CBAC U 2 Uned 4 Trosedd a Gwyredd
CBAC U 2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Wythnos 1: Rôl y Cyfryngau a Throsedd Sut i lywio'r Sioe Sleidiau hon: Naill ai: Cliciwch ar yr eicon isod yng nghornel dde y sgrin i ddewis ‘Sioe Sleidiau’. Defnyddiwch y botwm llygoden chwith i fynd i mewn i bob pwynt bwled newydd ac i symud ymlaen i'r dudalen nesaf [Gwasgwch Esc i adael y Sioe Sleidiau ar unrhyw adeg]. Neu: defnyddiwch y saethau isod i lywio o un sgrin i'r nesaf. Neu cliciwch ar y geiriau ar y chwith er mwyn Trosedd a Gwyredd Pennodmynd 1 : Rôlat y y sleid briodol o'ch dewis. Cyfryngau a Throsedd
Datganiad Hygyrchedd n Dyluniwyd y sioe sleidiau hon i fod yn gyfeillgar i bobl â dyslecsia a nam ar y golwg. n Defnyddir y ffont hygyrch Arial. n Ni ddefnyddir ffont du ar gefndir gwyn. n Yn hytrach, dewiswyd lliw y ffont a'r cefndir i gyd-fynd â'i gilydd er mwyn osgoi gormod o wrthgyferbyniad a allai greu anhawster i ddarllenwyr dyslecsig. n Unionir yr holl destun ar yr ymyl chwith i osgoi 'afonydd o wyn'. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 2
Amcanion Pennod Erbyn diwedd y Sioe Sleidiau hon dylech wybod: n Bod pobl yn ofni ac yn cael eu cyfareddu gan drosedd ac mae hyn yn cael ei lunio'n rhannol gan y cyfryngau. n Bod y cyfryngau yn gallu sensiteiddio materion a helpu i ddiffinio trosedd. n Bod y cyfryngau yn gallu helaethu gwyredd a chreu panig moesol. n Bod trosedd fel sbectacl yn fwyfwy cyffredin yn y gymdeithas ôl-fodern. n Bod y cyfryngau yn ddetholus ynghylch pwy a sut maent yn trin dioddefwyr trosedd. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 3
Ofnau a Chyfaredd Trosedd Mae'r cyfryngau yn chwarae rhan bwysig yn ffurfio syniadau, ofnau a chyfaredd ynghylch trosedd mewn cymdeithas. Mae canfyddiadau pobl o drosedd yn dod o bapurau newydd, newyddion ar y teledu, ffilmiau, cylchgronau, llyfrau a rhaglenni tebyg i Crimewatch. Mae Realwyr y Chwith yn pwysleisio bod pobl gyffredin yn wirioneddol ofni trosedd a bod hyn yn cael ei lunio i raddau helaeth gan y cyfryngau. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 4
Geoffrey Pearson Yn ei lyfr Hooligan, mae Geoffrey Pearson yn honni bod pobl canol oed ym mhob cenhedlaeth yn tueddu i edrych yn ôl yn hiraethus dros eu blynyddoedd cynnar fel 'oesau aur' moesoldeb. Mae'n cyfeirio at y ddelwedd hiraethus hon o'r gorffennol fel rhywbeth sy'n adlewyrchu 'ofnau parchus’ am ddod yn ddioddefwr trosedd, ond hefyd cyfaredd ynghylch pob agwedd o drosedd. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 5
Sensiteiddio Materion Mae'r cyfryngau yn chwarae rhan ganolog yn 'sensiteiddio'r' cyhoedd i ganfod ac i adrodd rhai gweithgareddau fel troseddau. Er enghraifft, mae sylw gan y cyfryngau ac ymgyrchoedd ‘dim goddefgarwch’ wedi herio'r syniad nad 'mater teuluol' yw trais yn y cartref ond trosedd. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 6
Helaethu Gwyredd Bathwyd ‘helaethu gwyredd' gan Leslie Wilkins (1964) i ddisgrifio'r modd y mae asiantaethau fel yr heddlu a'r cyfryngau mewn gwirionedd yn gallu creu cynnydd mewn gwyredd. Gall problemau mân a phrin ymddangos yn ddifrifol a chyffredin. Mae pobl yn cael eu hysgogi i wybod am y digwyddiadau diweddaraf. Mae gan y cyhoeddusrwydd sy'n dilyn y potensial i gynyddu ymddygiad gwyrdroëdig drwy beri iddo ymddangos yn hudolus neu, fel arall, yn gyffredin neu'n dderbyniol. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 7
