Cefndir Mis Mai Mis a Tachwedd Dafydd ap
- Slides: 18
Cefndir Mis Mai Mis a Tachwedd Dafydd ap Gwilym
Cefndir Dafydd ap Gwilym Bardd natur a serch fl. 1340 -1370 Uchelwr Cymeriad lliwgar Ewythr – Llywelyn ap Gwilym – Cwnstabl Castell Newydd Emlyn – Athro Barddol Geni: Brogynin, Llanbadarn Fawr Teulu dylanwadol yn y Deheubarth.
Y System Nawdd Beirdd y Tywysogion 2 ganrif lewyrchus Tywysogion yn noddi’r beirdd 1282 – Cwymp y Tywysogion Diwedd nawdd Dosbarth newydd o dirfeddianwyr Beirdd yr Uchelwyr yn noddi’r beirdd ac yn dechrau barddoni eu hunain Clera
Datblygiad y Cywydd Traethodl Cywydd Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod cynghanedd ym mhob llinell.
36 copi mewn llawysgrifau e. e. Peniarth 49 Cywydd serch a natur Condemnio’r gaeaf – dioddef o SAD? Cywydd yn y person cyntaf – Dafydd yw’r carwr dioddefus
Cofio am garu â Morfudd wrth feddwl am fis Mai. Morfudd = • Un o brif gariadon Dafydd • Gwraig briod • Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’. • Byw ger Aberystwyth • Dod o deulu da • Gwallt golau ac aeliau tywyll ganddi • 80 o gerddi iddi
Cerdd Serch • 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur. • Beirdd y Tywysogion: - Awdlau serch Hywel ab Owain - Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y carwr dioddefus. - Dafydd yn gyfarwydd â cherddi Hywel ab Owain.
Beirdd y Glêr • Beirdd y Glêr = beirdd isradd Cymru. • Canu am serch – thema israddol. • Canu am eni, caru a marw – profiadau sylfaenol pobl. Ym mhle gallai Dafydd fod wedi dod ar draws cerddi Beirdd y Glêr?
Dylanwad ei ewythr • Ewythr – Llywelyn ap Gwilym ab Einion. • Cwnstabl Castell Newydd Emlyn. • Llys yn Nyfed – Dafydd wedi aros yno. • Dafydd yn dysgu barddoni yno. • Dod i gysylltiad â Saeson a diwylliant Ffrengig.
Cerdd natur • Darlunio’r gwahaniaeth rhwng mis Mai a mis Tachwedd. • Clodfori Mai. Dilornus o Dachwedd. Pam? • Dioddef o SAD? • Mai = yr haf • Tachwedd = y gaeaf
Cerdd natur • Saunders Lewis – Canu serch a natur Dafydd yn her i waith y beirdd traddodiadol a ganai i dai, adeiladau a bydolrwydd materol.
Cerdd natur • Gwyn Thomas – Gaeaf yn cael ei gysylltu â marwolaeth. Cerdd am fywyd a marwolaeth yw hon felly. • Gramadeg Einion Offeiriad: Hen englynion sy’n cyfuno doethineb â disgrifiadau cryno o fyd natur.
Cerdd natur • Awgrym fod y gaeafau’n waeth yn y G 14 na heddiw tra bod eu hafau yn gynhesach. Tywydd gwael Cynhaeaf gwael Ffeithiau diddorol: Diffyg bwyd Nid yw’n rhyfedd felly nad oedd yn hoff o’r ‘mis dig du’! Diffyg maeth Credir bod Dafydd ap Gwilym wedi marw o’r Pla Du. Marwolaethau
Cerdd natur Unigryw: Yr hyn sy’n gwneud y cywydd hwn yn wahanol yw manylder synhwyrus Dafydd – Disgrifiadau y mae a wnelont fwy â phrofiad a sylwgarwch y bardd nag ag unrhyw gonfensiwn llenyddol.
Camp Dafydd ap Gwilym = UNIGRYW!!! Y gallu i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl ddylanwadau hyn. Canlyniad = gwaith cwbl newydd a ffres
Tasg Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am gefndir Dafydd ap Gwilym Mis Mai a Mis Tachwedd. Defnyddiwch eich siart bry cop i’ch helpu. Byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i weddill y dosbarth. Amser: 10 munud.
Tasg Yn unigol, ysgrifennwch frawddeg agoriadol eich traethawd ar gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd ‘Mis Mai a Mis Tachwedd’.
Gwaith Cartref: Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd Mis Mai a Mis Tachwedd gan ddefnyddio’r hyn a wnaethoch yn y dosbarth heddiw fel sylfaen i’r gwaith. Erbyn wythnos i heddiw.
- Mis mai a mis tachwedd
- Mis mai a mis tachwedd
- Nau mai ki makara
- Mila nori
- Sirul numerelor naturale
- Cuales son mis creencias
- Proyecto de vida valores y principios
- La madre de mi madre es mi ____
- Cine are un prieten bun nu mai are nevoie de oglinda
- Hình ảnh cảm ơn đời mỗi sớm mai thức dậy
- Security response center
- Acolo unde raza diminetii
- Yem mai marsh
- Mmu
- Persevering plants quizizz
- Poesie feter le muguet marie david
- Paris mai 1968
- De ce ar trebui sa te angajam
- Corectează greșelile din propozițiile următoare