CYDRANNAU FFITRWYDD GCa D CYMRU NGf L Erbyn
CYDRANNAU FFITRWYDD GCa. D CYMRU NGf. L Erbyn diwedd yr uned fe fyddwch yn gwybod: • Beth yw enwau’r cydrannau ffitrwydd? • I ba grŵp maent yn perthyn? • Beth yw diffiniad pob cydran? www. gcad-cymru. org. uk
Categoreiddio GCa. D CYMRU NGf. L Mae’r cydrannau hyn yn disgyn i ddau faes: 1. Cyffredinol neu Cysylltiedig ag Iechyd 2. Penodol neu Cysylltiedig â Sgiliau Fe edrychwn yn awr ar y ddau faes yn fwy manwl. www. gcad-cymru. org. uk
Diffiniadau - Cyffredinol / Cysylltiedig ag Iechyd GCa. D CYMRU NGf. L Cryfder Y grym y mae’r cyhyrau’n ei weithredu wrth gyfangu. Hyblygrwydd Amrediad y symud mewn cymal. Cyfansoddiad y corff Y canrannau o fraster, cyhyr ac asgwrn yn y corff. Stamina Gallu’r corff i ddal ati am gyfnodau hir heb flino. Mae’n gyfuniad o ddygnwch cardiofasgwlaidd a chyhyrol. www. gcad-cymru. org. uk
Cryfder GCa. D CYMRU NGf. L Y grym y mae’r cyhyrau’n ei weithredu wrth gyfangu. Statig Dynamig Cryfder sydd ei angen i wthio neu dynnu gwrthrych trwm iawn neu i ddal pwysau trwm uwch eich pen. Ffrwydrol (pŵer) Cryfder sydd ei angen i Cryfder sydd ei angen ar gadw llwyth i symud gyfer un weithred dros gyfnod hir. ffrwydrol (e. e. rhwyfo) (e. e. naid uchel) -Bydd dal llwyth trwm yn llonydd yn gwella’ch cryfder statig. - Bydd symud y llwyth yn gwella’ch cryfder dynamig. -Bydd symud y llwyth mor gyflym ag sy’n bosibl yn gwella’ch pŵer. www. gcad-cymru. org. uk
Hyblygrwydd GCa. D CYMRU NGf. L Amrediad y symud mewn cymal. I wella hyblygrwydd dylech ymestyn y cyhyrau o amgylch y cymal a dal yr ymestyniad am o leiaf 8 – 10 eiliad. Mae hyn yn cael ei alw yn YMESTYN STATIG. Gall fod yn weithredol neu’n oddefol. -Mae gymnastwraig yn dangos hyblygrwydd wrth berffomio yr hollt (splits). -Mae bachwr angen hyblygrwydd yn ei ysgwyddau wrth berfformio yn y sgrym. -Mae athletwr angen hyblygrwydd yn yr asgwrn cefn wrth berfformio’r naid uchel. www. gcad-cymru. org. uk
Cyfansoddiad y corff GCa. D CYMRU NGf. L Y canrannau o fraster, cyhyr ac asgwrn yn y corff. Gallech fod â’r pwysau iawn ond eto i gyd yn anffit am fod gennych lawer o fratser a chyhyrau bach gwan. Mae cyfansoddiad y corff yn rhoi gwell syniad o ffitrwydd ac mae’n nodi pa ganran o bwysau eich corff sy’n fraster. www. gcad-cymru. org. uk
Stamina GCa. D CYMRU NGf. L Gallu’r corff i ddal ati am gyfnodau hir heb flino. Mae’n gyfuniad o ddygnwch cardiofasgwlaidd a chyhyrol. Cardiofasgwlaidd Gallu system cylchrediad y gwaed i ddosbarthu’r ocsigen sydd ei angen ar y cyhyrau. Mae hyn yn cael ei alw hefyd yn Ffitrwydd aerobig. -Mae angen lefel uchel o ffitrwydd aerobig i redeg marathon. Pam? -Mae angen lefel uchel o ffitrwydd aerobig i barhau trwy gydol gêm bêl droed / hoci. Cyhyrol Gallu’r cyhyrau i gyfangu dro ar ôl tro heb flino. -Mae angen lefel uchel o ddygnwch cyhyrol i feicwyr yn y ras ‘Tour de France’. - Mae angen lefel uchel o ddygnwch cyhyrol i barhau i rwyfo mewn ras gystadleuol. www. gcad-cymru. org. uk
DIFFINIADAU - PENODOL / CYSYLLTIEDIG A SGILIAU GCa. D CYMRU NGf. L Ystwythder Newid ystum a chyfeiriad y corff yn gyflym. Cydbwysedd Cynnal ystum arbennig heb siglo na chwympo. Cyd-drefniant Symud rhannau o’r corff yn esmwyth ac yn gywir mewn ymateb i’r negesau gan y synhwyrau. Pŵer Cyfuniad o gryfder a chyflymder. Amser Adweithio Cyflymder adweithio yw’r term am yr amser a gymerir i ymateb i symbyliad. Y gallu i symud eich corff neu ran o’ch corff yn gyflym. www. gcad-cymru. org. uk
PENODOL / CYSYLLTIEDIG A SGILIAU - Enghreifftiau GCa. D CYMRU NGf. L Ystwythder Ochor gamu mewn gêm rygbi. Symudiad yr ‘Indian dribble’ - hoci. Cydbwysedd STATIG = Pensafiad - gymnasteg. DEINAMEG = Sglefrio – sglefrio iâ. Cyd-drefniant Serfiad mewn tennis. Dal pêl – gôl geidwad. Pŵer Taflu’r ddisgen / Naid hir Amser Adweithio Cyflymder Cychwyn ras 100 m. ‘Slip catch’ o fewn gêm griced. Mae angen cyflymder mewn ras can medr. www. gcad-cymru. org. uk
Cyflymder GCa. D CYMRU NGf. L Y gallu i symud eich corff neu ran o’ch corff yn gyflym. Nid ystyr y term ‘cyflymder’ bob tro ydi’r gallu i symud o A i B gynted â phosib. Gall olygu y gallu i symud rhannau gwahanol o’r corff yn gyflym. Gweler yr enghreifftiau isod. -Mae angen cyflymder mewn ras can medr. - Mae angen cyflymder i gyrraedd y bêl yn gyntaf mewn gemau tîm. -Mae angen cyflymder yn y fraich wrth daflu picell. www. gcad-cymru. org. uk
GCa. D CYMRU NGf. L GALLWN YN AWR ATEB Y CWESTIYNAU YMA? Beth yw enwau’r cydrannau yma? Ym mha grŵp maent yn perthyn? Beth yw diffiniad pob cydran? www. gcad-cymru. org. uk
- Slides: 11