cliciwch ar y fath o ymholiad er mwyn

  • Slides: 11
Download presentation
*cliciwch ar y fath o ymholiad er mwyn darganfod mwy Arsylwi Prawf teg Chwilio

*cliciwch ar y fath o ymholiad er mwyn darganfod mwy Arsylwi Prawf teg Chwilio am batrymau 5 math o ymholiad Adnabod & Dosbarthu Ymchwil

Arsylwi dros gy fno do am ser Mae cwestiynau arsylwi yn rhoi'r cyfle i

Arsylwi dros gy fno do am ser Mae cwestiynau arsylwi yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion adnabod a mesur digwyddiadau a newidiadau mewn ystod o ffenomena (pethau byw, defnyddiau a phrosesau ffisegol neu ddigwyddiadau). Gall yr arsylwadau ddigwydd dros gyfnod byr o funudau neu oriau (e. e. diferion glaw yn anweddu), neu dros gyfnod hirach o wythnosau neu fiosedd (e. e. magu cywion). Addaswyd y diffiniad o ‘It’s not fair - or is it? ’ (Turner, Keogh, Lawrence & Naylor, 2011) Mae arsylwi dros gyfnod o amser yn darparu cyfleoedd i: • Wneud penderfyniadau ar beth a sut i arsylwi • Adnabod, mesur a chofnodi digwyddiadau a newidiadau yn ystod o ffenomena • Wneud rhagfynegiadau wrth i batrymau ymddangos dros gyfnod o amser Darllen Pellach Dyma enghreifftiau o gwestiynau ar gyfer arsylwadau: 1. Beth sy'n digwydd i hedyn pan ei fod yn egino? 2. Beth sy'n digwydd i fara os ydych chi'n ei adael mewn cwpwrdd llaith? 3. Beth sy'n digwydd i iâ yn eich llaw? 4. Beth sy'n digwydd i'ch cysgod yn ystod y dydd? 5. Beth sy'n digwydd i blanhigyn pan nad ydych chi'n rhoi dwr iddo? https: //seerih-innovations. org/enquiringscience 4 all/enquiries/observing-overtime https: //www. ogdentrust. com/assets/general/WS-observing-over-time. pdf https: //www. bbc. co. uk/bitesize/topics/z 2 ddmp 3/articles/zyyqfcw https: //pstt. org. uk/resources/curriculum-materials/types-enquiry https: //www. teachprimary. com/learning_resources/view/the-five-key-practicesevery-good-primary-science-teacher-should-know

Profion teg a chymharol Mae cwestiynau prawf teg yn gwneud cymariaethau, yn aml maen

Profion teg a chymharol Mae cwestiynau prawf teg yn gwneud cymariaethau, yn aml maen nhw'n ceisio darganfod beth yw'r "gorau" neu'r "mwyaf". • Mae profi'n deg yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion ymchwilio'r berthynas achosol rhwng dau newidyn. E. e. ydy uchder y llethr yn effeithio ar gyflymder y car yn rholio lawr os yw popeth arall yn aros yr un peth? • Mae profion cymharol yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion gymharu un digwyddiad gydag un arall E. e. ydy'r car coch yn teithio'n gyflymach na'r car gwyrdd? Addaswyd y diffiniad o ‘It’s not fair - or is it? ’ (Turner, Keogh, Lawrence & Naylor, 2011) Mae profi'n deg a gwneud cymariaethau yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion: • Adnabod a deall bod un peth (newidyn) yn effeithio ar rywbeth arall • Adnabod pan fod profion yn deg • Creu cwestiynau prawf teg eu hunain • Archwilio'r newidynnau a allai gael effaith • Adnabod newidynnau • Adnabod y gwahaniaethau maen nhw wedi'u harsylwi • Deall sut i fesur neu arsylwi'r effeithiau Dyma enghreifftiau o gwestiynau ar gyfer prawf teg: 1. Pa ddefnydd sydd orau ar gyfer cadw Tedi'n sych? 2. Ble bydd planhigion yn tyfu talaf? 3. Pa fagnet yw'r cryfaf? 4. Pa bowdr golchi yw'r gorau i lanhau staeniau? 5. Pa ddefnydd yw'r mwyaf addas i fod yn wrth-ddwr? Darllen Pellach https: //www. ogdentrust. com/assets/general/WS-fair-tests_February-2020. pdf https: //www. ogdentrust. com/assets/general/WS-comparative-testing. pdf https: //seerih-innovations. org/enquiringscience 4 all/enquiries/comparative-fairtesting https: //pstt. org. uk/resources/curriculum-materials/types-enquiry https: //www. teachprimary. com/learning_resources/view/the-five-key-practicesevery-good-primary-science-teacher-should-know

