Cwestiwn 1 b Berfau 1 Amser anghywir y
Cwestiwn 1 b) Berfau 1. Amser anghywir y ferf – e. e. Clywaf fod y bwyd yn dda yno neithiwr. clywaf > clywais Rheswm: Mae amser anghywir y ferf wedi cael ei ddefnyddio. Mae angen amser gorffennol y ferf yn y person cyntaf unigol gan fod y weithred wedi digwydd yn y gorffennol (neithiwr). Ceir gwall ymhob un o’r brawddegau isod. Lluniwch dair colofn: yn y gyntaf nodwch y cangymeriad, yn yr ail cywirwch ef, ac yn y drydedd nodwch eich rheswm dros gywiro. 1. Clywaf fod parti yng Nghaernarfon neithiwr. 2. Ysgriennai lythyr ddoe i swyddfa S 4 C yn cwyno nad oes digon o raglenni Cymraeg ar y teledu. 3. Hoffaf ymddiheuro i chi nad wyf wedi gorffen y gwaith. 4. Canodd y plant bob dydd yn yr ysgol. 5. Teimlaf fel petai’r byd ar ben ddoe.
2. Berf Amhersonol v Berf Bersonol Berfau Personol yr Amser Presennol = -af -wn -i -wch -a -ant e. e. Berf Amhersonol yr Amser Presennol = -ir Gwelir y bardd lawer o’i gerddi mewn cylchgronau. Gwelir > Gwêl Rheswm: Nid berf amhersonol sydd ei angen yma am fod y ferf yn cyfeirio at berson. Dylid defnyddio’r trydydd person unigol yn yr amser presennol. Ceir gwall ymhob un o’r brawddegau isod. Lluniwch dair colofn: yn y gyntaf nodwch y cangymeriad, yn yr ail cywirwch ef, ac yn y drydedd nodwch eich rheswm dros gywiro. 1. Defnyddir y bardd gynghanedd yn y gerdd. 2. Techneg arall a ddefnyddir awdur y detholiad hwn yw pentyrru ansoddeiriau. 3. Credir y bardd fod Saunders Lewis yn ddyn galluog. 4. Yn wahanol i T. H. Parry-Williams, defnyddir Waldo Williams agwedd wahanol tuag at ei fro yn ei gerddi. 5. Cyflwynir yr awdur nifer o bobl ddifyr yn ei nofel.
3. Terfyniad anghywir y ferf o fewn yr un amser e. e. Gwyddaf fod llawer o drysorau yn yr amgueddfa y mae pobl leol yn ymddiddori ynddynt. gwyddaf > gwn Rheswm: Mae ffurf y ferf yn anghywir. Y person cyntaf unigol, amser presennol y berfenw ‘gwybod’ sy’n gywir. Cwestiwn 1 a) - berfau personol i) Teimlaf Amser Presennol, Person 1 af Unigol Teimlaf i fel petai’r byd ar ben rŵan. Rhagenw Tag amser 1 a) Defnyddiwch y canlynol mewn brawddegau gwreiddiol, un ymhob brawddeg, i ddangos yn eglur eu hystyron a’u defnydd: [5 x 2 =10] 1. 2. 3. 4. 5. Rhedaf Anghofiais Gwisgai Dywedwn i Byddwn i
Cwestiwn 1 a) – berfau amhersonol 1 a) Defnyddiwch y canlynol mewn brawddegau gwreiddiol, un ymhob brawddeg, i ddangos yn eglur eu hystyron a’u defnydd: [5 x 2 =10] e. e. i) Penderfynwyd ‘gan’ Berf Amhersonol, Amser Gorffennol Tag amser Penderfynwyd gan y cadeirydd yn y cyfarfod neithiwr na fyddai’r neuadd yn cau. ****** Ni ddylid treiglo ar ôl berf amhersonol! ***** 1 a) Defnyddiwch y canlynol mewn brawddegau gwreiddiol, un ymhob brawddeg, i ddangos yn eglur eu hystyron a’u defnydd: [5 x 2 =10] 1. Gwelwyd 2. Credir 3. Cenir 4. Defnyddid
- Slides: 4