BY 2 5 Ymaddasiadau ar gyfer Maethiad ywr
BY 2. 5 Ymaddasiadau ar gyfer Maethiad yw’r ffordd y mae organebau’n cael egni er mwyn cynnal swyddogaethau bywyd, a sylwedd er mwyn creu a chynnal adeiledd. Ceir y rhain o faetholynnau.
Mathau o Faethiad 1. Awtotroffig Defnyddio defnyddiau organig syml, carbon deuocsid a dŵr, i gynhyrchu cyfansoddion organig cymhleth sy’n cynnwys egni. Mae dau fath: Ffotosynthesis Cemosynthesis
2. Heterotroffig Defnyddio a threulio bwyd organig cymhleth. Mae’r moleciwlau organig syml sy’n deillio o’r broses hon yn cael eu cymathu. Mae nifer o wahanol fathau: (a) Holosoig Amlyncu moleciwlau organig cymhleth, gan eu torri i lawr drwy eu treulio, eu hamsugno ac yn olaf eu cymathu
(b) Saprobiontig / Saprotroffig / Saproffytig Defnyddio bwyd organig cymhleth o gyrff organebau sy’n pydru. Mae’r rhan fwyaf o facteria a ffyngau yn bwydo fel hyn. Mae ensymau sy’n cael eu secretu gan yr organebau hyn yn hydrolysu’r moleciwlau cymhleth, sydd wedyn yn cael eu hamsugno. e. e. detritysyddion a dadelfenwyr
3. Parasitedd Organeb sy’n byw mewn organeb byw arall neu ar organeb byw arall a elwir yn organeb letyol. Mae’r parasit yn cael ei holl faeth o’r organeb letyol, ond nid yw’r organeb letyol yn cael unrhyw fudd o’r cysylltiad ac yn aml iawn mae’n cael ei niweidio i ryw raddau yn y broses.
4. Cydymddibyniaeth / Symbiosis Mae cysylltiad agos rhwng dwy organeb, ond yn yr achos hwn mae’r ddwy organeb yn cael rhyw fudd o’r cysylltiad. e. e. micro-organebau sy’n treulio seliwlos yng ngholuddyn llysysydd.
Treuliad mewn Mamaliaid Diffiniad ‘proses lle mae bwyd yn cael ei dorri i lawr i ffurf y gellir ei hamsugno a’i defnyddio. Fel rheol mae’n cynnwys (a) cam mecanyddol a (b) cam cemegol. ’
Treuliad Ffisegol Yn digwydd o ganlyniad i: • Symudiadau torri/malu’r dannedd • Cyfangiadau rhythmig y coluddyn. Mae hyn yn creu mwy o arwynebedd i’r ensymau treulio weithio arno.
http: //www. nature. com/nrg/journal/v 5/n 7/fig_tab/nrg 1380_F 1. html Dannedd Dynol Cilddannedd Dannedd (M) blaen (P) llygaid (C) Dannedd blaen (I) Dannedd blaen
Treuliad Cemegol Yn digwydd drwy ryddhau ensymau treulio i’r coluddyn. Mae’r ensymau naill ai’n cael eu secretu gan chwarennau y tu allan i’r coluddyn e. e. y chwarren boer neu’r pancreas neu gallant gael eu secretu gan chwarennau sydd yn wal y coluddyn.
