CBAC U 2 Uned 4 Trosedd a Gwyredd
CBAC U 2 Uned 4, Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd
Amcanion Pennod 6 Erbyn diwedd y Sioe Sleidiau hon dylech wybod: n n n Bod Realaeth y Dde wedi datblygu am fod cymdeithaseg wedi methu ag esbonio a datrys problem trosedd. Bod Realaeth y Dde yn credu bod trosedd yn hannu o natur farus pobl, cymdeithasoli gwael a chyfleoedd sy'n rhy hawdd. Bod 'thesis ffenestr wedi torri' Wilson yn dadlau bod mân weithredoedd anfoesgar yn arwain yn gyflym at drosedd mwy difrifol os na chânt eu hatal. Bod Lea ac Young wedi datblygu Realaeth y Chwith fel ymateb i Realaeth y Dde a'r syniadau neo-Farcsaidd o Droseddeg Radicalaidd. Bod Realaeth y Chwith o'r farn fod trosedd yn wir broblem, yn enwedig i bobl dlawd a difreintiedig, i grwpiau ethnig lleiafrifol ac i drigolion canol dinas. Bod Realaeth y Chwith yn esbonio trosedd yn nhermau isddiwylliant, amddifadedd cymharol ac ymyleiddio. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 2
Realaeth y Dde Crewyd Realaeth y Dde yn y 1970 au, yn benodol gan James Q. Wilson (1975, yn y llun ar y chwith) ac Ernst van den Haag (1975). Datblygodd fel beirniadaeth ar theori gymdeithasegol gan fod hon wedi methu â datrys problem trosedd. Seilir Realaeth y Dde ar syniad negyddol am y natur ddynol (fod pobl yn naturiol yn hunanol ac yn farus). Mae angen felly i'r agwedd hon ar y natur ddynol gael ei ffrwyno gan reolau cymdeithasol a'i chymdeithasoli i fod yn ymddygiad priodol. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 3
Damcaniaeth Dewis Rhesymol Yn ôl Realwyr y Dde yr ateb i drosedd yw'r Ddamcaniaeth Dewis Rhesymol sydd yn debyg iawn i'r cysyniad athronyddol o iwtilitariaeth o'r 18 fed ganrif sy'n gysylltiedig â Jeremy Bentham (ar y chwith). Datblygwyd y Ddamcaniaeth Dewis Rhesymol gan Clarke a Coleman (1980) ac mae'n dadlau y bydd troseddwyr yn cyflawni troseddau os yw'r buddion yn uwch na'r costau. Mae'r ateb yn syml: cynyddu costau trosedd (y tebygrwydd o gael eu dal a chosbau mwy llym). Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 4
Troseddeg Wrthgymdeithasegol Mae Realwyr y Dde yn arbennig o wrthwynebol i unrhyw gysylltiad rhwng trosedd a thlodi fel y gwnaed gan y Cymdeithasegwyr. Maent yn nodi fod cyfraddau trosedd wedi saethu i fyny wrth i gyfoeth gynyddu. Ystyrir mai'r ffactorau allweddol y tu ôl i'r cynnydd mewn trosedd yw ymestyn y Wladwriaeth Les, diffyg disgyblaeth mewn addysg a dirywiad y teulu traddodiadol. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 5
Y Natur Ddynol Hunanol Mae lefelau cynyddol o drosedd yn adlewyrchu rheolaeth gymdeithasol aneffeithiol ac annigonol. Mae agweddau goddefol yn caniatáu ymddygiad hunanfaldodus a gwrthgymdeithasol. Mae magu plant yn esgeulus, tadau absennol, diffyg disgyblaeth mewn ysgolion, polisïau rhyddfrydol y wladwriaeth wedi cyfrannu bob un at achosi trosedd. O ganlyniad gwelwyd lefel esgynnol o weithredoedd anfoesgar: mygio, graffiti, fandaliaeth, torri i mewn i geir a dwyn ceir, ymosodiadau ayb, yn ogystal â byrgleriaeth a lladrad. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 6
Atebion Realaeth y Dde i Drosedd Lleihau'r cyfleoedd i droseddu. Cynyddu'r costau fel y bônt yn uwch na'r buddion. Dylai aelodau o'r gymuned fod yn gyfrifol am reoli trosedd hefyd. Magu plant yn gyfrifol a 'dinasyddion gweithredol' sy'n herio ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cosbau llym: dirwyon a dedfrydau sylweddol, a chefnogi cosbau corfforol a'r gosb eithaf (dedfryd o farwolaeth). Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 7
