Cludiant oddi wrth at arwynebau cyfnewid BY 2
Cludiant oddi wrth / at arwynebau cyfnewid BY 2. 3 Mae sylweddau yn cael eu cludo oddi wrth arwynebau cyfnewid ac atynt. • Systemau cylchrediad y gwaed.
Systemau cludiant • Mae gan anifeiliaid amlgellog system ar gyfer cludo sylweddau. • Mae angen system cludiant ar gyfer cludo maetholynnau ac ocsigen i’r celloedd, ac i gludo carbon deuocsid a chynnyrch gwastraff metabolaidd o’r celloedd. • Mae gan anifeiliaid mawr system cylchrediad y gwaed ar gyfer cludiant.
Cylchrediad Agored http: //www. biosci. uga. edu/almanac/bio_104/notes/may_7. html • Mae gan pryfed system gylchrediad agored. • Mae calon siap tiwb dorsal a cheudod llawn hylif (haemocoel)
Cylchrediad Agored • Mae’r gwaed yn y haemocoel (ceudod gwaed) fel baddon i organau’r corff. • Bydd gwaed o’r organau yn ail-ymuno a’r cylchrediad trwy falfiau yn y calon siap tiwb, ac yna ei ail-gylchredeg. • Nid yw nwyon resbiradol yn cael eu cludo gan system cylchrediad y gwaed (yn hytrach caiff nwyon eu cludo yn y system draceol).
System Gylchrediad Gaeedig . http: //www. biosci. uga. edu/almanac/bio_104/notes/may_7. html Symudir y gwaed ar hyd y bibell dorsal i’r pen gan gyfangiadau yn y pibellau gwaed, sy’n gwthio gwaed ymlaen mewn tonnau (peristalsis). • Mae system gylchrediad gaeedig gan y pryf genwair. • Caiff gwaed ei gau yn y system a bydd o dan wasgedd. • Mae yna dwy fath o bibell waed yn y pryfyn genwair - dorsal (i’r pen) a fentrol (i’r cynffon).
System Gylchrediad Gaeedig . http: //www. biosci. uga. edu/almanac/bio_104/notes/may_7. html Mae’r system yma yn cludo nwyon resbiradol – mae’r croen tennau/llais yn gweithredu fel yr arwyneb rebiradol ar gyfer cyfnewid nwyon. • Mae yna 5 par o ffuggalonau (falfiau/pympiau aortig) sy’n gweithredu fel pympiau. • Maent yn gwthio’r gwaed i’r bibell fentrol. • Mae’r system yma ychydig yn fwy effeithiol na system agored.
http: //universe-review. ca/R 10 -33 -anatomy. htm Systemau Gylchrediad Gaeedig • Closed
System Cylchrediad y Gwaed mewn mammolion (Bodau Dynol) • • System Cylchrediad y Gwaed. Cylchrediad Dwbl. Y galon a phibellau gwaed. Newidiadau mewn pwysedd yn y pibellau gwaed. • Rôl y modd sinwatraidd a ffibrau Purkinje. • Cylchred y Galon.
System Cylchrediad mewn Bodau Dynol • Mae’r system cylchrediad mewn bodau dynol yn cynnwys y galon a’r pibellau gwaed. • Mae’n system gaeedig. http: //www. integrativebiology. ox. ac. uk/circulation. html
System Cylchrediad mewn Bodau Dynol • System cludiant yw’r system cylchrediad, sy’n cario gwaed o amgylch y corff i holl feinweoedd y corff. Mae’n gylchrediad dwbl Dim angen dysgu’r enwau uchod http: //www. daviddarling. info/encyclopedia/C/circulatory_system. html
System Cylchrediad mewn Bodau Dynol Ysgyfaint Corff • Mae’r system cylchrediad mewn bodau dynol yn gylchrediad dwbl. • Y naill gylchrediad o’r galon i’r ysgyfaint ac yn ôl (cylchrediad ysgyfeiniol); a’r llall o’r galon i’r corff ac yn ôl (cylchrediad systemig).