• Ni all celloedd epithelaidd y coluddyn amsugno maetholynnau nes bod y moleciwlau mawr, y carbohydradau, y brasterau a’r proteinau wedi cael eu torri i lawr neu eu treulio’n gynnyrch llai drwy gyfrwng ensymau. Ar ôl cwblhau’r broses dreulio mae: • carbohydradau ar ffurf monosacarid • proteinau yn cael eu torri i lawr yn asidau amino • braster yn cael ei dorri i lawr yn asidau brasterog a glyserol
Ensymau Treulio Moleciwl Bwyd Troi yn. . . Gan (ensym) Secretu gan…. Gweithredu yn (organ) Polysacaridau e. e. startsh Deusacaridau e. e. maltos Amylas Poerol Amylas Chwarennau poer Pancreas a chryptau Lieberkuhn yn y Dwodenwm. Ceg Dwodenwm Maltos Glwcos Maltas Leinin y coluddyn bach Coluddyn Bach Swcros Glwcos + ffrwctos Swcras Leinin y coluddyn bach Coluddyn Bach Lactos Glwcos + galactos Lactas Leinin y coluddyn bach Coluddyn Bach Protein Polypeptidau Pepsin/pepsinogen Trypsin/trypsinogen Stumog fel pepsinogen. Ysgogi gan asid hydroclorig i ffurfio pepsin. Pancreas fel trypsinogen. Ysgogi fel enterocinas sy’n cael ei secretu gan leinin y coluddyn bach. Stumog Coluddyn Bach Peptidau Asidau amino Ecsopeptidasau e. e. Aminopeptidasau Pancreas Casein (protein llaeth hydawdd) Caseinogen Protein Ceuledig (casein) Renin Stumog mamaliaid ifanc Braster Asidau brasterog a Glyserol Lipas Pancreas Dwodenwm Asidau Niwcleig Niwclotidau Niwcleas Pancreas Dwodenwm Stumog
Prif rannau’r broses dreulio: 1. Amlyncu – cymryd bwyd i mewn i’r corff. 2. Peristalsis – bwyd yn cael ei yrru ar hyd y llwybr ymborth drwy gyfangiadau cyhyrol wal y coluddyn.
3. Treulio – torri moleciwlau bwyd mawr, anhydawdd yn foleciwlau syml, hydawdd. 4. Amsugno – bwyd wedi’i dreulio’n mynd drwy wal y coluddyn i lif y gwaed.
5. Cymathu - defnyddio cynnyrch y broses dreulio, naill ai fel ffynhonnell egni, neu i’w ymgorffori’n ddeunydd biolegol newydd. 6. Carthiad – cael gwared ar fwyd na ellir ei dreulio o’r corff, sef deunydd cellfuriau planhigion, megis seliwlos, gan mwyaf.
Y Llwybr Ymborth Dynol Chwarrennau poer Ceudod. Ceg y Genau Ffaryncs Tafod Taflod y Genau Oesoffagws Epiglotis Glotis Tracea http: //commons. wikimedia. org/wiki/Commons: Featured_picture_candidates/Image: Digestive_system_diagram_en. svg
Pancreas Stumog Iau (Afu) Coden fustl Dwythell pancreatig Dwodenwm Dwythell y bustl Coluddyn Mawr Ilëwm Caecwm Coluddyn Crog Rectwm Anws http: //commons. wikimedia. org/wiki/Commons: Featured_picture_candidates/Image: Digestive_system_diagram_en. svg
Tiwb cyhyrol sy’n arwain o’r geg i’r anws yw’r llwybr ymborth. O’r naill ben i’r llall, mae wal y coluddyn yn cynnwys 4 gwahanol haen o feinwe: 1. Mwcosa mewnol – yn gorchuddio wal y coluddyn. Mae’n secretu mwcws, sy’n helpu bwyd i symud yn ei flaen ac yn helpu i ddiogelu’r coluddyn rhag difrod. 2. Isfwcosa – yn cynnwys pibellau gwaed a lymff, sy’n cludo’r cynnyrch bwyd sydd wedi’i amsugno ymaith. Mae hefyd yn cynnwys rhwydwaith toreithiog o ffibrau nerfol sy’n cydgysylltu’r cyfangiadau cyhyrol sy’n rhan o beristalsis.
