Brechiad y ffliw yn yr ysgol 2019 Nodwch
Brechiad y ffliw yn yr ysgol 2019 Nodwch y dyddiad yma
Beth yw’r ffliw? • Achosir y ffliw gan firws • Mae’n lledu’n hawdd drwy beswch a thisian • Mae unrhyw un yn gallu cael y ffliw, ond mae’r cyfraddau heintio ar eu huchaf ymhlith plant Brechiad y ffliw yn yr ysgol • Mae’r symptomau’n cynnwys y canlynol: cur pen blinder eithafol tymheredd uchel cyhyrau poenus symptomau peswch ac annwyd o teimlo’n sâl iawn o o o
Oeddech chi’n gwybod? • Mae hyd at 1 o bob 10 plentyn yn cael y ffliw bob blwyddyn • Gall y ffliw arwain at: Image © Leah Millinship o Absenoldeb o’r ysgol o Apwyntiadau meddyg • Mae rhai plant mor wael fel eu bod yn cael eu derbyn i ysbyty • Mae nifer bach yn cael eu trin mewn unedau gofal dwys Brechiad y ffliw yn yr ysgol © Leah Millinship
Pam brechu eich plentyn yn erbyn y ffliw? © i. Stock © Leah Millinship ● I warchod eich plentyn yn erbyn y ffliw • I warchod eich teulu ac eraill rhag dal y ffliw gan eich plentyn Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Chwistrell brechiad y ffliw yn y trwyn • Mae brechiad y ffliw’n cael ei roi yn yr ysgol drwy chwistrell yn y trwyn • Dyma frechiad y ffliw a argymhellir ar gyfer plant 2 oed a hŷn • Mae brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn wedi cael ei ddefnyddio’n eang yn y DU ers chwe blynedd • Mae ganddo record dda o ran diogelwch Brechiad y ffliw yn yr ysgol © Iechyd Cyhoeddus Cymru
Pa mor effeithiol yw brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn? • Ar gyfartaledd, mae cael y brechiad yn lleihau risg plentyn o ddal y ffliw i hanner y risg • Mae effeithiolrwydd y brechiad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn • Mae’r brechiad yn cynnwys pedair straen o firws y ffliw (dwy straen A a dwy straen B) • Mae’r straeniau o firws y ffliw sydd wedi’u cynnwys yn y brechiad yn newid bob blwyddyn i gyfateb i argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) • Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, amrywiodd yr effeithiolrwydd ymhlith ieuenctid 2 i 17 oed o 66% i 27% - gan ddibynnu ar ba straen o’r ffliw sy’n ymddangos Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Brechiad y ffliw • Chwistrell brechiad y ffliw yn y trwyn: – – DIM NODWYDD – ddim yn brifo ychydig iawn o chwistrell i fyny dau dwll y trwyn dim angen sniffian nac anadlu i mewn dim angen ailadrodd os ydych chi’n tisian neu os yw eich trwyn yn rhedeg – y trwyn yn rhedeg ychydig neu’n teimlo wedi cau am ychydig wedyn o bosib – posib defnyddio hancesi papur i’w sychu wedyn os oes angen • Plant yn dweud yn aml ei fod yn “cosi” Brechiad y ffliw yn yr ysgol © Iechyd Cyhoeddus Cymru
Oes unrhyw sgil effeithiau? • Mae’r rhan fwyaf o blant yn teimlo’n iawn wedyn heb deimlo unrhyw sgil effeithiau • Mân iawn yw unrhyw sgil effeithiau fel rheol, yn para diwrnod neu ddau, ac mae posib iddyn nhw gynnwys: o o o Trwyn llawn neu’n rhedeg Cur pen Cyhyrau poenus Ychydig o dymheredd Llai o awydd bwyd Blinder © Leah Millinship Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Oes unrhyw blant na ddylai gael chwistrell brechiad y ffliw yn y trwyn? • Mae’r rhan fwyaf o blant yn gallu cael chwistrell brechiad y ffliw yn y trwyn yn ddiogel • Nid yw’n cael ei argymell