Y Galon mewn bodau dynol Fena Cafa Uwch Rhydweli ysgyfeiniol Gwythïen ysgyfeiniol Atriwm dde Atriwm chwith Fentrigl chwith Falf ysgyfeiniol Falf deirlen Dde (Falf feitrol ddwylen) Falf Fentrigl dde Fena Cafa Mewnol http: //commons. wikimedia. org/wiki/File: Diagram_of_the_human_heart_(multilingual). svg Falf aortig Chwith
Y Galon mewn bodau dynol • Golwg o’r galon o’r tu allan. • Gellir gweld pibellau’r galon (rhydweli a gwythïen) o’r tu allan – mae’r rhain yn rhoi gwaed i’r galon. http: //en. wikipedia. org/wiki/Human_heart
Y Galon Atriwm Dde Fentrigl Dde Pedair siambr y galon Atriwm Chwith Fentrigl Chwith
Rhydweli ysgyfeiniol Falf Gilgant (Falf Fena ysgyfeiniol) cafa (prif wythïen) Falf Deirlen Tendonau Wal denau y fentrigl dde Y Galon Aorta (Prif Rydweli) Falf Gilgant (Falf aortig) Falf ysgyfeiniol Falf Ddwylen (Feitrol) Wal dew y fentrigl chwith
Y Galon Rhydweli ysgyfeiniol Falf Fena Cafa (Prif Wythïen) Falf atrio-fentriglaidd (Teirlen) Tendonau Wal denau’r fentrigl dde Aorta (Prif Rydweli) Gwythïen ysgyfeiniol Falf atriofentriglaidd (Falf ddwylen neu feitrol) Wal dew y fentrigl chwith
Y Galon Cario gwaed I’R Pulmonary Artery ysgyfaint Atal gwaed rhag llifo’n ôl i’r galon Cario gwaed o’r corff Atal gwaed rhag llifo’n ôl o’r fentrigl i’r atriwm Cario gwaed o’r galon I’R corff Cario gwaed o’r ysgyfaint I’R galon Atal gwaed rhag llifo’n ôl o’r fentrigl i’r atriwm Dal fflap y falf yn agored fel ymbarél Fentrigl dde yn pwmpio gwaed i’r ysgyfaint yn unig Mae’r fentrigl chwith yn pwmpio gwaed i bob rhan o’r corff ar wahân i’r ysgyfaint
Gwaed yn cario ocsigen neu garbon deuocsid? Rhydweli ysgyfeiniol Gwaed yn llawn carbon deuocsid i’r ysgyfaint Fena cafa (Prif wythïen) Gwaed yn llawn carbon deuocsid, a dim ond ychydig o ocsigen o’r corff I’R galon Y Galon Gwaed yn llawn ocsigen O’R galon i bob rhan o’r corff (Prif Aorta Rydweli) Gwythïen ysgyfeiniol Gwaed yn llawn ocsigen O’R ysgyfaint I’R galon Dangosir gwaed sy’n cario ocsigen mewn coch a charbon deuocsid mewn glas ( ddim fel yma mae’n
Golwg o’r ochr Falfiau’r Galon Falf feitrol Falf deirlen Falf aortig Falf ysgyfeiniol • Mae dwy set o falfiau’r galon. • Falfiau rhwng yr atria a’r gwythienigau a’r falfiau ar waelod rhydwelïau’r galon. • Mae’r ddwy set o falfiau yn atal gwaed rhag llifo’n ôl. http: //www. heart-valve-surgery. com/anatomy-valve-problems-stenosis-regurgitation. php
Falfiau’r Galon Cysbiau falf feitrol Ar gau Ar agor tendonau llac tynn cyhyrau ymlacio cywasgu a) Falf ar agor b) Falf ar gau • Mae’r falfiau atrio-fentriglaidd (teirlen a dwylen) yn atal gwaed rhag llifo’n ôl o’r fentrigl i’r atriwm yn ystod systole fentriglaidd. Mae tendonau yn cael eu tynnu pan fydd y falfiau yn cau i’w hatal rhag gwrthdroi. http: //www. harunyahya. com/books/science/blood_heart_11. php