3. Haen o gyhyrau – yn cynnwys dwy haen o gyhyr yn mynd i wahanol gyfeiriadau. Mae ffibrau cyhyr cylchol wedi’u trefnu mewn cylchoedd. Mae gan gyhyr hydredol ffibrau yn mynd ar ei hyd. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i symud bwyd drwy’r coluddyn (peristalsis). 4. Serosa – haen o feinwe cyswllt caled sy’n diogelu wal y coluddyn ac yn rhwystro organau eraill rhag rhwbio yn ei erbyn yng ngheudod yr abdomen.
Adeiledd Cyffredinol wal coluddyn mamal http: //en. wikibooks. org/wiki/File: Gut_wall. svg Mesenteri Chwarren, e. e iau Chwarennau Brunner Crytptau Lieberkuhn Cyhyr mwcosa Chwarennau tiwbaidd Isfwcosa Fili Cyhyr cylchol Cyhyr Hydredol Mwcosa Peritonewm
Arbenigaethau Rhannau 1. Y Geg • • • Bwyd yn mynd i mewn i geudod y genau Dannedd yn ei dorri’n llai yn y broses dreulio fecanyddol (cnoi). Tafod yn trin y bwyd wrth ei gnoi gan sicrhau ei fod yn cael ei gymysgu’n dda gyda phoer. Mae poer yn cynnwys: • (1) Dŵr – dŵr yw dros 99% o boer. • (2) Amylas poerol – ensym, sy’n hydrolysu startsh yn faltos. • (3) Halwynau mwynol (e. e. bicarbonad sodiwm) – yn cynnal p. H o tua 6. 5, y gorau posibl ar gyfer amylas poerol. • (4) Mwsin - deunydd gludiog, yn dal gronynnau bwyd at ei gilydd ac yn eu hiro er mwyn eu llyncu’n haws.
• Mae bwyd yn cael ei rolio i ffurf bolws ac yn cael ei symud i gefn y geg gan y tafod. • Mae bwyd yn mynd drwy’r ffaryncs ac yna’n mynd i’r oesoffagws. • Wrth i’r bwyd gael ei lyncu mae’r epiglotis yn cau dros y glotis (sy’n arwain i’r tracea) gan atal bwyd rhag mynd i’r tracea. • Mae’r bolws yn cael ei gludo i’r stumog drwy gyfrwng ton o gyfangiadau cyhyrol, sy’n achosi i’r oesoffagws gulhau y tu ôl i’r bolws. • Peristalsis yw’r enw ar y broses hon.
Peristalsis http: //en. wikipedia. org/wiki/Peristalsis
2. Y Stumog Mae wal y stumog wedi’i haddasu fel a ganlyn: • Nid yw’r mwcosa wedi’i phlygu’n fili. Dim amsugno yn y stumog • Ceir chwarennau gastrig arbenigol sy’n cynhyrchu secretiadau treulio • Nid oes gan y celloedd epithelaidd ficrofili • Ceir haen ychwanegol o gyhyr (ar osgo) er mwyn cynorthwyo â’r symudiad corddi mecanyddol.
http: //www. rivm. nl/interspeciesinfo/intra/human/stomach/
Manylion Chwarren Gastrig Manbant Gastrig Cell sectretu mwcws Celloedd Symogen Celloedd parwydol Image adapted from http: //navigator. medschool. pitt. edu/duker 01_files/image 002. jpg
Y Stumog • Mae celloedd peptig (prif gelloedd) – yn secretu’r ensym treulio protein, pepsin, fel rhagsylweddyn anactif, pepsinogen. Mae hyn yn atal awtolysis/hunandreulio cyn iddo gael ei ryddhau. Mae pepsin yn dechrau torri proteinau i lawr i ffurfio polypeptidau.
Y Stumog • Celloedd ocsintig – yn secretu asid hydroclorig, sy’n gwneud cynnwys y stumog yn asid; mae’r amgylchiadau asidig yn lladd llawer o facteria yn ogystal ag actifadu pepsin.
Y Stumog • Celloedd gobled – yn secretu mwcws. Mae’r mwcws yn ffurfio haen amddiffynnol ar wal y stumog, a hefyd yn helpu i symud bwyd yn y stumog (iro).