James Q. Wilson a'r ‘Thesis Ffenestr wedi Torri’ Mae James Q Wilson yn dadlau, oni bai y cyfyngir ar ‘weithredoedd anfoesgar' (sbwriel, graffiti, lefelau sŵn, fandaliaeth, ayb), yna bydd mwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau mwy difrifol yn dilyn. Mae e'n credu y dylai'r heddlu fabwysiadu polisi o ‘oddef dim’ hyd yn oed ar gyfer mân droseddau (fel y ceisiodd Maer Efrog Newydd ei wneud). Mae hyn yn adlewyrchu syniad Emile Durkheim fod rheolaeth leol anffurfiol yn hanfodol ar gyfer cyfraith a threfn a chysyniad A. H. Bottoms o ‘dipio’ ystadau tai problemus. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 8
James Q. Wilson (parhad) Mae Wilson yn dadlau bod tri ffactor allweddol yn effeithio ar drosedd tymor hir: Y nifer o Wrywod ifanc (gwyredigion nodweddiadol) Costau/Buddion trosedd: Damcaniaeth Dewis Rhesymol Cymdeithasoli annigonol ynghylch normau a gwerthoedd I ddelio â hyn mae'n cefnogi targedu yn galetach grwpiau ac ardaloedd gwyrdroëdig trwy blismona rhagweithiol. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 9
Cymdeithasoli Annigonol ac Anaddas Mae Realwyr y Dde yn rhoi'r bai am drosedd ar gymdeithasoli annigonol neu anaddas gan asiantaethau cymdeithasoli allweddol mewn cymdeithas. Ystyrir bod y teulu nad yw'n draddodiadol, yn enwedig mamau sengl, yn ffactor bwysig. Mae diffyg disgyblaeth mewn ysgolion, cyfryngau torfol sy'n glamoreiddio gwyredd a throsedd, a'r gostyngiad yn nylanwad gwerthoedd crefyddol yn ffactorau cyfrannol pwysig eraill. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 10
Charles Murray Mae'r damcaniaethwr Y Dde Newydd Charles Murray (1990, yn y llun ar y chwith) yn dadlau fod yr isddosbarth yn arbennig heb eu hintegreiddio'n ddigonol â normau a gwerthoedd cymdeithas. Mae'n tybio bod yr isddosbarth yn rhagdueddol i: dueddiadau troseddol, trais, anghyfreithlondeb a llacrwydd moesau, methiant addysgol a dibyniaeth ar les. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 11
Ernst van den Haag (1975) Mae gan Van den Haag (1975, yn y llun ar y chwith) farn isel am ddynoliaeth fel rhai sy'n fodlon twyllo er mwyn 'llwyddo' ac felly mae angen rheoli rhai grwpiau er eu lles eu hun ac er lles y gymdeithas. Fel Durkheim, mae'n credu bod cosb yn sywddogaethol, yn gweithredu fel arf ataliol. Felly, meddai, mae'n rhesymol fod asiantaethau cyfraith a threfn yn targedu'r tlawd! Mae'n cefnogi trefn gosbi lem: corfforol ac eithaf. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 12
Beirniadaeth ar Realaeth y Dde Mae hon yn dylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth yn yr Unol Daleithiau ac yn y DU. Er enghraifft cafodd 'goddef dim' ei fabwysiadu'n llwyddiannus fel polisi yn Efrog Newydd. Mae rhai yn dadlau mai diffyg buddsoddiad mewn ardaloedd difreintiedig yn hytrach na gweithredoedd anfoesgar sy'n peri i drosedd gynyddu. Mae'n hawdd rhoi'r bai ar fychod dihangol megis teuluoedd rhiant sengl. Mae'r Marcswyr yn dadlau fod canolbwyntio ar fân droseddau yn golygu bod yr awdurdodau yn anwybyddu troseddau mwy difrifol. Yn ôl ymresymiad arall, os cyflwynir goddef dim, y cyfan sy'n digwydd yw fod trosedd yn symud i ardaloedd eraill. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 13
