yn gwneud? Gwyliwch ‘Fideo Cwestiwn 2’
Barn am y Cynulliad Gwyliwch ‘Fideo Cwestiwn 3’
Beth sy’n digwydd mewn gwledydd eraill? Gwyliwch ‘Fideo Cwestiwn 4’
Beth am bleidleisio? Gwyliwch ‘Fideo Cwestiwn 5’
Pa faterion sydd o ddiddordeb i chi? Gwyliwch ‘Fideo Cwestiwn 6’
Agwedd pobl ifanc at wleidyddiaeth Cwestiwn 1. Ydy gwleidyddiaeth yn ddiflas? 2. Gwybodaeth neu farn am lywodraeth leol? 3. Gwybodaeth neu farn am y Cynulliad? 4. Gwybodaeth am wleidyddiaeth gwledydd eraill? 5. Agwedd tuag at etholiadau a phleidleisio? 6. Materion oedd yn poeni pobl ifanc? Ymateb disgyblion ar y fideo Eich ymateb chi
Cyfweld Pobl Ifanc GWAITH GRŴP Rydych yn ceisio darganfod agwedd pobl ifanc tuag at wleidyddiaeth e. e. ydyn nhw’n deall gwleidyddiaeth, ydyn nhw’n meddwl bod llywodraeth leol yn effeithiol, ydyn nhw’n gweld pwrpas mewn pleidleisio, oes materion gwleidyddol yn eu poeni? Dilynwch y camau: • Creu 10 cwestiwn addas. • Holi o leiaf 20 o bobl ifanc - genethod a bechgyn. • Edrych ar y canlyniadau - creu o leiaf 5 graff- e. e. y ganran sy’n meddwl bod gwleidyddiaeth yn ddiflas.
Dadansoddi’r canlyniadau: Defnyddiwch y 5 graff, ymateb pobl ifanc i’r holiadur a’r wybodaeth a gawsoch ar y fideo i ysgrifennu adroddiad byr. TEITL: Agweddau Dwi ddim yn gwybod beth mae’r Cynulliad yn ei wneud. . pobl ifanc at wleidyddiaeth. Dydy gwleidyddiaeth ddim i bobl ifanc dydy o ddim yn gwneud dim byd imi. .
Tasg 2: Trafod Materion Gwleidyddol. Dewis UN DIWRNOD ac edrych naill ai ar safle newyddion y bbc. co. uk neu’r papurau newydd ar gyfer y diwrnod hwnnw. Casglu samplau o faterion gwleidyddol sydd yn y newyddion y diwrnod hwnnw ac sydd o ddiddordeb i chi. RHAID RHANNU’R SAMPL I 3 PENNAWD: • MATERION GWLEIDYDDOL LLEOL • MATERION GWLEIDYDDOL CENEDLAETHOL • MATERION GWLEIDYDDOL RHYNGWLADOL. Os defnyddir y safle we, gellir torri a gludo o dan y penawdau uchod. Os defnyddir papurau newydd, gellir crynhoi y storïau yn eich geiriau eich hun neu eu torri allan a’u gludo o dan y penawdau uchod.
Tasg 3: Deall y System Wleidyddol Rydych wedi casglu sampl o faterion gwleidyddol sy’n eich diddori. Rydych angen dewis un o’r materion a darganfod pwy yn union sy’n gyfrifol am y polisi neu bwy sy’n gallu datrys y broblem: • Y Cyngor Plwyf • Y Cyngor Sir • Y Cynulliad • Llywodraeth San Steffan • Llywodraeth Ewropeaidd. RHAID YMCHWILIO I’R PŴER SYDD GAN Y GWAHANOL LEFELAU. Trafodwch y mater o’ch dewis gyda gweddill eich grŵp, gan fynegi eich barn ac awgrymu datrysiad posib.
Pwy sy’n penderfynu beth? Cyngor Sir Y Cynulliad Senedd y Deyrnas Unedig Senedd Ewropeaidd
Safleoedd gwe defnyddiol: Cyngor Sir Y Cynulliad www. anglesey. gov. uk www. gwynedd. gov. uk www. cymru. gov. uk Senedd y Deyrnas Unedig Senedd Ewropeaidd www. parliament. uk www. europarl. europa. eu/news/publ ic/default_en. htm
Sesiwn Holi ac Ateb Bydd yr ysgol yn trefnu ymweliad gan grŵp o wleidyddion: e. e. Cynghorydd Plwyf, Cynghorydd Sir, Aelod o’r Cynulliad, Aelod Seneddol. Bydd hwn yn gyfle i chi eu holi am eu gwaith, a gofyn iddynt drafod materion gwleidyddol. Rhaid paratoi y cwestiynau ymlaen llaw. MAE’N BWYSIG EICH BOD YN GOFYN CWESTIWN.
- Slides: 19