Cyfryngau cymdeithasol gemau ach plentyn Uwchradd Beth yw
Cyfryngau cymdeithasol, gemau a’ch plentyn Uwchradd
Beth yw apiau cyfryngau cymdeithasol? • Rhaglenni sy’n rhoi mynediad at gyfryngau cymdeithasol. • Mae’r rhaglenni hyn yn rhan o apiau, gemau fideo, gwefannau a hyd yn oed amgylcheddau dysgu.
Gwahanol fathau o gyfryngau cymdeithasol • Rhwydweithio cymdeithasol: Facebook. • Rhwydweithiau cymdeithasol anhysbys: Ask. fm, Sarahah. • Blogio: Tumblr, Medium. • Creu nodau tudalen: Pinterest, Flipboard. • Rhannu lluniau: Instagram, Snapchat. • Rhannu fideos: You. Tube. • Fforymau trafod: Reddit, Quora, Digg. • Rhwydweithiau adolygiadau gan ddefnyddwyr: Yelp, Trip. Advisor. • Siopa cymdeithasol: Etsy. • Economi rhannu: Airbnb, Uber.
Nodi’r prif apiau cyfryngau cymdeithasol
Beth yw manteision defnyddio cyfryngau cymdeithasol? • Hwyl cymdeithasol a chreadigol. • Rhannu diddordebau. • Datblygu perthynas ac ehangu rhyngweithio cymdeithasol. • Rhannu cynnwys addysgol. • Mae pobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gwrdd â chariadon a rhoi cynnig ar berthynas â phobl.
Beth yw risgiau cyfryngau cymdeithasol? • Plant yn dod i gysylltiad â chynnwys amhriodol neu gynnwys sy’n peri trallod iddyn nhw, fel delweddau neu sylwadau rhywiol, treisgar, ymosodol neu gas. • Cynnwys amhriodol fel lluniau neu fideos pryfoclyd neu luniau neu fideos sy’n codi cywilydd arnyn nhw eu hunain neu eraill. • Rhannu gwybodaeth bersonol â phobl ddieithr – er enghraifft, rhifau ffôn, dyddiad geni neu leoliad. • Cael eu bwlio, neu eu targedu gan hysbysebion a marchnata.
Strategaethau ar gyfer lleihau risg ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol • Sgwrs gyda’r person ifanc. • Trafod y risgiau wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. • Esbonio'r peryglon sydd ynghlwm wrth rannu cynnwys a gwybodaeth bersonol. • Trafod yr amrywiol ffyrdd y gall cyfryngau cymdeithasol roi’r person ifanc mewn sefyllfa lle mae’n dod i gysylltiad â hysbysebu amhriodol. • Enwi oedolyn y gellir ymddiried ynddo.
Dulliau rheoli i rieni a chyfryngau cymdeithasol • Yn ôl Ofcom (2015) • mae 67% o blant rhwng pump a saith mlwydd oed • 91% o blant rhwng wyth ac 11 mlwydd oed • 98% o bobl ifanc rhwng 12 a 15 mlwydd oed yn defnyddio gwasanaethau ar-lein. • Efallai na fydd cyfyngiadau oed yn llwyddo. • Mae’n anoddach defnyddio dulliau rheoli i rieni gan fod modd i bobl ifanc osgoi'r dulliau hynny.
Sut mae adrodd yn ôl ar gyfryngau cymdeithasol • Os oes gennych chi amheuon ynghylch ymddygiad rhywun tuag at blentyn, cysylltwch â CEOP. • Os gwelwch chi unrhyw gynnwys troseddol, cysylltwch â’r Internet Watch Foundation. • Childnet International i weld sut mae rhoi gwybod ar sawl platfform.
Beth yw gemau ar-lein? • Mae gemau ar-lein yn cyfeirio at gemau fideo sy’n cael eu chwarae ar-lein, yn hytrach na hapchwarae o unrhyw fath. • Yn cael eu chwarae ar amrywiol ddyfeisiau. • Gall pobl ifanc chwarae gemau fideo gyda chwaraewyr dieithr.
Gwahanol fathau o ddyfeisiau gemau fideo ar-lein • Mae consolau fel Xbox, Play. Station a Nintendo Switch yn cael eu chwarae ar sgrin fawr fel arfer. • Mae dyfeisiau tabled a ffonau clyfar yn cael eu chwarae yn y fan a’r lle. • Mae dyfeisiau fel y 3 DS a’r Play. Station Vita yn llai poblogaidd. • Mae angen cysylltiad â’r rhyngrwyd i chwarae pob un.
Trafod y prif gemau fideo ar-lein • Pa gemau fideo ar-lein ydych chi’n gwybod amdanyn nhw? • Pa gemau fideo rydych chi wedi clywed eich plant yn sôn amdanyn nhw?
• • • sgiliau datrys problemau sgiliau prosesu gweledol cyflymder prosesu Beth yw manteision amldasgio gwella'r gallu i gofio chwarae gemau fideo ar chwarae a difyrru -lein? gwell cymdeithasu mwy o waith tîm byd gwahanol.
Mae amgylchedd gemau fideo ar-lein yn gallu bod yn: • anhysbys • treisgar neu beryglus • rhywle lle mae hudo neu gyswllt amhriodol yn gallu digwydd • rhywle lle mae pobl yn sarhaus • rhywle lle mae iaith dramgwyddus yn cael ei defnyddio • rhywle lle mae bwlio’n digwydd • rhywle lle mae’n anodd cyfyngu eich amser chwarae • rhywle lle mae modd hapchwarae • ac achosi problemau iechyd.
