Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi Nodiadau ychwanegol Mererid
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi Nodiadau ychwanegol – Mererid Hopwood – – Cymharu Cerddi Mererid Hopwood Pob llun unai yn eiddo cyhoeddus neu dan drwydded ‘creative commons’. Ysgrifen coch yn fotwm
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi Cyflwyniad – Mererid Hopwood – – Beth yw pwrpas ‘cymharu cerddi’? Craffu … Darllen Agos … Mynd i berfeddion … Mynd dan groen … Gwerthfawrogi … Dod i garu cerddi Esgus dros fwynhau Joyo mas draw
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi – Mererid Hopwood – – 1. Arfau Allweddol 2. Crefft Cymharu 3. Cymharu Dwy Gerdd Cynnwys
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 1. Arfau Allweddol – Mererid Hopwood – – Technegau Trafod Cerddi y llythyren hon y sillaf hon y gair hwn y llinell hon y darn hwn yr adran hon y pennill hwn y gerdd hon y ddelwedd hon y gyffelybiaeth hon y gymhariaeth hon y personoliad hwn y syniad hwn y trosiad hwn y rhythm hwn y sill hwn/hon yr arddull hwn/hon
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 1. Arfau Allweddol – Mererid Hopwood – – Technegau Trafod Cerddi Cynildeb: • • pluen nid gordd Gellir dweud bod y llinell hon … O bosib, bwriad y bardd fan hyn yw … Yr hyn mae’r ddelwedd hon yn ei gyfleu yw … Wrth ddarllen y pennill hwn y syniad a ddaw i ni yw …
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 1. Arfau Allweddol – Mererid Hopwood – – Technegau Trafod Cerddi Gwrthrychol person cyntaf lluosog neu’r amhersonol Gwelwn fod … Gwelir bod … Teimlwn wres yr haf Teimlir gwres yr haf Cawn ddarlun trist Ceir darlun trist athro. . . DS – nid yw hyn gyfystyr â chau allan ymateb personol – mater o fynegi’r ymateb hwnnw mewn dull pwyllog yw hi; h. y. osgoi’r ‘mae fe’n rybish, mae fe’n bril, cos mae fe yn
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 1. Arfau Allweddol – Mererid Hopwood – – Technegau Trafod Cerddi Osgoi malu awyr Manylu nid cyffredinoli https: //www. flickr. com/photos/coreyburger/with/4 802829390/ Mae’r ddelwedd a geir yn y drydedd linell yn effeithiol oherwydd ei bod yn …
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 1. Arfau Allweddol – Mererid Hopwood – – Technegau Trafod Cerddi Craffu a mynd dan groen cerdd Clywed: Sŵn / Sain Cyflythrennu Cytseinedd Odl Rhythm Cyseinedd Ail-adrodd
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 1. Arfau Allweddol – Mererid Hopwood – – Technegau Trafod Cerddi Craffu a mynd dan groen cerdd Gweld: Darlun / Delwedd Cyffelybiaeth Cymhariaeth Trosiad Personoliad
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 1. Arfau Allweddol – Mererid Hopwood – – Technegau Trafod Cerddi Craffu a mynd dan groen cerdd Chwilio am ystyr…. Dylid craffu ar 1. y teitl 2. yr agoriad 3. y clo er enghraifft. . . Y Llwynog Ganllath o gopa’r mynydd … Digwyddodd, darfu, megis seren wib Hon Beth yw’r ots gennyf i am Gymru … Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 1. Arfau Allweddol – Mererid Hopwood – – Technegau Trafod Cerddi Ymarfer Tynnu llun Creu Cerddi: (Adran dweud mewn delweddau) http: //resources. hwb. wales. gov. uk/VTC/2009 -10/welsh/creu-cerddi/indexc. html Quizlet: https: //quizlet. com/86823009/craffu-ar-gerddi-flash-cards
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 2. Crefft Cymharu – Mererid Hopwood – – Technegau Cymharu Cerddi Y Frechdan Flasus 1. Bara cyflwyno’r pwynt 2. Tomato y pwynt yng nghyd-destun cerdd A 3. Caws 4. Bara DYFYNIAD/CYFEIRIAD PENODOL y pwynt yng nghyd-destun cerdd B DYFYNIAD /CYFEIRIAD PENODOL casgliad am y pwynt
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 2. Crefft Cymharu – Mererid Hopwood – – Technegau Cymharu Cerddi 8 Ffigwr 1. canol cyflwyno’r pwynt 2. y ddolen i fyny y pwynt yng nghyd-destun 3. y ddolen i lawr 4. yn ôl i’r canol cerdd A y pwynt yng nghyd-destun cerdd B y casgliad am y pwynt
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 2. Crefft Cymharu – Mererid Hopwood – – Geirfa Cymharu X yna Y • Bwriad cerdd X yw … nod cerdd Y yw … • Cynrychiola cerdd X … awgryma cerdd Y… • Pwysleisio’r tywyllwch a wna cerdd X hoelio ein sylw ar y goleuni a wna cerdd Y. • Mae cerdd X yn llawn gobaith … nid oes arlliw o obaith yng ngherdd Y fodd bynnag. • Portread dinesig a geir yng ngherdd X cawn fynd i gefn gwlad yng ngherdd Y.
