CAD CAM Beth yw CAD Cynllunio trwy Gymorth
CAD CAM
Beth yw CAD? Cynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (Computer Aided Design) CAD 2 a 3 Dimensiwn: Gan ddefnyddio meddalwedd CAD 2 -ddimensiwn, gall dylunwyr greu lluniadau manwl gywir, wrth raddfa, o rannau a chydrannau i ddyluniadau. Gellir ei ddefnyddio hefyd i ddatblygu a mireinio syniadau dylunio drwy ganolbwyntio ar un golwg ar y tro a defnyddio’r offer geometrig sydd ar gael. Drwy ddefnyddio meddalwedd CAD 3 -dimensiwn, gall dylunwyr greu modelau 3 D wedi’u rendro’n llwyr o rannau a chydosodiadau cyfan dyluniadau. Gellir rhith brofi dyluniadau cyn eu gwneud o ddefnyddiau costus. Gyda, CAD 3 -dimensiwn, mae’n bosibl modelu pob rhan o ddyluniad mewn ffeiliau ar wahân, yna’u cydosod gyda’i gilydd i wneud model terfynol. Gellir addasu pob rhan unrhyw bryd a chaiff y newidiadau eu gwneud i’r model terfynol hefyd. Gellir gweld modelau 3 D o unrhyw ongl, fel bod modd profi’r cyfan yn weledol. Mae cydosod y model terfynol yn galluogi’r dylunydd i wirio bod y rhannau’n ffitio’n union.
Manteision CAD… Mae llai o angen am lawer o ddrafftsmyn drud wrth ddylunio cynnyrch. Gellir delweddu a phrofi modelau 3 D cywir cyn eu gwneud o ddefnyddiau costus. Gall peirianwyr, dylunwyr a thechnegwyr rannu’r data dylunio mewn systemau rheoli cynhyrchu cyfrifiadurol. . Gellir eu defnyddio’n uniongyrchol i gynhyrchu data torri ar gyfer peiriannau CNC. Gellir newid graddfa lluniadau’n awtomatig yn ôl yr angen. Mae’n hawdd storio a chael gafael ar fodelau. MANTEISION Gellir cynhyrchu lluniadau peirianneg cywir o ran graddfa a dimensiynau yn uniongyrchol o’r model. Gellir ail-lunio ac addasu modelau’n rhwydd i gynorthwyo prosesau datblygu cynnyrch, ailgynhyrchu a gwelliant parhaus mewn diwydiant. Cyflymach i’w cynhyrchu ac yn golygu llai o waith. Cywirach na lluniadau traddodiadol a wneir â llaw. Gellir storio, argraffu a rhannu nifer o gopïau’n electronig. Nid oes problem gyda storio lluniadau papur mawr.
Anfanteision CAD… Gall fersiynau diwydiannol o’r feddalwedd fod yn ddrud iawn – yn enwedig y costau cychwynnol Collir sgiliau drafftio traddodiadol gan na fydd eu hangen. Gall colli pŵer a firysau fod yn broblem. . ANFANTEISION Efallai y bydd angen hyfforddiant drud ar beirianwyr, dylunwyr a thechnegwyr er mwyn gallu defnyddio’r feddalwedd – eto, gall hyn gymryd amser a bod yn ddrud.
Beth yw CAM? Gweithgynhyrchu trwy Gymorth Cyfrifiadur (Computer Aided Manufacture) CAM 2 a 3 Dimensiwn: Mae gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrifiadur bellach yn elfen ganolog mewn nifer o systemau cynhyrchu. Gyda pheiriannau CAM, mae modd cyflawni amrywiaeth eang o brosesau’n awtomatig ar fformatau 2 a 3 -dimensiwn: Torri, melino, troi, llwybro, ysgythru, torri gyda gwres a hyd yn oed printio mewn defnyddiau solid. Mae’r rhan fwyaf o brosesau CAM modern yn defnyddio data o luniadau CAD 2 neu 3 dimensiwn sy’n cael eu trosi yn llwybrau peiriannu [codau G&M] gan y feddalwedd CAM. Mewn prosesau CAM 2 D ar gyfer torri proffiliau neu bocedu siapiau i ddefnydd, ychwanegir lwfans atred at luniadau i ystyried radiws y torrwr/torwyr a ddefnyddir. Y llinellau atred fydd y proffiliau torri, a bydd y peiriant yn eu dilyn gyda chanol y torrwr. Os oes angen torri mwy nag un rhan neu swp o un biled, rhaid i’r peiriannydd cynhyrchu leihau’r gwastraff materol drwy osod y cydrannau’n ofalus.
