Cyllidebau Cynllun tymor byr syn cael ei baratoi
Cyllidebau Cynllun tymor byr sy’n cael ei baratoi gan fusnes yw cyllideb. Defnyddir cyllidebau gan fusnesau i ragfynegi : • Gwariant • Derbyniadau o werthiant • Elw Gan amlaf, mae cyllidebau’n ymwneud â chyfnod o un flwyddyn. Caiff y person sydd â chyfrifoldeb am gyllideb ei alw yn ddeiliad cyllideb.
Cyllidebau Derbyniadau neu Incwm Dyma’r derbyniadau gwerthiant mae busnes yn disgwyl eu derbyn dros ryw gyfnod yn y dyfodol. Cyllidebau Gwariant Pan fydd busnes yn gwybod ei werthiant disgwyliedig, gall amcangyfrif gwariant. Gall ragfynegi: • Gwariant ar gyflogau • Gwariant ar ddefnyddiau crai • Rhent ac ardrethi • Costau eraill
Pwysigrwydd Cyllidebau Mae cyllidebau yn helpu busnesau i reoli eu cyllid. Mae deiliaid cyllidebau yn uwch weithwyr o fewn un o adrannau busnes. Nhw yw’r unig weithwyr sydd â chaniatâd i wario arian. Mae cael pobl wahanol mewn adrannau gwahanol â’r awdurdod hwn yn helpu busnes i sicrhau na fyddant yn gwario gormod. Gall deiliaid cyllidebau atal y busnes rhag gwario arian ar eitemau dibwrpas, fel ceir drud iawn i’r rheolwyr gwerthiant. Mae cyllidebau yn atal twyll. Er enghraifft, rhaid i ddeiliaid cyllidebau wneud yn siwr na fydd gweithwyr yn prynu eitemau fel gliniaduron at eu defnydd personol.
Defnyddioldeb Cyllidebau • Mae cyllidebau yn helpu busnesau i osod targedau ar gyfer derbyniadau ac elw. • Gall rheolwyr ddefnyddio cyllidebau i benderfynu a yw’r busnes yn perfformio cystal â’r disgwyl. • Trwy gadw golwg ar gyllidebau gwariant, gall rheolwyr sicrhau na fydd busnes yn gwario mwy nag y dylai.
Cofiwch…. yn yr arholiad • Beth yw diffiniad cyllideb? • Mae’n Gynllun Ariannol
- Slides: 5