http: //en. wikipedia. org/wiki/Cardiac_muscle Cyhyr y Galon • Cyhyr y galon yn myogenig – mae’n “hunan gyffroadwy”. • Golyga hyn y gall gyfangu ac ymlacio ar ei ben ei hun – dyma sy’n rhoi curiad calon. rhychiadau Disg wedi’i rhoi i mewn
Pibellau gwaed I’r galon O’r galon Gwythïen Rhydweli Haen allanol meinweoedd Gwythienigau Cynhyrchion gwastraff Haen fewnol Ocsigen a maetholion Cyhyr Rhydwelïynnau Pibellau gwaed (trawstoriad) Capilarïau http: //www. merck. com/mmhe/sec 03/ch 020 c. html Gwythïen Rhydweli Capilari
Pibellau gwaed Rhydweli Gwythïen http: //kvhs. nbed. nb. ca/gallant/biology/blood_vessels. html Endotheliwm Falf Pilen waelodol Endotheliwm Cyhyr llyfn Capilari Meinwe gyswllt Cyhyr llyfn Meinwe gyswllt Gwythïen Rhydweli Rhydwelïyn Gwythiennig
Pibellau gwaed Gall rhydwelïynnau newid diamedr ar gyfer newid cyflenwad gwaed i organ- meinwe. Gwythïen Rhydweli Rhydwelïyn Gwythiennig Capilarïau • • • Rhydwelïau yn cario gwaed i ffwrdd o’r galon Gelwir rhydwelïau llai yn rhydwelïynnau. Capilarïau yw’r pibellau gwaed lleiaf. Gwythiennau bach yw Gwythienigau. Gwythiennau yn cario gwaed yn ôl i’r galon. Image from http: //www. bbc. co. uk/schools/gcsebitesize/pe/appliedanatomy/0_anatomy_circulatorysys_rev_print. shtml
Cymharu Rhydwelïau a Gwythiennau Gwythïen Rhydweli Tunica intima (celloedd endothelaidd) Falf Elastin Tunica media (cyhyr llyfn) Tunica externa (meinwe gyswllt ffibrog rydd) Serosa (celloedd endothelaidd) http: //www. coryi. org/cardiology/index. htm
Rhydwelïau – cario gwaed o’r galon http: //www. nlm. nih. gov/medlineplus/ency/imagepages/19194. htm Rhydweli Tunica initma: endotheliwm sy’n gorchuddio lwmen pob pibell Tunica media: celloedd cyhyr llyfn a ffibrau elastig Tunica adventitia: ffibrau cologen • Mae gan rydwelïau lwmen gymharol fach, ond haen dew o gyhyr llyfn a ffibrau elastig. • Mae gwaed yn y rhydwelïau dan bwysedd uchel (10 -16 k. Pa). Mae’r haen dew o gyhyr ac elastig yn helpu i’r rhydweli wrthsefyll pwysedd gwaed uchel pan gaiff gwaed ei bwmpio o’r galon.
Llif gwaed mewn rhydweli • Wrth i waed gael ei wthio i mewn i rydweli, mae cyfaint a phwysedd gwaed mwy yn achosi i’r rhan honno o’r rhydweli CHWYDDO. Mae’r ffibrau elastig a’r ffibrau cyhyrau, er hynny, yn ADLAMU fel sbring, gan wthio’r gwaed yn ei flaen ar hyd y rhydweli. • Mae’r gwaed yn y rhydwelïau yn teithio mewn CURIADAU wrth i’r galon guro (pwmpio allan) ac yn ymlacio bob yn ail.
Capilarïau http: //www. moosey. net/June 2004/Jun 04 F 08. htm Mae’r pwysedd gwaed mewn capilarïau yn gostwng o tua 4 k. Pa i 1 k. Pa. Mae’r gwaed yn llifo’n araf mewn capilarïau ac nid oes curiadau. • Llif gwaed yn araf – hyn yn gymorth ar gyfer cyfnewid sylweddau gyda’r hylif meinweol. • Capilarïau yn cysylltu rhydwelïau a gwythiennau. • Dyma ble mae defnyddiau yn cael eu cyfnewid rhwng y gwaed a meinwe’r corff. • Un gell o drwch yw’r waliau, ac maent yn athraidd. • Mae ganddynt lwmen mwy mewn perthynas â’u diamedr.
