Cwrs A S Uned 2 Ymchwilio newid poblogaeth
Cwrs A. S. Uned 2. Ymchwilio newid poblogaeth.
Cwestiwn allweddol 1. 4 : What are the issues of the migration of refugees and asylum seekers? Cwestiwn allweddol 1. 5 : Beth yw achosion ac effeithiau newid strwythr rhyw y person? Cwestiwn allweddol 1. 6 : Beth yw’r sialensau demograffig sy’n gwynebu gwledydd?
Beth yw Mudo? Mae mudo yn golygu y symudiad o bobl. Gall olygu symudiad dros dro, tymhorol neu hyd yn oed dyddiol yn ogystal ac yn barhaol, rhwng gwledydd ac o fewn gwledydd.
Termau pwysig. Mudo rhyngwladol parhaol : Pobl yn symud o wlad i wlad yn barhaol. Ymfudwyr : Pobl sy’n gadael gwlad / ardal Mewnfydwyr : Pobl sy’n mudo i wlad / ardal Cydbwysedd mudo : Gwahaniaeth rhwng y mewnfudwy’r a; r ymfudwyr. Colled mudo net : Llefydd sy’n colli mwy o bobl nag y maent yn enill o ganlyniad mudo. Enill mudo net : Enill mwy o bobl nag y maent yn ei golli
Modelau Mudo. Ravenstein (1876) Cyhoeddodd Ravenstein nifer o reolau yn ymwneud a mudo. Roedd ei ragdybiaethau wedi eu selio ar wybodaeth census Prydain 1871 a 1881. Credodd; • Bod rhanfwyaf o fudwyr yn symud dim ond pellter byr. • Bod y broses yn un raddol, cam wrth gam. • Bod y rhai sy’n symud pellter mawr yn symud i ganolfanau poblogaeth a diwydiant mawr. • Bod pobl yn y canolfanau mawr yn llai debygol o fudo. • Bod merched yn fwy tebygol o fudo tu few i wlad eu genedigaeth, ond mai dynion oedd fwya debygol o fudo’n rhyngwladol. • Bod rhanfwyaf o fudwyr yn oedolion. • Bod canolfanau mawr yn synyddu’n fwy oherwydd mudo na twf naturiol. • Bod mudo yn fwy o debygol o ddigwydd o’r wlad i’r trefi. • Mai rhesymau economaidd o oedd wraidd y rhan fwyaf o fudo.
Model Disgyrchiant (The gravity model). Ceisiodd llawer o ddaearyddwyr brofi rheol Ravenstein. A dyma’r ymdrech mwyaf dylanwadol. Yn ganol i’r theori yma oedd syniadau Isac Newton a oedd yn credu bod y ffaxctorau tynu rhwng dau wrthrych mewn perthynas a’u maint. Hynnu yw, roeddent yn credu maint y lleoliad (tref, dinas) a’u poblogaeth oedd yn cael prif effaith. Mae’n gwneud rhyw fath o synwyr bod maint y poblogaeth ar gael i fudo a’r pellter sydd angen mynd yn cael effaith ar y niferoedd. Ond wedi edrych yn agosach ar y rhagdybiaeth a’i osod yn ei gyddestyn gwelwyd bod mwy i fudo na’r pellter a’r niferoedd potensial i fudo.
Model Zelinsky (1971). Credodd Zelinsky bod tueddiadau mudo yn newid dros amser. Credodd ef bod y tuedd mewn pobl yn newid wrth i wlad symud trwy gamau’r model trawsnewid demograffeg, hynny yw, datblygu. Wrth ddatblygu credodd fod gallu pobl i fudo yn cynyddu. H. y; • Dim llawer o fudo mewn cymdeithasau traddodiadol llai datblygiedig. Mudo mewnol yn benaf. • Yn gynnar yn y model trawsneid gweler symudiad o gefn gwlad i’r canolfanau mwy. • Wrth i gymdeithas ddod yn fwy modern gweler llawer mwy o fudo, ond rhwng canolfanau trefol yn bennaf. • Mae cymdeithasau modern iawn yn gweld y patrwm yn troi ar ei ben, wrthi gwrthdrefoli ddigwydd. Beirnadir y model hon yn un eithaf defnyddiol pan yn ystyried gwledydd datblygiedig, ond mae gwallau pan yn ystyried gwledydd datblygol a’r syniad “vague” o beth yw bod yn fodern.