Ymchwilio gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd Mae ymchwil yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion ddysgu sut

Ymchwilio gan ddefnyddio ffynonellau eilaidd Mae ymchwil yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion ddysgu sut i ateb eu cwestiynau eu hunain pan nad oes modd cynnal arbrawf, efallai am resymau diogelwch neu nad yw'n ymarferol. Addaswyd y diffiniad o ‘It’s not fair - or is it? ’ (Turner, Keogh, Lawrence & Naylor, 2011) Mae'r math hwn o ymholiad yn helpu disgyblion: • Gwerthuso ffynonellau • Gwahaniaethu rhwng ffaith a barn • Adnabod tystiolaeth sy'n gwrthdaro a deall bias Mae ffynonellau ar gyfer dysgwyr yn cynnwys: • Ymweliadau addysgiadol • Amgueddfeydd • Ffatrioedd / Cysylltiadau diwydiant • Ymweliadau gan wyddonydd go iawn er mwyn ateb cwestiynau • Llyfrau • Meddalwedd digidol a'r we Dyma enghreifftiau o gwestiynau ar gyfer ymchwilio: 1. Pam fod y rhan fwyaf o'n bwyd yn cael ei storio ym mhlastig? 2. Pam fod lefelau eogiaid yn lleihau? 3. Pam fod llewod yn byw mewn gwledydd twym? 4. Pam fod mwy o bryfed cop yn ein Darllen Pellach tai yn ystod y gaeaf? 5. Pam nad yw bob https: //www. ogdentrust. com/assets/general/WS-research. pdf car newydd yn cael ei greu i weithio https: //www. theschoolrun. com/research-skills-for-children gyda phaneli solar yn lle tanwydd https: //seerih-innovations. org/enquiringscience 4 all/enquiries/research-usingsecondary-sources trydan neu betrol? https: //pstt. org. uk/resources/curriculum-materials/types-enquiry https: //www. teachprimary. com/learning_resources/view/the-five-key-practicesevery-good-primary-science-teacher-should-know

Adnabod, dosbarthu a grwpio Mae'r math hwn o ymholiad yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion

Adnabod, dosbarthu a grwpio Mae'r math hwn o ymholiad yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion ddeall sut mae'r byd yn cael ei drefnu a sut mae ganddo wahanol nodweddion a phriodweddau. • Adnabod yw'r broses o ddefnyddio gwahaniaethau er mwyn enwi rhwybeth • Dosbarthu yw trefnu pethau mewn i grwpiau. Addaswyd y diffiniad o ‘It’s not fair - or is it? ’ (Turner, Keogh, Lawrence & Naylor, 2011) Mae Adnabod a Dosbarthu yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion: • Cymharu a chyferbynnu amrywiaeth o ffenomena o'u cwmpas • Enwi a dosbarthu nodweddion a phriodweddau gan ddefnyddio eu sgiliau arsylwi • Trefnu, adnabod a dosbarthu pethau byw ac anfyw Dyma enghreifftiau o gwestiynau ar gyfer adnabod a dosbarthu ffonomena: 1. At ba fath o flodau aeth y gwenyn? 2. Pa fath o goed sydd yn y goedwig leol? 3. Oes pedwar coes gan bob peth byw 4. Oes sgerbwd gan bob peth byw? 5. Ydy pob defnydd yn anhyblyg? Darllen Pellach https: //www. ogdentrust. com/assets/general/WS-identifying-and-classifying. pdf https: //seerih-innovations. org/enquiringscience 4 all/enquiries/identifyingclassifying-grouping https: //www. stem. org. uk/news-and-views/opinions/ideas-teachingidentification-and-classification-primary-classroom https: //pstt. org. uk/resources/curriculum-materials/types-enquiry https: //www. teachprimary. com/learning_resources/view/the-five-key-practicesevery-good-primary-science-teacher-should-know

