CBAC TGAU Daearyddiaeth Cylchredau a LLifoedd Beth ywr
CBAC TGAU Daearyddiaeth Cylchredau a LLifoedd
Beth yw’r cysyniad? Mae Cylchredau a LLifoedd yn ddau gysyniad cysylltiedg, sydd yn ein helpu i wneud synnwyr o brosesau daearyddol mewn cyd destun dynol a ffisegol. Mae’r cysyniadau hyn yn ein helpu i adnabod patrymau symud: • Llifau yn yr amgylchedd ffisegol, megis dŵr • Llifau yn yr amgylchedd ddynol, megis cymudwyr
Systemau Caeedig Mae llifoedd yn bodoli rhwng storfeydd. Yn y gylchred ddŵr, mae dŵr yn cael ei storio yn yr atmosffer, neu mewn storfeydd arwyneb, llystyfiant, pridd a dŵr daear. Mae dŵr yn llifo neu yn cael ei drosglwyddo rhwng y storfeydd gan anweddiad, dyodiad, diferiad, dŵr ffo arwyneb a thrwylif. Gellir ystyried y patrwm hwn fel system gaeedig neu gylchred.
Mae ecosystemau yn systemau caeedig. Mae twyni tywod yn enghraifft o system gaeedig. Gall myfyrwyr ymchwilio: • Sut mae mewnbynnau i’r system (llifoedd maetholion, dŵr, golau haul) yn cael dylanwad ar gylchfaoedd llystyfiant o fewn yr ecosystem (cylchfäedd) • Sut mae gweithgareddau hamdden (sathru) yn gallu effeithio ar
Mae amgylcheddau trefol yn systemau agored. Gellir ystyried amgylcheddau trefol neu adwerthu fel systemau agored - gyda llifoedd o nwyddau, arian, syniadau, cymudwyr, traffig a siopwyr yn llifo i mewn ac allan ohonynt.
Pa ymchwil sydd yn bosib? Mae pedair ffordd wahanol, efallai, o ymdrin â’r ymholiad gwaith maes hwn. Gallwch gynllunio ymholiad i ymchwilio: 1. Y perthnasoedd rhwng storfeydd a llifoedd 2. Sut mae llifoedd yn newid dros amser 3. Sut mae gweithgareddau pobl yn gallu difrodi neu addasu cylchredau neu lifoedd 4. Sut mae pobl yn rheoli systemau i reoli llifoedd? ?
1. Ymchwilio i berthnasoedd rhwng storfeydd a llifoedd. Sut a pham mae’r storfeydd a llifoedd o fewn system yn gysylltiedig. Neu, sut mae newidiadau i un mewnbwn yn gallu effeithio ar lifoedd eraill o fewn y system. Er enghraifft: • Mewn system afon sut mae arllwysiad yn gysylltiedig â dyodiad • Mewn dwy system afon gyferbyniol, sut mae daeareg neu briddoedd yn effeithio ar ymdreiddiad neu arllwysiad.
2. Ymchwilio i sut mae llifoedd yn newid dros amser Sut mae llifoedd yn newid dros amser. Er enghraifft, • Mewn amgylchedd adwerthu, sut mae llif cerddwyr yn newid yn ystod y dydd neu yn ystod yr wythnos a sut mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd adwerthu. • Mewn amgylchedd afon, sut mae cyfraddau ymdreiddiad ac arllwysiad yn ymateb i newididau mewn glawiad.
3. Ymchwilio i sut mae gweithgareddau dynol yn addasu cylchoedd neu lifoedd Sut mae gweithgareddau dynol yn gallu newid neu addasu y system ehangach ac effeithio ar gylchredau neu lifoedd. Er enghraifft, • Mewn amgylchedd adwerthu, sut mae newidiadau i drafnidiaeth, fel cynlluniau cerddwyr yn unig neu creu systemau unffordd, wedi effeithio ar batrymau adwerthu. • Mewn ecosystem twyni tywod, sut mae llif pobl (sathru) wedi effeithio ar y gylchred olyniaeth. • Mewn safle pot mêl wledig, sut mae sathru wedi effeithio ar gyfraddau ymdreiddiad.
4. Ymchwilio i sut mae pobl yn rheoli systemau. Sut mae pobl yn yn rheoli systemau i geisio rheoli llifoedd. Er enghraifft, • Mewn system afon, sut y gellir rheoli llifogydd (llifoedd o ddŵr) • Mewn system arfordirol, sut mae argorau neu riffau artiffisial yn gallu newid llifoedd drifft y glannau. • Mewn system drefol, sut y gellir rheoli llifoedd traffig i wneud llifoedd yn fwy diogel. Er enghraifft, penderfynu ar lwybr beicio newydd.
Felly gallaf wneud gwaith maes arfordirol? Cewch! Mae gwaddod yn symud rhwng storfeydd (fel traethau a barrau alltraeth) mewn system gaeedig. Yn Safon Uwch, byddwn yn cyfeirio at hyn fel celloedd gwaddod. Yn TGAU buasai’n briodol i ymchwilio patrymau drifft y glannau a/neu ffyrdd mae pobl yn addasu’r llifoedd hyn wrth iddynt reoli’r arfordir – er enghraifft, beth yw effaith argorau ar broffil traethau neu maint a siâp gwaddod?
Neu mewn amgylchedd adwerthu? Cewch. Gall myfyrwyr ymchwilio’r berthynas rhwng llif cerddwyr a gweithgaredd economaidd a cheisio diffinio craidd ac ymylon y CBD.
Gallaf gasglu data dynol a ffisegol yn yr un amgylchedd? Cewch! Mae parciau trefol, twyni tywod a safleoedd pot mêl gwledig i gyd yn gallu cael eu defnyddio i ywchwilio’r ffordd mae cylchoedd naturiol yn gallu cael eu newid trwy weithgareddau hamdden. Gellir defnyddio trawsluniau i ymholi i ehangder y sathru wrth symud i ffwrdd o faes parcio neu ganolfan ymwelwyr; • Data ffisegol – lled y llwybr troed, math o lystyfiant ac uchder llystyfiant • Data dynol – llif cerddwyr, holiaduron / cyfweliadau estynedig
- Slides: 13