Model ymddygiadol. (Behavioural models) Mae’r modelau yma’n canolbwyntio mwy ar resymau unigolion am fudo. Gweler fod factorau mewnol (anghenion y person) ac ffactorau allanol (yr amgylchedd leol, safon/ansawdd y gymuned) yn effeithio ar y penderfyniad. Enghraifft o hyn yw model Clark (1986). Enghraifft arall o fodel ymddygiadol yw model Lee. Credai bod gan y lleoliad presenol a’r cyrchfan ffactorau ‘tynnu’ a ‘gwthio’. Yn ychwanegol i hyn credai bod y ffactorau tynnu a gwthio yn cael eu dylanwadu ar gan bethau fel cyfrifoldeb teuluol a costau uchel y mudo
Model Clark.
Model Lee. Ffactorau Gwthio Ffactorau tynnu • Diffyg adnoddau • Diffyg swyddi / cyflogau isel • Problemau amgylcheddol. • Hiliaith. • Erlid crefyddol. • Problemau cymdeithasol • Gwaith • Cyflogau uchel • Amgylchedd byw gwell • Teulu / ffrindiau • Crefydd.
Mae pobl wedi mudo erioed!
Pam?
Pam mudo? Mae pobl yn mudo am amryw o resymau, rhai yn wirfoddol (voluntary) ac rhai yn orfodol (forced). Gwirfoddol : Symudiad rhydd o bobl yn aml yn edrych am fywyd gwell. Gorfodol : Pan nad oes gan berson ddewis, mae’n rhaid mudo.
Gwirfoddol. Gorfodol. • Gwaith. • Ehangu masnach. • Gwell hinsawdd. • Gwella safon / ansawdd byw. • I fyw gyda teulu / ffrindiau. • Profi diwylliant gwahanol. • Amwynderau gwell e. e. ysgolion • Erlid crefyddoo nwu wleidyddol. • Rhyfeloedd • Hiliaeth • Diffyg bwyd oherwydd newyn. • Digwyddiadau naturiol e. e. echdoriad llosgyfynydd, llifogydd. • Gorboblogaeth. • Afiechydon.
Arwyddo i fod yn ddinysydd yn yr Ynol Daliaethau.
Ffoaduriaid / Refugees. Ffoaduriad yw pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd erlid am resymau o hiliaeth, crefydd, gwelidyddiaeth, trafferthion mewnol (rhyfel cartref e. e. ) neu problemau amgylcheddol. Maent yn symud i wledydd eraill i edrych am gymorth a lloches. Nid ydynt yn cynnwys pobl sydd wedi symud o fewn eu gwlad eu hunain. Erbyn diwedd 1992, yn dilyn y trafferthion yn Yugolslavia roedd drost 600, 000 o bobl wedi ffoi i amryw o wledydd o fewn Ewrop atu hwnt.
Drost y canrifoedd mae amryw o ddigwyddiadau wedi achosi i bobl ffoi eu cartrefi ac eu gwledydd, ac maent wedi ymgartrefi mewn amryw o wledydd ar draws y byd.
Graff yn dangos y nifer o ffoaduriaid ym mhob gwlad yn 2005.
Mae’r map yma’n dangos y gwledydd sydd wedi enill a cholli poblogaeth oherwydd mudo yn gyffredinol.
Yn y flwyddyn 2000 roedd y Cenhedloedd Unedig (U. N. ) ym credu bod dros 15 miliwn o ffoaduriaid ar draws y byd. Maent hefyd yn cyfaddef gan bod llawer o ffoaduriaid yn byw yn anghyfreithlon mewn gweldydd, gall y rhif fod yn llawer uwch. Credir hefyd bod tua hanner o’r holl ffoaduriaid yn blant, gyda dros 80% ohonynt mewn gwledydd llai economaidd datblygiedig (GLl. ED), sef y gwledydd a gall wneud y lleiaf i helpu. Ac mae’r tuedd yma yn dal i barhau, os nad gynyddu.
Graff yn dangos lleoliad ffoaduriaid rhwng 1970 a 200. Datblygol.