am ilio Chw au m y atr b Mae chwilio am batrymau yn golygu

am ilio Chw au m y atr b Mae chwilio am batrymau yn golygu cynnal arsylwadau neu a rolygon lle nad yw'n hawdd rheoli'r newidynnau. Rhaid ate b yr ymholiad trwy adnabod patrymau yn y canlyniadau. Hefyd gall ddysgwyr gasglu a dehongli data o ffynonellau eilaidd. Maen nhw'n gwneud arsylwadau a chynnal arolygon lle nad yw'n hawdd rheoli'r newidynnau am resymau ymarferol neu foesegol. Addaswyd y diffiniad o ‘It’s not fair - or is it? ’ (Turner, Keogh, Lawrence & Naylor, 2011) Mae chwilio am batrymau yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion: • Gynllunio yr hyn mae'n rhaid iddyn nhw ei ddarganfod • Gasglu gwybodaeth • Adnabod patrymau • Dynnu casgliadau gwybodus o'r patrymau maen nhw wedi'u darganfod Dyma enghreifftiau o gwestiynau ar gyfer chwilio am batrymau: 1. Ydy bob math o aderyn yn bwydo ar yr un amser o'r dydd? 2. Pa flodau sy'n well gan wenyn? 3. Oes gan bob afal yr un nifer o hadau? 4. Ydy pobl gyda'r coesau hiraf yn neidio bellaf 5. Ydyn ni i gyd yn heneiddio ar yr un cyflymder? 6. Ydy hi bob amser yn boeth pan fod yr haul yn tywynnu? Darllen Pellach https: //www. ogdentrust. com/assets/general/WS-pattern-seeking. pdf http: //primaryscienceonline. org. uk/glossary-of-terms/pattern-seeking/ https: //www. bbc. co. uk/bitesize/topics/z 2 ddmp 3/articles/zw 3 xb 82 https: //pstt. org. uk/resources/curriculum-materials/types-enquiry https: //www. teachprimary. com/learning_resources/view/the-five-key-practicesevery-good-primary-science-teacher-should-know

Dilyniant yng ngwyddoniaeth Bydd dylunio cwricwlwm gwyddoniaeth cytbwys ac eang yn eich ysgol yn

Dilyniant yng ngwyddoniaeth Bydd dylunio cwricwlwm gwyddoniaeth cytbwys ac eang yn eich ysgol yn cefnogi dilyniant yn y dysgu. Yr allwedd i sicrhau hyn yw darparu cyfloeoedd i'r disgyblion ddysgu trwy bob math o ymholiad. • • • Lle bynnag mae'n bosibl dylech chi ddefnyddio'r cwestiynau mae'r disgyblion yn eu gofyn fel sbardun i'r ymchwiliad. Fel yr athro / athrawes dylech chi hwyluso'r dysgu trwy sicrhau bod y math o ymholiad yn addas i'r dysgwyr dynnu casgliad i'r cwestiwn a ofynwyd. Mae'n hanfodol bod cyfleoedd addysgu gwybodaeth wyddonol yn cael eu cynnwys yng ngwersi er mwyn cynorthwyo dealltwriaeth y disgyblion o gysyniadau a phatrymau sy'n digwydd yn ystod dysgu trwy ymholiad. Bydd disgyblion sydd â gwybodaeth wyddonol dda yn gallu rhoi rhagyfnyegiadau synhwyrol, realistig a thynnu casgliadau o'u hymholiadau sy'n gyson a'u dealltwriaeth wyddonol. Yma https: //www. gwegogledd. cymru/wp-content/uploads/2018/06/Atodiad-2 Lefelau-Gwyddoniaeth. pdf byddwch chi'n ffeindio llinynnau dilyniant y disgrifiadau lefel gwyddoniaeth CA 2 a CA 3 yng Nghymru.

Syniadau Ymholiadau ar gyfer Blwyddyn 3 Prawf teg/ Prawf cymharol Adnabod a dosbarthu Sut

Syniadau Ymholiadau ar gyfer Blwyddyn 3 Prawf teg/ Prawf cymharol Adnabod a dosbarthu Sut mae hyd coesyn y blodyn yn effeithio ar amser y lliw bwyd i gyrraedd y petalau? Sawl ffordd wahanol allwch chi grwpio eich casgliad o hadau? Pa eli corff sy'n gwneud fy nghroen deimlo'n llyfnach? Arsylwi dros amser Chwilio am batrymau Ymchwil Beth sy'n digwydd i seleri wrth ei adael mewn gwydraid o ddwr lliw? Pa liw blodau sydd orau gan bryfed peillio? Beth yw bob ffordd i wasgaru hadau? Sut mae sgerbydau gwahanol anifeiliad yn cymharu? Sut mae ein sgerbydau yn newid dros amser? (o enedigaeth i farwolaeth) Oes gan fodau dynol gwrywaidd benglogau mwy na bodau dynol benywaidd? Pam fod gwahanol fathau o fitaminau yn ein cadw ni'n iach? Ym mha fwydydd gallwn ni eu ffeindio? A ydy lefel y golau yr un peth mewn coediwg fythwyrdd a chollddail? Sut fyddech chi'n grwpio'r planhigion a'r anifeiliaid hyn ar sail eu cynefinoedd? Sut mae pwll yr ysgol yn newid yn ystod y flwyddyn? Ym mha amodau mae moch y coed yn hoffi bwy? Sut mae anifeiliaid Awstralia yn wahanol i anifeiliaid Prydain? Pa fagnet yw'r cryfaf? Pa ddefnyddiau sy'n fagnetig? Os ydyn ni'n magneteiddio pin am faint fydd yr effaith yn para? Ydy pob defnydd magnetig yn dargludo trydan? Sut mae ein syniadau am rymoedd wedi newid dros amser? Sut mae pellter rhwng pyped cysgod a sgrîn yn effeithio ar faint y cysgod? Sut fyddech chi'n dosbarthu'r ffynonellau goleuni hyn i naturiol ac wedi'u gwneud gan ddyn? Ydy'r haul yr un mor llachar trwy'r dydd? Ydych chi'n fwy tebygol o gael golwg gwael a gwisgo sbectol os ydych chi'n hŷn? Sut mae'r haul yn cynhyrchu goleuni?

