Brechiad Papillomavirus HPV Dynol Helpwch i guro canser
Brechiad Papillomavirus (HPV) Dynol Helpwch i guro canser ceg y groth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Beth yw HPV? • Mae Human Papillomavirus (HPV) yn firws cyffredin iawn sy’n heintio haenau is y croen • Mae yna dros 100 o fathau o HPV, 40 ohonyn nhw’n effeithio ar y rhan genhedlol • Gallwch ei ddal drwy gysylltiad rhywiol agos â rhywun sydd â’r firws. • Mae yna fathau o HPV sydd o risg bychan a risg mawr • Mae HPV yn achosi 99% o ganserau ceg y groth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Beth yw canser ceg y groth? • Canser Serfigol yw canser ceg y groth • Ni elllir trin heintiadau HPV ond os datgelir newidiadau cyn-ganseraidd a achosir gan HPV wrth sgrinio (prawf ceg y groth) gellir dileu’r meinwe briwedig. • Mae profion ceg y groth wedi arbed bywydau lawer ond yn y DU mae mwy na 2 fenyw yn marw bob dydd o ganser ceg y groth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Ym mhle mae ceg y groth ? Ceg y groth yw’r fynedfa i’r groth sydd i’w chael ym mhen y fagina Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Celloedd sydd wedi’u briwio gan HPV Normal Wedi’u Briwio Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Oes yna lawer o HPV o gwmpas? OES – mae HPV yn gyffredin iawn • Bydd llawer o bobl wedi’u heintio ag HPV ar ryw adeg yn eu bywyd • Daethpwyd o hyd i HPV mewn hyd at 4 o bob 10 o ferched rhwng 20 -24 oed • Mae hanner y merched â thystiolaeth o heintiad ar ryw adeg yn eu bywydau • Ni fydd y rhan fwyaf o bobl wedi heintio gan y feirws HPV yn gwybod hynny nac yn ymddangos symptomau. Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Ynglŷn â’r brechlyn • Cynigir y brechlyn HPV yn arferol i ferched 12 -13 oed (Blwyddyn Ysgol 8) • Gall pob merch hyd at 18 oed ddal i allu cael y cwrs o frechiadau HPV • Ni chynigir brechlyn HPV i fechgyn na merched ar ôl eu 18 fed penblwydd • Ym Medi 2012 roedd yna newid yn y brechlyn a gynigiwyd o Cervarix i Gardasil • Mae Gardasil yn cynnig amddiffyniad rhag 4 math o HPV Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Yn erbyn beth y mae Gardasil yn diogelu? • Canser Ceg y Groth • Defaid Gwenerol • HPV mathau 16 a 18 • Yn achosi dros 70% o ganser ceg y groth • Nid yw’n diogelu rhag pob canser serfigol felly mae angen sgrinio o hyd • HPV mathau 6 ac 11 • Yn achosi dros 90% o ddefaid gwenerol • Nid yw’n eich diogelu rhag unrhyw glefydau a drosglwyddir yn rhywiol na beichiogrwydd Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Pam fod y brechlyn HPV yn cael ei roi i ferched 12 -13 oed? • Dylid brechu merched cyn eu bod yn debygol o ddod i gysylltiad â’r firws HPV. • O 14 oed mae nifer y merched sydd wedi’u heintio’n dechrau cynyddu ac felly mae rhoi’r brechlyn ym mlwyddyn ysgol 8 yn cynnig yr amddiffyniad gorau. • Dylai merched sydd eisoes wedi cael rhyw gael y brechlyn beth bynnag gan nad yw’n bosib dweud a yw hi wedi ei heintio ag HPV ai peidio. Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Sut y rhoddir y brechlyn? • Yn y rhan fwyaf o achosion cwrs o ddau bigiad a gynigir flwyddyn rhwng ei gilydd fel rheol yw’r brechlyn • Pigiad yw’r brechlyn • Fe’i rhoddir yn y cyhyr yn rhan uchaf y fraich • Mae angen cwrs llawn i sicrhau amddiffyniad llawn Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014 VPDP 2011
Beth sydd angen i chi ei wneud? • Darllen y daflen wybodaeth • Dychwelyd y ffurflen gydsynio wedi’i chwblhau i’r ysgol • Gwisgo dillad addas • Cael brecwast • Gwybod pa bryd/ble i fynd • Peidio â bod yn nerfus! Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Oes yna unrhyw sgil effeithiau? • • • Gall losgi rywfaint yn ystod ac yn syth ar ôl y pigiad Gall y fraich fod fymryn yn goch ac yn ddolurus wedyn Tymheredd ysgafn Cur pen Cyhyrau poenus Os ydych chi neu eich rhieni’n poeni – siaradwch â nyrs yr ysgol. Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Fydd hyn yn arbed bywydau? • Bydd, mi fydd. • Yng Nghymru yn 2012, cafwyd 170 o achosion newydd o ganser ceg y groth a thros 40 o farwolaethau o’r clefyd • Mae merched sydd wedi cael eu brechu yn lleihau’r perygl o gael canser ceg y groth o dros 70%. Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Fydda i’n dal i fod angen prawf ceg y groth pan fydda i’n hŷn? Byddwch Nid yw’r brechlyn yn diogelu rhag pob mathau o HPV sy’n achosi canser ceg y groth felly bydd profion ceg y groth yn dal i fod yn bwysig iawn. Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Faint o ddosau o frechlyn sydd eu hangen? • Cynigir dau bigiad o’r brechlyn HPV fel arfer • Gellir rhoi’r ail bigiad unrhyw adeg o 6 mis i ddwy flynedd ar ôl y cyntaf • Ni fydd dau ddos gyda llai na 6 mis rhyngddyn nhw’n cynnig digon o ddiogelwch a dylid rhoi trydydd dos • Mae angen y cwrs llawn i sicrhau amddiffyniad llawn Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Pam fod rhai merched yn cael cynnig mwy na 2 ddos? • Cynigir cwrs o 3 dos o frechiad HPV i ferched: – Sydd â system imiwnedd a waniwyd – A gafodd y dos cyntaf ar ôl eu 15 fed penblwydd – Sydd eisoes wedi dechrau ar gwrs o 3 dos o frechlyn HPV • Cynigir y rhaglen o 3 dos yn 0, 1 a 4 i 6 mis Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Mae fy chwaer ym mlwyddyn 9 wedi cael y ddau ddos cyntaf o’r rhaglen tri-dos y llynedd – ydi hi’n dal i fod angen y trydydd rŵan? • Ydi, dylai merched sydd wedi dechrau ar y rhaglen tri-dos ei gwblhau yn ôl y cynllun gwreiddiol. • Yn ddelfrydol dylid rhoi’r 3 ydd dos o fewn blwyddyn • Siaradwch â’r Nyrs Ysgol Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy 2014
Cadwch lygad am wybodaeth • Mae gwybodaeth ar HPV i’w darllen a’i lawrlwytho ar gael ar www. nhsdirect. wales. nhs. uk • Ceisiadau am daflenni HPV hplibrary@wales. nhs. uk • Siaradwch â’ch Nyrs Ysgol Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Medi 2014
Cydnabyddiaethau • Set sleidiau diwygiedig gan – Ashton Leigh Wigan PCT – Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan • Leah Millinship Images (oni nodir yn wahanol) Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy 2014
- Slides: 19