Cyflwyniad i Realaeth y Chwith Datblygodd Lea ac Young (1984, y lluniau ar y chwith) Realaeth y Chwith (gyda Matthews a Kinsey), yn rhannol mewn ymateb i Realaeth y Dde. Ac rhannol mewn ymateb i Droseddeg Radicalaidd neo-Farcsaidd yr oedd Young ei hun yn rhan ohoni ac yn dymuno ymbellhau oddi wrthi: gan ei henwi'n "Idealaeth y Chwith” yn ddiweddarach. Mae Realaeth y Chwith yn credu bod trosedd yn wir broblem i bobl gyffredin ac mae'n ei esbonio trwy ddadansoddi perthnasoedd cymdeithasol ac economaidd, a'r modd y mae rhai grwpiau yn cael eu hymyleiddio. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 14
Mae Trosedd yn Ffenomen Real Mae Realaeth y Chwith yn dadlau na ellir esbonio'r gyfradd drosedd gynyddol oherwydd 'natur annibynadwy yr ystadegau trosedd swyddogol’ yn unig. Felly, ac yn anarferol i Gymdeithasegwyr, maent yn llai beirniadol o'r ystadegau trosedd na'r rhan fwyaf ohonynt, ac yn dadlau eu bod yn wir yn adlewyrchu troseddwyr nodweddiadol: ifanc, gwryw, dosbarth gweithiol ac yn ddu mewn niferoedd anghymesur. Maent yn canolbwyntio ar ddioddefwyr yn ogystal â throseddwyr, ac yn cydnabod trosedd yn cael ei ganoli yn yr ystadau tai canol dinas a phroblemu. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 15
Ethnigrwydd a Throsedd Mae Lea ac Young yn mynd i'r afael yn benben â throseddoldeb Ddu: maent yn derbyn y gwelwyd gynnydd real mewn troseddau a gyflawnwyd gan bobl ifanc ddu. Maent yn derbyn bod hiliaeth sefydliadol yn bodoli, a hefyd 'diwylliant cantîn’ hiliol ymhlith yr heddlu. Ond mae troseddoldeb ddu yn hannu hefyd o wahaniaethu hiliol, amddifadedd materol, cyflogau isel a diweithdra. Maent yn tybio bod gan bobl ifanc Ddu ddyheadau arbennig o uchel, ond yn aml ni allant gyflawni'r dyheadau hyn yn gyfreithlon. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 16
Pwynt Gwerthuso Arholiad Cymharwch y dyhead hwn am nwyddau materol a dulliau o fyw â ‘Damcaniaeth Straen’ (paradeim anomig) Robert Merton, neu ymateb y strwythur gyrfa anghyfreithlon i ‘gyfleoedd a ataliwyd’ Cloward ac Ohlin. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 17
Tarddiad Trosedd yn ôl Realwyr y Chwith Mae Realaeth y Chwith yn credu fod tarddiad trosedd yn driphlyg: Amddifadedd cymharol Ymyleiddio Isddiwylliant Mae hyn yn esbonio pam mae gwrywod ifanc Du dosbarth gweithiol yn arbennig o gysylltiedig â gweithgareddau troseddol: gweler y 3 sleid nesaf. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 18
1. Isddiwylliannau Mae Lea ac Young yn dadlau fod isddiwylliant pobl ifanc Ddu yn hollol wahanol i isddiwylliant eu rhieni, a oedd ar y cyfan yn derbyn eu sefyllfa ymyleiddiedig yn y gymdeithas. Mae gan isddiwylliant pobl ifanc Ddu ddisgwyliadau a dyheadau materol uchel: arian a symbolau statws megis ceir crand, ayb. Felly gan fod pobl ifanc Ddu wedi eu rhwydo cymaint yng ngwerthoedd treuliant, steil a chyfoeth, dyma'r union reswm pam maent yn cyflawni trosedd – oherwydd y cyfleoedd a ataliwyd. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 19
Pwynt Gwerthuso Arholiad Noder y gorgyffwrdd sydd yma â'r gwaith a wnaed am wrywod ifanc du gan Ralf Nightingale (Philadelphia) a Philip Bourgois (Efrog Newydd). Mae eu holl waith yn cysylltu yn ôl i syniadau Robert Merton a'i ‘ddamcaniaeth straen‘ (rhannu cyrchnodau’r gymdeithas ond heb feddu ar y modd o gyrraedd y rhain). Ar yr un pryd mae'n bosibl fod yna elfen o grŵp ymyleiddiedig wedi’i gymdeithasoli i'w set o werthoedd isddiwylliannol unigryw ei hun: cymharwch â 'phryderon ffocal' Walter B. Miller. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 20
