CBAC TGAU Astudiaethau Crefyddol Adborth ar Arholiad 2019
CBAC TGAU Astudiaethau Crefyddol Adborth ar Arholiad 2019 Ymarfer Marcio CRISTNOGAETH
Ymarfer Marcio – (c)
Ymarfer Marcio – (c) Band 4: 7 -8 Esboniad adderchog, hynod fanwl sy'n dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r syniad, cred, arfer, dysgeidiaeth neu gysyniad crefyddol. Yn defnyddio amrywiaeth o iaith a thermau crefyddol/arbenigol a ffynonellau doethineb ac awdurdod yn helaeth, yn gywir ac yn briodol. Band 4 / 8 marc Ymateb ardderchog. Pam ei fod yn y band uchaf? • Manwl – mae'n dangos dealltwriaeth o'r syniad yn y cwestiwn trwy gyfeirio at amrywiaeth o safbwyntiau a dehongliadau. • Mae'r iaith arbenigol yn gadarn ac mae'n cyfeirio at ffynonellau awdurdod/y Beibl ac at ysgolion o feddwl. • Ateb cydlynol a chlir gan ymgeisydd â dealltwriaeth wirioneddol dda o'r testun.
Ymarfer Marcio – (c) Hefyd. . . Mae'r ymgeisydd wedi gwneud dau beth roedd ymgeiswyr eraill yn methu ei wneud: Mae'r set o safbwyntiau yn fach ond maent wedi'u hesbonio'n dda. Roedd gormod o ymgeiswyr yn teimlo bod yn rhaid iddynt ymdrin â chymaint o safbwyntiau a dehongliadau â phosibl; roedd hyn yn aml yn arwain at ormodedd. Roedd rhai yn cynnig safbwyntiau cynifer ag wyth grŵp gwahanol (weithiau'r un rhai gydag enwau eraill). Y canlyniad oedd disgrifiad yn hytrach nag esboniad! Roedd llawer o ymgeiswyr yn mynd y tu hwnt i'r "Creu" ac yn adrodd hanes y Cwymp. Nid oedd y cwestiwn yn gofyn am hyn ac roeddent yn rhoi naratif yn hytrach nag esboniad. Stopiodd yr ymgeisydd hwn mewn pryd.
Ymarfer Marcio – (ch)
Ymarfer Marcio – (ch)
Ymarfer Marcio – (ch) Band 3: 8 -11 Dadansoddiad a gwerthusiad da iawn a manwl o'r mater yn seiliedig ar wybodaeth drylwyr a chywir am grefydd, dysgeidiaeth grefyddol a rhesymu moesol. Caiff barnau eu llunio gyda chefnogaeth a chaiff amrywiaeth gytbwys o safbwyntiau gwahanol a/neu amgen eu hystyried. Yn defnyddio a dehongli iaith a thermau crefyddol/arbenigol a ffynonellau doethineb ac awdurdod yn gywir, yn briodol ac yn fanwl. Band 3 / 10 marc • Ymateb da iawn. Dangos dadansoddi a gwerthuso. • Mae'r ymgeisydd yn gwybod y testun yn dda ac yn dewis mynd i'r afael ag ef trwy ystyried mathau eraill o arweiniad i Gristnogion, gan gynnig amrywiaeth o ddewisiadau amgen. • Cyfeirir at ffynonellau awdurdod (y Beibl, cydwybod) a cheir defnydd eithaf da o iaith arbenigol. Felly, pam ddim Band 4?
Ymarfer Marcio – (ch) Felly, pam ddim Band 4? • Mae strwythur i'r ateb hwn sydd wedi'i addysgu'n dda. • Fodd bynnag, gall atebion strwythuredig rwystro ymgeiswyr. • Yma, rhoddir casgliad dros dro i bob prif bwynt o ran cryfder neu wendid y ddadl. Fodd bynnag, maent yn fyr iawn ac yn trafod yn nhermau cryf neu wan yn hytrach na pha mor gryf a pha mor wan. Mae angen datblygu'r casgliadau bach hyn ar gyfer y band uchaf. • Mae'n rhy hawdd i ymgeiswyr ‘roi tic yn y blwch' ar gyfer y fformat maent wedi'i ddysgu – canlyniad hyn yw y gall y fformat rwystro trafodaeth a fyddai'n cyrraedd y band uchaf.
- Slides: 8