Enghreifftiau bras o symudiadau ffoaduriaid rhwng gwledydd datblygol (GLl. ED). • Mae 1. 5 miliwn o ffoaduriaid wedi gadael Ethiopia, Sudan a Somalia oherwydd sychder a rhyfel cartref. • Credwyd bod 300, 000 allan o 1. 5 miliwn oedd wedi ceisio ffoi y rhyfela yn Rwanda wedi marw ar y ffordd oherwydd newyn a cholera. • Bu raid i 6 miliwn ffoi Afghanistan oherwydd rhyfel a Rwsia yn 1978, ac wedyn rhyfel cartref. Ffoi i Pakistan a Iran y gwnaeth y rhan fwyaf ohonynt. Mae hyn wedi gwaethygu nawr oherwydd sychder mawr 1999 a’r gwrthdaro gyda’r Unol Daliaethau yn dilyn 2001.
Enghreifftiau o fudo gwirfoddol a gorfodol.
Gweithwyr o Ddwyrain Ewrop yn mudo i Brydain. (Mudo gwrifoddol) Map yn dangos lleoliad y mewnfudwyr i Brydain rhwng 2004 a 2007. Poland, Czech Republic, Latvia, Lithuania, Estonia, Hungary, Slovakia and Slovenia.
Mudo o wledydd yr A 8. Mae A 8 yn sefyll am accession 8, sef yr wyth gwlad diweddara i ymuno a’r Undeb Ewropeaidd. Gan eu bod yn aelodau o’r U. E. fel Prydain, mae ganddynt yr hawl i fudo o fewn gwledydd yr U. E. Rhwn 2004 a 2008 credir bod hyd at 700, 000 o bobl wedi mudo i’r Deurnas Unedig i weithio. Er mwyn gweithio rhaid gwneud cais am drwydded gwaith, fellu gelli monitro’r ffigyrau
Mae’r graff isod yn dangos y nifer o geisiadau a dderbynwyd / gwrthodwyd ym mhob chwarter hyd at 2007.
O ba wledydd daw y gweithwyr? Mae’r graff yn dangos y niferoedd a ddaw o bob gwlad.
Oedran y gweithwyr. Fel y gweler o’r graff mae’r canran ucha o weithwyr rhwng yr oedran o 18 i 34. Golygai hyn bod Prydain yn denu pobl ifanc egniol. Ond hefyd golygai bod gwledydd eraill yn colli gweithlu da.
Lle mae’r gweithwyr yn mynd? Yn wahanol na’r disgwyl nid Llundain sydd wedi derbyn y rhan fwyaf o’r gweithwyr. Mae llawer wedi mudo i ardaloedd mwy gwledig i weithio yn y diwydiant amaethyddol. Golygai hyn bod rhai ardaloedd sydd hebhanes o dderbyn mewnfudwyr yn hanesyddol yn gorfod ymdopi a niferoedd uchel. Yn ogystal mae rhai cyflogwyr wedi gwneud y cysylltiad rhwng lle mae’r gweithwyr yn mynd a lleoliad maes awyr sy’n rhedeg cydylltiadau rhad a gwledydd dwyrain Ewrop.
Y math o waith? Yn ol y llywodraeth mae’r mewnfudwyr wedi yn gweithio yn y sectorau lle mae diffyg gweithwyr, fel amaethyddiaeth ayyb. Ond mewn gwirionedd nid yw hyn yn hollol gywir. Gweler o’r graff bod trawsdoriad eang o waith yn cael ei ymgymryd gan y mewnfudwyr. Mae nifer sylweddol yn gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth e. e. gyru bws, tren, meysydd awyrenau e. e.
Effeithiau economaidd a chymdeithasol? Mae’n anodd iawn gweithio allan y gost i’r wlad mewn cymhariaeth a’r elfenau posotif sy’n dod yn sgil derbyn mewnfydwyr e. e. trethi ychwanegol. • Un pwnc llosg yn y wasg yw’r galw am a diffyg cartrefi a’r niferoedd sy’n derbyn cymorthdalidau. Ond yn ol ffigyrau’r llywodraeth mae’r niferoedd yma’n isel. Ers 2004 dim ond 4. , 400 o fewnfydwyr sydd wedi derbyn cymorthdalidau o unrhyw fath. • Pryder arall oedd y niferoedd o deuluoedd byddai’n dilyn y gweithwyr, a fyddain ddibynol ar y wlad. Ond mae’r ffigwr yma hefyd wedi gostwng.
