Bod Amser Dyfodol unigol lluosog 1 bydda i
Bod – Amser Dyfodol
unigol lluosog 1 bydda i byddwn ni 2 byddi di byddwch chi 3 bydd o bydd hi bydd Siôn byddan nhw bydd y plant
Rydyn ni’n defnyddio’r amser yma siarad am beth y byddwn ni’n ei wneud h. y. yn y dyfodol. i Bydda i’n gorffen fy ngwaith yfory. Ond beth yw’r ffurfiau negyddol?
Ffurfiau Negyddol: unigol lluosog 1 fydda i ddim fyddwn ni ddim 2 fyddi di ddim fyddwch chi ddim 3 fydd fyddan nhw ddim o ddim hi ddim Siôn ddim y plant ddim
Felly: Cadarnhaol: Bydda i’n gorffen fy ngwaith yfory. Negyddol: Fydda i ddim yn gorffen fy ngwaith yfory. Sylwch ar y treiglad ar ddechrau’r frawddeg negyddol – treiglad meddal b > f.
Holi Cwestiynau unigol lluosog 1 Fydda i? Fyddwn ni? 2 Fyddi di? Fyddach chi? 3 Fydd o? Fydd hi? Fydd Siôn? Fyddan nhw? Fydd y plant? Sylwch ar y treiglad meddal ar ddechrau cwestiwn.
Sut i ateb yn gywir? Fydda i…. . ? Byddaf/Na fyddaf Fyddi di… ? Byddi/Na fyddi Fydd o/hi ? Bydd/Na fydd Fyddwn ni…? Byddwn/Na fyddwn Fyddwch chi… ? Byddwch/Na fyddwch Fyddan nhw ? Byddan/Na fyddan
Ymarfer 1: Llenwch y bylchau gyda’r ffurfiau cywir. 1. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. _______ o’n gorffen ei waith erbyn y wers yfory. _______ ni’n dod i’r ysgol yn ein dillad ein hunain yfory. _______ di’n gallu rhoi cymorth i ni wythnos nesaf? _______ Mam yn rhoi dŵr i’r blodau pan fyddwn ni ar ein gwyliau. _______ hi’n ddeg oed mis nesaf. _______ ni ddim yn gallu gweld y ffilm heno? _______ chi adref erbyn amser swper? _______ i yn mynd i’r dref i edrych am anrheg iddi heno. 9. _______ nhw yma erbyn yfory. 10. _______ di’n edrych yn wych yn dy wisg ffansi.
Ymarfer 2: Gan ddefnyddio’r amser dyfodol, ysgrifennwch baragraff yn cynllunio’r hyn y byddwch yn ei wneud penwythnos nesaf e. e Byddaf i’n mynd i siopa yn y dref fore Sadwrn.
- Slides: 9