ar gyfer nifer bach o blant ac mae’r eithriadau wedi’u hamlinellu ar y daflen brechiad y ffliw i blant • Bydd y plant yma’n cael cynnig brechiad yn eu meddygfa • Siaradwch gyda’ch nyrs ysgol os nad ydych chi’n siŵr neu os oes arnoch chi angen cyngor Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Pwy fydd yn cael cynnig chwistrell brechiad y ffliw yn y trwyn yn yr ysgol yn 2019/20? • Pob plentyn yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn ysgol 6 • Bydd y plant yn y blynyddoedd ysgol hyn yn cael cynnig brechiad y ffliw, dim ots beth yw eu dyddiad geni Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Ydi plant iau’n gymwys? • Bydd plant 2 neu 3 oed (oedran ar 31 ain Awst 2018) yn cael brechiad y ffliw yn y trwyn yn eu meddygfa (Dyddiadau geni rhwng 1 af Medi 2015 a 31 Awst 2017 yn gynwysedig) Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Beth am blant eraill? ● Dylai plant chwe mis oed a hŷn sy’n wynebu risg gynyddol o fod yn sâl oherwydd y ffliw, fel y rhai gyda chyflyrau iechyd fel diabetes, neu gyflyrau ar y galon neu’r ysgyfaint, gael brechiad y ffliw bob blwyddyn ● Dylai plant ym mlwyddyn ysgol 7 ac uwch sydd mewn grŵp risg ar gyfer y ffliw gysylltu â’u meddygfa i drefnu i gael brechiad y ffliw Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Cyn brechu ● Bydd llythyr, ffurflen ganiatâd a gwybodaeth yn cael eu hanfon gartref gyda’ch plentyn ● Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch nyrs ysgol ● Dylid dychwelyd y ffurflen ganiatâd wedi’i llenwi i’r ysgol cyn gynted â phosib Brechiad y ffliw yn yr ysgol © Iechyd Cyhoeddus Cymru
Diwrnod y brechiad • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi dychwelyd ffurflen ganiatâd eich plentyn i’r ysgol • Nid yw mân salwch, fel peswch neu annwyd, yn ddigon o reswm i’ch plentyn beidio â chael brechiad y ffliw • Bydd y nyrs yn asesu eich plentyn ar y diwrnod ac yn anfon llythyr gartref os na fydd yn gallu cael y brechiad yn yr ysgol Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Ar ddiwrnod y brechiad, dywedwch wrth athro eich plentyn os yw eich plentyn… • wedi bod angen defnyddio mwy ar ei fewnanadlydd asthma ers i chi lenwi ei ffurflen ganiatâd neu ddechrau cymryd moddion newydd • ei frest yn gwichian neu wedi bod felly yn ystod y tridiau diwethaf • yn teimlo’n sâl neu wedi bod yn sâl yn ddiweddar • wedi cael addasu ei driniaeth asthma ers i chi lenwi ei ffurflen ganiatâd Rhowch rif ffôn ar gyfer cysylltu â chi os gwelwch yn dda oherwydd efallai y bydd nyrs yn eich ffonio chi Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Sut bydd y brechiad yn cael ei roi yn yr ysgol? • Bydd tîm o nyrsys yn ymweld ag ysgol eich plentyn gyda’r holl offer angenrheidiol • Nyrs fydd yn rhoi’r brechiad chwistrell trwyn i’ch plentyn © Iechyd Cyhoeddus Cymru Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Ymweld â’r meddyg teulu • Bydd rhai plant angen apwyntiad gyda’u meddyg teulu i gael y brechiad chwistrell trwyn. Bydd y plant yma’n cael llythyr gan y nyrs ysgol • Bydd plant sy’n wynebu risg gynyddol o ddioddef o’r ffliw, oherwydd cyflwr neu driniaeth feddygol, sydd heb gael brechiad y ffliw erioed o’r blaen, angen ail frechiad y ffliw, ond dim cynt na phedair wythnos ar ôl