Celloedd a Phrosesau Cell BIOLEG Uned 1 1
Celloedd a Phrosesau Cell BIOLEG Uned 1. 1 Dyfarniad Dwbl Uned 1. 1
Celloedd Mae organebau (ar wahân i firysau) wedi eu gwneud o un neu fwy o gelloedd. Rydych chi yn cynnwys biliynau o gelloedd gwahanol. Dyma rai celloedd mewn organebau byw. Gallwch chi ddyfalu beth ydyn nhw?
Faint nid maint! Mae celloedd morgrugyn ac eliffant tua’r un maint. Ond mae eliffant yn fwy na morgrugyn gan fod mwy o gelloedd ynddo.
Cell Anifail Cellbilen Cnewyllyn mitocondria Cytoplasm
Y Rhannau Pwysig Cnewyllyn Dyma ganolfan rheoli holl weithgareddau’r gell. Mae’n cynnwys cromosomau sy’n bwysig ar gyfer cellraniad. Siâp crwn sydd gan y cnewyllyn gan amlaf. Cnewyllyn
Cytoplasm Dyma’r rhan sydd tu allan i’r cnewyllyn, sy’n edrych fel jeli clir. Mae’r cytoplasm yn llawn sylweddau defnyddiol i’r gell. Cytoplasm
Cellbilen Dyma’r rhan mwyaf allanol o’r gell sydd yn cadw’r cytoplasm i mewn a gwahanu’r gell o’i hamgylchedd. Gall sylweddau symud o dan reolaeth trwy’r gellbilen. Cellbilen
Mitocondria Dyma ble mae’r broses o resbiradaeth aerobig yn digwydd yn y gell. Mae’n rhyddhau ATP (adeosin triffosffad) sy’n darparu egni i adweithiau’r gell. mitocondrion
Cell Planhigyn Mae celloedd planhigyn yn cynnwys rhai pethau sydd ddim i’w cael mewn celloedd anifail sef: cellfur gwagolyn cloroplast
Cellfur CELLFUR Mae hwn yn haen trwchus ac anhyblyg sydd wedi ei wneud o gellwlos. Y cellfur sydd yn amgylchynu’r gellbilen. Heb hwn, ni fydd planhigyn yn gallu cynnal ei siâp
Gwagolyn GWAGOLYN Coden yn llawn hylif yw’r gwagolyn. Mae hwn wedi’i amgylchynu gan gellbilen. Cellnodd yw’r hylif yn y gwagolyn. Mae’r cellnodd yn cynnwys dŵr yn bennaf, gyda sylweddau megis mwynau ynddo.
Cloroplastau CLOROPLAST Disgiau gwyrdd yw’r rhain sy’n cynnwys pigment o’r enw cloroffyl. Cloroffyl sydd yn dal egni’r haul ac felly mae’n rhaid cael cloroffyl er mwyn i ffotosynthesis ddigwydd.
Microsgopeg Mae celloedd yn ficrosgopig. Mae hyn yn golygu eu bod yn rhy fach i’w gweld heb ficrosgop. Mae sleid o gelloedd yn gallu cael ei ddarparu a’i osod ar lwyfan y microsgop golau fel y gwelwch yn y diagram isod: lens sylladur lens gwrthrychiadur llwyfan golau
Chwyddhad Gan fod dau fath o lens mewn microsgop golau, mae’n rhaid defnyddio’r hafaliad ganlynol i gyfrifo cyfanswm y chwyddhad: cyfanswm y chwyddhad = chwyddhad lens sylladur x chwyddhad lens y gwrthrychiadur X 10 X 20 Allech chi gyfrifo cyfanswm chwyddhad y sampl sy’n cael ei weld o dan y microsgop hwn?
Electronmicrosgopeg Nid yw microsgopau golau yn gallu chwyddhau sampl yn ddigon i weld yr adeileddau bychain a chywrain mewn celloedd. Rydym yn defnyddio electronmicrosgop i wneud y gwaith hwn. Mae’r rhain yn gallu rhoi chwyddhad llawer uwch ond dim ond meinwe marw sy’n gallu cael ei ddefnyddio. Celloedd burum fel maen nhw’n cael eu gweld o dan electronmicrosgop.
Celloedd yn Arbenigol Mae celloedd yn addasu i wneud swyddogaeth arbennig yn ystod eu datblygiad. e. e. mae cell coch y gwaed yn cludo ocsigen o amgylch y corff. Mae hi’n gallu gwneud hyn gan ei bod yn cynnwys haemoglobin. Nid oes cnewyllyn ganddi sydd yn caniatáu iddi gynnwys cymaint o’r haemoglobin coch yma a phosibl.
Trefniadaeth Celloedd Meinweoedd Organau Grŵp o gelloedd tebyg â swyddogaethau tebyg Wedi’u gwneud o nifer o feinweoedd sy’n gwneud swyddogaethau penodol Systemau organau Organebau Mae organau wedi’u trefnu i systemau organau, sy’n cydweithio
- Slides: 17