Beth yw CAM? Gweithgynhyrchu trwy Gymorth Cyfrifiadur CAM 2 a 3 Dimensiwn: Yn nodweddiadol, bydd y rhan fwyaf o gynhyrchu CAM yn dilyn proses debyg i hon: Cynhyrchir lluniad CAD neu fodel 3 D. Ychwanegir llwybrau atred / codau lliw ar gyfer gwahanol doriadau ac ati at luniadau 2 D. Caiff modelau 3 D eu hallforio fel ffeiliau stereo-lithograffeg [stl]. Trosir y data’n godau peiriant G&M sef y llwybrau y bydd y peiriant torri’n eu dilyn naill ai mewn gofod 2 D neu 3 D. Bydd angen mewnbynnu diamedrau, defnyddiau [cyflymder / porthiant] a dyfnder torri’r torrwr ar yr adeg hon er mwyn gosod y codau G&M cywir. Ar yr adeg hon, rhedir rhith ragolwg peiriannu ar y cyfrifiadur i brofi’r gosodiad. Gosodir biled o’r maint cywir yn y peiriant a phennir gosodiadau offeru [gosodiadau diamedrau a dyfnder], dyfnder gwirioneddol y defnydd ac, ar brydiau, gosodiadau porthiant a chyflymder. Mae’r peiriant yn cael ei osod i redeg gyda’r mesurau diogelu angenrheidiol. Caiff y darn gorffenedig ei symud a’i lanhau’n barod i’w brosesu neu ei orffen ymhellach.
Manteision CAM… Gellir rhyddhau staff o waith diflas a’u defnyddio mewn agweddau mwy heriol / diddorol o gynhyrchu cynhyrchion. Gellir cynhyrchu gydag ychydig iawn o oruchwylio a gellir ei wneud yn ystod oriau gwaith anghymdeithasol. Mae’r cynhyrchu’n llai llafurus a bydd yn arbed ar gostau cyflogi yn y tymor hir. Mae’r cynhyrchu’n gywir a gellir ei ailadrodd yn gyson gyda sypiau neu rediadau mawr. MANTEISION Gall peiriannau weithio’n barhaus gyda gwallau bach iawn. Gellir gwerthuso arferion a chanlyniadau peiriannu gyda rhith beiriannu ar sgrin. Gellir gwneud modelau prototeip yn gyflym iawn i’w harchwilio’n fanwl cyn creu’r dyluniadau terfynol ar gyfer cynhyrchu.
Anfanteision CAM… Gall gyfrannu at golli gweithlu crefftus iawn. Mae’r buddsoddiad gwreiddiol a chostau cychwynnol yn uchel iawn. Yn aml bydd cynnal a chadw’r peiriannau’n gostus. . Mae angen gweithwyr a thechnegwyr sydd wedi’u hyfforddi at lefel uchel i sicrhau y dilynir gweithdrefnau offeru a chydosod cywir. ANFANTEISION
Enghreifftiau o waith CAD/CAM… Pecyn Brodwaith Janome CAD CAM
Enghreifftiau o waith CAD/CAM… Torrwr Camm 1 … CAD CAM
Enghreifftiau o waith CAD/CAM… Torrwr laser… CAD CAM Torri plastig acrylig CAM Torri i mewn i ffabrig CAD
Enghreifftiau o waith CAD/CAM … Creu botymau Torrwr laser… CAM
Enghreifftiau o waith CAD/CAM… Torrwr laser… Creu cyfwisgoedd CAM
- Slides: 13