3. Y Coluddyn Bach Wedi’i rannu’n ddwy ran, y dwodenwm a’r ilewm. Mae’r dwodenwm tua 20 cm o hyd ac yn cael secretiadau gan yr iau (afu) a’r pancreas. http: //www. bbc. co. uk/schools/gcsebitesize/science/add_aqa/enzymes 5. shtml
Bustl • • Mae’n cael ei gynhyrchu yn yr iau (afu) Mae’n cael ei storio yng nghoden y bustl Mae’ mynd i’r dwodenwm drwy ddwythell y bustl Nid yw’n cynnwys ensymau ond mae halwynau bustl yn bwysig er mwyn emylsio lipidau sydd yn y bwyd. • Mae emylsio’n digwydd drwy ostwng tensiwn arwyneb y lipidau. • Mae hyn yn golygu bod mwy o arwyneb i’r lipasau weithio arno. • Mae bustl hefyd yn cynnwys halwynau mwynol – yn helpu i niwtraleiddio’r treulfwyd asidig.
Sudd Pancreatig • Yn cael ei secretu o’r chwarennau ecsocrin yn y pancreas • Yn mynd i’r dwodenwm drwy ddwythell y cefndedyn (pancreas). Mae’n cynnwys nifer o wahanol ensymau: 1. Amylas pancreatig – yn hydrolysu startsh sydd dros ben i ffurfio maltos. 2. Lipas pancreatig – yn rhannu lipidau’n asidau brasterog a glyserol. 3. Trypsinogen – yn cael ei droi’n drypsin gan enterocinas, sy’n cael ei secretu gan wal y coluddyn bach. Mae trypsin yn parhau i dorri proteinau i lawr i ffurfio polypeptidau.
Sudd y Coluddyn Cynhyrchir sudd y coluddyn gan chwarren Brunner a Chryptau Lieberkuhn Filysau Dwodenwm Chwarennau Brunner Image from http: //www. technion. ac. il/~mdcourse/274203/slides/Digestive%20 tract/13 -Duodenum-A. jpg
1. Chwarren Brunner • I’w gweld yn isfwcosa y dwodenwm yn unig. • Yn secretu sudd alcalïaidd (halwynau mwynol) a mwcws. • Mae’r sudd alcalïaidd yn cynnal y p. H gorau posibl ar gyfer yr ensymau sydd i’w cael yn y coluddyn bach (p. H 8). • Mwcws er mwyn iro ac amddiffyn. • Mae chwarren Brunner yn secretu i’r cryptau Lieberkuhn.
2. Cryptau Lieberkuhn • Ensymau, yn cael eu secretu o grwpiau o gelloedd ar waelod y cryptau Lieberkuhn, yn cwblhau treuliad. • Amylas – yn cwblhau’r broses o hydrolysu startsh i faltos • Maltas – yn hydrolysu maltos i ddau foleciwl glwcos. • Swcras – yn hydrolysu swcros i glwcos a galactos. • Enterocinas – yn ysgogi trypsinogen. • Endopeptidasau ac ecsopeptidasau – yn cwblhau’r broses o dreulio proteinau i asidau amino.
Histoleg y coluddyn bach • Fili • Chwarennau Brunner • Cryptau Lieberkuhn http: //www. bmb. leeds. ac. uk/teaching/icu 3/selfdir/histolo/prac 9_files/fig 92. gif
Ilewm • Arwyneb mewnol wedi’i blygu’n ffurfiau tebyg i fysedd a elwir yn fili. • Mae epitheliwm yn cynnwys dau fath o gell, celloedd gobled (yn secretu mwcws) a chelloedd epithelaidd pilerog. • Mae celloedd epithelaidd pilerog wedi’u plygu’n ficrofili. Mae microfili’r holl gelloedd gyda’i gilydd yn ffurfio ymyl brwsh.