2. Amddifadedd Cymharol Mae Lea ac Young yn dadlau bod y rhwystredigaeth a deimlir oherwydd y gwahaniaeth hwn rhwng disgwyliadau a realiti'r ffordd o fyw yn arwain at deimladau o amddifadedd cymharol. Maent yn dadlau mai'r realiti i lawer o wrywod ifanc Du yw'r dewis rhwng diweithdra, cynlluniau hyfforddiant neu ‘gwaith cachu'r dyn gwyn’ (Stuart Hall). Teimlant fod y 'gwobrwyon disglair' sydd ar gael i eraill yn cael eu gwrthod iddyn nhw. Gall hyn ddatblygu'n strategaethau a all gynnwys ymddygiad gwyrdroëdig a throseddol. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 21
3. Ymyleiddio Mae Lea ac Young yn dadlau bod ymyleiddio yn golygu'r broses lle mae rhai grwpiau yn eu cael eu hunain ar gyrion cymdeithas. Yn aml, mae pobl ifanc dosbarth gweithiol Gwyn a Du yn teimlo fel eu bod wedi’u dieithrio gan ysgolion, diweithdra, cyflogau isel, yr heddlu, ayb. Mae gwrywod ifanc Du yn wynebu ymyleiddio drwy ragfarn ac aflonyddu e. e. 'plismona milwrol‘ (stopio a chwilio) Maent yn dadlau mai hyn efallai yw'r ‘pennog gyda phwn a dyrr asgwrn cefn y ceffyl’: mae ymyleiddio economaidd yn cael ei droi’n droseddu. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 22
Realaeth y Chwith: Problem Plismona Mae Kinsey, Lea ac Young (1984) yn nodi nifer o broblemau mewn plismona cyfoes. Yn rhy aml, mae'r heddlu'n defnyddio 'plismona milwrol' fel dull o ddatrys troseddau trwy bolisïau 'stopio a chwilio'. Mae hyn yn dieithrio'r gymuned oddi wrthynt, y gymuned Foslimaidd yn ddiweddar. Maent yn dadlau y dylai'r cyhoedd gael mwy o lais wrth lunio polisi'r heddlu er mwyn gwella'r berthynas hon. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 23
Sgwâr Trosedd Realaeth y Chwith Mae Realaeth y Chwith yn mynd â ni y tu hwnt i'r troseddwr ac yn ymwneud â phatrymau dioddefwyr a ffactorau ffurfiol ac anffurfiol. Y Wladwriaeth Troseddwr Trosedd Dioddefwr Rheolaethau annffurfiol Maent yn dadlau na ellir deall trosedd ond yn nhermau'r cydberthynasoedd rhwng y pedair elfen hyn. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 24
Jock Young, Newid Cymdeithasol a Throsedd Mae gan Jock Young (1997) ddamcaniaeth Mwy o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd yn y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd. generig hefyd i esbonio'r twf diweddar mewn trosedd. Mae'n dadlau fod modernedd diweddar yn gwneud trosedd yn waeth mewn nifer o ffyrdd: Dyhead pobl am bleser personol a sydyn. Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd Llai o gonsensws ynghylch gwerthoedd moesol Ymddatodiad o reolaethau cymdeithasol anffurfiol 25
Beirniadaeth ar Realaeth y Chwith Ei phrif gryfder yw ei bod yn cydnabod achosion lluosol trosedd. Mae'r ffaith ei bod yn canolbwyntio ar ddioddefwyr ynghyd â throseddwyr yn beth da, gan ychwanegu dimensiwn arall at ein dealltwriaeth o drosedd. Fodd bynnag, ni all amddifadedd cymharol nac ymyleiddio esbonio'r cymhelliad sydd y tu ôl i weithredoedd troseddwyr (e. e. trosedd coler wen neu drosedd corfforaethol) Ar yr un pryd, nid yw pawb sy'n byw mewn amddifadedd cymharol yn troi at drosedd. Mae'n tybio bod trosedd yn dod yn fwy tebygol wrth i werthoedd y gymdeithas chwalu – dychweliad i ddamcaniaeth anomi a safbwynt nad yw'n rhy bell o Realaeth y Dde? Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 26
Diwedd y Cyflwyniad Trosedd a Gwyredd Pennod 7: Troseddeg Realaidd 27
- Slides: 27