© Queen's Printer for Ontario, 2009 http: //www. wsiat. on. ca/english/wsiat. Docs/mlo/venous_screen. htm Gwythiennau – cario gwaed i’r galon Falf boced • Mae gan wythiennau lwmen fawr a haen deneuach o ffibrau elastig a ffibrau cyhyrau o gymharu â rhydwelïau. • Mae ganddynt falfiau poced sy’n helpu i rwystro gwaed rhag llifo’n ôl yn y gwythiennau mwy. Mae’r lwmen mwy mewn gwythiennau yn golygu eu bod yn cario cyfaint mwy o waed, er hynny, mae’r gwaed yn y gwythiennau dan bwysedd llawer is na’r gwaed yn y rhydwelïau (1 k. Pa o gymharu â 10 -16 k. Pa yn y rhydwelïau). Mae gwaed yn llifo’n araf yn y gwythiennau heb bwls (yn ddirhythmig).
Ymarfer corff yn helpu cylchrediad! Llif gwaed Falf http: //medical. merriam-webster. com/mw/art/med/varicose. htm • Mae’r falfiau yn y prif wythiennau yn helpu gwaed rhag llifo i’r cyfeiriad anghywir. • Mae cyfangiadau cyhyrol yn helpu i wthio gwaed yn ei flaen yn y gwythiennau, ac felly yn helpu gyda chylchrediad y gwaed yn gyffredinol.
Cymharu Rhydwelïau a Gwythiennau Golwg microsgopig o rydweli a gwythïen. A= Rhydweli B=Gwythïen A http: //www. und. nodak. edu/dept/jcarmich/101 lab/lab 38. html B A B http: //universe-review. ca/R 10 -33 -anatomy. htm#mammals
Cymharu’r pibellau gwaed O BI 2 CBAC Ionawr 2006
Newid mewn pwysedd gwaed yn y pibellau gwaed • Mae pwysedd gwaed ar ei uchaf yn yr aorta ac yn lleihau yn y rhydwelïau llai. • Mae pwysedd gwaed yn gostwng yn sylweddol yn y capilarïau, oherwydd yr arwynebedd trawstoriadol mwy a chynnydd yn y ffrithiant. http: //courses. bio. psu. edu/Spr 2003/141_901/heartsounds-BP. html
Rheoli Curiad y Galon – cylchred y galon • Mae’r nod Sinoatriaidd (SAN), sef rheoliadur y galon, yn creu tonnau cyffroad sy’n gwasgaru dros yr atria ac sy’n achosi i’r atria gyfangu, gan bwmpio gwaed i’r fentriglau. Image www. healthyheart. nhs. uk
Cydlynu cylchred y galon Nod Sinoatriaidd Canghenau Sypyn His • Mae’r tonnau cyffroad yn cyrraedd y nod atriofentriglaidd (AVN) sy’n Nod atrio-fentriglaidd cario’r stimwlws at y sypyn atrio-fentriglaidd Sypyn His (sypyn His) sy’n cario’r signal trydanol at y ffibrau Purkinje. Mae hyn yn achosi i’r fentriglau gyfangu gan wthio gwaed allan drwy Ffibrau Purkinje rydwelïau’r galon. http: //www. eurobloodsubstitutes. com/heart. Circul. htm
Cylchred y Galon http: //library. med. utah. edu/kw/pharm/hyper_heart 1. html
Cylchred y Galon Mae’r atria (2 atriwm) yn llenwi gyda gwaed o’r GWYTHIENN AU yn gyntaf Mae’r ddwy falf atriofentriglaidd ar agor Mae’r galon wedi ymlacio –
Y Galon – Pwmpio (Diastole) Mae’r atria yn llenwi gyda gwaed o’r gwythiennau DIASTOLE mae’r galon wedi ymlacio – Atria yn llenwi gyda gwaed o’r gwythiennau