Fili a microfili yn y coluddyn bach Image from http: //img. sparknotes. com/figures/9/92 fefe 6 f 9160757 a 6207 a 120 b 3637 c 38/figure 4. gif
Celloedd y fili ac ymylon brwsh Cell gobled Image from http: //www. cals. ncsu. edu/course/zo 250/brush_border. gif Image from http: //missinglink. ucsf. edu/lm/IDS_101_histo_resource/images/246 x 10 cell_structure_labelled. jpg
Cwblhau Treuliad Carbohydradau protein cludo sy’n cyfuno cludo glwcos â chludo ionau sodiwm, gan ddefnyddio egni o ATP ensym sy’n cwblhau treuliad (deusacarid→monosacarid) ac yn cludo monosacaridau ar draws y bilen blasmaidd (cludiant gweithredol) maltas lactas cell epithelaidd filws swcras Monosacaridau (glwcos, ffrwctos ac yn y blaen. ) trylediad cynorthwyedig capilari
Cwblhau Treuliad Proteinau Asidau amino cadwyn peptid byr protein cludo/peptidas deupeptid tripeptid Cell epithelaidd filws Peptidas mewn sytoplasm Asidau amino trylediad capilari
Cynnyrch y broses Treuliad • Treuliad Carbohydrad Maetholyn Polysacarid Amylas Y rhyngolyn Deusacarid Maltas Cynnyrch y broses Treuliad Monosacaridaue. e glwcos
Cynnyrch y broses Treuliad • Treuliad Protein Maetholyn Protein (polypeptid) Y rhyngolyn Darn Peptid Aminopeptidas Pepsin/Trypsin Chymotrypsin proteasau Cynnyrch y broses Treuliad Asidau Amino
Cynnyrch y broses Treuliad • Treuliad Lipidau Maetholyn Triglyserid Lipas Cynnyrch y broses Treuliad Monoglyseridau ac asidau brasterog
Amsugniad • O ganlyniad i’r broses dreulio, mae crynodiad uchel o foleciwlau bychain, syml y tu mewn i geudod yr ilewm. • Mae’r arwyneb sydd ar gael ar gyfer amsugno’n cael ei gynyddu’n sylweddol gan bresenoldeb fili a microfili.
Adeiledd y Filws http: //www. biog 1105 -1106. org/demos/105/unit 6/media/villus. structure. jpg
Llun o Filws wedi’i chwyddo Cell epitheliwm Rhwydwaith capilari Lacteal
Cymryd maetholynnau i mewn. Gan fod angen egni ar gyfer amsugniad actif, mae gan gelloedd epithelaidd lawer iawn o fitocondria. Trylediad – mae asidau brasterog, glyserol a’r rhan fwyaf o fitaminau yn tryledu’n rhwydd i’r celloedd epithelaidd. Mae’r asidau brasterog a’r glyserol yn ail gyfuno y tu mewn i’r gell i ffurfio triglyseridau. Maent yn gadael y celloedd epithelaidd ac yn mynd i lactealau, lle maent yn cyfuno â phroteinau i ffurfio lipoproteinau. Mae hyn yn eu hatal rhag ffurfio dafnau mawr o fraster. Yn dilyn hyn maent yn cael eu cylchredeg gan y system lymff ac maent yn ailymuno â chylchrediad y gwaed drwy ddwythell y thoracs.
• Cludiant actif – mae celloedd epithelaidd y coluddyn bach yn defnyddio egni o ATP ar gyfer cymryd glwcos, galactos, asidau amino, deupeptidau a rhai halwynau i mewn. Yn dilyn hyn mae deupeptidau’n cael eu treulio oddi fewn i gell yn asidau amino syml. Maent wedyn yn mynd i’r rhwyllen gapilarïau sy’n cyflenwi pob filws, ac ymlaen i’r wythïen bortal hepatig ac yna i’r iau (afu).