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 2. Crefft Cymharu – Mererid Hopwood – – Geirfa Cymharu Ar yr olwg gyntaf, cawn yn y ddwy gerdd ddarlun gobeithiol o fywyd … Fodd bynnag, o fynd heibio’r darlleniad cyntaf, buan y gwelwn fod cryn wahaniaeth rhwng safbwyntiau’r ddau fardd Dengys y ddwy gerdd yr un agwedd tuag at … Ceir dau bortread gwahanol iawn o … Yn y cerddi hyn gwelir … Un nodwedd sy’n gyffredin i’r ddwy gerdd hon yw …
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 2. Crefft Cymharu – Mererid Hopwood – – Geirfa Cymharu Tebyg • Yn yr un modd • Yr hyn sy’n gyffredin rhwng y ddwy gerdd yw… • Tebyg yw agwedd beirdd y ddwy gerdd tuag at … • Digon tebyg yw’r ymdriniaeth o fyd natur yn y ddwy gerdd • Mae modd dadlau mai’r un yw bwriad y ddwy gerdd … Annhebyg • Yn wahanol i gerdd X, mae cerdd Y yn • Nid yw cerdd X yn ymateb yn yr un modd … • Agwedd arall a welir yng ngherdd X. • Gwelir gwahaniaeth syfrdanol rhwng cerdd X a Y o ran …
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 3. Cymharu Dwy Gerdd – Mererid Hopwood – – Enghreifftio cymharu dwy gerdd Cwm Berllan - Waldo Williams a Cwm Alltcafan - T Llew Jones
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 3. Cymharu Dwy Gerdd – Mererid Hopwood – – Yn y ddwy gerdd dan sylw, mae’r beirdd yn dyheu am le penodol, ar y naill law am ‘Gwm Alltcafan’ ac ar y llall ‘Cwm Berllan’. Fodd bynnag, mae un gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddwy gerdd. Mae T Llew Jones yn ein hannog ni i fynd i’w gwm delfrydol ef, tra bo Waldo Williams yn penderfynu peidio â mynd. Yr hyn sy’n drawiadol yw bod y ddwy gerdd yn gorffen gyda’r ymadrodd ‘rhag ofn’. Rydym ni’n synhwyro nad yw’r ddau air yn golygu’r union yr un peth yn y ddwy gerdd, oherwydd mae T Llew Jones yn ofni colli’r cyfle i fynd, ond ymddengys mai ofni cael ei siomi gan y lle a wna Waldo Williams. O ran arddull, mae’r ddau fardd yn defnyddio’r cwestiwn er mwyn ein tynnu ni fel darllenwyr i’w darluniau. Cwestiwn allan o ddeialog ddychmygol sydd gan T Llew Jones, ac mae’n gofyn yn uniongyrchol i’r gwrandawr: ‘Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan’. Mae hefyd yn ymestyn y sgwrs, ac yn cynnig ateb: ‘Naddo? ’ Holi ei hunan a wna traethydd cerdd Waldo Williams: ‘ A beth sydd i lawr yng Nghwm Berllan, ’wn-i? ’
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi 3. Cymharu Dwy Gerdd – Mererid Hopwood – – Cerddi ar fydr ac odl ydy’r ddwy gerdd, gyda ‘Cwm Alltcafan’ wedi ei threfnu mewn saith pennill, pedair llinell yr un, yn odli a/b/c/b. Dau bennill yr un sydd i ‘Cwm Berllan’. Mae’r pennill cyntaf yn wyth llinell a’r rheiny’n odli a/b/a/b, ond mae’r ail bennill yn naw llinell o hyd ac mae’r patrwm odli yn newid ychydig, bron fel pe byddai’r bardd yn dymuno arafu’r freuddwyd am y lle perffaith. Mae’r patrwm odli yn yr ail bennill yn c/ch/c/ch, d/dd/e/d/dd, a’r llinell am Cwm Berllan ei hunan wedi ei gwasgu i mewn a’i hymestyn cyn y llinell glo. Un o nodweddion amlycaf y ddwy gerdd yw’r modd y maen nhw’n rhestru. Yng ngherdd Waldo Williams effaith hyn yw pwysleisio pa mor hyfryd yw Cwm Berllan, gan roi cyfle i’r bardd bentyrru’r pethau braf, fel y ‘mwyeilch yn canu’ neu’r ‘afon yn llithro’ neu ‘lliwiau Paradwys’. Yng ngwaith T Llew Jones, effaith y rhestr yw pwysleisio cymaint gwell ganddo aros yng Nghwm Alltcafan na theithio’r byd: ‘Ewch i’r Swistir ac i’r Eidal / Neu Iwerddon ar eich tro …’.
Cerddi TGAU CBAC Cymharu Cerddi – Mererid Hopwood – – Ymarfer 3. Cymharu Dwy Gerdd
Pob llun unai yn eiddo cyhoeddus neu dan drwydded ‘creative commons’.
- Slides: 21