Syniadau Ymholiadau ar gyfer Blwyddyn 4 Prawf teg/ Prawf cymharol Adnabod a dosbarthu Arsylwi

Syniadau Ymholiadau ar gyfer Blwyddyn 4 Prawf teg/ Prawf cymharol Adnabod a dosbarthu Arsylwi dros amser Chwilio am batrymau Ymchwil Yn ein dosbarth ydy'r hollysyddion yn dalach na'r llysieuwyr? Beth yw enw bob organ yn y system dreulio? Sut mae plisgyn wŷ yn newid os ydyn ni'n ei adael mewn gwydraid o cola? Ydy bwydydd sy'n cynnwys llawer o egni bob tro yn cynnwys llawer o siwgr? Sut mae deintyddion yn trwsio dannedd sydd wedi torri? Ydy lefel y golau yn effeithio ar faint o foch y coed sy'n symud? Oes modd defnyddio allwedd ddosbarthu er mwyn enwi bob creadur o'r pwll? Sut mae amrywiaeth yr infertebratau ar gae'r ysgol yn newid dros y flwyddyn? Pa effaith mae prifleiddiaid wedi cael ar boblogaeth gwenyn? Pam fod pobl yn torri lawr coedwigoedd glaw a beth yw'r effeithiau? Sut mae trwch defnydd dargludo yn effeithiol ar ba mor llachar mae'r lamp? Sut allwn ni ddosbarthu'r offer trydanol ar sail eu ffynonellau trydanol? Am ba mor hir fydd batri mewn torts yn gweithio? Ym mha ystafell yn y tŷ mae'r nifer fwyaf o socedi trydan? Sut mae bwlb golau yn gweithio? Sut mae hyd llinyn gitar yn effeithio ar draw? Pa ddefnydd sydd orau i greu amddiffynwyr clustiau sy'n atal seiniau? Pryd mae'r amser tawelaf yn ein dosbarth? Oes cysylltiad rhwng lefel y sŵn yn yr ysgol ac amser y dydd? Oes gan bob anifail yr un ystod clyw? Sut mae màs bloc o iâ yn effeithio ar ei amser ymdoddi? Sut fyddech chi'n dosbarthu'r defnyddiau / gwrthrychau hyn ar sail eu tymheredd? Sut fyddai lefel y dŵr mewn gwydraid yn newid pe bawn ni'n ei adael ar silff ffenestr? Oes patrwm yn amseroedd ymdoddi lolis iâ gwahanol feintiau? Beth ydy corwyntoedd a pham maen nhw'n digwydd?

Syniadau Ymholiadau ar gyfer Blwyddyn 5 Prawf teg/ Prawf cymharol Adnabod a dosbarthu Arsylwi