Y Coluddyn Mawr Mae dŵr a halwynau mwynol yn cael eu hamsugno o’r coluddyn mawr ynghyd â fitaminau a secretwyd gan ficro-organebau yn y coluddyn mawr. Mae’r gwastraff lled-solid a geir o ganlyniad yn cynnwys gweddillion seliwlos heb ei dreulio, bacteria a chelloedd wedi’u bwrw ymaith, ac mae’n symud drwy’r coluddyn mawr i gael ei fwrw allan fel ysgarthion (ymgarthiad). Mae seliwlos heb ei dreulio’n chwarae rhan bwysig yn y broses dreulio gan ei fod yn darparu swmp ac yn ysgogi peristalsis.
Defnyddio cynhyrchion treulio Ar ôl i’r prosesau treulio ac amsugno orffen, mae’r cynnyrch bwyd hydawdd yn cael ei gludo yn llif y gwaed i’r meinweoedd i’w gymathu neu i roi egni.
• Glwcos – yn cael ei amsugno o’r gwaed gan gelloedd i ryddhau egni wrth anadlu. Mae beth bynnag sydd dros ben yn cael ei storio yn yr iau (afu) fel glycogen ac mewn celloedd braster. • Asidau amino – yn cael eu hamsugno er mwyn syntheseiddio proteinau. Ni ellir storio asidau amino sydd dros ben felly maent yn cael eu dadamineiddio (yn yr iau) lle mae’r grwpiau amino a dynnir ymaith yn cael eu tynnu ymaith a’u troi’n wrea. • Lipidau – yn cael eu defnyddio ar gyfer pilennau a hormonau. Mae’r rhai sydd dros ben yn cael eu storio fel braster.
Cymathu. Y term a ddefnyddir i ddisgrifio ffawd maetholynnau sydd wedi’u hamsugno. • Siwgrau – yn symud i’r we gapilarïau ac yna drwy’r wythïen bortal hepatig i’r iau (afu). Mae’r iau yn cynnal lefel gyson o siwgr yn y gwaed. Mae unrhyw siwgr sydd dros ben yn cael ei droi’n glycogen ac yn cael ei storio. Os yw lefel y siwgr yn y gwaed yn disgyn, fel sy’n digwydd wrth wneud ymarfer corff, mae’r glycogen sydd wrth gefn yn cael ei droi’n ôl yn glwcos. Yn yr iau, defnyddir glwcos hefyd er mwyn syntheseiddio metabolion ar gyfer twf a gweithgareddau eraill y corff.
• Asidau amino – yn cael eu hamsugno i’r rhwyllen gapilarïau, ac yn mynd drwy’r wythïen bortal hepatig i’r iau. Defnyddir yr asidau amino hyn i wneud proteinau newydd. Ni ellir storio asidau amino dros ben a dderbynnir gan y corff. Yn lle hynny, maent yn cael eu dadamineiddio yn yr iau.
• Braster – yn cael ei amsugno fel asidau brasterog a glyserol ac yna’n ail gyfuno i ffurfio triglyseridau, sydd wedyn yn cyfuno â phroteinau i ffurfio lipoproteinau. Mae hyn yn digwydd yn y rhwydwaith endoplasmig llyfn ac yn organigyn Golgi’r celloedd epithelaidd. Mae lipoproteinau yn mynd o’r celloedd epithelaidd drwy ecsosytosis, ac yn mynd i’r lactealau. O’r fan hyn mae’r system lymff yn eu danfon yn uniongyrchol i gylchrediad y gwaed y tu allan i’r galon.
Mae brasterau’n cael eu storio mewn meinwe bloneg. Pan fo angen brasterau a lipidau yn ystod metabolaeth defnyddir y brasterau sydd wedi’u storio, a’u troi’n ôl yn asidau brasterog a glyserol. Bydd cyhyrau’n resbiradu glwcos os yw ar gael, ond gallant resbiradu asidau brasterog yr un mor effeithlon.