Astudiaethau Middleton Mae llawer yn tybio mai 'Astudiaethau Middleton', a gynhaliwyd yn yr Unol Daleithiau yn 1925, yw'r enghraifft gyntaf efallai o helaethu gwyredd. Nododd Lynd a Lynd (1929 a 1937) sut aeth yr arweinwyr cymunedol a chrefyddol yn nhref fechan 'Middleton’ ati i gondemnio'r radio am hybu ymddygiad anfoesol. Ar ôl hyn, mae comics, ffilmiau Hollywood, teledu, fideos ffiaidd ac, yn fwy diweddar, y Rhyngrwyd wedi cael eu cyhuddo o gyfrannu at ymddygiad gwyrdroëdig a throseddol. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 8
Stan Cohen a Phanig Moesol Pennwyd y term panig moesol gan Stan Cohen (1970, yn y llun ar y chwith). Mae'n seiliedig ar syniad ffug neu ormodol fod ymddygiad rhai grwpiau yn wyrdroëdig ac yn fygythiol i gymdeithas. Defnyddiodd Cohen y term ‘cythraul y werin' i ddisgrifio'r fath grwpiau. Caiff ‘panig moesol' ei hybu fel arfer gan sylw'r cyfryngau i faterion cymdeithasol. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 9
Astudiaeth Cohen o'r Mods a'r Rockers Astudiodd Stan Cohen y mods a'r rockers yn y 1960 au. Yn absenoldeb stori fawr ar benwythnos gwlyb dros y Pasg, daeth gwrthdaro dibwys yn Clacton yn newyddion tudalen flaen. Trodd y cyfryngau’r grwpiau hyn yn ‘gythreuliaid y werin’ gan lunio ‘panig moesol’ ynghylch pobl ifanc yn gyffredinol. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 10
Astudiaeth Cohen o'r Mods a'r Rockers (2) Nododd Cohen sut roedd y cyfryngau'n defnyddio ‘llaw-fer symbolaidd’ megis steiliau gwallt, eitemau o ddillad, dulliau trafnidiaeth ayb fel eiconau o achoswyr trwbl. Symboleiddio Gorliwio Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd Rhagweld (mwy o drwbwl) 11
Natur Gylchol Panig Moesol 5. Mae’r broblem yn cael ei hailddiffinio 1. Mae gweithgaredd yn cael sylw’r cyfryngau 2. Asiantaethau rheolaeth yn ymateb 4. Gorliwio Symboleiddio Rhagweld 3. Gwyredd yn cael ei helaethu Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 12
Trais Pêl-droed Cyhuddwyd y cyfryngau nid cymaint o achosi hwliganiaeth pêl-droed ond yn hytrach o ‘helaethu’ neu ‘hybu’r’ broblem. O bryd i’w gilydd mae criwiau ffilm a gohebwyr wedi pryfocio dilynwyr, yn enwedig dilynwyr Lloegr dramor. Ers 20 -30 mlynedd, gellid dweud bod y papurau newydd tabloid yn senoffobig. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 13
Y Cyfryngau fel 'Crwsadwyr Moesol’ Ar ôl chwarae eu rhan yn llunio panig moesol, gall y cyfryngau fynd yn eu blaen i gynnal 'crwsâd moesol ' yn erbyn ‘cythreuliaid y werin’ a glustnodwyd. Y canlyniad a ddymunir yw chwyddo barn y cyhoedd a pheri i'r awdurdodau gychwyn ar waharddiad moesol ar wyredigion. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 14
Panig Moesol fel Rheolaeth Ideolegol Mae Miller a Reilly (1994) yn credu fod panig moesol yn cael ei ddefnyddio i feddalu barn y cyhoedd a gweithredu felly fel math o ‘reolaeth gymdeithasol ideolegol’. Er enghraifft, mae llawer yn tybio bod sylw'r cyfryngau i derfysgaeth Islamaidd yn hybu ‘Islamoffobia‘. Mae deddfwriaeth gwrthderfysgaeth y Llywodraeth, a ddaeth yn ei sgil, wedi ennill cefnogaeth gyffredinol gan y cyhoedd er iddi leihau hawliau sifil pobl gyffredin yn ddifrifol. (Cymharwch hwn ag astudiaeth Hall o fygio) Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 15
