Cwtsh y Lindysyn Gweithgaredd ir dosbarth cyfan i
Cwtsh y Lindysyn Gweithgaredd i’r dosbarth cyfan i greu arddangosiad am berthynas iach.
Cwrdd â Cwtsh y Lindysyn Mae Cwtsh am gael gwybod sut ddylem deimlo a chael ein trin mewn perthynas iach? Mewn grwpiau bach, meddyliwch am gynifer o eiriau ac ymadroddion ag y gallwch sy’n dangos sut dylem deimlo a chael ein trin mewn perthynas dda â’n teulu a’n ffrindiau.
Fel dosbarth, rydym yn mynd i wneud Cwtsh y lindysyn enfawr a fydd yn ein hatgoffa o’r ffordd y dylem gael ein trin mewn perthynas. Bydd pob grŵp yn cael rhannau o gorff Cwtsh i’w haddurno â geiriau allweddol ond, i sicrhau bod pob gair yn wahanol, rydym yn mynd i ddefnyddio thesawrws i wella ein geirfa.
Pan fyddwch yn chwilio am air mewn thesawrws, byddwch yn dod o hyd i restr o eiriau sydd ag ystyr debyg (cyfystyron) i’r gair y chwilioch amdano. Mae hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn wrth geisio gwneud eich ysgrifennu’n fwy diddorol. Bydd hefyd yn rhoi geiriau sydd ag ystyr groes (gwrthwynebeiriau) felly gofalwch rhag eu cymysgu! Beth yw thesawrws? Er enghraifft, petaech chi’n chwilio am ‘hapus’ mewn thesawrws fe allech chi ddod ar draws: Hapus (ans. ) mewn hwyliau da: Llon, siriol, bodlon, wrth ei fodd, balch, llawen… Gwrthwynebeiriau ar gyfer hapus: Digalon, siomedig, isel ei ysbryd…
Defnyddiwch thesawrws i ddod o hyd i air sy’n dechrau â gwahanol lythyren o’r wyddor am y ffordd y dylem deimlo neu gael ein trin mewn perthynas dda.
Fel dosbarth / grŵp, bydd angen ichi benderfynu pa air neu ymadrodd rydych yn ei ddefnyddio i addurno’ch rhan chi. Ar ôl addurno eich rhannau chi, gallwch ddechrau eu cysylltu â’i gilydd i wneud un lindysyn enfawr. Peidiwch ag anghofio ychwanegu pen Cwtsh ac eglurhad am bwy yw Cwtsh!
Anwyld eb Fel petaech yn perthyn Bodlonrwy dd Edmyged d Cydraddolde b Diogelwc h
Awgrymiadau posibl am eiriau / ymadroddion • A – Anwyldeb / Arbennig iawn / Amrywiaeth • L – Ar yr un Lefel • B – Bodlon / Bendigedig • Ll – Lloches / Lleisio Barn • C – Cyfiawnder / Cyffyrddus / Cydraddoldeb / Caru • M – Maddeuant pan wnawn gamgymeriad • Ch – Chi! (ar eich gorau) • N – Neb yn eich gorfodi • D – Dibynadwyedd / Diogel / Didwyll / Diffuant • Dd – Ddim yn cael eich gorfodi • E – Edmygu / Eithriadol • F – Fel petaech yn werthfawr i rywun • Ff – Ffrindiau / Ffyddlondeb • G – Gwirionedd / Gwahanol / Gwych / Gonest • O – O bob lliw a llun • P – Perthyn / Parch / Pwysig / Priodi pwy y mynnoch • R – Real • Rh – Rheolaeth / Rhan o deulu / Rhagorol • S – Siarad yn rhydd / Stopio bwlio • T – Tegwch • Th – Therapi • Ng – Yng Ngofal rhywun • U – Unedig / Unplygrwydd • H – Hyderus / Hoffus / Hapus • W – Wedi dwlu / Wrth eich bodd • I – Iach / Iaith gadarnhaol • Y – Ymddiriedaeth / Ymlacio • J – Jocian
- Slides: 10