Strategaethau ar gyfer lleihau risg ar safleoedd gemau fideo • Edrych i weld beth yw cynnwys y gêm fideo drwy ddarllen graddfeydd y gêm fideo. • Chwarae’r fideo gyda’ch plant. • Dysgu sut mae rhwystro ac adrodd yn ôl. • Rhoi unrhyw osodiadau diogelwch sydd ar gael ar waith. • Siarad gyda’ch plant am y gemau fideo.
Dulliau rheoli i rieni a gemau fideo • Addasu a gosod y nodweddion ar gyfrif eich plentyn. • Defnyddio e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio’n rheolaidd. • Creu canllawiau ar gyfer cyfathrebu yn y gêm. • Dysgu eich plentyn sut mae tewi, rhwystro neu adrodd yn ôl. • Deall y cod ymddygiad. • Gwylio eich plentyn/plant yn chwarae.
Sut mae adrodd problem yn ôl mewn gêm fideo ar-lein • Os byddwch chi’n gweld cynnwys sy’n dreisgar, pornograffig neu’n aflonyddu ar rywun, gallwch adrodd hyn yn ôl i safle’r gêm neu i ddatblygwr y gêm yn syth. • Os oes gennych chi amheuon ynghylch ymddygiad rhywun tuag at blentyn, rhowch wybod i’r CEOP. • Os gwelwch chi unrhyw gynnwys troseddol, dylech ei adrodd yn ôl i’r Internet Watch Foundation.
Sut mae dod o hyd i feddalwedd ac apiau gemau fideo da • PEGI – graddfa gemau fideo Ewropeaidd ac esboniad am labelu 3, 7, 12, 16 a 18 oed. • VSC – yn gyfrifol am raddfeydd PEGI yn y DU. • Common Sense Media – yn cynnig adolygiadau am gemau fideo o bersbectif rhieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc. • International Age Rating Coalition – system graddfeydd gyffredinol sy’n adlewyrchu gwahaniaethau diwylliannol ymysg gwledydd a chrefyddau. • Entertainment Software Rating Board – system graddfeydd Gogledd America.
Sut mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau ym maes cyfryngau cymdeithasol a gemau fideo • Gall rhieni a gofalwyr gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau sy’n newid drwy'r amser drwy siarad gyda’u plant. • Mae dangos diddordeb go iawn mewn tueddiadau ym maes cyfryngau cymdeithasol a gemau fideo yn helpu rhieni a gofalwyr i feithrin ymddiriedaeth.
Faint o amser dylai eich plentyn/plant ei gael ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol neu gemau fideo? • Mae pob teulu’n wahanol. • Penderfynu ar y canllawiau a chael cydbwysedd. • Yn hytrach na chanolbwyntio ar waharddiad amser, gweld pa weithgareddau penodol y dylid cyfyngu arnyn nhw.
Sut mae gweld pan fydd rhywun yn defnyddio gormod ar y cyfryngau cymdeithasol neu safleoedd gemau fideo Ydy fy mhlentyn yn: • • mynd yn rhy gyffrous neu’n ymosodol wrth ddefnyddio sgrin (gêm fideo, ffôn clyfar, dyfais tabled, cyfrifiadur, teledu, ac ati)? mynd yn bigog, yn flin neu’n anystywallt pan ofynnir iddo beidio defnyddio’r ddyfais? cwyno am straen ar y llygaid, poen cefn neu boen yn y gwddf? iach yn gorfforol ac yn cysgu digon? cysylltu’n gymdeithasol â theulu a ffrindiau (mewn unrhyw ffordd)? ymwneud â phethau yn yr ysgol ac yn llwyddo? ymwneud â diddordebau a hobïau (o unrhyw fath)? cael hwyl ac yn dysgu wrth iddo ddefnyddio cyfryngau digidol?
Sut mae creu a rheoli cyfyngiadau ar y cyfryngau ar gyfer eich teulu • Dylai canllawiau gynnwys elfennau sylfaenol fel: • pa bryd mae’n iawn defnyddio cyfryngau cymdeithasol? • faint o amser gall eich plentyn/plant ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol? • a yw’n iawn defnyddio cyfryngau cymdeithasol? • rheolau ynghylch llwytho negeseuon, delweddau a fideos i fyny a’u rhannu? • canllawiau preifatrwydd?
Sut mae creu a chadw at reolau ac ymddygiad ar y cyfryngau ar gyfer eich teulu • Cyngor a chytundeb cyfryngau ar gyfer y teulu gan Childnet International. • Themâu: cadw’n ddiogel, rhwydweithio cymdeithasol, gemau a theganau.
Adnoddau • Childnet International – amrywiaeth o adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc ysgolion cynradd ac uwchradd, athrawon a rhieni/gofalwyr. • Meic – gwasanaeth eiriolaeth dwyieithog cenedlaethol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Diolch! Cyn i chi fynd: • cofiwch gadw llygad ar weithgareddau eich plentyn/plant ar-lein • ewch i’r Parth Diogelwch Ar-lein i gael rhagor o adnoddau.
- Slides: 25