cymdeithas y beibl Yn gweithio i ddileu tlodi
cymdeithas y beibl Yn gweithio i ddileu ‘tlodi Beiblaidd’. Yn gweithio at ddydd pan y bydd datguddiad, a doethineb ysbrydoledig y Beibl yn llunio cymunedau a bywydau pobl ym mhobman
Beth yw’r anghenion? • • • Mae mwy na 4, 500 o ieithoedd yn parhau heb hyd yn oed un llyfr o’r Beibl yn eu hiaith eu hunain. Er bod dros biliwn o bobl yn methu darllen, d’oes ond 3% o ieithoedd gyda ffurf glywedol o’r Beibl. Bob pum eiliad mae rhwun yn mynd yn ddall, ond dim ond mewn 30 o ieithoedd y gellir cael copi ‘Braille’ o’r Beibl. Mae dros biliwn o fobl yn byw ar lai na 60 c y diwrnod – gan wneud y Beibl yn drysor na allant ei fforddio. Yn ein gwlad ein hunain, nid y Beibl yw cyfeirnod bywyd bob dydd bellach.
Ar draws y byd Cyfiethu 8: 32 Ffydd drwy glywed Yn yr Eglwys Mewn diwylliant Partneriaethau
Cyfiethu • • Mae mwy na 4, 500 o ieithoedd yn disgwyl am gyfieithiad o’r Beibl. Dim ond tua treian o ieithoedd sydd â Beibl yn eu mamiaith. Mae pobl ym mhobman yn sychedu am Feibl yn eu mamiaith – ac eto mae prinder cyfieithwyr ag adnoddau ariannol. Rhan o waith Cymdeithas y Beibl yw ariannu ymgynghorwyr cyfieithu, sy’n dwyn cyngor arbenigol, anogaeth ac awgrymiadau ymarferol i dimoedd o gyfieithwyr o amgylch y byd, tra ar yr un pryd yn cynorthwyo gyda’r broses o DDIWYGIO. Yr ydym hefyd yn gweithio gyda partneriaid eraill fel y ‘WYCLIFFE BIBLE TRANSLATORS.
Pan dderbyniodd y Falam, pobl o Myanmar (Burma) y Beibl yn eu hiaith, roeddent yn gorfoleddu. Dywedodd un o’r henuriaid, “Yr oedd mor dda, yr oeddem yn methu peidio a’i ddarllen! Wrth edrych yn ôl, yr ydym yn sylweddoli fod cael y Beibl yn ein hiaith wedi ein rhyddhau o ‘gaethwasaeth’. Nawr, pan fyddwn yn darllen Ei air yn ein hiaith, yr ydym yn sylweddoli ein bod yn bobl arbennig, yn bobl wedi ein creu gan Dduw. ”
Ffydd drwy glywed • • • Mae’r Testament Newydd ar gael ar ffurf sain mewn 90 o ieithoedd. Golygas hyn, er bod dros biliwn o bobl yn methu darllen, dim ond 3% o ieithoedd sy’n medru elwa. Mae pobl Sri Lanka, Swaziland a Rwanda ymhlith y rhai sy’n medru clywed y Beibl ar gaset sain.
• • • Mae 98% o’r rhai sy’n methu darllen yn byw yn y gwledydd tlotaf yn y byd. Mae dros hanner poblogaeth yr Affrig yn methu darllen. Traddodiad llafar sy’n perthyn i ddau dreian o boblogaeth y byd, naill ai drwy orfodaeth neu ddewis.
8: 32 Mae’r ymgyrch 8: 32 o eiddo Cymdeithas y Beibl yn ble i agor ein llygaid – i agor ein calonau – i dlodi Beiblaidd. Yn y bon, mae’r tlodi’n deillio o ffiniau ieithyddol, dallineb, ac anllythrenedd, ac ar yr un pryd, y ffaith fod yna bobl sy’n rhy dlawd i brynu Beibl. Mae eraill yn dlawd yn Feiblaidd oherwydd eu bod yn byw mewn diwylliant ‘soffistigedig’ lle mae’r Beibl yn cael ei ystyried yn amherthnasol.
Newyddion da i’r dall • Mae 90% o bobl ddall yn byw mewn gwledydd sy’n datblygu. • Dim ond 30 o ieithoedd sydd â Beibl cyflawn mewn Braille • Mi fydd 75 miliwn o bobl yn ddall erbyn 2020 os pery y tueddiadau presenol. • Mae mwy na hanner y bobl sy’n ddall yn y byd yn byw yn India, (9 miliwn) yr Affrig (7 miliwn) a Tseina (6 miliwn).
BEIBL BRAILLE YN RHYDDHAU’R GWIRIONEDD YN TSEINA Ifanc oedd Peng pan gollodd ei olwg. Tra’n byw yng nghefn gwlad Tseina, bu iddo addasu i fywyd heb ei olwg. Blynyddoedd yn ddiweddarach rhanodd ffrind y newyddion da am Iesu â Peng. “Efallai na fydd yn symud dy ddalineb corfforol, ond gall dy waredu o ddalineb ysbrydol”. Dyma oedd y cam cyntaf wrth i Peng ddod yn Gristion. O ddiwrnod ei fedydd, breuddwydiai Peng am gael y Beibl Braille, fel y gallai ddarllen Gair Duw ei hun. Yn y diwedd, gwireddwyd ei freuddwyd. Yn ei orfoledd, dechreuodd wahodd ei ffrindiau i ddod i wrando arno yn darllen Gair Duw. Bellach, mae’n cynllunio i ddod yn weinidog, ac i rannu’r Gair gyda mwy fyth o bobl.
