Beth yw portread Delwedd syn cael ei chreu
Beth yw portread? Delwedd sy’n cael ei chreu gan arlunydd ac sy’n cynrychioli person, grŵp o bobl neu anifail hyd yn oed yw portread.
Bydd arlunwyr yn paentio lluniau o bobl (ac anifeiliaid, weithiau). Pan fyddwch chi’n edrych ar bortreadau, byddwch yn dysgu llawer am y bobl sydd yn y lluniau hynny. Pryd oedd o’n byw? Ydy o’n gyfoethog neu’n dlawd? Faint yw ei oed? O ble mae o’n dod?
Pam y bydd arlunwyr yn paentio portreadau? Cyn bod camerâu gan bobl, roedd darlun portreadol yn ffordd dda o gofio sut roedd rhywun yn edrych. Heddiw, bydd y rhan fwyaf o bobl yn tynnu lluniau i’w hatgoffa o bobl. Mae arlunwyr yn dal i baentio portreadau, a hynny am nifer o resymau. Gallwn gyfleu awyrgylch neu ddal personoliaeth mewn portread. Gallwn anrhydeddu pobl bwysig drwy greu portread ohonynt.
Bydd portreadau yn aml yn dangos un person. Dyma lun o wraig ifanc. Gall portr eada u hef yd dd ango s grw piau o bo bl, e. teu luoed Weithiau, bydd arlunwyr yn paentio portreadau o anifeiliaid.
Weithia u, bydd yn pae ar ntio llu n ohon lunwyr ynt eu Hunan hunain b. o rtreada yw’r en u w ar y Byddan l luniau nhw’n hyn. defnyd greu po d rtread ohonyn io drych i t eu hu nain!
Mae llawer o arlunwyr yn ceisio gwneud i bethau edrych yn real. Maen nhw eisiau i’r portread edrych yn union fel y model. Weithiau, gall arlunwyr hyd yn oed ddelfrydu neu beri i’r llun edrych yn llawer gwell na golwg go iawn y person dan sylw. Bydd arlunwyr eraill yn creu portreadau sy’n haniaethol (dydyn nhw ddim yn edrych yn real).
Bydd y mwyafrif o bobl yn meddwl am baentiadau pan fyddwn yn meddwl am bortread. Ond gallwch lunio portread allan o unrhyw beth! Teracota Camera a ffilm Paent olew Sbwriel Pinnau Ffelt Pan fyddwch am lunio portread, rhaid i chi wneud y penderfyniadau canlynol– Faint o’r person i’w ddangos? Wyneb llawn, hyd ¾, corff i gyd …. Beth ddylai’r person ei wisgo? Pa argraff sydd i’w chyfleu? Beth am yr ystum? Sefyll, eistedd, ffurfiol … Mynegiant yr wyneb? Y cefndir? Defnyddiau? Offer? Technegau?
Chwilio am gliwiau mewn llun – bod yn dditectif! Gallwch edrych ar – • • Y dillad sy’n cael eu gwisgo Steil gwallt Ystum corff Cefndir Unrhyw wrthrychau Mynegiant wyneb y sawl sydd yn y llun Lliwiau yn y portread Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei gasglu fel hyn yn dweud cryn dipyn wrthych am destun y llun. Hefyd, ceisiwch feddwl pam, o bosibl, y cafodd y llun ei baentio.
Agorwch y ffeil Smart Notebook: Dosbarthu Portreadau (trefnu_portreadau. notebook) a gosodwch y darnau o arlunwaith yn eu dosbarthiadau cywir. trefnu_portreadau. notebook
- Slides: 9