Dannedd. Llysysyddion a Chigysyddion Addasiadau llysysydd ar gyfer ei ddiet 1. Gan fod cymaint o draul ar y dannedd oherwydd y gwaith malu parhaus nid ydynt yn stopio tyfu 2. Dannedd blaen llydan er mwyn torri glaswellt 3. Dim dannedd llygaid 4. Bylchau er mwyn i’r tafod allu gweithio’n effeithlon
5. Cilddannedd a childdannedd blaen gwastad gydag ymylon enamel er mwyn malu bwyd yn effeithlon 6. Rhan isaf yr ên yn gallu symud o ochr i ochr er mwyn malu bwyd 7. Coluddyn cymharol hir gan fod planhigion yn anodd i’w treulio 8. Mae gan y stumog bedair siambr gan gynnwys y rwmen. Mae’r rwmen yn cynnwys micro-organebau cydymddibynnol sy’n treulio seliwlos.
Llysysydd http: //en. wikibooks. org/wiki/Anatomy_and_Physiology_of_Animals/The_Gut_and_Digestion
Cilddannedd llysysyddion – ffurfio ymylon enamel Cilddant sengl o eliffant O’r ochr Images from http: //openlearn. open. ac. uk/file. php/3813/S 182_4_002 i. jpg Edrych ar i lawr
Addasiadau cigysydd ar gyfer ei ddiet 1. Dannedd yn stopio tyfu ar ôl dod yn oedolyn 2. Dannedd blaen pigfain er mwyn brathu 3. Dannedd llygaid mawr a phigfain er mwyn gwanu a dal 4. Dim bwlch 5. Cilddannedd a childdannedd blaen wedi’u haddasu fel dannedd ysgithrol. Mae’r rhain yn finiog ac yn bigfain er mwyn torri a rhwygo.
6. Mae rhan isaf yr ên yn llawer 'tynnach'; dim ond i fyny ac i lawr y gall symud 7. Coluddyn cymharol fyr gan fod cig yn hawdd i’w dreulio 8. Dim ond un stumog - dim rwmen
Cigysydd http: //en. wikibooks. org/wiki/Anatomy_and_Physiology_of_Animals/The_Gut_and_Digestion
Dannedd ysgithrol cigysydd. Image from http: //www. paleocene-mammals. de/protictis. gif
Hyd Coluddion Mae hyd coluddion Heterotroffau yn dibynnu ar y ddiet. Llysysydd Cigysydd - Coluddyn byr oherwydd bod y bwyd yn Cigysydd hawdd i’w dreulio Hollysydd (fel pobl) – Coluddyn canolig – cymysg o fwydydd gwahanol Llysysydd sy’n cilgnöwr – Stumog gyda 4 rhan iddo a choluddyn hirach. Mae’r bwyd yn anoddach i’w dreulio ac felly angen coluddyn hirach i gwblhau y broses o dreulio’r bwyd i gyd. Mae gan lysysydd sy’n cilgnöwr stumog gyda 4 siambr • Hir • Bwyd yn anodd i’w dreulio
Cilgnowyr Mae llysysyddion fel defaid a gwartheg yn gilgnowyr. Mae ganddynt stumog â phedair siambr. Enw un o’r siambrau hyn yw’r rwmen – sy’n egluro’r enw Saesneg ‘ruminant’. Mae’r rwmen yn gweithredu fel storfa lle gall nifer sylweddol o facteria a micro-organebau eraill fyw a lluosogi’n ddiogel, yn ddigon clir oddi wrth yr ensymau treulio yng ngweddill coluddyn y cilgnöwr. Mae perthynas gydymddibynnol rhwng y bacteria a’r cilgnöwr lle mae’r naill a’r llall yn elwa.
Llysysydd sy’n cilgnöwr Image from http: //sci. waikato. ac. nz/farm/images/ruminant%20 digestive%20 tract. png
- Slides: 67