Graff yn dangos y nifer o weithwyr gyda teulu yn ddibynol arnynt.
Manteision ac anfanteision gweithwyr o Ddwyrain Ewrop. Manteision. Anfanteision. • Gweithlu ifanc egniol. • Trawsdoriad o sgiliau anghenrheidiol. • Llenwi bylchau yn yr economi. • Yn barod i weithio am gyflogau is. • Gweithio oriau hir. • Rhanu hanes a diwylliant newydd. • Rhai o’r gweithwyr a sgiliau medrus. • Hwb i’r economi leol. • Mwy o drethi’n cael eu casglu. • Pwysa ar swyddi lleol • Gwrthdaro • Tensiwn hiliol • Problemau ieithyddol. • Diffyg integreiddio. • Pwysa ar dai. • Pwysa a’r wasanaethau e. e. ysgolion
Costau ychwanegol i’r wlad oherwydd mudo o ddwyrain Ewrop yn ol “The Mail”.
Mudo gorfodol. . / Ffoaduriaid. Pobol o Zimbabwe i De Affrica.
Cefndir. Lleolir Zimbabwe yn De Affrica. Mae’n rhannu ffin a De Affrica, Botswana, Zambia a Mozambique. Derbyniodd ei anibyddiaeth llawn yn 1979. Oherwydd y dirwywiad yn economi Zimbabwe mae hyd at 3. 4 miliwn o bobl wedi gorfod ffoi y wlad. Credir bod 3 miliwn ohonynt wedi ffoi i De Affrica. Roedd Zimbabwe yn un o wledydd mwyaf llewyrchus Affrica. Ond yn ystod y 20 ain mlynedd diwethaf mae wedi dirywio. O dan arweiniad yr Arlywydd Robert Mugabe mae safon bywyd yn y wlad i dirywio’n ofnadwy. Yn ol y cenedloedd Unedg yn 2006 roedd y sisgwyliad oes i ddynion yn 37 a merched yn 34, yr isa yn y byd.
Pam bod pobl yn ffoi? • Gwrthdaro rhwng y llywodraeth a’r bobl gwyn yn wreiddiol dros berchnogaeth tir. Meiddianwyd y tir gan bobl Robert Mugabi. Yn dilyn hyn dirywiodd y cnydau a’r tir oherwydd diffyg cyfalaf a arbenigedd y ffermwyr newydd. Arweiniodd hyn at ddiffygion bwyd. • Nid yw holl bobl Zimbabwe’n gefnogol i Mugabe. Roedd yn sathru ar unrhyw fath o wrthsefyll democrataidd. • Mae HIV / Aids yn broblem mawr yny wlad, gyda niferoedd uchel yn dioddef, a dim meddygyniaeth addaas ar eu cyfer. • Mae gwrthwynebiad i Robert Mugabi. Mae’r “Movement for Democratic Change”, nawr i fod yn rhannu rheolaeth, onf hyd at nawr nid yw’r berthynas yn un llwyddianus. Mae miloedd o gefnogwyr y MDC wedi eu anafu, lladd neu wedi gorfod ffoi y wlad.
• Diffyg hawliau dynol. Yn ol Amnesty International a “Human Rights Watch”, mae llywodraeth Zimbabwe yn gyfrifiol am gamdrin bobl y wlad mewn nifer o ffyrdd. e. e. yn nhermau lloches, rhannu bwyd, y rhyddid i symud, rhyddid i ymgasglu a llawer mwy. • Diffyg gwaith a dirywiad economaidd y wlad. • Diffyg bwyd a lloches. Mae mwy o wybodaeth i’w gael ar safle Wikipedia
Beth yw effeithiau dynol y ffoi? Dilynwch y linc i’r erthygl.
Pobl yn ffoi dros y ffin i mewn i De Affrica.
FFoaduriaid yn De Affrica.
Does dim croeso fel arfer i’r ffoaduriaid.
Sut fydd patrymau mudo yn newid yn y dyfodol? A fydd bygythiadau newydd?
ecowar. blogspot. com/2008/08/three-cases-of-mi. . .
Niferoedd o ffoaduriaid a dderbynwyd gan yr Unol Daliaethau ers 1990.
- Slides: 54