Enghreifftiau o Banig Moesol Mods a Rockers (1960 au) (Cohen). Mygio yn y 1970 au (Hall et al). HIV/Aids (1980 au). Cam-drin plant gan Satanyddion (1980 au). Dosbarthu heroin a crac cocên (1980 au/1990 au). Fideos ffiaidd (1980 au/1990 au). Gynnau (1990 au a 2000 au). Rêfs Asid, Ecstasi (1990 au) (Thornton a Critcher). Tangyflawni gan wrywod mewn addysg (1990 au). Ceiswyr lloches (2000 au). Terfysgaeth Islamaidd (2000 au). Trosedd cyllyll (2000 au). Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 16
Mc. Robbie a Thornton: Mae Panig Moesol yn Gysyniad Hen Ffasiwn Amlder Mae amlder panig moesol wedi cynyddu: nid ydynt yn nodedig bellach. Cyd-destun Yn y gorffennol gallai panig moesol wneud grŵp yn fwch dihangol a chreu 'cythreuliaid y werin’. Erbyn heddiw mae llawer o safbwyntiau a gwerthoedd mewn cymdeithas. Atblygedd Gan fod y cysyniad o banig moesol yn adnabyddus, mae rhai grwpiau yn mynd ati i geisio creu un er eu lles eu hun. Anhawster Gan fod llai o sicrwydd ynghylch yr hyn sy'n ddiamwys yn 'ddrwg' heddiw, mae'n fwy anodd cychwyn panig moesol. Adlam Mae pobl yn amheus ynghylch cychwyn panig moesol gan fod bosibilrwydd y bydd yn adlamu yn ôl atynt, e. e. ymgyrchoedd ‘gwerthoedd y teulu, gan John Major. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 17
Trosedd fel Sbectacl Ôl-fodern Yn ôl Kidd-Hewitt ac Osborne (1995) mae dull y cyfryngau o adrodd trosedd yn cael ei yrru yn fwyfwy gan yr angen am 'sbectacl '. Mae sbectaclau yn ddeniadol gan fod cynulleidfaoedd yn cael eu gwrthyrru a'u cyfareddu gan y gweithgareddau ar yr un pryd. Mae Kooistra a Mahoney (1999) yn dadlau fod sylw'r cyfryngau i drosedd wedi mynd yn fwyfwy aml yn gymysgedd o adloniant a chyffrogarwch (yr hyn a elwir gan Neil Postman yn 'infotainment'). Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 18
Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 19
Triniaeth y Cyfryngau o Ddioddefwyr Gall y cyfryngau fod yn ddetholus drwy ganolbwyntio ar rai dioddefwyr yn fwy nag eraill. Er enghraifft mae hen bobl yr ymosodir arnynt gan ddieithriaid yn eu cartrefi yn aml yn dod yn newyddion tudalen flaen. Ond mae ‘cam-drin pobl oedrannus’ (hen bobl yn cael eu cam-drin gan bobl s’yn byw gyda nhw, ac sydd yn ôl Age Concern (2006) yn effeithio ar 500, 000 o hen bobl yn y DU) yn cael ei anwybyddu ar y cyfan. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 20
Sylw’r Cyfryngau Mae'r papurau newydd tabloid yn targedu grwpiau 'annymunol' megis sipsiwn a cheiswyr lloches mewn modd negyddol. Edrychir ar y fath grwpiau fel “ nid y ni” neu “grwpiau eraill”. Mae'r cyfryngau’n tueddu i gythreulio treiswyr fel seicopathiaid drygionus er bod y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn cael eu treisio mewn gwirionedd gan ddynion y maent yn eu hadnabod, yn ymddiried ynddynt ac yn aml yn byw gyda nhw. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 21
Syndrom Menywod Gwyn ar Goll Gelwir y Syndrom Menywod Gwyn ar Goll, yn syndrom merch bert ar goll hefyd. Term yw hwn a fathwyd i ddisgrifio math o orddweud gan y cyfryngau lle rhoddir gormod o sylw yn y newyddion i fenyw neu ferch wyn sydd wedi mynd ar goll. Yn aml, mae’r adroddiadau am y storïau hyn yn para am sawl diwrnod neu wythnos, ac yn disodli adroddiadau am faterion eraill sy’n werth sylw. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 22