Cylchred y Galon Gwythiennau yn cau i atal gwaed rhag llifo’n ôl Yr atria yn cyfangu Y falfiau atriofentriglaidd yn agor Yr atria yn CYFANGU wedyn … Diastole – Y galon wedi ymlacio – mynd i systole atrïaidd
Cylchred y Galon (Systole Atrïaidd) SYSTOLE Atrïaidd – gwaed yn cael ei wthio o’r atria i’r fentriglau Mae’r fentriglau yn llenwi gyda gwaed Mae ton gyffroad yn dechrau yn y nod Sinoatriaidd ac yn gwasgaru dros yr atria gan achosi iddynt gyfangu, a gorfodi gwaed i mewn i’r fentriglau. Llai nag eiliad wedyn, mae’r fentriglau yn llenwi gyda gwaed
Cylchred y Galon (Systole Fentriglaidd) SYSTOLE Fentriglaidd – Fentriglau yn cyfangu Mae’r tonnau cyffroad yn symud yn gyflym o’r nod Sinoatriaidd i’r nod Atrio-fentriglaidd ac wedyn i lawr at y sypyn His, wedyn i fyny drwy’r Ffibrau Purkinje yn y muriau fentriglaidd. Mae’r falfiau atrio-fentriglaidd nawr wedi CAU oherwydd pwysedd y gwaed sy’n cael ei orfodi yn eu herbyn. Fentriglau yn CYFANGU Mae’r fentriglau yn cyfangu wedyn …. Dyma sy’n gwneud sŵn y curiad calon cyntaf!
Cylchred y Galon SYSTOLE Fentriglaidd – Fentriglau yn cyfangu Falfiau gilgant yn cael eu gorfodi i agor Gwaed yn cael ei bwmpio i’r rhydwelïau Llai nag eiliad wedyn, mae gwaed yn cael ei bwmpio allan o’r galon drwy’r rhydwelïau
Cylchred y Galon Diwedd SYSTOLE Fentriglaidd yn mynd i DIASTOLE Yr atria yn llenwi gyda gwaed eto Falfiau gilgant yn cau oherwydd y gwaed sy’n llifo’n ôl o’r rhydwelïau. Wrth i’r falfiau gau, mae hyn yn rhwystro mwy o waed rhag llifo’n ôl i’r fentriglau. Ac ailadroddir y broses gyfan Dyma sy’n gwneud sŵn yr ail guriad calon.
Cylchred y Galon SYSTOLE ATRÏAIDD Mae’r fentriglau yn llenwi gyda gwaed o’r atria.
Cylchred y Galon Systole Fentriglaidd Mae gwaed yn cael ei bwmpio i’r rhydwelïau
Cylchred y Galon DIASTOLE Mae’r atria yn llenwi gyda gwaed
Cylchred y Galon Systole Atrïaidd Mae’r fentriglau yn llenwi gyda gwaed ac rydym yn parhau …
Rheoli cyfradd y galon • Gellir newid gweithrediad y Nod Sinoatriaidd (rheoliadur) yn ôl anghenion y corff. • Mae’r galon yn cael signalau o fedwla’r ôlymennydd drwy ddau nerf: • Y nerf sympathetig sy’n cyflymu cyfradd y galon. • Cangen o’r nerf fagws sy’n arafu cyfradd y galon. • Gall hormonau hefyd newid cyfradd y galon.
Cyfradd y Galon • Cyfradd y Galon yn cynyddu gan: • Gynnydd mewn pwysedd gwaed yn y Fena Cafa. • Cynnydd mewn gwaed [CO 2]. • Lleihad mewn gwaed [O 2]. • Lleihad mewn p. H gwaed. • Cynnydd yn nhymheredd y corff (tymheredd graidd). • Hormon adrenalin yn cynyddu. • Cyfradd y Galon yn lleihau gan: • Leihad mewn pwysedd gwaed yn yr Aorta a’r rhydwelïau mawr. • Lleihad mewn gwaed [CO 2]. • Cynnydd mewn gwaed [O 2]. • Cynnydd mewn p. H gwaed. • Lleihad yn nhymheredd y corff (tymheredd graidd). • Adrenalin yn gostwng.
- Slides: 49