PAN YR YDYCH YN BYW AR 60 c Y DIWRNOD, MAE PERCHNOGI BEIBL Y TU HWNT I’CH CYRRAEDD Er hynny, mae’r Eglwys yn tyfu gyflymaf yn rhai o’r cymunedau, a’r gwledydd tlotaf yn y byd. Mae hyn yn creu angen am Feiblau am bris y gall y bobl hyn ei fforddio – i rai mi fydd angen i’r Beibl gael ei roi am dim. Yn dilyn hyn, bydd Cristnogion yn medru aeddfedu a thyfu. Ar yr un pryd, gall eglwysi ddal y gwirionedd a’i droi yn weithredol, i’r graddau lle y gwelir cymunedau yn cael eu trawsnewid gan rym yr efengyl.
Mae’r galw am Feiblau yn rhyfeddol mewn rhai cymunedau tlawd. Er engraifft, mae Tassew Negash, o Gymdeithas y Beiblau yn Ethiopia yn dweud, “Gallwn ddosbarthu 40, 000 o Feiblau yn Addis Ababa yn unig. Ond nid oes gennym yr adnoddau ariannol i gyfarfod â’r galw
BEIBLAU YN CYRRAEDD IEUENCTID DI-GARTREF YN RWMANIA Ochr yn ochr â derbyn pryd o fwyd cynnes a chael golchi mewn bath poeth, mae ieuenctid di-gartref yng Nghanolfan Sfanta Macrina i blant y stryd yn Bucharest yn cael rhywbeth ychwanegol. Mae’r staff yno yn gweld sut mae Gair Duw yn eu cysuro, a hynny yn eu bywydau tlawd, gan eu hannog i ddod oddiar y strydoedd drwy roi y nerth personol, moesol ac ysbrydol sydd ei angen arnynt. Pan orfennodd Alexandra , merch oedd wedi ei gadael gan ei rhieni, ei darlleniad am y dydd dywedodd, “Dw’i am berthyn i Dduw”
O fewn ein Cymdeithas Mae’r nifer sy’n berchen Beibl wedi gostwng 25% mewn hanner canrif. Mae’r defnydd ohono’n lleihau. Dywed 60% o bobl “nad yw’r Beibl yn berthnasol i’m bywyd i”. Er y cynydd sydd mewn diddordeb yn yr ‘ysbrydol’, mae’r nifer sy’n edrych at y Beibl am wirionedd yn lleihau. Ceir athrawon sy’n fwy tebygol bellach i ddefnyddio’r Beibl i ddysgu gwersi cymdeithasol, e. e. engraifft o un yn defnyddio hanes porthi’r 5, 000 i bwylseisio yr angen i gasglu sbwriel!
Ym myd y Celfyddydau Mae’r Gymdeithas yn awyddus i gefnogi, annog a gweithio gyda’r bobl sy’n gweithio ym myd cefyddyd weledol, ac sy’n defnyddio’r Beibl fel sail eu ysbrydoliaeth. Yn ddiweddar, gwelwyd noddi cwmni ‘Riding Lights’, a’u perfformaid o ‘African Snow’; cynhyrchwyd ffilm ‘The Walk’ am fywyd William Wilberforce ac Opera Roc ar hanes Esther.
Ym myd Y Cyfryngau Mae darlledwyr a newyddiadurwyr yn siarad ar amrediad eang o bynciau, ac nid yw’n syndod deall nad oes gan fawr iawn ohonynt grebwyll diwinyddol na chefndir Beiblaidd. Nod Cymdeithas y Beiblau yw darparu cefnogaeth un i un o fewn y cyfryngau.
Ym myd Gwleidyddiaeth Mae prif ymchwilydd gwleidyddol Cymdeithas y Beiblau, y Dr David Landrum, yn treulio ei amser yn adeiladu perthynas â gwleidyddion yn y Senedd yn Llundain. Yng ngeiriau David, “Mae’r ddiffyg dealltwriaeth sydd gan AS yn gyffredinol am sylfeini y ffydd Gristnogol yn ryfeddol. Fy nod yw cynorthwyo pawb mewn llywodraeth i ddeall sylfeini y deall Beiblaidd o gymdeithas, a’u cynorthwyo i weld sut y gall y Beibl barhau i lunio bywyd cymdeithas heddiw. ”
Ym myd Addysg Mewn partneriaethau amrywiol, yr ydym yn ymchwilio i’r modd y dysgir y Beibl yn ein hysgolion, ac agweddau ieuenctid at y Beibl. Yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Addysg Prifysgol Exeter. Gan fod y rhan fwyaf o’r boblogaeth yn mynychu ysgolion pan yn blant neu ieuenctid, dyma’r cyfle gorau a gwan i gynnig profiad positif o’r Beibl i bawb.
cymdeithas y beibl Yn gweithio i ddileu ‘tlodi Beiblaidd’. Yn gweithio at ddydd pan y bydd datguddiad, a doethineb ysbrydoledig y Beibl yn llunio cymunedau a bywydau pobl ym mhobman
- Slides: 19