Troseddoldeb Pobl Ddu Mae'r cyfryngau’n gorliwio'r ddelwedd o droseddwyr a mygwyr du a throseddoldeb pobl ddu yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae'n talu llai o sylw i'r ffaith fod tystiolaeth yr ystadegau swyddogol yn awgrymu bod pobl Affricanaidd-Caribïaidd ac o Dde Asia ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr trosedd na'r boblogaeth wyn fwyafrifol. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 23
Slapio Hapus Dywedir bod slapio hapus wedi dechrau yn Ne Llundain, ond mae wedi ymledu ar draws y DU, Ewrop, a'r holl fyd efallai. Wedyn, mae'r ddelwedd yn cael ei hanfon drwy gyfrwng y ffôn symudol, gan arwain at weithredoedd copïo gan eraill. Mae'r term yn cyfeirio at y ffenomen o daro neu slapio person dieithr wrth i gyd-droseddwr ffilmio'r ymosodiad gyda chamera ffôn. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 24
Y Ddamcaniaeth Farcsaidd am y Cyfryngau a Throsedd Byddai'r Marcswyr yn dadlau nad yw’n rhyfedd bod panig moesol yn canolbwyntio ar grwpiau a ystyrir yn wyrdroëdig neu sy'n bygwth y cyfoethog a'r grymus mewn cymdeithas Maent yn amlygu'r ffordd y mae'r cyfryngau yn portreadu troseddwyr fel rhai dosbarth gweithiol, gan ddiystyru trosedd coler wen neu drosedd gorfforaethol. Mae Ysgol Frankfurt yn amlygu’r modd y mae rheolaeth ideolegol gan y cyfryngau yn bytholi ymwybyddiaeth ffug. Byddai Louis Althusser yn disgrifio'r cyfryngau fel peirianwaith ideolegol y wladwriaeth. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 25
Y Ddamcaniaeth Ddeongliadol am y Cyfryngau a Throsedd Mae damcaniaethwr deongliadol, megis rhyngweitheddwyr, yn pwysleisio rôl y cyfryngau yn lluniad cymdeithasol y newyddion. Maent yn tybio bod y cyfryngau yn cefnogi ymresymiadau penodol gyda thystiolaeth a data detholus o arolygon priodol ayb. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 26
Damcaniaeth y Swyddogaethwyr a'r Plwraliaethwyr am y Cyfryngau a Throsedd Yn ôl y Swyddogaethwyr a'r Plwraliaethwyr ‘ffenestr ar y byd’, yn syml, yw'r cyfryngau, sy'n adlewyrchu bywyd fel y mae. Felly, yn syml, mae'r cyfryngau’n adlewyrchu darlun gwir neu gywir o drosedd. Fodd bynnag, mae'r beirniaid yn dadlau fod hyn braidd yn naïf gan fod y gwir ffigur am drosedd llawer yn uwch na'r ffigur swyddogol. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 27
Damcaniaeth y Ffeministiaid am y Cyfryngau a Throsedd Mae'r Ffeministiaid yn dadlau fod y cyfryngau’n gwneud yn fach o’r ystadegau am fenywod fel dioddefwyr trosedd. Yn ôl y Ffeministiaid, mae'r delweddau cwbl rywiol o fenywod ym mhob math o bornograffi (yn cynnwys y tabloidau a chylchgronau 'llanciau') yn peri i bob menyw fod yn anniogel o bosib gan eu bod yn annog dynion i fabwysiadu agweddau rheibus. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 28
Y Ddamcaniaeth Ôl-fodern am y Cyfryngau a Throsedd Mae'r ôl-fodernwyr yn gweld y cyfryngau fel elfen hanfodol yn ein canfyddiad o drosedd (heb ystyried a yw'r canfyddiad hwn yn un cywir ai peidio). Maent yn dangos sut mae'r cyfryngau’n cyflwyno trosedd gyda chyfuniad o adloniant a chyffrogarwch ('infotainment'). Y mynegiant eithaf o hyn yw trosedd wedi ei fynegi fel sbectacl. Trosedd a Gwyredd Pennod 1 : Rôl y Cyfryngau a Throsedd 29
- Slides: 29