eu hymweliad â’r feddygfa. Siaradwch gyda’r nyrs ysgol os yw hyn yn berthnasol i’ch plentyn ● Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Gwybodaeth arall • Mae chwistrell brechiad y ffliw yn y trwyn yn cynnwys olion bychain o gelatin o fochyn (porc) wedi’i buro i lefel uchel er mwyn sefydlogi’r brechiad § Mae chwistrell brechiad y ffliw yn y trwyn yn cynnig gwarchodaeth dda rhag y ffliw mewn plant 2 oed a hŷn § Nid oes brechiad arall ar gyfer y ffliw ar gael ar gyfer plant nad ydynt mewn ‘grŵp risg’ ar gyfer y ffliw § Y rhiant / gwarcheidwad unigol sydd i benderfynu a fyddai’n hoffi i’w blentyn gael ei frechu rhag y ffliw yn unol â chaniatâd seiliedig ar wybodaeth Brechiad y ffliw yn yr ysgol
MMR a brechiadau eraill • Mae achosion o’r frech goch mewn sawl rhan o Ewrop lle ceir lefel isel o roi’r brechiad MMR Brechiad y ffliw yn yr ysgol • Ydi eich plentyn chi wedi cael dau ddos o MMR? (y brechiad rhag y Frech Goch, Clwy’r Pennau a Rwbela) • Ydi eich plentyn chi wedi cael pob brechiad arall sy’n cael eu cynnig i bawb? • Os ydych chi’n ansicr, gofynnwch i’r nyrs ysgol neu eich meddyg teulu edrych ar gofnodion eich plentyn
Mwy o Wybodaeth • www. curwchffliw. org • Brechiad y ffliw i blant – Galw Iechyd Cymru www. nhsdirect. wales. nhs. uk/immunisations? locale=cy • Gallwch siarad â’ch Nyrs Ysgol, Tîm Imiwneiddio’r Ysgol neu eich Meddygfa • Ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu 111 os yw ar gael yn eich ardal chi Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Unrhyw gwestiynau? Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Templed cyfres o sleidiau gan y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Medi 2019 Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Sleidiau dewisol Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Brechiad y ffliw yn feichiog • Cynghorir cael brechiad y ffliw yn ystod beichiogrwydd, i warchod y fam a’r babi • Bydd hyn hefyd o help i warchod y babi rhag y ffliw yn ystod chwe mis cyntaf ei fywyd • Gellir rhoi brechiad y ffliw ar unrhyw adeg yn ystod y beichiogrwydd • Mae cael brechiad y ffliw yn ystod beichiogrwydd yn ddiogel iawn Brechiad y ffliw yn yr ysgol
Oes unrhyw blant na ddylai gael chwistrell brechiad y ffliw yn y trwyn? • Mae’r rhan fwyaf o blant yn gallu cael brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn yn ddiogel. • Nid yw’n cael ei argymell ar gyfer y nifer bach o blant y mae’r canlynol yn berthnasol iddynt: • wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechiad neu unrhyw ran ohono • yn cael triniaeth aspirin (salisylad) tymor hir • wedi bod angen gofal dwys ar ôl adwaith alergaidd difrifol i wyau neu gynhyrchion wyau • wedi cael steroids drwy’r geg yn ystod yr 14 diwrnod diwethaf • wedi bod angen gofal dwys yn flaenorol ar gyfer asthma • wedi cynyddu eu defnydd o’u mewnanadlydd lleddfu yn ystod y tridiau diwethaf • eu brest yn gwichian neu wedi bod felly yn ystod y tridiau diwethaf • gyda chyflwr sy’n gwanio eu system imiwnedd • mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â system imiwnedd wan iawn ac angen ei ynysu (e. e. ar ôl trawsblaniad mêr yr esgyrn) • Bydd y plant yma’n cael cynnig pigiad yn eu meddygfa Brechiad y ffliw yn yr ysgol
- Slides: 25