Syniadau Ymholiadau ar gyfer Blwyddyn 5 Prawf teg/ Prawf cymharol Adnabod a dosbarthu Arsylwi dros amser Chwilio am batrymau Ymchwil Sut mae oedran yn effeithio ar amseroedd ymateb bodau dynol? Sut mae ffeuen yn newid wrth iddo egino? Oes cysylltiad rhwng maint Pam fod gwallt pobl yn troi'n mamolyn a'i gyfnod cyfebru? llwyd neu'n wyn wrth iddyn nhw heneiddio? Sut mae arwynebedd arwyneb yn effeithio ar amser suddo gwrthrych? Allwch chi enwi a labelu bob grym sydd ar waith ar y gwrthrychau hyn ymhob un o'r sefyllfaoedd hyn? Am faint o amser bydd pendil yn siglo cyn iddo stopio? Ydy pob gwrthrych yn cwympo trwy ddŵr yn yr un ffordd? Ydy llongau tanfor yn suddo os ydyn nhw'n llawn aer? Sut mae nifer o oriau o olau dydd yn newid yn ôl y tymhorau? Sut allwch chi grwpio bob gwrthrych yng nghysawd yr haul? Allwch chi arsylwi ac adnabod bob cyfnod yng nghylch y lleuad? Oes cysylltiad rhwng maint planed a'r amser mae'n ei gymryd i deithio o amgylch yr haul? Pa wrthrychau anarferol a ddarganfyddwyd gan Jocelyn Bell Burnell ? Pa fath o siwgr sy'n hydoddi'r cyflymaf? Allwch chi grwpio'r defnyddiau hyn ar sail os ydyn nhw'n dryloyw neu beidio? Sut mae cynhwysydd o ddŵr hallt / heli yn newid dros amser? Ydy bob defnydd ymestynnol yn ymestyn yn yr un ffordd? Beth ydy microplastigau a sut maen nhw'n niweidio'r blaned? Pa ddefnydd sy'n rhydu'n gyflymaf / arafaf? Allwch chi adnabod a dosbarthu yr adweithiau hyn i grwpiau cildroadwy ac anghildroadwy? Allwch chi ddisgrifio nodweddion tebyg a gwahanol y grwpiau? Sut mae hoelen yn nŵr hallt / heli yn newid dros amser? Sut mae faint o bicarbonad soda, hylif golchi llestri a finegar yn effeithio ar yr adwaith? Beth ydy deunyddiau clyfar a sut allen nhw ein helpu?

Syniadau Ymholiadau ar gyfer Blwyddyn 6 Prawf teg/ Prawf cymharol Adnabod a dosbarthu Arsylwi

Syniadau Ymholiadau ar gyfer Blwyddyn 6 Prawf teg/ Prawf cymharol Adnabod a dosbarthu Arsylwi dros amser Chwilio am batrymau Ymchwil Pa fath o ymarfer corff sy'n cael yr effaith fwyaf ar guriad y galon? Pa organau sy'n ffurfio'r system gylchrediad? Ble maen nhw? Sut mae fy nghuriad calon yn newid yn ystod y dydd? Oes patrwm rhwng beth rydyn ni'n bwyta i frecwast a pha mor gyflym rydyn ni'n gallu rhedeg? Sut maen ein syniadau am foddion ac afiechydon wedi newid dros amser? Ydy haen o fraster yn addasiad defnyddiol ar gyfer amgylcheddau dŵr oer? Cymharu sgerbydau epaod, bodau dynol a Neanderthaliaid – sut maen nhw'n debyg neu'n wahanol? Sut mae sgerbydau ceffylau wedi newid dros amser? Oes patrwm rhwng maint a siâp pîg aderyn a'r bwyd mae'n ei fwyta? Pa syniadau oedd gan y genetegydd Americanaidd Barbara Mc. Clintock am enynnau a enillodd y wobr Nobel iddi? Sut mae'r tymheredd yn effeithio ar faint o nwy sy'n cael ei gynhyrchu gan furum? Sut fyddech chi'n creu allwedd ddosbarthu ar gyfer fertebratau/infertebratau neu ficro-organebau? Beth sy'n digwydd i ddarn o fara os ydych chi'n ei adael ar silff ffenestr am bythefnos? Oes gan bob blodyn yr un nifer o betalau? Beth mae gwahanol fathau o ficro – organebau yn ei wneud? Ydyn nhw wastad yn niweidiol? Pa fath o ffrwythau sy'n gwneud batri ffrwyth gorau? Sut fyddech chi'n grwpio offer a chydrannau trydannol ar sail eu defnydd o drydan? Sut mae disgleirdeb bwlb yn newid wrth i'r batri redeg mas? Ydy tymheredd bwlb golau yn cynyddu po hiraf mae e ymlaen? Sut mae ein dealltwriaeth o drydan wedi newid dros amser? Sut mae'r ongl lle mae peldydr golau yn taro drych yn effeithio ar yr ongl adlewyrchu? Pa liwiau ydych chi'n cynhyrchu trwy gymysgu lliwiau golau? Sut mae fy nghysgod yn newid yn ystod y dydd? Oes patrwm i ba mor llachar mae e yn yr ysgol yn ystod y dydd? Os oes patrwm ydy e yr un peth ymhob ystafell ddosbarth? Sut mae ein llygaid yn addasu ar gyfer gwahanol amodau?